Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef yr ail adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef yr ail adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
TRAFODAETH
Amlygwyd mai hwn yw’r ail adroddiad chwarterol gan Gadeirydd
y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
Eglurwyd i’r Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi ar y
4ydd o Dachwedd. Tynnwyd sylw at ddewrder y dioddefwyr a’r goroeswyr, gan nodi
eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc anodd hwn.
Nodwyd bod yr adroddiad yn erchyll i’w ddarllen a’i fod yn
amlygu methiannau’r Cyngor. Ymddiheurwyd yn ddiffuant i’r dioddefwyr a phawb a
gafodd eu heffeithio gan y troseddau ffiaidd, gan sicrhau y bydd y Cyngor yn
gweithredu ar argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant.
Datganwyd bod yr adroddiad gerbron yn diweddaru’r Cabinet ar
waith y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Paratowyd yr Adroddiad gan Gadeirydd
Annibynnol y Bwrdd, sef Yr Athro Sally Holland. Esboniwyd bod yr Adroddiad hwn
wedi ei ysgrifennu cyn i’r Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi, ac nad
yw’r Bwrdd wedi cael cyfle eto i gyfarfod yn dilyn y cyhoeddiad hwn.
Croesawyd Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb
i’r cyfarfod. Cydnabuwyd bod yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi’i gyhoeddi a’r
canfyddiadau’n erchyll. Nodwyd bod y diwylliant ehangach o fwlio ac ymddygiadau
annerbyniol gan y Pennaeth hwn, a’r cyfleoedd a gollwyd i herio ac atal niwed
pellach, yn gwneud darlleniad sobor.
Pwysleisiwyd bod angen newid, yn enwedig mewn materion
diwylliannol ehangach o herio arferion gwael neu annerbyniol a system trin
pryderon a chwynion.
Yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Rhagfyr, bydd cynllun
wedi ei lunio a set o fesurau effeithiolrwydd wedi eu diweddaru. Bydd y Cynllun
yn adlewyrchu’r argymhellion o’r Adolygiad Ymarfer Plant gan barhau i adolygu’r
cylch gorchwyl i gryfhau ffyrdd o weithio.
Cyfeiriwyd at adroddiad y Bwrdd wrth sôn am y cynnydd sydd
wedi ei wneud ers yr adroddiad blaenorol, yn ogystal â’r meysydd a fu’n fwy
heriol. Ategwyd yr angen am ddiwylliant o her ar draws yr Awdurdod Lleol a’r
angen i hynny fod yn bresennol yn y Bwrdd yn ogystal. Nodwyd bod hyn yn cynnwys
diweddariadau ysgrifenedig gan Swyddogion, mesurau effaith, adroddiadau
arolygu, ac ychwanegwyd bod y Cadeirydd yn cyfarfod â’r asiantau i drafod eu
profiadau hwy o’r Cynllun.
Cadarnhawyd gan y Cadeirydd ei bod hi ac aelodau eraill y
Bwrdd eisiau i Wynedd lwyddo yn eu hymateb. Nodwyd ei bod eisiau i bobl Gwynedd
fod yn hyderus bydd y system ddiogelu yn gwneud y gwaith sydd ei angen i
sicrhau bod bob plentyn yn cael ei gefnogi ac yn ffynnu.
Amlygwyd pwysigrwydd cynnig tryloywder yn y gwaith sy’n mynd
rhagddo, gan bwysleisio y bydd y gwaith hwn yn galed ac yn cymryd adnoddau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Cytunwyd ar bwysigrwydd gwrando ar lais y
plentyn, a nodwyd bod nifer o agweddau o gynnwys llais y plentyn y gall y
Cyngor wneud gwaith cadarnhaol yn datblygu arnynt. Amlygwyd y bydd awgrymiadau
gan y Bwrdd yn gynwysedig yng Nghynllun newydd Gwynedd er mwyn sicrhau fod
pwyslais ar lais y plentyn, a bod eu lleisiau’n cael eu cynnwys mewn
penderfyniadau strategol.
·
Datgelwyd pryder o ran adnoddau gan gwestiynu
rôl hir dymor Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau fod systemau Cyngor Gwynedd yn
gadarn, gan flaenoriaethu adnoddau i’r gwaith hollbwysig hwn. Soniwyd am yr
adnoddau ychwanegol dros dro sydd wedi’u darparu i Wynedd gan y Llywodraeth yn
flaenorol i ymgymryd â’r gwaith hwn, a nodwyd bod gobaith i unrhyw fesurau
newydd gael eu cyllido’n ddigonol.
·
Darparwyd sicrwydd y bydd pob cam angenrheidiol
yn cael ei gymryd i fynd i’r afael ag unrhyw achos o gam ymddwyn neu fethiant i
gyrraedd y gofynion statudol neu broffesiynol.
Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr
Dogfennau ategol: