I ystyried a chynnig adborth ar yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol
(drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi. Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu manylion
am weithgareddau’r Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 ac wedi ei gwblhau yn
unol â chanllawiau statudol. Tynnwyd sylw at newidiadau yng nghofynion y Bwrdd Cynghori Cynllun (Scheme Advisory Board) i
adnabod a chyflwyno'r wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may). Sicrhawyd bod popeth
sydd yn cael
ei adnabod fel ‘rhaid’ a ‘dylid’ wedi cael
ei gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth
ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd
bod yr adroddiad blynyddol wedi cynnyddu mewn
maint gan ei fod yn
cynnwys adroddiadau blynyddol gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pensiynau, gwybodaeth bellach am ystadegau gweinyddu, a
gwybodaeth bellach am pwlio.
Adroddwyd bod yr
adroddiad yn y broses o gael ei adolygu gan Archwilio Cymru gyda bwriad o’i
gyflwyno gyda’r cyfrifon terfynol yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn ar
y 24ain o Dachwedd 2025.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
ddilynol:
·
Bod y sefyllfa yn un iach
·
Yn llongyfarch y tîm ar eu gwaith da
·
Bod y sefyllfa yn dystiolaeth o’r llywodraethu da mewn hinsawdd economi
heriol
·
Bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol dros y
blynyddoedd - angen ceisio osgoi sefyllfa o ostwng a chodi cyfraniadau
·
Bod yr adroddiad yn un trylwyr ac yn hawdd i’w ddarllen
·
Yn derbyn nad oedd angen cynnwys gwybodaeth categori ‘efallai’ (may)
Mewn ymateb i sylw bod
gostyngiadau i’r cyflogwyr yn sgil prisiad ac os oedd byffer wedi ei osod,
nodwyd bod y cyflogwyr mwyaf, o ystyried bod y
gronfa wedi ei gyllido 166%, wedi
gosod mecanwaith sefydlogi a bod cyflogwyr eraill gyda bwriad o wneud rhywbeth
tebyg.
Mewn ymateb i gwestiwn
bod cyfeiriad y Gronfa at gyrraedd targed sero net yn 2050, ond bod Strategaeth
Hinsawdd y Cyngor wedi nodi targed sero net erbyn 2030 a pam y gwrthdaro,
nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda swyddogion, ond bod targed y Gronfa
Bensiwn yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl gydag ymrwymiad i gynnal
adolygiadau i geisio gostwng y dyddiad. Ategwyd nad oedd 2030 yn opsiwn i’r
Gronfa.
Mewn ymateb i gwestiwn
ategol os oedd ymrwymiad i gyrraedd y targed 2050 yn gynt ac os oedd ystyriaeth
i darged interim, nodwyd bod gwaith pellach yn cael ei wneud ar yr amcanion
strategol gyda Hymans yn edrych ar yr asedau i geisio
cwrdd â’r targed yn gynharach. Ategwyd y byddai’n debygol y bydd addasiadau
pellach yn dilyn sefydlu cwmni IMCo fydd yn cymryd
drosodd yr agweddau llywodraethiant, cynghori a
sicrhau gwerth am arian. Ategwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r awgrym i ystyried
targed interim gan fod holl aelodau’r pwl gyda’r un agwedd tuag at gyrraedd at
y targed sero net yn gynt.
Mewn ymateb i sylw bod
cofnod o ddatblygiad aelodau o’r Pwyllgor Pensiynau wedi ei gynnwys yn yr
adroddiad ac os dylid gweithredu cofnod tebyg ar gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn,
nodwyd bod cynllun hyfforddiant mewn lle ar gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn a bod
y Rheolwr Buddsoddi yn cadw cofnod o’r datblygiadau hynny. Nodwyd bod cofnod
aelodau’r Pwyllgor yn un mwy ffurfiol.
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn ag aelodaeth y
Gronfa a’r gofod rhwng cyfranwyr a nifer pensiynwyr a delir, ac os oedd gwaith
modelu yn cael ei wneud ar y tueddiadau hyn,
nodwyd bod Hymans yn ymwybodol o’r tueddiadau
a’u bod yn ystyried effaith hyn i’r dyfodol.
Wrth
gyfeirio at y dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), holiwyd beth oedd y
rheswm dros ‘beidio adrodd’, ac os oedd amserlen / targed i ‘adrodd’, nodwyd
bod gwaith yn cael ei wneud i gwrdd â’r gofynion. Amlygwyd nad oedd dull adrodd
perfformiad Gwynedd yn dilyn proses o gwblhau DPA (Gwynedd yn adrodd ar
welliant parhaus) ac felly bod angen addasu’r dasg i gyfarch y gofynion.
Ategwyd bod tasgau wedi eu gosod mewn ffordd benodol, ond nad oedd Gwynedd yn
cofnodi yn yr un modd â gofynion CIPFA am wybodaeth. Cadarnhawyd bod y
perfformiad yn dda ac yn cyfarch y gofynion, ond bod angen addasu’r system i
amlygu’r perfformiad yn well.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â ‘gwybodaeth ddim ar gael’, (DPA Cyfathrebu)
nodwyd mai enghraifft o hyn fyddai defnydd system ffôn newydd y Cyngor sydd heb
orffen cael ei sefydlu. Bydd y wybodaeth yn fwy cyflawn ar gyfer flwyddyn
nesaf.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: