Adrodd i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd,
Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran
Priffyrdd, Peirianneg a YGC.
Atgoffwyd bod yr Adran yn gyfrifol am dri o gynlluniau
Cynllun y Cyngor 2023-28 a bod yr adroddiad hwn yn ddiweddariad ar eu
datblygiad hyd at ddiwedd Medi 2025.
Cadarnhawyd bod yr Adran wedi derbyn cefnogaeth grant
Cyfleoedd Chwarae drwy Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a hygyrchedd meysydd
chwarae. Eglurwyd bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad mawr yn y prosiect
‘Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’ o
fewn Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd bod cydweithio effeithiol wedi bod ar y
gweill gyda Chyngor Dinas Bangor wrth i’r broses o drosglwyddo maes chwarae
Maes Tryfan iddynt barhau.
Darparwyd diweddariad ar y prosiect ‘Gweithredu ar risgiau
llifogydd’ gan nodi bod y Strategaeth Llifogydd Leol wedi ei fabwysiadu ac yn
weithredol.
Adroddwyd bod system optimeiddio cylchdeithiau glanhau wedi
cael ei gyflwyno yn ardal Arfon fel rhan o brosiect ‘Cymunedau Glân a Thaclus’.
Eglurwyd bod y system hon yn rhan o gynllun peilot yn ardal Arfon gan nodi y
gobeithir ehangu’r trefniadau i Bwllheli a Porthmadog yn ystod gwanwyn 2026.
Ymhelaethwyd mai diben y system yw lleihau gorwariant presennol y gwasanaeth
drwy sicrhau bod trefn gwaith effeithiol yn cael ei weithredu.
Tynnwyd sylw at 29 mesurydd perfformiad sydd yn weithredol o
fewn yr Adran, megis ‘Mesurau corfforaethol/adrannol’, ‘Cynnal Priffyrdd’,
‘Goleuo Stryd’, ‘Edrychiad Stryd’, ‘Toiledau Cyhoeddus’ ac ‘Ymgynghoriaeth
Gwynedd’ gan ymfalchïo bod 62.1% o’r mesuryddion hyn yn cael eu mesur yn wyrdd.
Eglurwyd bod hyn yn gadarnhad o waith cadarnhaol y gwasanaeth a pherfformiad
effeithiol gwasanaethau. Fodd bynnag, nodwyd bod 37.9% o’r mesuryddion wedi eu cofnodi yn ambr, gan sicrhau
bod y mesuryddion hyn yn derbyn sylw pellach fel rhan o’r broses herio
perfformiad. Mynegwyd balchder nad oedd unrhyw fesurydd wedi ei gofnodi yn
goch.
Cyfeiriwyd at gynlluniau Arbedion 2025-26 yr Adran, sydd
gyfwerth â £533,500. Cadarnhawyd bod yr adran ar drac i gyflawni £212,500 o’r
cynlluniau Arbedion yma gan gydnabod bod posibilrwydd na fydd £321,000 yn cael
eu gwireddu. Amlygwyd hefyd bod rhai cyllidebau yn cael eu heffeithio gan y
tywydd gan fod angen sicrhau cyllideb ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â
unrhyw dywydd garw anrhagweladwy.
Diweddarwyd bod niferoedd y gweithlu sydd wedi cyflawni
hyfforddiant mandadol wedi cynyddu, gan fanylu bod 77.4% o’r staff wedi
cyflawni hyfforddiant craidd ‘Camdrin’, 72.4% wedi
cyflawni’r teitl ‘ Diogelu’, gan fynegi balchder bod dros 67% o staff yr adran
wedi cyflawni holl deitlau hyfforddiant mandadol. Cydnabuwyd bod lle i wella er
mwyn cynyddu’r niferoedd hyn i’r dyfodol ond bod heriau wedi dod i’r amlwg gan
nad oes nifer o aelodau staff rheng flaen gyda mynediad i’r modiwlau gan nad
oes ganddyn nhw gyfarpar electroneg. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn
cydweithio gyda’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i ddod i ganolfannau gwaith
er mwyn rhoi cymorth i aelodau staff i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod y
diwrnod gwaith.
Cydnabuwyd bod niferoedd salwch staff yr Adran yn uchel,
gyda cyfartaledd dyddiau salwch fesul person (Cyfwerth Llawn Amser) yn 4.62
diwrnod. Manylwyd bod nifer o aelodau staff i ffwrdd o’r gwaith am gyfnod
hirdymor ond bod gwir sefyllfa salwch yn gwella erbyn hyn, gan obeithio bydd
hyn yn parhau a bydd gwelliant pan fydd yr adran yn cyflwyno adroddiad herio
perfformiad cyffelyb yn 2026.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:-
Rheolaeth Fflyd
Mewn ymateb i ymholiad ar niferoedd cerbydau gwyrdd a’r
cynnydd mewn costau tanwydd, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod 88 o gerbydau a
faniau trydan yn rhan o’r fflyd, gyda trefniadau mewn lle i gyflwyno mwy o
gerbydau fel mae’r angen yn codi. Cydnabuwyd bod hyder y gweithlu i ddefnyddio
ceir trydan wedi bod yn isel oherwydd nad ydynt wedi arfer gwefru ceir.
Adroddwyd bod y dechnoleg cerbydau trydan yn un sydd yn datblygu’n barhaus ond
nid oes cefnogaeth effeithiol er mwyn prynu cerbydau trwm trydan a’u gwefru yn effeithiol ar hyn o bryd.
Oherwydd hyn, cadarnhawyd bod costau tanwydd yn gallu cynyddu o bryd i’w gilydd
os oes angen yn codi ar gyfer defnyddio mwy o gerbydau trwm, ond pwysleisiwyd
bod y ffigwr cyfartalog ar gyfer ffioedd tanwydd yn lleihau yn flynyddol.
Sicrhawyd bydd adroddiadau’r Adran i’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol yn dangos data
dros gyfnod o flynyddoedd er mwyn i Aelodau gymharu’r datblygiadau yn y maes
hwn.
Mewn ymateb i ymholiad os byddai peidio adnewyddu cerbydau
tanwydd am rhai trydan yn arwain at arbedion ariannol i’r Cyngor, cadarnhaodd
Pennaeth yr Adran nad oedd peidio adnewyddu’r fflyd yn ystyriaeth ar hyn o bryd
gan fod cynllun dibrisio ar y gweill a bod opsiynau am y dull gorau i weithredu
i’r dyfodol ar waith. Ymhelaethwyd na fydd modd prynu cerbydau gydag allyriadau
carbon uchel yn y dyfodol agos ac felly rhaid i’r Cyngor ymchwilio i’r dulliau
gorau o ddatblygu’r fflyd - boed yn hydrogen, trydan neu ddull arall.
Gwasanaeth Goleuo
Mewn ymateb i ymholiad am y cynnydd a welir mewn defnydd
egni lampau stryd, eglurodd Pennaeth yr Adran bod hyn yn deillio o’r ffaith bod
yr Adran wedi mabwysiadu mwy o oleuadau stryd yn y blynyddoedd diwethaf.
Ymhelaethwyd bod tua 18,000 o oleuadau stryd ar draws y Sir a bod hynny wedi cynyddu yn ddiweddar yn
dilyn datblygiad ffordd osgoi Caernarfon yn ogystal â phont Dyfi newydd ger
Machynlleth, a’r angen i oleuo’r ffyrdd hynny.
Toiledau Cyhoeddus
Cyflwynwyd cais i dderbyn mwy o wybodaeth am hygyrchedd y
toiledau cyhoeddus er mwyn dangos i’r cyhoedd bod safon y gwasanaeth yn gwella.
Mewn ymateb, diolchodd Pennaeth yr Adran am y sylwadau gan nodi byddai’r
wybodaeth yma yn cael ei ddatblygu erbyn i’r mater gael ei graffu gan y
Pwyllgor hwn y tro nesaf.
Cyfraddau Salwch
Mewn ymateb i ymholiad os oedd salwch aelodau staff yn
deillio o lwyth gwaith, straen neu o ffynhonnell arall, gydag ymholiad pellach
ar ba fesurau sydd ar waith er mwyn sicrhau llesiant staff, cadarnhaodd
Pennaeth yr Adran eu bod yn cydweithio yn agos gyda’r gwasanaeth Adnoddau
Dynol. Eglurwyd y cynhelir paneli dychwelyd i’r gwaith er mwyn sicrhau iechyd
yr aelodau staff a derbyn arweiniad ar sut i’w cefnogi orau wrth ddychwelyd.
Pwysleisiwyd bod lefelau salwch y gweithlu yn gymharol gyda chyfraddau awdurdodau
lleol eraill yn genedlaethol
Dŵr ac Amgylchedd
Mewn ymateb i sylwadau bod oediad yng ngwaith partneriaid
sy’n cydweithio gyda’r Cyngor i fynd i’r afael ag atal llifogydd, yn arwain at
oedi pellach yn nhrefniadau’r Cyngor, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod
trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda’r holl bartneriaid. Fodd bynnag,
nodwyd bod cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn rhai
sylweddol a bod risg parhaol bod oediad i drefniadau a strategaethau. Sicrhaodd
Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod y risg hwn o oedi yn un sydd ar gofrestr risg
swyddogol yr Adran.
Mesuryddion
Ystyriwyd bod nifer o fesuryddion herio perfformiad yr Adran
yn adrodd yn ambr, gan nodi y byddai’n ddefnyddiol i Aelodau’r Pwyllgor craffu
hwn dderbyn gwybodaeth am y camau gweithredu ac amserlen realistig er mwyn
gwella’r perfformiad. Ystyriwyd hefyd sut oedd yr Adran yn mynd ati i fesur os
yw’r mesuryddion perfformiad yn adrodd yn goch, ambr neu wyrdd. Mewn ymateb i’r
sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran y byddai ystyriaeth yn cael ei roi er
mwyn datblygu dull o sgorio mesuryddion
perfformiad er mwyn derbyn cadarnhad os ydynt yn adrodd yn goch, ambr neu
wyrdd. Fodd bynnag, nodwyd mai ar sail tystiolaeth a thrafodaethau gyda
swyddogion mae’r penderfyniadau ar sut mae mesuryddion yn adrodd ar hyn o bryd.
Nodwyd hefyd bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ychwanegu rhaglen waith i wella’r
perfformiad yn yr adroddiad yn y dyfodol.
Tynnwyd sylw bod oddeutu traean o holl fesuryddion herio
perfformiad yr Adran yn adrodd yn ambr, gan ofyn a yw hyn yn dderbyniol ac os
byddai’r Adran yn gallu amlygu a dangos os yw perfformiad yn erbyn mesuryddion
yn gwella, wedi aros yr un fath neu’n gwaethygu, wrth gyflwyno i’r Pwyllgor hwn
yn y dyfodol. Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd yr edrychir ar sut y gellid
amlygu a dangos tueddiadau yn yr adroddiad i’r dyfodol. Cydnabodd
Pennaeth yr Adran bod lle i wella. Fodd bynnag, nodwyd bod rheolwyr a swyddogion
yn gallu bod yn llym wrth adrodd ar fesuryddion gan nodi bod y gwir sefyllfa yn
well na’r hyn ag adroddwyd. Rhannwyd enghraifft o hyn ble oedd niferoedd
diffygion cynnal priffyrdd yn adrodd yn ambr, oherwydd amser datrys y
diffygion. Adroddwyd mewn gwirionedd bod diffygion yn cael eu datrys yn gyflym
iawn ond bod y gwaith gweinyddol cefndirol sydd yn cyd-fynd ag o yn arafu’r
broses gan arwain at liw ambr wrth adrodd ar y mesuryddion.
Cynlluniau Arbedion Ariannol
Mynegwyd pryder bod yr Adran yn methu â gwireddu oddeutu 40%
o’u cynlluniau arbedion ariannol eleni, gan ofyn sut mae’r Adran yn ymdopi
gyda’i gyllideb gyflawn yn gyffredinol. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd
Pennaeth yr Adran bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y
targedau arbedion ariannol yn cael eu cyfarch. Cadarnhawyd os na fydd yr Adran
yn llwyddo i’w cyfarch, bydd angen cyflwyno cynlluniau arbedion amgen i’r
dyfodol ar gyfer eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol nesaf. Eglurwyd bod rhai sefyllfaoedd
anrhagweladwy yn effeithio ar gyllideb yr adran, megis arian ychwanegol ar
gyfer y gwasanaeth cynnal gaeaf. Pwysleisiwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud
i gyfarch y cynlluniau arbedion, ond nodwyd hefyd bod ystyriaeth ddwys yn cael
ei roi i sicrhau bod gwasanaethau o safon yn cael eu cyflawni i drigolion
Gwynedd.
Cyflwr Ffyrdd
Tynnwyd sylw bod 13.1% o ffyrdd dosbarth C y Sir wedi sgorio
yn goch a olygir bod eu cyflwr yn wael ac y byddai’n debygol o fod angen gwaith
cynnal arfaethedig yn y dyfodol agos. Mewn ymateb i’r sylw, cadarnhaodd
Pennaeth yr Adran bod pob ffordd Dosbarth A-C yn cael eu sganio ar gyfer eu
cyflwr, ond nid oes modd gwneud hyn ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth. Adroddwyd bod
y Cyngor wedi derbyn grant o £8,000,000 i fuddsoddi mewn cyflwr ffyrdd dros y
ddwy flynedd nesaf. Er hyn, nodwyd gall ystadegau aros yn debyg y tro nesaf
mae’r Adran yn adrodd i’r Pwyllgor hwn, gan fod nifer o dasgau angen eu cwblhau
cyn cyfarch diffygion newydd sydd yn cael eu hadnabod gan y sganiwr. Nodwyd bod
yr Adran yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill er mwyn cymharu cyflwr
ffyrdd a chydweithio ar ffyrdd ymylon sirol. Ymhelaethodd y Pennaeth Adran bod
gwaith yn cael ei wneud er mwyn canfod os oes modd defnyddio meddalwedd
deallusrwydd artiffisial er mwyn casglu data ar gyflwr ffyrdd di-ddosbarth yn y
Sir, ond hyderwyd bod eu cyflwr yn debyg i’r hyn a adroddwyd ar gyfer Dosbarth
C. Diolchwyd i’r Adran am gadw ffyrdd y Sir i safon uchel.
Mewn ymateb i sylw bod oedi yn dilyn datrys diffygion
ffyrdd, cyn i linellau gwyn y ffordd gael eu hail-baentio, cadarnhaodd Pennaeth
yr Adran bod hyn yn deillio o bwysau ar gyllidebau’r Adran. Ymhelaethwyd bod
cwmni allanol yn cyflawni’r gwaith gosod llinellau gwyn i’r Cyngor a bod pwysau
yn cael ei roi arnynt i weithredu’n amserol ac mae’r Adran yn asesu safon y
gwaith hwnnw. Adroddwyd bod y Cyngor yn ymchwilio mewn i’r posibilrwydd o
gyflawni’r gwaith hwn yn fewnol, gan gydnabod y byddai’n fuddsoddiad sylweddol
mewn peiriannau, aelodau staff ac adnoddau. Cadarnhawyd bydd yr Adran yn
cyflwyno bid ariannol i gyfarch y mater hwn gan y byddai hefyd yn fuddiol i
adrannau eraill y Cyngor.
Tynnwyd sylw bod ystadegau a gyflwynwyd yn yr Adroddiad yn
nodi bod mwy o ddiffygion critigol ar
ffyrdd yn ardal Dwyfor nac sydd yn ardaloedd Meirionnydd ac Arfon yn
gyffredinol. Mewn ymateb i ymholiad pam mai dyma oedd yr achos ac os yw’r Adran
yn llwyddo i’w datrys o fewn eu cyfnod darged o ddwy awr, cydnabodd
Pennaeth yr Adran bod ymateb i ddiffygion critigol ar y ffyrdd yng Ngwynedd yn
her. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn llwyddo i fynd i’r safle a’i
ddiogelu wrth gyflawni gwaith cychwynnol. Eglurwyd mewn rhai achosion bod angen
i swyddogion ddod yn ôl ar gyfer cwblhau gwaith dilynol.
Diolchwyd i’r Adran am sicrhau bod unrhyw goed sydd yn
syrthio ar draws ffyrdd yn cael eu clirio mor gyflym â phosib. Gofynnwyd i’r
Adran ymchwilio i ddulliau o allu gweld pa goed sydd yn debygol o ddisgyn er
mwyn sicrhau diogelwch i’r cyhoedd.
Tîm Tacluso Ardal Ni
Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn nodi bod y Tîm Tacluso yn
cyflawni gwaith yn arafach na’r amserlen darged o 7 diwrnod, nododd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran bod hyn yn deillio oherwydd heriau staffio yn ystod y
misoedd diwethaf. Cadarnhawyd bod y materion hyn bellach wedi cael eu datrys
gan fod trosiant staff wedi sefydlogi a bod niferoedd salwch wedi lleihau gan
nodi bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i’r safon ddisgwyliedig.
Mewn ymateb i ymholiad pellach os oedd y nifer o geisiadau
i’r Tîm Tacluso wedi lleihau yn ddiweddar, pwysleisiodd Pennaeth Cynorthwyol yr
Adran nad dyna’r sefyllfa. Eglurwyd bod y dull o gofnodi ceisiadau gwaith wedi
addasu yn ddiweddar fel nad yw’r un gwaith yn cael ei nodi mwy nag un waith.
Sicrhawyd bod y Tîm yr un mor brysur a maent wedi bod ond mae niferoedd y
ceisiadau yn llai gan nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: