Agenda item

I graffu ar y cynllun gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion a ddeilliodd o’r gwerthusiad a’r adolygiad gan Estyn.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg i:

·       lobïo Llywodraeth Cymru ymhellach am adnoddau ariannol ychwanegol.

·       roi ystyriaeth bellach i’r opsiwn o ddychwelyd at bum diwrnod a/neu ystyried hyd y cyfnod yn y canolfannau iaith, gan roi ystyriaeth i les y disgyblion.

·       ymgynghori ymhellach â rhanddeiliaid a sicrhau hyblygrwydd o ran y ddarpariaeth wrth symud ymlaen.

  1. Bod y Pwyllgor Craffu yn estyn diolch i bawb sy’n ymwneud â throchi, yn y canolfannau iaith ac o fewn yr ysgolion prif lif.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg. Nodwyd bod y Gyfundrefn Addysg Drochi wedi bod yn destun trafodaeth ar sawl achlysur blaenorol gan y Pwyllgor, a bod croeso i’r diddordeb parhaus yn y maes gan ei fod yn un hollbwysig i’r sir. Pwysleisiwyd bod gan Wynedd gyfle unigryw fel sir i sicrhau bod plant sy’n cyrraedd yn hwyr i’r ardal yn cael y cyfle i ddatblygu sgil hanfodol, sef yr iaith Gymraeg. Nodwyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i bawb yng Ngwynedd ac yn agor drysau o ran cyfleoedd cyflogaeth a diwylliant. Pwysleisiwyd bod hyn yn hanfodol, mewn sir lle mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg, bod pob plentyn yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd ar gael iddynt.

Nodwyd y cyhoeddwyd dau adroddiad ers i’r maes gael ei drafod diwethaf, sef adroddiad gan Brifysgol Bangor ac adroddiad gan Estyn. Pwysleisiwyd nad oedd y system drochi flaenorol wedi cael ei harolygu gan Estyn, ond erbyn hyn bod y system wedi’i chofrestru fel endid addysgol ac felly’n derbyn arolygiad Estyn llawn fel yr ysgolion. Nodwyd bod yr adroddiad gan Estyn yn gadarnhaol iawn, gan gydnabod bod gan Wynedd system drochi arloesol.

Mynegwyd gwerthfawrogiad i staff yr adran am eu gwaith caled, ac yn arbennig i Rhys Meredydd Glyn, cyn-Bennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Cwestiynwyd pa mor fanwl oedd arolygiad Estyn o’r Canolfannau Trochi. Nodwyd bod adroddiad Prifysgol Bangor yn gwrth-ddweud adroddiad Estyn ac wedi gwneud argymhellion penodol, megis ailystyried y model pedwar diwrnod presennol a dychwelyd at fodel pum diwrnod, gan nodi bod y model pedwar diwrnod yn cynnwys diffygion megis y cyswllt ar y pumed diwrnod rhwng y ganolfan drochi a’r athrawon yn yr ysgolion. Cwestiynwyd a fyddai’r Adran yn barod i ystyried argymhellion Prifysgol Bangor.

Mewn ymateb, nodwyd bod arolwg Estyn wedi cynnwys gwaith maes helaeth o gymharu ag arolwg Prifysgol Bangor, gyda thri arolygydd dros dri diwrnod ym mhob un o’r chwe chanolfan drochi ac mewn ysgolion, gan gynnwys cyfweliadau gyda disgyblion a staff. Nodwyd bod adroddiad Prifysgol Bangor wedi defnyddio meini prawf gwahanol i Estyn, gan gynnwys dulliau a arferir eu defnyddio wrth asesu trochi oedolion.

Pwysleisiwyd bod y sylwadau yn y ddau adroddiad yn ddilys ac y derbyniwyd yr argymhellion gan y ddau sefydliad. Ymhelaethwyd bod gwaith eisoes ar y gweill i ymateb i nifer o’r argymhellion, gyda staff y canolfannau bellach yn dechrau gweithio ochr yn ochr â disgyblion yn y dosbarth, yn hytrach na’u tynnu allan o’r dosbarth fel dan yr hen drefn. Nodwyd ymhellach bod adnoddau ychwanegol yn cael eu cynnig er mwyn ymateb i’r argymhellion, a bod safle wê yn cael ei ddatblygu i roi ciplun o’r hyn sy’n cael ei gyflawni o fewn y canolfannau trochi.

Nodwyd bod yr argymhellion ynglŷn â nifer y dyddiau yn y canolfannau trochi wedi’u pwyso a’u mesur yn llawn gan yr Adran, gyda thabl i’w weld yn yr adroddiad yn cymharu manteision ac anfanteision y pedwar model sydd ar gael. Ystyriwyd bob model yn fanwl cyn penderfynu cadw’r trefniant presennol am y tro, gan fod penaethiaid wedi gofyn am gysondeb.

Mynegwyd pryder gan aelod nad oedd pob pennaeth ysgol yn ymwybodol o’r sefyllfa ar lawr gwlad.

Tynnwyd sylw at yr anawsterau a amlygwyd o fewn yr adroddiadau o ran strwythur y gwersi ar gyfer y plant sy’n dychwelyd o’r canolfannau trochi i’r ysgolion, a’r angen i ddychwelyd at y model pum diwrnod i fynd i’r afael â hyn. Nodwyd bod adroddiad Estyn yn un arwynebol, heb lawer o fanylder na thystiolaeth i’w gefnogi. Nodwyd ymhellach bod Estyn wedi arolygu nifer o ganolfannau trochi yng Nghymru sydd newydd gychwyn ar eu taith, ac felly bod y canmoliaeth o ganolfannau Gwynedd yn ddealladwy.

Nodwyd bod adroddiad Prifysgol Bangor yn adroddiad da, gyda mwy o fanylder, tystiolaeth a sylwadau gan athrawon prif lif, athrawon trochi a disgyblion. Nodwyd bod nifer o argymhellion a chasgliadau wedi deillio o’r adroddiad, ac mai un o’r prif negeseuon oedd bod angen mwy o oriau trochi ar blant. Nodwyd o fewn yr adroddiad fod sylwadau gan athrawon trochi yn dangos nad oes cyswllt cyson rhwng yr ysgolion a’r canolfannau, a bod athrawon yn y prif lif yn tueddu i ddod yn fwy cyffyrddus â defnyddio’r Saesneg.

Nodwyd bod model pum diwrnod o fewn y canolfannau trochi yn cynnig strwythur cliriach o ran addysg i’r plant, ond nad oes monitro na dilyniant digonol i hyn o fewn y prif lif, gan nad oes digon o athrawon trochi ar gael i sicrhau hynny. Pwysleisiwyd yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o gyllid i gynnal y system drochi, gan nad oedd yn deg i ysgolion orfod cyfrannu at ariannu’r ddarpariaeth.

Mewn ymateb, nodwyd bod y pumed diwrnod o fewn yr ysgol o fantais gan ei fod yn galluogi cyfathrebu gwell rhwng y canolfannau a’r ysgolion prif lif. Nodwyd bod lles disgyblion yn parhau’n ystyriaeth ganolog i’r Adran, yn ogystal ag addysgu, a bod y pumed diwrnod yn ôl yn yr ysgol wedi’i nodi fel rhywbeth llesol i’r plant. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad presennol yn adlewyrchu’r hyn sydd orau i’r plant ac i’r ysgolion, yn ogystal â chais y penaethiaid am gysondeb, nid arian oedd y prif ffactor wrth ddod i’r penderfyniad. Cydnabuwyd bod lle i wella o ran cyfathrebu rhwng y canolfannau a’r ysgolion, a bod cynlluniau wedi’u llunio i unioni hyn.

Pwysleisiwyd bod y ddau adroddiad yn bwysig ac yn sefyll ar eu seiliau eu hunain, a bod gwersi i’w dysgu o’r ddau. Mynegwyd barn bod canfyddiadau adroddiad Prifysgol Bangor yn deillio o’r hyn sy’n digwydd ar y pumed diwrnod, sef y dydd Gwener, pan fo’r disgyblion yn ôl yn yr ysgol. Ymhelaethwyd bod cyd-destun yr arolygiad, yn enwedig amser y flwyddyn pan gynhaliwyd y gwaith, yn debygol o fod wedi dylanwadu i ryw raddau ar yr hyn a welwyd ar y dydd Gwener. Nodwyd nad yw dydd Gwener o reidrwydd yn ddiwrnod addas i blant o’r canolfannau trochi ddychwelyd i’r ysgol.

Eglurwyd bod y sefyllfa ariannol yn heriol, ond bod y Cyngor wedi derbyn grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddarpariaeth drochi ac wedi defnyddio pob dull posibl i warchod ysgolion rhag gorfod ariannu’r ddarpariaeth eu hunain.

Nododd aelod y sylwadau canlynol:-

·       Bod Estyn wedi camarwain y Pwyllgor hwn unwaith eisoes ynglŷn â’r mater o les a diogelwch plant, ac felly mynegwyd barn nad oedd adroddiad Estyn yn ddibynadwy.

·       Bod casgliad adroddiad Prifysgol Bangor bod ysgolion prif lif yn ei chael yn anodd cefnogi disgyblion i ailintegreiddio’n llwyddiannus ar ddydd Gwener, a bod hyn wedi lleihau effeithlonrwydd y broses drochi yn un cadarn.

·       Bod casgliad Prifysgol Bangor yn nodi bod dychwelyd i’r ysgol brif ffrwd ar y dydd Gwener yn cael effaith negyddol ar les y disgyblion o ran cysondeb.

·       Mai dim ond £1 miliwn oedd yn cael ei wario ar y system drochi, a bod angen lobïo Llywodraeth Cymru am fwy o gyllid.

Mynegwyd barn bod yr adroddiad yn cynnwys tuedd, gan ddiystyru canfyddiadau adroddiad Prifysgol Bangor.

Mynegwyd pryder ynghylch diffyg beirniadaeth yn adroddiad Estyn, gan bwysleisio bod adroddiad Prifysgol Bangor yn cynnig darlun mwy cytbwys ac yn tynnu sylw at ddiffyg strategaethau, cyswllt a dealltwriaeth gan athrawon. Pwysleisiwyd nad oedd newid y model o ddydd Gwener i ddydd Llun yn yr ysgol yn mynd i fod yn ddatrysiad i’r broblem hon. Awgrymwyd bod angen edrych yn benodol ar les disgyblion wrth benderfynu ar y trefniant gorau, gan fod tystiolaeth wedi dangos bod disgyblion yn teimlo’n fwy hyderus yn yr amgylchedd trochi nag wrth ddychwelyd i’r ysgol brif ffrwd.

Pwysleisiwyd yr angen i ystyried cynyddu’r oriau trochi a rhoi mwy o bwyslais ar y broses o integreiddio disgyblion yn ôl i’w hysgolion, gan sicrhau strategaethau a hyfforddiant priodol i staff. Nodwyd bod diffyg amser i athrawon weithredu’r strategaethau, a bod angen ystyried dychwelyd at system o bum diwrnod yr wythnos a oedd eisoes wedi profi’n llwyddiannus.

Mynegwyd barn nad oedd y Siarter Iaith wedi profi’n llwyddiannus, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio fel iaith anffurfiol o fewn ysgolion, ac y dylid ei hadolygu a’i chraffu fel mater o frys gan y Pwyllgor.

Mewn ymateb, nodwyd y canlynol:-

·       Bod gwaith ar y gweill i ail-lansio Siarter Iaith Gwynedd gyda brandio newydd.

·       Bod unrhyw arian ychwanegol gan y Llywodraeth i’w groesawu.

·       Bod yr Adran eisoes wedi defnyddio pob adnodd sydd ar gael i gynnal y ddarpariaeth ac i ddiogelu ysgolion rhag costau ychwanegol, ond bod pwysau ariannol ehangach ar draws y gwasanaethau addysg.

·       Ei fod yn bwysig i barhau i ddathlu llwyddiannau’r canolfannau trochi ac i gydnabod y gwaith caled sy’n digwydd yn ddyddiol gan athrawon a staff ledled y sir.

·       Bod penaethiaid uwchradd wedi codi pryderon fod cyfathrebu yn parhau’n heriol.

·       Bod ysgolion yn cael eu hannog i benodi mentor iaith i weithredu fel cyswllt rhwng y ganolfan drochi a’r ysgol, er mwyn sicrhau dilyniant ieithyddol. Nodwyd bod y rôl hon yn hanfodol i gynnal y cyswllt rhwng disgyblion a’r staff trochi ar ôl y cyfnod yn y ganolfan.

·       Bod cyfnod trochi ddim yn dod i ben ar ôl 10 wythnos, ac y bwriedir meithrin perthynas ag ysgolion prif lif i rannu arbenigedd trochi. Nodwyd ymhellach bod angen i’r hyfforddiant ar egwyddorion trochi gael ei lywio gan y prifysgolion, er mwyn iddo fod yn rhan o hyfforddiant pob athro.

Cwestiynwyd ynghylch natur yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda’r penaethiaid. Gofynnwyd a roddwyd cyfle i’r penaethiaid ystyried y gwerthusiad cyn mynegi barn ar y modelau newydd. Mewn ymateb, nodwyd bod yr holl benaethiaid cynradd ac uwchradd wedi derbyn copi o’r pedwar model a’r wybodaeth berthnasol cyn mynegi barn.

Nodwyd bod achosion wedi’u cofnodi lle nad oedd athrawon yn cyrraedd yr ysgolion prif lif ar amser ar y dydd Gwener, gan olygu bod plant yn gorfod aros am gyfnodau hir. Mynegwyd pryder bod cyfnodau hir o waith ar-lein yn gallu arwain at unigrwydd ymhlith y disgyblion. Pwysleisiwyd felly nad yw cael plant yn ôl ar y pumed diwrnod yn cyflawni ei bwrpas o’u cadw mewn cyswllt â’r ysgol a’u cyd-ddisgyblion.

Pryderwyd ynghylch effaith y pumed diwrnod ar iaith gymdeithasol yr ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Nodwyd y gall hyn effeithio ar natur ieithyddol yr ysgol gyfan ac ar y diwylliant Cymraeg ar yr iard ac yn y dosbarth. Awgrymwyd y byddai’n werth derbyn barn ysgolion sydd eisoes wedi profi’r trefniant er mwyn cael darlun mwy cyflawn o’r sefyllfa.

Cwestiynwyd ynghylch achosion lle nad oedd rhieni wedi dewis anfon eu plant i’r canolfannau trochi. Mewn ymateb, nodwyd bod rhesymau megis yr angen i setlo mewn cartref newydd yn gyffredin, ond bod yr Adran yn ymestyn y gwahoddiad i gyfnodau yn y dyfodol ac yn parhau i wahodd a darbwyllo rhieni i fynychu drwy ymweliadau personol â’r canolfannau. Pwysleisiwyd bod achosion o wrthod y gwahoddiad i fynychu’r canolfannau trochi yn brin iawn.

Cwestiynwyd sut mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi gan y canolfannau trochi. Mewn ymateb, nodwyd bod trefniadau cadarn ar waith i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion emosiynol. Eglurwyd bod cynlluniau datblygu unigol yn cael eu trosglwyddo i’r canolfannau a bod y staff yn derbyn hyfforddiant ar egwyddorion ysgolion magwraeth, ymwybyddiaeth o drawma ac ELSA (Cymhorthyddion Llythrennedd Emosiynol).

Pwysleisiwyd pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol yn yr ysgolion prif lif, gan bwysleisio’r angen i greu diwylliant lle gall disgyblion ddefnyddio’r iaith yn naturiol ar yr iard ac yn y gymuned. Mewn ymateb, nodwyd bod dau swyddog o fewn y Cyngor yn gweithio ar ddiwygio’r Siarter Iaith a bod cais ariannol wedi’i gyflwyno er mwyn ehangu’r rolau hyn. Nodwyd ymhellach bod swyddi ar gael o fewn ysgolion ym mhob dalgylch i athrawon ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol i weithredu’r Siarter Iaith ac i drefnu un digwyddiad blynyddol yn eu dalgylch.

Nodwyd bod model arall wedi’i awgrymu ynghylch cadw’r pumed diwrnod o fewn yr ysgol ond ymestyn y cyfnod o fewn y canolfannau trochi o 10 wythnos i 12. Ymhelaethwyd ei bod yn amhosibl penderfynu pa mor ymarferol yw’r model hwn ar hyn o bryd, ond ei fod yn rhywbeth i’w ystyried ymhellach yn y dyfodol.

Mynegwyd diolch gan aelod i staff y gwasanaeth trochi, gan eu llongyfarch ar eu gwaith rhagorol a’u canmol am effeithlonrwydd y gwasanaeth. Diolchwyd hefyd i holl athrawon y sir am eu hymdrechion arwrol i drochi disgyblion o ddydd i ddydd yn y dosbarth.

Cynigwyd i wrthod yr adroddiad oherwydd bod yna duedd yng nghloriannu’r adroddiadau a dderbyniwyd gan Brifysgol Bangor ac Estyn; argymell bod yr Aelod Cabinet Addysg yn lobïo Llywodraeth Cymru am arian ychwanegol i gyllido’r ddarpariaeth a diolch i staff y canolfannau trochi am eu gwaith.

Nododd y Cynghorydd Rhys Tudur ei wrthwynebiad i dderbyn yr adroddiad. Ymhelaethodd nad oedd ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i fodelau o fwy o gyfnod yn y canolfannau trochi; bod angen edrych ar fodelau sydd angen cyllid helaeth e.e. bod disgyblion yn mynd yn ôl i ganolfan drochi unwaith yr wythnos ar ôl y cyfnod 10 wythnos; a ni ystyriwyd effaith disgyblion yn dychwelyd i’r ysgolion o’r canolfannau am ddiwrnod yr wythnos ar arferion iaith disgyblion yn ysgolion prif lif.

Eiliwyd y cynnig. Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe ddisgynnodd ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.

Cafwyd trafodaeth yng nghyswllt derbyn yr adroddiad.

PENDERFYNWYD

1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg i:

• lobïo Llywodraeth Cymru ymhellach am adnoddau ariannol ychwanegol.

• roi ystyriaeth bellach i’r opsiwn o ddychwelyd at bum diwrnod a/neu ystyried hyd y cyfnod yn y canolfannau iaith, gan roi ystyriaeth i les y disgyblion.

• ymgynghori ymhellach â rhanddeiliaid a sicrhau hyblygrwydd o ran y ddarpariaeth wrth symud ymlaen.

3. Bod y Pwyllgor Craffu yn estyn diolch i bawb sy’n ymwneud â throchi, yn y canolfannau iaith ac o fewn yr ysgolion prif lif.

 

Dogfennau ategol: