I roi cyfle i’r
Pwyllgor Craffu ystyried cynnwys y Strategaeth Gaffael a darparu sylwadau.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfreithiol a’r Gymraeg. Eglurwyd bod deddfwriaeth
newydd ym maes caffael wedi dod i rym ym mis Chwefror eleni. Nodwyd bod yr
adroddiad yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r Ddeddf, ynghyd â’r strategaeth ei
hun a chanlyniadau defnyddio’r fethodoleg gwerth cymdeithasol wrth werthuso
contractau.
Pwysleisiwyd bod caffael yn y sector cyhoeddus yn
ddarostyngedig i fframwaith cyfreithiol er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac
agored, gwerth am arian, ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau cenedlaethol a
rhyngwladol. Nodwyd bod y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
2023 yn debygol o ddod i rym y flwyddyn nesaf, a bod gwaith paratoi ar y gweill
i ymateb i’r newidiadau hyn.
Eglurwyd bod y Cyngor yn gwario tua £200 miliwn y
flwyddyn ar gaffael, ac felly bod angen sicrhau’r gwerth gorau o ran pris,
ansawdd a buddion cymdeithasol, gan gynnwys cyfraniad at ddatgarboneiddio.
Nodwyd bod y strategaeth yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn
ac yn cynnwys saith maes blaenoriaeth: buddion lleol, carbon sero, gwerth am
arian, gwerth cymdeithasol, technoleg, trefniadau llywodraethu a’r Gymraeg.
Atgoffwyd bod y fethodoleg werthuso gwerth
cymdeithasol yn adlewyrchu saith nod y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
a’r Gymraeg, ac y bydd y Cyngor yn peilota system newydd i sicrhau canlyniadau
cadarnhaol i Wynedd, megis creu cyfleoedd cyflogaeth i drigolion lleol,
gwariant yn y gadwyn gyflenwi leol, a chyfraniadau ariannol i elusennau a
chlybiau cymunedol. Nodwyd bod cwmnïau eisoes wedi cynnig buddion cymdeithasol
o dros £4 miliwn ers cyflwyno’r dull newydd.
Eglurwyd bod y camau nesaf wedi’u hamlinellu yn yr
adroddiad, gyda’r bwriad o gyflwyno’r strategaeth i’r Cabinet ym mis Tachwedd.
Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn arloesi yn y maes gwerth cymdeithasol ac y bydd y
strategaeth hon yn sail i’r gwaith caffael dros y blynyddoedd nesaf.
Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Cwestiynwyd ynghylch y prif heriau sy’n wynebu’r
Cyngor wrth weithredu’r Strategaeth, yn enwedig o ran cyrraedd y targed sero
net a chadw’r buddion yn lleol. Mewn ymateb, nodwyd bod heriau ar draws sawl
sector, gan gynnwys yr amgylchedd, iaith Gymraeg a’r elfennau cymdeithasol, a
bod y newid yn y ddeddfwriaeth a’r angen i ddeall y trefniadau newydd yn peri’r
prif heriau ar hyn o bryd.
Cwestiynwyd ynghylch y gost ychwanegol o weithredu polisïau
datgarboneiddio, megis prynu cerbydau trydan yn lle cerbydau disel, a pha
effaith ariannol oedd hyn yn ei gael ar y Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd mai’r
brif her oedd cyfrifo’r effaith amgylcheddol wrth gymharu hen gontract gydag un
newydd, a bod y gwaith hwnnw’n parhau ar lefel genedlaethol. Nodwyd nad oes
dull soffistigedig ar hyn o bryd i fesur carbon yn fanwl, ond bod y gobaith yn
parhau y byddai’r defnydd o ynni’n lleihau dros amser ac y byddai hynny’n
arwain at ostyngiad yn y costau. Cytunwyd i wneud gwaith ymchwil pellach i
ddadansoddi’r gost ariannol ychwanegol o weithredu’r targed sero net.
Mynegwyd barn gan aelod bod costau diffyg
datgarboneiddio yn y dyfodol yn debygol o fod yn uwch na’r gost o gyrraedd y
nod sero net. Cwestiynwyd faint o waith cydweithio sydd wedi’i wneud gyda’r
Adran Economi a Chymuned a faint o gymorth sy’n cael ei roi i gwmnïau bach o
fewn y Strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod yr Adran Economi a Chymuned yn
darparu cymorth drwy grantiau ac yn helpu busnesau yn gyffredinol. Nodwyd hefyd
bod y Gwasanaeth Caffael yn cynnig cymorth ac yn darparu gwybodaeth ymlaen llaw
i fusnesau ynghylch cyfleoedd tendro, gyda’r gallu i gyfeirio cwmnïau at Busnes
Cymru sy’n cynnig cymorth annibynnol. Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn ceisio osgoi
defnyddio fframweithiau cenedlaethol lle bo modd, er mwyn sicrhau rhagor o
gyfleoedd i gwmnïau lleol gystadlu.
Cwestiynwyd ynghylch y trefniadau monitro presennol
a’r camau i’w datblygu ymhellach. Mewn ymateb, nodwyd bod rheoli contractau ar
hyn o bryd yn digwydd yn bennaf o fewn y gwasanaethau unigol, ac mai’r bwriad
yw cryfhau’r trefniadau hynny drwy gyflwyno arferion gorau a sicrhau gwerth
llawn o gontractau. Nodwyd bod angen gwella’r gwaith o fonitro gwerth
cymdeithasol, casglu gwybodaeth am garbon ac adrodd yn gyhoeddus ar
ganlyniadau’r tendrau a pherfformiad contractau mawr.
Cwestiynwyd ynghylch yr hyn sy’n newydd yn y
Strategaeth hon o’i chymharu â’r un flaenorol. Holwyd os oedd y ffaith ein bod
yn mesur gwerth cymdeithasol yn wahanol i awdurdodau eraill ac yn mynd y tu
hwnt i ofynion deddfwriaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod yr elfen o fesur gwerth
cymdeithasol, y pwyslais ar gadw’r budd yn lleol, yr effaith o gaffael ar sero
net, gwerth am arian, gwneud y defnydd gorau o dechnoleg, edrych ar y
trefniadau llywodraethu, a hyrwyddo’r Gymraeg yn agweddau ychwanegol nad
oeddent wedi’u cynnwys mewn strategaethau blaenorol. Ymhelaethwyd bod sawl un
o’r elfennau hyn wedi bod yn flaenoriaeth yn y gorffennol, ond heb gael eu
dogfennu o fewn strategaeth. Nodwyd bod y pwyslais ar werth cymdeithasol yng
Ngwynedd yn uwch nag mewn nifer o awdurdodau eraill. Pwysleisiwyd bod y
strategaeth hon yn adlewyrchu gofynion y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a
Chaffael Cyhoeddus, ac yn gosod sylfeini ar gyfer adrodd yn flynyddol ar y
cynnydd.
Cwestiynwyd a oedd technoleg a deallusrwydd artiffisial wedi arwain at
arbedion i’r Cyngor hyd yma. Mewn ymateb, nodwyd bod defnydd o dechnoleg
deallusrwydd artiffisial eisoes yn digwydd, ond nad oedd manylion yr arbedion
ariannol ar gael ar hyn o bryd. Nodwyd bod y maes hwn yn datblygu fel rhan o’r
Cynllun Digidol, gyda threfniadau llywodraethu cadarn yn cael eu sefydlu.
Pwysleisiwyd y dymuniad i weld y Gymraeg yn cael ei
thrin fel ffactor ymarferol ac ystyrlon o bwys wrth gontractio, yn hytrach na
dim ond elfen hyrwyddo symbolaidd. Mewn ymateb, nodwyd bod barn gyfreithiol
wedi’i derbyn ar y mater hwn a’i rannu gyda’r Aelod, gan nodi’r angen i
weithredu o fewn y gyfraith bresennol. Nodwyd bod gwaith pellach ar y gweill i
archwilio cyfleoedd newydd i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg drwy’r cynllun
gweithredu manwl.
Cwestiynwyd ynghylch yr amserlen ar gyfer llunio a
gweithredu’r cynllun gweithredu. Mewn ymateb, nodwyd bod gwaith eisoes ar y
gweill yn y cefndir, ond y byddai’r amserlen yn dibynnu ar gapasiti ac
adnoddau’r gwasanaeth. Nodwyd mai strategaeth hirdymor yw hon, gyda’r
gweithredoedd i’w blaenoriaethu dros sawl blwyddyn.
Cwestiynwyd beth fydd yn cael ei ddiweddaru o fewn
y Polisi Caffael a phryd y bydd hyn yn digwydd. Mewn ymateb, nodwyd y bydd y
Polisi yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth. Cadarnhawyd
bod fersiwn ddrafft o’r Polisi eisoes wedi’i baratoi, a bod angen cynnal
ymgynghoriad mewnol arno cyn iddo gael ei fabwysiadu.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
2.
Gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfreithiol a’r
Gymraeg sicrhau bod popeth posibl, o fewn y cyfyngiadau, yn cael ei wneud i
gadw’r budd yn lleol, hybu cwmnïau bach, creu gwerth cymdeithasol ac i
gefnogi’r Gymraeg.
Dogfennau ategol: