Agenda item

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau a Harbwrfeistr Abermaw.

 

Data Perfformiad

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Mynegwyd balchder bod nifer y cytundebau angori yn yr harbwr wedi cynyddu yn ystod y tymor. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer y cychod pŵer a gofrestrwyd y tymor hwn o’i gymharu ag y llynedd.

Soniwyd am y system gofrestru ar lein sy’n cael ei defnyddio er mwyn ceisio arbed papur.

 

Adborth a gafwyd am Harbwr Abermaw

 

Eglurwyd bod codau QR i’w gweld o gwmpas yr harbwr er mwyn i gwsmeriaid allu rhoi adborth ar yr harbwr. Datgelwyd bod cynnydd yn yr adborth cadarnhaol sydd wedi ei dderbyn o gyfnod 2023/24 hyd at eleni.

Tywyswyd y pwyllgor drwy’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd, gan dynnu sylw at y ffaith mai tîm o staff ifanc sy’n gweithio yn yr harbwr. Nodwyd eu bod yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf, fel sydd i’w weld o’r adborth.

Ategwyd bod yr angorfeydd newydd i ymwelwyr wedi gweithio’n wych gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i ymwelwyr ddod i’r harbwr.

 

Symudwyd ymlaen i drafod yr adborth negyddol a dderbyniwyd, gan nodi bod pob adborth yn cael ei gydnabod a bod ymdrechion parhaol i wella’r harbwr yn cael eu gwneud.

 

 Cod Diogelwch Morol a Chyfleusterau Porthladd (PMSC)

 

Nodwyd bod y Cod Diogelwch hwn yn amlinellu'r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd ar ddiogelwch morol porthladdoedd. Eglurwyd bod archwiliadau gan arbenigwr allanol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau fod yr harbwr yn cyd-fynd â gofynion y Cod. Ychwanegwyd bod archwiliwr newydd wedi ei benodi.

 

Adnabuwyd bod sicrhau hyfforddiant cyson i staff yn rhan allweddol o’r Cod. Llongyfarchwyd Harbwrfeistr Abermaw a lwyddodd i gwblhau’r Diploma Harbwrfeistr eleni.

Soniwyd am y mesurau diogelwch a gaiff eu cymryd, gan bwysleisio defnydd staff o gamerâu cyrff. Nodwyd bod cyflwyno’r camerâu hyn eleni wedi lleihau’r nifer o achosion o ymddygiad ymosodol tuag at staff, ac yn cynnig sicrwydd pe bai digwyddiad yn cymryd lle.

Holwyd os oes digwyddiad lle bu rhaid edrych yn ôl ar gynnwys y recordiadau er mwyn ymateb ymhellach. Cadarnhawyd bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn am gynnwys y camerâu a chamerâu cylch cyfyng yr harbwr er mwyn ymateb i ddigwyddiadau.

Mynegwyd balchder nad oes unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain wedi'u hadrodd i’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol hyd yma eleni. Nodwyd bod digwyddiadau wedi cymryd lle, megis cwch yn mynd ar dân a chwch arall yn suddo, ond nad oedd y rhain yn ddigon difrifol i’w hadrodd.

 

Tŷ’r Drindod AGC (Awdurdod Goleudai Cyffredinol)

 

Nodwyd bod y Cyngor yn Awdurdod Goleudy Lleol cofrestredig, a’u bod yn gyfrifol am sicrhau bod y cymhorthion mordwyo wedi eu lleoli’n gywir ac yn gweithio’n ddiogel ar hyd yr arfordir. Eglurwyd bod staff yn asesu'r rhain yn rheolaidd er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid. Ategwyd bod y wybodaeth o’r arolygon sy’n cael eu cynnal yn cael ei fewnbynnu i gronfa ddata Tŷ’r Drindod. Cadarnhawyd bod yr archwiliad diwethaf gan Dŷ’r Drindod yn nodi bod 95.47% o Gymhorthion Mordwyo’r harbwr mewn cyflwr da.

 

Adnoddau a Chyllideb

 

Amcangyfrifwyd bod gorwariant o oddeutu £4,000 yn y maes staff a gaiff ei achosi gan salwch ac oriau ychwanegol a weithiwyd gan staff. 

Wrth gyfeirio at y gyllideb, nodwyd bod yr harbwr yn amcangyfrif  tanwariant o’r gyllideb sydd wedi’i dosrannu i adeiladau’r harbwr eleni, gan nad oes wedi bod angen gwaith cynnal a chadw.

Cadarnhawyd bod angen ail edrych ar y ffigwr sydd wedi ei nodi fel gwariant ar gyfer trafnidiaeth, gan ategu nad yw’r gwir ffigwr mor uchel â’r hyn sydd wedi ei nodi.

Datganwyd bod gorwariant disgwyliedig ar adnoddau a gwasanaethau yn ogystal.

Pwysleisiwyd mai ffigyrau wedi eu hamcangyfrif yw’r tabl yn yr adroddiad, felly bod siawns y gallent newid. Ychwanegwyd y gall yr amcangyfrifon hyn ynglŷn â gwariant yr harbwr newid yn ddibynnol ar y tywydd wrth fynd ymlaen a’r difrod a gaiff ei achosi.

Gobeithiwyd y gall yr harbwr ddenu incwm o tua £55,000, sy’n uwch na’r hyn a nodwyd yn y tabl.

 

Cadarnhawyd bod anawsterau wedi codi wrth geisio recriwtio staff ar gyfer y traethau eleni, er bod y swyddi hyn wedi eu hysbysebu amryw o weithiau yn ystod y flwyddyn.

 

Materion Allweddol Eraill

 

Nodwyd bod y gwasanaeth wedi buddsoddi £3500 i brynu bowser a phibell olchi jet ar drelar. Eglurwyd bod yr offer hwn yn galluogi staff i lanhau ardaloedd o fewn yr harbwr nad oedd modd eu cyrraedd gynt. Ategwyd bod yr offer hwn wedi ei ddefnyddio yn harbwr Aberdyfi yn ogystal.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith i Gymhorthydd Mordwyo rhif 2 gael ei olchi i'r lan ar ôl difrod i'w gadwyn godi. Sicrhawyd bod staff wedi gweithredu’n gyflym, a’i fod bellach yn ôl yn y man priodol. Ychwanegwyd bod ychydig o newid i’w safle ond gobeithiwyd y bydd hyn yn well ar gyfer y banciau tywod sydd yn y sianel.

 

 

Diweddariad ar Faterion Gweithredol

 

Soniwyd bod y tywydd braf a gafwyd dros yr haf wedi denu nifer fawr o ymwelwyr a chychod o bob math i’r harbwr. Croesawyd hyn ond pwysleisiwyd yr angen i gwsmeriaid ddefnyddio offer diogelwch megis siacedi achub a chario ffôn neu VHF.

 

Ymfalchïwyd yn y ffaith bod Harbwr Abermaw wedi gweld cynnydd o tua 55% yn nifer y cychod sydd wedi ymweld â’r harbwr ers llynedd. 

Datganwyd bod cwch patrôl yr harbwr wedi cael defnydd da dros y tymor, a chaiff ei ddefnyddio er mwyn helpu cychod i’w hangorfeydd, patrolio’r arfordir ac archwilio’r sianel fordwyo.

Nodwyd bod cerbyd y gwasanaeth hefyd yn cael llawer o ddefnydd ar y traeth, ond bod ei gyflwr yn dirywio erbyn hyn o ganlyniad i’r amgylcheddau heriol y mae’n gweithio ynddynt. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi fod yr harbwr mewn trafodaethau gydag adran fflyd y Cyngor er mwyn ceisio cael cerbyd newydd.

Adroddwyd bod y Cerbyd Pob Tir wedi cael ei uwchraddio, sydd wedi arwain ato yn cael mwy o ddefnydd. 

 

Crybwyllwyd bod gan yr harbwr ddrôn newydd, a gaiff ei ddefnyddio i wirio’r sianel fordwyo, i asesu’r afon o’r swyddfa, yn ogystal â chwilio am bobl goll ar y traeth.

Amlygwyd bod y buddsoddiadau sydd wedi cael eu gwneud mewn offer dros y flwyddyn wedi bod yn gadarnhaol, a chaiff yr offer hwn ddefnydd aml ar draws yr arfordir.

 

Materion Mordwyo

 

Cadarnhawyd bod rhai o’r bwiau angen archwiliad, ac amlygwyd bod hysbysiad i forwyr wedi cael ei gyhoeddi er mwyn roi gwybod nad yw bwi rhif 10 yn ei safle.

 

Datgelwyd bod effaith tywod dal i’w weld ar y sianel, ac mae hyn yn effeithio mynediad rhai cwsmeriaid at wal yr harbwr. Nodwyd bod nifer o gwynion wedi eu derbyn am y mater hwn.

 

Esboniwyd bod gofyn i gwsmeriaid roi gwybod i’r swyddfa pa fyddant yn gadael neu’n dychwelyd i’r harbwr, er mwyn gallu eu hysbysu am unrhyw fater mordwyo neu dywydd er enghraifft.

 

Materion Penodol

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwaith yn mynd rhagddo i adnewyddu pontŵn yr harbwr, a gobeithiwyd y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn Mawrth 2026. Nodwyd nad yw hyn wedi ei gadarnhau eto, ond ategwyd nad yw'r harbwr wedi colli cwsmeriaid yn sgil y diffyg pontŵn.

 

Cynnal a Chadw

 

Eglurwyd y caiff archwiliadau dyddiol, wythnosol a misol eu cynnal gan staff yr harbwr. Soniwyd bod rhestr waith yn cael ei gwneud ar gyfer y gaeaf, er mwyn mynd i’r afael ac unrhyw waith sydd angen ei wneud.

 

 

Tywyswyd y pwyllgor drwy restr digwyddiadau Harbwr Abermaw.

 

 

Sylwadau’n deillio o’r drafodaeth

 

Pryderwyd am yr effaith ariannol mae’r tywydd garw yn ei gael ar gyllidebau’r harbyrau wrth orfod adfer unrhyw ddifrod. Pwysleisiwyd bod achlysuron lle caiff pecynnau eu darparu gan Lywodraeth Cymru i dalu am ddifrod sylweddol. Ychwanegwyd nad oes disgwyl i gyllidebau’r harbwr ymestyn i hyn fel arfer, oherwydd bod yr adran a’r gwasanaeth o fewn y Cyngor yn delio â difrod i’r harbyrau.

 

Soniwyd bod y grwynau, sydd wedi eu gosod yn benodol gan beirianwyr, wedi torri a holwyd beth sy’n cael ei wneud i ddatrys hyn. Datgelwyd bod y grwynau hyn yn dod o dan gyfrifoldeb Ymgynghoriaeth Gwynedd ac y bydd y pryderon yn cael eu pasio ymlaen i’r adran.

 

Eglurwyd ymhellach am waith gwych y drôns yn yr harbwr - ategwyd eu bod yn ddefnyddiol iawn i allu asesu llygredd ac archwilio bwiau mewn modd mwy diogel na gyrru cwch allan.

 

Cyfeiriwyd at y ddwy gadair hygyrch sy’n cael defnydd gwych ar y traeth – nodwyd pwysigrwydd y ddarpariaeth hon a bod gobaith i ehangu ar hyn yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: