Datblygu reid dwristiaeth antur newydd ar ffurf ‘Swing’ i gynnwys codi strwythur platfform, ramp a strwythur glanio, ceblau a strwythurau angori ynghyd â gwaith cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan CADW ac i’r amodau canlynol
:
Nodyn – Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru.
Cofnod:
Datblygu
reid dwristiaeth antur newydd ar ffurf ‘Swing’ i gynnwys codi strwythur
platfform, ramp a strwythur glanio, ceblau a strwythurau angori ynghyd â gwaith
cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at sylwadau
gan Cyngor Cymuned Llandygai ynghyd a llythyr gan Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth
Llechi Cymru. Nodiwyd bod gwrthwynebiad pellach gan aelod o’r cyhoedd wedi ei
dderbyn dros y penwythnos, ond nad oedd yn codi unrhyw fater newydd.
Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld a’r safle 20-10-25
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu gweithgaredd ychwanegol ar safle
Zip World yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda. Y bwriad yw sefydlu reid newydd ar
ffurf siglen fawr gyda 6 sedd gyda’r gwaith yn cynnwys codi strwythur platfform,
ramp a strwythur glanio, ceblau cysylltiedig â strwythurau angor.
Eglurwyd bod safle'r cais yn cynnwys darn o
dir o fewn ardal Chwarel y Penrhyn, i'r de-orllewin o safle presennol Zip
World, gan ymestyn ar draws llyn y chwarel tuag at oriel ar lefel uwch ar ochr
ddeheuol y twll chwarel. Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys pedwar prif
elfen:
·
Y pwynt angori isaf, y
ramp, yr ardal lanio a'r cert;
·
Y siglen a'r platfform;
·
Y pwynt angori uchaf;
·
Cysylltiad drwy ddau
gebl tensiwn sy’n croesi'r chwarel rhwng y ddau bwynt angori. Byddai'r rhain yn
cael eu gosod yn eu lle gan barau o golofnau dur unionsyth ar sylfeini pad
concrit.
Lleolir y safle yn rhannol oddi fewn i Safle
Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ynghyd a Thirwedd
Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen gyda henebion Chwarel y
Penrhyn yn gyfagos. Nodwyd fod pwynt
cychwynnol y reid a prif ganolfan Zip-World gan gynnwys y maes parcio wedi ei
leoli y tu allan i ddynodiad safle Treftadaeth y Byd.
Cyfeiriwyd at Polisi PS 14 y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) sydd yn cefnogi cynigion i ddatblygu diwydiant twristiaeth leol a
fydd yn fwrlwm trwy gydol y flwyddyn. Adlewyrchir hyn gan polisi TWR 1 drwy
gefnogi cynigion am atyniadau neu gyfleusterau ymwelwyr newydd, neu i wella ac
ehangu safon y cyfleusterau presennol. Amlygwyd bod polisi TWR 1 yn gofyn i
gynhigion gydymffurfio â meini prawf yn ymwneud a defnyddio safle addas a
ddefnyddiwyd o'r blaen, defnyddio safle sydd â chyswllt agos ag adeiladau presennol
eraill a datblygu gweithgaredd sy'n gyfyngedig i leoliad penodol. Wrth ystyried
defnydd y safle o amgylch fel cyrchfan twristiaid poblogaidd, ynghyd a natur
ôl-ddiwydiannol y lleoliad a’r budd economaidd sy’n debygol o arwain o’r
datblygiad, ystyriwyd bod y datblygiad yn un a fyddai’n gwella ac ehangu'r
ystod o gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr mewn modd sy’n gyson gydag
egwyddorion y polisïau hyn.
Adroddwyd bod safle’r bwriad wedi ei leoli o
fewn dalgylch gweithgareddau'r chwarel sy'n cynnwys atyniad presennol Zip World
gydag amrywiaeth o adeiladau a strwythurau wedi eu lleoli o amgylch y strwythur
arfaethedig. Mynegwyd y byddai unrhyw olygfa o'r strwythur ei hun yn cael ei
weld o fewn y cyd-destun hwn gyda chefnlen ddiwydiannol ei natur iddo.
Ystyriwyd bod y strwythur arfaethedig o ddyluniad ymarferol a phwrpasol yn
adlewyrchu natur ddiwydiannol y safle gyda’r colofnau dur fydd yn cynnal y
gwifrau a’r offer yn debyg i beth o
adeiladwaith cyfagos y chwarel.
Cyflwynwyd Asesiad Tirwedd a Gweledol a
baratowyd gan arbenigwyr treftadaeth gyda’r cais lle canfuwyd bod yr effaith
gyffredinol ar Safle Treftadaeth y Byd o chwe golygfan yn ‘niweidiol dibwys i
fach’ ac mewn un achos ‘effaith fuddiol fach’. Cydnabuwyd y casgliadau hyn ac
ystyriwyd na fydd y bwriad yn amlwg yn y dirwedd ac ni fyddai’n cael effaith
weledol niweidiol yn lleol.
Cyfeiriwyd at asesiad sŵn oedd wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais, ac adroddwyd bod
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn derbyn y casgliadau sydd yn ymwneud a
sŵn yn deillio yn uniongyrchol o’r peirianwaith yn gysylltiedig â’r
bwriad, ond yn nodi pryder ynghylch a’r diffyg sylw a roddwyd i botensial
sŵn gan gwsmeriaid yn defnyddio’r siglen. Ategwyd bod hyn hefyd yn bryder
gan drigolyn lleol. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn agwedd anodd iawn i’w
ragweld a’i reoli, ond y gellid sicrhau, drwy amod priodol, bod proses mewn lle
i ystyried unrhyw gwynion a ddaw gan aelodau o’r cyhoedd yn ystod y cyfnod
gweithredol a sicrhau fod camau penodol mewn lle ar gyfer lliniaru unrhyw
broblemau os oes tystiolaeth o niwed arwyddocaol. Ystyriwyd felly, yng nghyd
destun yr holl weithgaredd eraill sy’n digwydd o fewn safle Zip World a’r
Chwarel weithredol gerllaw, na fydd y bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol
ar drigolion lleol o ran sŵn.
Tynnwyd sylw bod cryn trafodaeth wedi bod
rhwng yr ymgeisydd a’i asiant a Cadw ynghylch materion treftadaeth, a bod
fersiwn diweddaraf o’r Asesiad Effaith Treftadaeth yn cynnwys mesurau lliniaru
oedd yn dod i gasgliad bod yr effeithiau
buddiol/cadarnhaol oedd yn cael eu cynrychioli gan y cynigion ynghyd a’r
mesurau lliniaru ychwanegol, yn cydbwyso’r effeithiau andwyol/negyddol gyda
canlyniad net o effaith niwtral gyffredinol.
Nodwyd bod sylwadau Cadw i'r Asesiad Effaith
Treftadaeth yn cadarnhau y byddai eu pryderon ynghylch yr effaith ar Safle
Treftadaeth y Byd a’r henebion yn lleihau ar yr amod bod yr holl fesurau
lliniaru sy’n cael eu crybwyll yn yr Asesiad (sy’n cynnwys tynnu strwythuron
presennol o’r safle, darparu ardaloedd wylio pwrpasol hygyrch i’r rhai sydd
ddim yn cymryd rhan ar y siglen sy’n cynnig profiad gweledol unigryw o’r
chwarel a’r Princess May, ymweliadau tywys i gyfranogwyr y siglen sy’n cynnwys
sylwebaeth, paneli dehongli, rheoli llystyfiant o gwmpas y Princess May,
darparu tirlunio meddal o gwmpas y system trin carthffosiaeth bresennol, a
rhaglen hyfforddi tîm) yn cael eu gweithredu cyn gweithrediad masnachol cyntaf
y reid, a’r gofyniad am yr adroddiad arbenigol ar gyflwr y Princess May yn cael
ei gwblhau chwe mis ar ôl gweithrediad masnachol cyntaf y reid. Ar sail hynny,
ystyriwyd bod y cynnig ar y cyfan yn cwrdd gyda gofynion polisïau PS 20 ac AT 1
y CDLl.
Eglurwyd bod y datganiad cynllunio a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn cynnwys ystyriaeth i’r Iaith, ac yn cynnwys
ymrwymiad i gefnogi’r Iaith Gymraeg gan sicrhau fod yr Iaith yn weladwy fel
rhan o’r datblygiad drwy osod arwyddion dwy-ieithog, cynnig cyfleoedd
cyflogaeth ychwanegol ar sail 20 swydd gyfwerth ac amser llawn i’w diwallu’n
lleol. Nodwy y byddai amod cynllunio ar gyfer sicrhau’r defnydd o arwyddion
dwyieithog, ynghyd a nodyn i hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg ar gyfer busnesau.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth,
amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r Arolygon Ecolegol a’r
gwelliannau ac felly’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisi PS19 a
Polisi Cynllunio Cymru. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad
i’r bwriad.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y
swyddogion yn argymell caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau
cynllunio
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn un am ddatblygiad antur, cyffrous newydd i ymwelwyr Zip
World brofi cyffro a gwefr
·
Bod y safle gerllaw Safle Treftadaeth y Byd
·
Mai dyma’r datblygiad
/atyniad ychwanegol cyntaf ers sefydlu Zip World yn Chwarel Penrhyn ers 2001
·
Bod Zip World wedi
cysylltu gyda’r Grŵp Llywio ers 2023 ynglŷn â’r bwriad a bod
trafodaethau helaeth wedi eu cynnal. Y Grŵp Llywio wedi cael cyfrannu at
ffurf, edrychiad a dyluniad y fenter
·
Mesurau Lliniaru wedi eu
cytuno gyda Cadw, sydd bellach yn gefnogol i’r cais
·
Zip World yn cyfrannu yn
sylweddol i’r economi leol - yn creu nifer o swyddi
·
Bod diogelwch ar y safle o safon uchel
·
Yn fodd o hybu
treftadaeth
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Nad oedd yn credu bod y pwyllgor mewn sefyllfa i wneud unrhyw
benderfyniad oherwydd nad oedd y
dogfennau oedd wedi eu cyflwyno yn gywir nac yn gyfredol.
·
Cyfeiriwyd at yr Asesiad Effaith Economaidd", ac yn benodol adrannau
3.6 a 3.7, gan amlygu cyfeiriadau clir at yr uchelgais i ddatblygu
"rhwydwaith eBws," ac at y cysylltiad rhwng yr atyniad Swing
arfaethedig a'r system eBws hwnnw. Y cyfeiriadau hyn yn gwrth-ddweud yn
uniongyrchol ymrwymiad cyhoeddus Zip World a wnaed mewn cyfarfod ymgysylltu
gyda’r gymued leol ar 17 Mehefin 2025, - i ddileu’r elfen eBws yn dilyn
gwrthwynebiad lleol cryf. O ganlyniad, yr Asesiad Effaith Economaidd, yn
ogystal â'r Cynllun Teithio Dros Dro yn seiliedig ar fersiwn o'r cynllun nad
yw'n bodoli bellach. Zip World yn parhau i ddefnyddio'r rhwydwaith eBws i
gyfiawnhau honiadau allweddol am gynaliadwyedd, lleihau carbon, a budd
economaidd y fenter a bod hyn felly yn tanseilio dilysrwydd y dystiolaeth a
gyflwynwyd; y costau a’r ffigurau carbon, a’r asesiadau economaidd ehangach i
gyd yn dibynnu ar dybiaethau sydd bellach yn anghywir.
·
Bod addewid o 20 o swyddi cyfwerth swyddi llawn amser, ond y ffigwr yma
hefyd yn gysylltiedig â’r Asesiad Effaith Economaidd sy'n trafod y rhwydwaith
eBws. Faint o swyddi felly sydd yn cael eu haddo o ystyried nad yw'r rhwydwaith
eBws bellach yn rhan o'r cynllun?
·
Nid oes unrhyw fanylion ynghylch pa fath o swyddi fydd y rhain, na
gwarant y byddant yn barhaol, ac o ystyried bod dros 85% o weithlu presennol
Zip World yn Chwarel Phenrhyn a Llechwedd ar gontractau dim oriau, anodd yw
derbyn y ffigur yma
·
Yr Asesiad Effaith
Economaidd hefyd yn defnyddio data'r cwmni cyfan i gyfiawnhau un atyniad.
Defnydd o’r ffigur pennawd o £690 miliwn mewn gwerth economaidd o weithrediad
cyfan Zip World ledled Cymru - nid yw’n benodol i'r Swing, ac ni ddylid ei
ddefnyddio i gefnogi'r cais hwn.
·
Nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'r cynnig sy'n cael ei ystyried. Mae'n
anghyflawn, yn anghyson, ac o bosibl yn gamarweiniol.
·
Yn annog y pwyllgor i ohirio penderfyniad nes bydd dogfennau cywir a
chyfoes yn cael eu cyflwyno — gan gynnwys Asesiad Effaith Economaidd a Chynllun
Trafnidiaeth diwygiedig sy'n disgrifio'r cynllun presennol yn gywir. Wedi
derbyn hyn, gall aelodau’r Pwyllgor
asesu'r effeithiau'n briodol a theg.
·
Awgrym y byddai’n synhwyrol i'r pwyllgor, yn ystod cyfnod o ohirio i
edrych ar gyfraniadau Adran 106 - a sut y gallent fod yn berthnasol i
ddatblygiadau mawr o'r math hwn. Os mae disgwyl
i brosiect megis gwynt ar y tir o raddfa ariannol debyg wneud cyfraniad
cymunedol, yna rhesymol fydd gofyn pam y dylid trin y math hwn o ddatblygiad yn
wahanol.
·
Bod budd cymdeithasol Zip World yn hoiniad gwan – does dim sefydlogrwydd
ac nid yw’r arian yn aros yn y economi leol
d)
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Rheolwr Cynllunio bod cadarnhad ysgrifenedig wedi ei dderbyn
yn nodi nad yw'r ebws bellach yn ffurfio rhan o’r cais a bod gweddill y
wybodaeth a gyflwynwyd yn gywir.
dd)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio fel
bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant a chyflwyno gwybodaeth mwy
diweddar a chyfredol i’r Pwyllgor.
Pleidleisiwyd ar y cynnig i ohirio
Disgynnodd y cynnig
a) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr
Aelodau:
·
Bod angen clirio a
thacluso o amgylch y Tanc Dwr hanesyddol
‘Princess May’ cyn bod y siglen yn weithredol
·
Os nad yw’r ebws bellach
yn ffurfio rhan o’r cais, a oes modd rhoi cyfraniad i fysus lleol a / neu’’r
gymuned leol i wella’r ddarpariaeth trafnidiaeth?
·
Bod y cais yn
cydymffurfio gyda pholisïau lleol a chenedlaethol
·
Bod y reid yn
ychwanegiad naturiol i’r safle sydd ar hyn o bryd yn ardal ddiffaith
·
Bydd yn cynnig
cyflogaeth yn lleol
·
Siglen dal 6 sydd yma –
nid yw’n ormodol – yn rhesymol fach i safle mor fawr
·
Bod Zip World yn dod a
phobl i Gymru – ardal sy’n ddibynnol ar dwristiaeth
·
Bod gan y cwmni safonau
diogelwch uchel
·
Bod y ffigyrau yn
anghywir – afresymol fyddai caniatáu heb y ffigyrau cywir
·
Cwmni echdynnol yw Zip
World – nid ydynt yn gwmni lleol
·
Gan nad yw’r ebws yn
ffurfio rhan o’r cais, trafnidiaeth leol yn colli allan
·
Dim llefydd parcio
digonol ar gyfer yr ymwelwyr ychwanegol
·
Bod angen mwy o
wybodaeth - gwybodaeth anghywir wedi ei gyflwyno ac felly annog y pwyllgor i
ohirio
PENDERFYNWYD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau
cadarnhaol gan CADW ac i’r amodau canlynol :
Nodyn – Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru.
Dogfennau ategol: