Cais llawn i osod paneli solar (PV) er mwyn creu fferm solar 4.99MW gyda
datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa gerbydol newydd a thraciau
mynediad, codi ffens, tirlunio, gosod 2 stesion newidydd i gasglu a dosbarthu
trydan a grëir a gosod ceblau tanddaearol.
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Angela Russell
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Y bwriad yn annerbyniol o ystyried gofynion maen prawf 1 a 3 polisi ADN 2 ynghyd a gofynion polisïau PCYFF 3 a 4 ac AMG 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ac Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd 2014 o ganlyniad i faint a lleoliad y bwriad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a’i effaith weledol ar gymeriad y tirwedd, ac ei fod yn cael niwed sylweddol i fwynderau gweledol preswyl trigolion cyfagos, yn benodol eiddo Wern Newydd.
Cofnod:
Cais llawn i osod paneli solar (PV) er mwyn
creu fferm solar 4.99MW gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys creu mynedfa
gerbydol newydd a thraciau mynediad, codi ffens, tirlunio, gosod 2 stesion
newidydd i gasglu a dosbarthu trydan a grëir a gosod ceblau tanddaearol.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod safle’r datblygiad arfaethedig yn dir amaethyddol agored sy’n
cynnwys gwrychoedd naturiol ar hyd ei ffiniau gyda choed aeddfed yn wasgaredig
ar a ger y safle. Saif tu allan i unrhyw ffin ddatblygu cyfredol gyda mynediad
i’w gael oddiar ffordd gyhoeddus di-ddosbarth a adnabyddir fel Lôn Pin tra bod
cyfres o lwybrau cyhoeddus yn croesi tiroedd cyfochrog; ac wedi ei leoli o fewn dynodiad Ardal
Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Enlli gyda ffin agosaf AHNE Llŷn oddeutu 1km i
ffwrdd o ran agosaf safle’r datblygiad arfaethedig.
Tynnwyd sylw at yr ymateb i sylwadau a
dderbyniwyd i ymgynghoriad gwreiddiol y cais, gan amlygu bod gwybodaeth ychwanegol
a diwygiedig oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r fynedfa gerbydol a’r
traciau mynediad, gwybodaeth ychwanegol ar ffurf cynlluniau manwl o’r fframiau
i ddal y paneli solar eu hunain; Datganiad Seilwaith Gwyrdd; Datganiad
Ieithyddol; ac ymatebion i sylwadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Archeolegol,
Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Cyngor Cymuned ac Uned Draenio Tir parthed
materion SUDS wedi ei ystyried.
Adroddwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn y gellid
ei ystyried gan swyddogion trwy’r drefn ddirprwyedig.
Yn unol ag anghenion Gorchymyn Cynllunio
Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd),
eglurwyd bod y datblygiad yn cael ei diffinio fel “datblygiad mawr” oherwydd
maint ardal y datblygiad. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a bod y datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol.
Nodwyd bod y bwriad wedi codi cryn bryderon
yn lleol a cydnabuwyd bod nifer o lythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad hefyd wedi
eu derbyn.
Eglurwyd bod egwyddor y math yma o
ddatblygiadau yn cael ei gefnogi a bod polisïau mabwysiedig yn gefnogol i
gynigion o’r fath cyn belled â’u bod yn bodloni’n llwyr yr holl feini prawf
perthnasol. Nodwyd yn ogystal fod trafodaeth cyn cyflwyno cais wedi ei gynnal
gyda’r ymgeisydd gyda chyngor yn cael ei roi ynglŷn â datblygiad o’r fath.
Tynnwyd sylw at yr adroddiadau technegol a gyflwynwyd gan gwmnïau cymwys
ynglŷn ag agweddau o’r bwriad a’r effaith tebygol o ran ystyriaethau, yr
effaith weledol, effeithiau llacharedd, rheoli trafnidiaeth ac ati. Rhoddwyd
sylw ac asesiad llawn i gynnwys yr holl adroddiadau a’r wybodaeth a gyflwynwyd
ond gan na ellid sicrhau na fyddai’r cynnig yn achosi niwed sylweddol i
fwynderau preswyl trigolion cyfagos, nid yw’r bwriad yn dderbyniol.
Roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad
yn annerbyniol ag yn methu bodloni yn llwyr gofynion y polisiau perthnasol ac o
ganlyniad, yn argymell gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Nad oedd adroddiad y
swyddog yn amlygu buddiannau’r bwriad
·
Bod bwriad gosod y paneli solar ar ddau gae tu allan i Lanbedrog
·
Bod y safle wedi ei ddewis yn ofalus i leihau’r effaith weledol
·
Bod y rhai hynny fyddai
yn dioddef unrhyw effeithiau yn cael cynnig cymorth i sgrinio o gwmpas eu
hannedd i leihau’r effaith
·
Bydd ffermio yn fwy cynaliadwy – defnydd amaethyddol y tir yn parhau
·
Bod y bwriad yn cynnig gwelliannau ecolegol drwy gryfhau gwrychoedd a
phlannu blodau gwyllt ar y ddôl
·
Bod swm o arian wedi ei
gynnig i’r gymuned leol ynghyd a phosibiliadau fyddai’n cynnwys cyfraniadau
cymuned a pherchnogaeth leol gan ddarparu buddion cymunedol
·
Byddai’r bwriad yn
darparu trydan ar gyfer 1800 o dai - byddai Llanbedrog yn net sero
·
Byddai’r cynllun yn
darparu cyflogaeth yn lleol - dwy swydd llawn amser a chyfle i sefydlu menter
gymunedol os byddai diddordeb
·
Nad oedd cyfeiriad at
Gynllun Ynni Ardal Leol Gwynedd yn yr adroddiad a buddion cyfraniad y bwriad
hwn at y cynllun hwnnw
·
Deall nad yw newid yn hawdd, ond bod ynni solar yn fuddiol a rhad
·
Nad oedd yr adroddiad yn rhoi digon o bwysau ar gydymffurfiaeth y bwriad
gyda pholisïau perthnasol, ond yn rhoi
gormod o bwysau ar yr effaith weledol
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod teitl y datblygiad
fel ‘ffarm’ solar yn gamarweiniol. Dim fferm draddodiadol sydd yma fyddai’n
magu anifeiliaid, cadw tir, tyfu cynnyrch ac annog bywyd gwyllt
·
Bod y tir amaeth yn dir o safon uchel – tir amaeth gorau yn Llanbedrog
·
Y safle mewn lleoliad bendigedig
·
Bod llwybrau cyhoeddus yn ymylu gyda safle’r cais
·
Ei fod yn cyffwrdd â’r
AHNE - ardal o harddwch - nid yw’r bwriad yn hardd nag yn naturiol
·
Bod nifer yn gwrthwynebu yn lleol
·
Bod Fferm Wern Fawr gyda nifer o adeiladau rhestredig
·
Bod rhwydwaith ffyrdd lleol cymharol gul a heb reolaeth fydd yn achosi
trafferthion yn enwedig pan fydd y brif ffordd A499 yn cau oherwydd llifogydd
·
Nid yw’r safle yn un o rhai gorau am haul – ni fydd yn debygol o greu
llawer o drydan
·
Bydd ffens a pholion i
ddal teledu cylch cyfyng yn cael ei osod o amgylch y safle
·
Yn diolch i’r swyddogion am eu gwaith ac yn galw ar y pwyllgor i wrthod y
cais
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr
Aelodau:
·
Bod defnydd paneli solar
ar dir agored yn annerbyniol
·
Bod yr ardal yma o
Benrhyn Llŷn yn un o harddwch
·
Bod adeiladau rhestredig
gradd 2 yn agos i’r safle
·
Bod y tir yn dir amaeth
da
·
Er yn nodi y byddai’r
safle yn cynhyrchu trydan ar gyfer 1800 o gartrefi, ni fydd hyn yn bosib drwy’r
amser - bydd angen ffynhonnell arall o drydan wrth gefn - y datganiad yma felly
yn gamarweiniol.
Rheswm:
Y bwriad yn annerbyniol o
ystyried gofynion maen prawf 1 a 3 polisi ADN 2 ynghyd a gofynion polisïau
PCYFF 3 a 4 ac AMG 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017)
ac Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd 2014 o ganlyniad i faint a
lleoliad y bwriad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a’i effaith weledol ar gymeriad
y tirwedd, ac ei fod yn cael niwed sylweddol i fwynderau gweledol preswyl
trigolion cyfagos, yn benodol eiddo Wern Newydd.
Dogfennau ategol: