Agenda item

I graffu ar y strategaeth ddrafft ar gyfer datblygu economi Gwynedd rhwng 2025 a 2035.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn y strategaeth gan nodi’r sylwadau.
  2. Mynegi pryder ynghylch argaeledd grantiau i ardaloedd difreintiedig fel Gwynedd, a mynegi’r gobaith y bydd cyfartaledd a thegwch o fewn y Sir o ran dosbarthiad adnoddau a chefnogaeth.
  3. Nodi pwysigrwydd bod yr Adran Economi a Chymuned yn cydweithio gyda’r Adran Amgylchedd er mwyn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cyfarch yr angen i ddenu swyddi a busnesau i’r Sir. Yn yr un modd, cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
  4. Awgrymu bod strwythur clir yn cael ei roi ar waith i adolygu’r hyn a gyflawnwyd ar ddiwedd blwyddyn yn erbyn y cynllun cyflawni.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad, gan nodi bod yr adroddiad wedi’i lunio yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda nifer o fusnesau a sefydliadau. Nodwyd bod y sefyllfa economaidd bresennol yn un heriol gyda busnesau’n parhau i wynebu sawl newid a her, gan gynnwys cynnydd mewn costau, cyflymder y trawsnewid digidol a’r angen i ddatblygu sgiliau priodol yn gynaliadwy ar draws y sir.

Nodwyd bod datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at bosibilrwydd o £550 miliwn o gyllid i hybu’r economi yng Nghymru, ond nad oedd eglurder hyd yma ynghylch i ble y byddai’r arian hwnnw’n cael ei neilltuo. Nodwyd bod y sefyllfa’n aneglur, gan bwysleisio bod lefel y cyllid a dderbyniwyd wedi gostwng yn sylweddol. Ymhelaethwyd y derbyniwyd oddeutu £20 miliwn ddwy flynedd yn ôl gyda £8.5 miliwn wedi ei dderbyn eleni, ac y gallai’r ffigwr hwn leihau ymhellach y flwyddyn nesaf.

Pwysleisiwyd, yn sgil hynny, bod angen strategaeth glir i amlinellu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Nodwyd, yn dilyn derbyn mewnbwn gan Aelodau’r Pwyllgor ym mis Chwefror ar y blaenoriaethau ar gyfer cynyddu ffyniant trigolion a chymunedau Gwynedd yn y dyfodol, fod drafft cychwynnol o’r strategaeth hirdymor yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn i Aelodau gynnig mewnbwn ac adborth cyn i’r ddogfen gael ei chadarnhau.

Pwysleisiwyd bod y strategaeth hirdymor dan sylw yn gosod y cyfeiriad cyffredinol, gyda chynllun gweithredu’n eistedd oddi tano i amlinellu’r prosiectau fydd yn cyfrannu at wireddu’r strategaeth, ac y byddai’r cynllun hwnnw’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Nodwyd nad strategaeth y Cyngor yn unig oedd hon, ond strategaeth ar gyfer y sir gyfan, gyda’r bwriad o barhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i gwblhau’r ddogfen derfynol.

Eglurwyd y bwriad o sefydlu Fforwm Economi Gwynedd i gydlynu’r gwaith gyda phartneriaid o bob sector ac i adeiladu ar y profiadau cadarnhaol o weithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nodwyd mai’r camau nesaf fyddai derbyn mewnbwn ychwanegol, sefydlu Fforwm Economi Gwynedd, cadarnhau cynnwys y strategaeth, a chyflwyno’r ddogfen derfynol i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor Llawn.

Diolchwyd i’r Pwyllgor am eu 17 sylw yng nghyfarfod 13 Chwefror 2025, a nodwyd bod y rhain wedi cael eu hystyried wrth lunio’r strategaeth.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Nodwyd ei bod yn bleser gweld y gwaith yn dod i ffrwyth, a holwyd am ragor o wybodaeth am Fforwm Economi Gwynedd, yn benodol ohono ran yr aelodaeth a pha mor aml y byddai’n cyfarfod. Mewn ymateb, nodwyd mai’r bwriad yw cynnwys cynrychiolwyr o’r prif sectorau sy’n bwysig i Wynedd, megis amaethyddiaeth, twristiaeth, addysg, prifysgolion a cholegau, ynghyd â pherchnogion busnesau lleol, entrepreneuriaid ac arbenigwyr yn y maes economaidd. Pwysleisiwyd bod cynrychiolaeth y sector preifat yn elfen hanfodol o’r Fforwm er mwyn sicrhau cyngor ac arbenigedd ymarferol.

Cwestiynwyd ynghylch cyfeiriadau at ardaloedd difreintiedig Gwynedd yn y strategaeth, gan nodi nad oedd cyfeiriad penodol at feithrin twf economaidd mewn ardaloedd megis Meirionnydd a Dwyfor. Pwysleisiwyd bod angen mwy o bwyslais ar yr ardaloedd hyn o fewn y strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn bwynt teg ac y dylid tanlinellu’r elfen ddaearyddol yn gliriach o fewn y ddogfen. Eglurwyd y byddai’r cynlluniau gweithredu o dan y strategaeth yn cynnwys ystyriaeth o’r materion daearyddol, a phwysleisiwyd bod yr adran yn ymdrechu i sicrhau tegwch ar draws y sir gyfan. Er bod llai o gyllid ar gael, nodwyd mai’r bwriad yw cynnal dosbarthiad teg o’r adnoddau sydd ar gael.

Gofynnwyd am ddiweddariad ar sefyllfa Llanbedr a Thrawsfynydd. Mewn ymateb, eglurwyd bod y prosiect datblygu yn Llanbedr yn parhau i fod yn gysylltiedig â datblygiad y ffordd newydd, a bod gobaith y byddai’r gwaith yn symud ymlaen erbyn mis Mai nesaf. Yn achos Trawsfynydd, nodwyd y cyhoeddwyd yn ddiweddar buddsoddiad o £70 miliwn i’r prosiect dadgomisiynu dros y tair blynedd nesaf, gyda’r disgwyl y byddai hyn yn creu rhwng 150 a 200 o swyddi lleol. Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i gryfhau’r cyfleoedd yn yr ardal, gan gynnwys datblygu parc gwyddoniaeth ac elfennau megis canolfannau data a deallusrwydd artiffisial.

Pwysleisiwyd o ran Llanbedr bod angen rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i glustnodi arian cyn mis Mai, gan nodi nad oedd yn deg disgwyl i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ddarparu’r cyllid. Nodwyd yr angen i barhau i bwyso dros barhad y proses dadgomisiynu safle Trawsfynydd, gan nodi’r perygl i’r broses lithro gan nad yw’r cynlluniau ariannol wedi cynyddu yn unol â chwyddiant. Mewn ymateb, nodwyd bod y pwynt hwn wedi cael ei godi gyda’r cyrff perthnasol ym Mwrdd Trosolwg Trawsfynydd.

Nodwyd pryder ynghylch diffyg siaradwyr Cymraeg mewn swyddi uwch a’r dylanwad y gallai hyn ei gael ar gyfran y gweithlu di-Gymraeg. Pwysleisiwyd yr angen i fonitro’r sefyllfa a sicrhau tegwch i siaradwyr Cymraeg o fewn gweithleoedd cyhoeddus a phreifat.

Cwestiynwyd ynghylch twf yr economi yn y dyfodol ac effaith costau ychwanegol megis y dreth yswiriant cenedlaethol ar fusnesau bach, yn enwedig yn y sector twristiaeth. Nodwyd bod nifer o fusnesau’n pryderu ynghylch y mater hwn ac, o ganlyniad, wedi lleihau eu gweithlu. Cwestiynwyd ymhellach ynghylch pa grantiau oedd ar gael i gynorthwyo’r busnesau hyn, yn enwedig y rhai gwledig. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod diffyg eglurder ynghylch grantiau gan eu bod yn newid yn gyson, gyda Llywodraeth Cymru yn pennu’r dyraniadau o flwyddyn i flwyddyn.

·       Bod y weledigaeth economaidd yn seiliedig ar “dwf at bwrpas” yn hytrach na “thwf er mwyn twf”, gyda ffocws ar gynnal a gwneud y gorau o’r hyn oedd ar gael a chynorthwyo busnesau lleol i arbed costau, cynyddu incwm ac addasu i economi sero net.

·       Bod y strategaeth yn cynnwys cyfleoedd newydd oedd yn addas ac yn briodol i Wynedd fel ardal, gan geisio manteisio ar gryfderau lleol ac elfennau daearyddol megis safleoedd fel Trawsfynydd.

·       Byddai’r Cynlluniau Gweithredu Blynyddol yn nodi’r camau ymarferol a’r prosiectau lleol fyddai’n cyfrannu at y nodau hyn, gan ddibynnu’n sylweddol ar gyllid allanol a chyfraniad y sector preifat.

·       Bod angen gwarchod y sefyllfa bresennol wrth edrych i’r dyfodol.

Cwestiynwyd ble y rhagwelwyd twf economaidd yn y blynyddoedd nesaf, gan bwysleisio’r angen i greu swyddi o ansawdd da er mwyn cadw pobl ifanc yn y sir. Mewn ymateb, nodwyd bod mynediad i’r grid trydan yn hollbwysig, gyda datblygiadau megis canolfannau data, datblygiadau amaethyddol newydd yng Nglynllifon a phrosiectau ynni glân ar y gweill. Nodwyd, er bod y sefyllfa ariannol yn heriol, y gobaith yw y daw ffyniant a thwf gyda’r dechnoleg newydd. Pwysleisiwyd y byddai’r rhaglen o gynlluniau yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau gweithredu blynyddol. Nodwyd y bwriad i’w hadolygu bob blwyddyn er mwyn adnabod y prosiectau perthnasol wrth i amgylchiadau a diddordeb y sector breifat ddatblygu.

Ynghylch ceisiadau cynllunio, mynegwyd ymwybyddiaeth o fusnesau gyda’r bwriad o symud i Wynedd i ddatblygu eu gweithgarwch ond ddim wedi derbyn caniatâd cynllunio. Cwestiynwyd faint o rwystredigaeth oedd hyn yn ei greu i ddatblygu economi Gwynedd, ac a fyddai cynrychiolaeth o’r maes cynllunio yn rhan o Fforwm Economi Gwynedd. Mewn ymateb, nodwyd bod cynllunio’n faes hanfodol i lwyddiant economaidd ac yn cael ei grybwyll yn y strategaeth. Nodwyd ymhellach y byddai cynrychiolaeth o’r maes cynllunio yn rhan o Fforwm Economi Gwynedd.

Nodwyd pryder ynghylch natur feddal y strategaeth o ran defnydd iaith, gyda chyfeiriad at eiriau megis ‘cefnogi’ ac ‘hyrwyddo’, yn ogystal â’r hwyrder wrth dderbyn y ddogfen ddrafft ar gyfer 2025-26. Mewn ymateb, nodwyd bod dogfennau strategol yn ddogfennau cyfeiriadol ac felly’n tueddu i fod yn feddal eu naws, a bod y cynlluniau gweithredu yn cynnwys y camau pendant. Nodwyd bod hwyrder yn derbyn setliad cyllid eleni wedi arwain at oedi wrth lunio’r gwaith, ac y bu’n rhaid gweithredu o fewn cyfnod ariannol byr.

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol grantiau, gan gyfeirio at y rhaglenni a ddaw i ben ym mis Mawrth 2026. Mewn ymateb, nodwyd bod sawl rhaglen lwyddiannus wedi bod ar waith dros y tair blynedd ddiwethaf, wedi’u hariannu’n llawn gan grantiau. Nodwyd bod ansicrwydd ynghylch cyllid parhaus yn creu ansicrwydd i staff y Cyngor ynglŷn â’u cytundebau gwaith. Pwysleisiwyd bod dros hanner gweithlu’r adran ar gontractau tymor byr oherwydd dibyniaeth ar grantiau, gan greu her o ran cadw staff profiadol. Nodwyd bod yr adran yn pryderu ynglŷn â hyn a blaenoriaethir ymdrechu i dderbyn y cyllid grant yma ar gyfer flwyddyn nesaf.

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau economi sydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg ac ymdrechion i ddenu pobl yn ôl i Wynedd. Mewn ymateb, nodwyd bod yr adran wedi bod yn gweithio ar y rhaglen Arfor dros y tair blynedd diwethaf gyda chyllideb o £11 miliwn, ond eleni dim ond arian pontio a dderbyniwyd. Pwysleisiwyd, er hyn, y bydd y gwersi sydd wedi’u dysgu a’r ymchwil a wnaed dros y tair blynedd diwethaf, megis beth sy’n bwysig i bobl ifanc a pha amodau ac amgylchiadau fyddai’n eu denu yn ôl, yn parhau i gael eu defnyddio. Nodwyd bod y mater yn flaenoriaeth o fewn y strategaeth ac felly’n cael ei flaenoriaethu mewn ceisiadau am grantiau er mwyn parhau i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud.

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynghylch cydweithio rhwng yr Adran Economi a Chymuned a’r Adran Amgylchedd i sicrhau bod y strategaeth yn cael ystyriaeth lawn wrth i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd gael ei ddatblygu. Mewn ymateb, nodwyd bod cysylltiad clir rhwng y strategaeth a’r cynllun datblygu, ac y byddai’r ddwy strategaeth yn symud i’r un cyfeiriad. Nodwyd bod perthynas waith agos yn bodoli ar gyfer prosiectau mawr, a bod yr Adran yn amlygu pwysigrwydd y cynlluniau i’r economi leol ac yn cynnig eu sylwadau wrth i’r prosesau cynllunio symud ymlaen.

Holwyd am ragor o fanylion ynghylch gwerthusiad y rhaglen Arfor. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwerthusiad wedi’i gomisiynu ac wedi’i rannu gyda’r pedair sir, a’i fod yn dangos pa gynlluniau oedd wedi llwyddo orau, gan helpu i adnabod wrth symud ymlaen pa fath o ymyraethau sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth. Nodwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi’r adroddiad erbyn Rhagfyr 2025, ar ôl cytuno arno gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau y byddai’r canfyddiadau’n llywio’r gwaith i’r dyfodol.

Tynnwyd sylw at y diffyg trafodaeth rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Adran Economi a Chymuned yng nghyswllt ceisiadau cynllunio amrywiol. Nodwyd yr angen am well cyfathrebu rhwng yr Adrannau yn enwedig o ran datblygiadau llai a datblygiadau mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb, nodwyd bod y berthynas waith ar brosiectau mawr yn gadarn, ond y byddai’r adran yn trafod gyda’r Adran Amgylchedd sut i ymestyn hyn i brosiectau llai.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi’r gwaith sy’n digwydd yn Llanbedr mewn perthynas â datblygiadau dronau, gan nodi bod y datblygiadau hyn o fudd i’r maes amaethyddiaeth. Mewn ymateb, pwysleisiwyd nad oedd unrhyw waith milwrol ar y safle ac y byddai’r Cyngor yn parhau i gefnogi’r datblygiad.

Nodwyd sylw bod cynhyrchu ynni glân a chynlluniau hydro ddim yn ddiwydiant gyda photensial ar gyfer twf ar hyn o bryd, gan fod y prisiau a gynigir am y trydan hwn gan y Llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol.

Mynegwyd barn bod y cynllun cyflawni yn gorbwysleisio ardal Arfon. Nodwyd bod angen rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau sylfaenol megis gwaith saer coed, plymwr a thrydanwr o fewn y diwydiant adeiladu wrth lunio cynlluniau hyfforddi.

Nodwyd bod angen adrodd yn fwy rheolaidd ar y swyddi a grëwyd neu a ddiogelwyd drwy gynlluniau’r adran, gan gynnwys gwybodaeth ar lefel wardiau, er mwyn dangos effaith y buddsoddiad ar bobl Gwynedd.

PENDERFYNWYD

1. Derbyn y strategaeth gan nodi’r sylwadau.

2. Mynegi pryder ynghylch argaeledd grantiau i ardaloedd difreintiedig fel Gwynedd, a mynegi’r gobaith y bydd cyfartaledd a thegwch o fewn y Sir o ran dosbarthiad adnoddau a chefnogaeth.

3. Nodi pwysigrwydd bod yr Adran Economi a Chymuned yn cydweithio gyda’r Adran Amgylchedd er mwyn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cyfarch yr angen i ddenu swyddi a busnesau i’r Sir. Yn yr un modd, cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.

4. Awgrymu bod strwythur clir yn cael ei roi ar waith i adolygu’r hyn a gyflawnwyd ar ddiwedd blwyddyn yn erbyn y cynllun cyflawni.

 

Dogfennau ategol: