Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro’r cyfrifoldeb statudol sydd gan y Cyngor a’i bartneriaid i weithredu fel rhiant corfforaethol i bob plentyn mewn gofal yng Ngwynedd. Nodwyd mai nod y Cyngor yw bod bob plentyn mewn gofal yn byw bywyd hapus a diogel. Cadarnhawyd mai’r Panel sy’n goruchwylio’r gwaith hwn ar ran y Cyngor.

 

Amlygwyd bod 280 plentyn mewn gofal yng Ngwynedd ym mis Mawrth 2025, sydd 1 yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Ychwanegwyd bod llawer o symudiad o fewn y grŵp hwn, gyda phlant yn gadael ac eraill yn dod i mewn i ofal yn ystod y flwyddyn.

Datganwyd bod 186 plentyn mewn lleoliadau maeth, 21 mewn lleoliadau preswyl, 54 wedi’u lleoli gyda’u rhieni, ac 15 o bobl ifanc yn byw yn annibynnol gyda chefnogaeth. Amlygwyd bod cynnydd yn nifer y plant mewn gofal sy’n cael eu lleoli yng Ngwynedd, gan ychwanegu bod lleoli plant yn agos at eu cymunedau yn gadarnhaol.

 

Datgelwyd bod y rhan fwyaf o’r plant a ddaeth i mewn i ofal yn ystod cyfnod yr adroddiad o dan 5 oed, a bod nifer o’r achosion yn gysylltiedig â phroblemau diogelu, camddefnyddio sylweddau, neu drais yn y cartref. 

Cyfeiriwyd at y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i deuluoedd megis drwy’r Tîm o Amgylch y Teulu a’r Gwasanaethau Trobwynt, gan nodi eu bod yn parhau i gael effaith cadarnhaol.

 

Eglurwyd bod cynnydd cadarnhaol yn y nifer o gartrefi maeth cofrestredig, yn ogystal â lleihad yn y nifer o blant a brofodd 3 neu fwy o symudiadau yn eu lleoliad.

Yn ystod 2024/25 datblygwyd pecyn o fuddiannau i ofalwyr maeth y Sir, sy’n cynnwys gostyngiad mewn Treth Cyngor, tocyn parcio am ddim, a defnydd o ganolfannau hamdden.

 

Cyfeiriwyd at y Prosiect Cartrefi Grŵp Bychain gan nodi bod 3 eiddo newydd wedi ei brynu yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd bod y cartref cyntaf wedi ei agor ym Morfa Bychan, a bod dau dŷ arall ar y gweill.

 

Mynegwyd balchder bod perfformiad iechyd plant mewn gofal wedi gwella’n sylweddol, gan nodi bod cyfran helaeth o’r plant hyn wedi cofrestru â meddyg teulu a deintydd. Pwysleisiwyd bod cyd weithio agos gyda CAMHS a’r gwasanaeth iechyd i sicrhau cefnogaeth addas i bob plentyn.

 

Nodwyd bod y Panel wedi bod yn archwilio sut i wneud Gwynedd yn Gyngor ‘Trawma Wybodus’ gan gynnig hyfforddiant i’r gweithlu.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Panel yn drawsadrannol ac ymfalchïwyd ei fod yn gosod safonau’r Cyngor yn uchel.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cydnabuwyd a diolchwyd i rieni maeth am y gwaith gwych a gaiff ei wneud ganddynt ar draws y Sir. Holwyd am effaith y newid mewn rheoliadau i wneud lleoliadau plant yn ddielw. Cadarnhawyd bod bwriad i’r lleoliadau plant fod yn ddielw erbyn 2030, ond nad yw’r ateb yn ddu a gwyn ar y pwynt hwn. Nodwyd bod y Ddeddf yn dod i rym yn 2026, ond ei fod yn rhoi tan 2030 i wneud y gwaith trosiannol hynny.

·       Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglŷn â threfniadau ynghylch plant sydd wedi eu lleoli’n all sirol, a’r lleoliadau heb eu cofrestru. Sicrhawyd mai'r un yw’r trefniadau ar gyfer plant sydd wedi eu lleoli o fewn y Sir a thu allan i’r Sir, gan amlygu eu bod yn aros yn gyfrifoldeb i Wynedd. Soniwyd am y 3 achos a gofnodwyd yn 2024/25 o ddefnyddio trefniadau lleoliadau heb gofrestriad, gan egluro bod y rhain yn achosion lle'r oedd trefniadau lleoliad blaenorol y plant wedi torri i lawr ac felly doedd dim modd dod o hyn i leoliad cofrestredig arall ar eu cyfer. Nodwyd bod rhaid rhoi gwybod i’r Arolygaeth Gofal pan mae trefniant o’r fath yn cael ei roi mewn lle, sydd yna’n monitro’r trefniant. 

·       Ymfalchïwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o ofalwyr maeth o’i gymharu â’r llynedd.

·       Holwyd os oes rheswm penodol y tu ôl i’r cynnydd hwn yn y nifer o ofalwyr maeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd nad oes ateb pendant am hyn, ond cadarnhawyd bod ymgyrchoedd cyson yn cymryd lle i geisio ennyn diddordeb, a bod y Cyngor yn ceisio ymateb yn amserol i unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. Soniwyd am effaith cadarnhaol Maethu Cymru yn ogystal.

·       Rhoddwyd mwy o wybodaeth i’r aelodau am y Gwasanaeth Niwroddatblygol. Nodwyd bod y gwaith hwn yn ehangach na gwaith y Panel. Amlygwyd bod ffocws wedi bod yng Ngwynedd ar godi ymwybyddiaeth ymysg y gweithlu a chynnig cefnogaeth pan mae’n briodol.

·       Amlygwyd bod bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sydd mewn gofal a phlant nad ydynt mewn gofal, a gofynnwyd a oes unrhyw beth ar droed i gau’r bwlch hwnnw. Nodwyd bod cyfle yma i gynnal trafodaethau traws adrannol i allu deall ac ymateb i’r bwlch hwn. 

 

Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: