Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariadau ar amrywiol brosiectau:

·        Gweithredu rhwymedigaeth McCloud yn dilyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys

·        Gwaith yn ymwneud â phrisiad actiwaraidd 2025 oedd yn cynnwys cynnal Fforwm Cyflogwyr i rannu canlyniadau prisiad gyda’r cyflogwyr. Nodwyd bydd y cyfraniadau newydd yn cael eu cadarnhau yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2026.

·        Gwaith yn ymwneud â chysylltu gydag ecosystem Dashfwrdd Pensiwn Cenedlaethol erbyn 31/10/25

·        Paratoi ymateb (ar sail Cymru gyfan) i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fydd yn moderneiddio’r cynllun, gwella tegwch a chryfhau amddiffyniadau aelodau hirdymor

·        Bod gwaith i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bodloni gofynion statudol drwy gyhoeddi Datganiadau Buddion Blynyddol wedi ei gwblhau ddiwedd Gorffennaf (cyn y diwrnod cau). Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad  / rhith ffurf ar y porth Fy Mhensiwn ar Lein sydd yn cefnogi aelodau i ddeall y datganiadau yn well.

·        Bod ansawdd data yn parhau yn flaenoriaeth i’r Gronfa a datblygiadau parhaus yn cael eu gweithredu i wella’r ansawdd ymhellach. Cyfeiriwyd at esiampl lle mae'r Gronfa yn cydweithio gyda gwasanaeth olrhain proffesiynol i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt teulu aelodau sydd wedi marw neu sydd yn ymddangos fel ‘cyfeiriad sydd wedi mynd i ffwrdd’

·        Bod cyfathrebu gydag aelodau hefyd yn parhau yn flaenoriaeth – cylchlythyr wedi ei ddosbarthu gyda’r Datganiadau Buddion Blynyddol 2025. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail ddylunio gwefan y Gronfa

·        Eglurwyd, yn sgil newidiadau mewnol yn cael ei gweithredu i dasgau nad oedd data perfformiad cynhwysfawr ar gael, bod y Gronfa yn rhoi sicrwydd nad oedd unrhyw arwydd bod perfformiad y gwasanaeth yn dirywio, ond bod bwriad cyflwyno’r wybodaeth pan fydd y gweithdrefnau diwygiedig wedi eu cwblhau.

·        Bod gwaith yn parhau i sicrhau bod polisïau a chydymffurfiaeth yn eu lle mewn ymateb i ofynion Llywodraethu Da

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n raddol o fis i fis. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Heywood i ddatblygu fersiwn Gymraeg a bod y fersiwn yma i’w chyflwyno i holl gronfeydd CPLlL Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 58 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill 2025 – Medi 2025  gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95.13% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel ac a 97.26% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod perfformiad staff yn bodloni safon uchel).

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·        Llongyfarch y tîm ar eu gwaith a’u hymrwymiad

·        Bod lot o waith wedi ei gwblhau, a’r targedau yn cael eu cyrraedd

·        Bod cyflwyniad y ‘rhith ffurf’ i egluro datganiadau buddion yn ychwanegiad positif

·        Yn canmol y gwaith i sicrhau ansawdd data – y safon yn bwysig i drefn y prisiad

·        Awgrym i anfon y Datganiad Buddion i staff i wirio eu manylion personol – buasai hyn yn sicrhau cywirdeb ac yn ymarfer i staff gymryd sylw o’r datganiadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y byddai’r Uned yn mynd ati i geisio cael mwy o Aelodau i danysgrifio i’r safle we a sut bydd modd sicrhau na fydd trigolion hŷn yn cael eu hanwybyddu, nodwyd bod y tîm yn parhau i annog staff i ddefnyddio’r wefan, a bod datganiadau ar slipiau cyflog papur yn cyfeirio at y wybodaeth sydd i’w gael o ddefnyddio’r wefan.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r tebygolrwydd y byddai llai o ymholiadau i staff fyddai efallai yn arwain at fygythiadau i swyddi oherwydd cynnydd mewn defnydd o dechnoleg, nodwyd bod llwyth gwaith, ar hyn o bryd, wedi cynyddu gyda mwy o ofynion am wybodaeth ynglŷn â defnydd o’r porth ac ymholiadau cyffredinol. Ategwyd bod problemau gydag e-byst gan yr Uned yn mynd i ‘post sothach’ Aelodau gyda ‘yahoo’ ac ‘AOL’ ac er bod ymholiadau wedi eu gwneud gyda’r cwmnïau, nad oedd datrysiad posib.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oes nifer digonol o staff i gwblhau’r elfennau llywodraethiant nodwyd bod nifer staff ar gyfer yr elfennau gweinyddol yn ddigonol ond bod posib ystyried cefnogaeth bellach i’r elfen llywodraethu sylfaenol

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: