Adrodd i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid
Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:-
Gwastraff ac Ailgylchu
Mynegwyd pryder bod risg ariannol i’r Cyngor os nad yw’r
Adran yn llwyddo i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl
wastraff y Sir. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol
Gwastraff ac Ailgylchu bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ymrwymo i gyrraedd y
targed hwn, gyda’r Cyngor yn cyrraedd cyfradd ailgylchu o 66.6% yn ystod
2025-26 hyd yma. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cydweithio gydag cymdeithas dai
ADRA er mwyn hyrwyddo buddion ailgylchu, gan eu bod yn gyfrifol am 7500 o
anheddau yn y Sir a fyddai’n cael
effaith fawr ar y gyfradd ailgylchu. Yn yr un modd, tynnwyd sylw bod gwaith yn
cael ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yng Ngwynedd yn
derbyn gwersi ar bwysigrwydd ailgylchu a bod taflenni yn cael eu paratoi i’w
dosbarthu i bob tŷ yn y Sir ar gyfer atgoffa o sut i ailgylchu yn gywir.
Cydnabuwyd mai dim ond 4 aelod o staff sydd yn rhan o’r tîm sydd yn addysgu o
ran ailgylchu, sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn ymdrechu i
gyrraedd y targed ailgylchu ac i sicrhau bod unrhyw gosb ariannol am fethu
cyrraedd y targed mor fychan â phosib.
Mewn ymateb i ymholiad pellach os oedd yr Adran yn hyderus
bod modd i Wynedd ailgylchu 70% o’i wastraff, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol
yr Adran ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu, eu bod yn ffyddiog bydd y targed
yn cael ei gyfarch. Manylwyd bod ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ar y
Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu ar waith ar hyn o bryd a bod yr ymatebion
sydd wedi dod i law hyd yma yn galonogol iawn. Ymhelaethwyd bod dros 700 o
ymatebion wedi bod i’r ymgynghoriad hyd yma a bod 80% o’r ymatebwyr hynny yn
ystyried ailgylchu i fod yn weithred bwysig ac yn cytuno gyda’r angen i leihau
gwastraff. Atgoffwyd bod y ddyletswydd i ailgylchu yn fater i bawb yng Ngwynedd
ac mae pwysau mawr yn cael ei roi o fewn yr adran ar gyfer hyfforddi swyddogion
a sicrhau bod y weithred o ailgylchu yn gywir yn cael ei hyrwyddo gyda’r
cyhoedd er mwyn sicrhau bod pawb yn ailgylchu cymaint â bod modd. Eglurwyd bod
llawer o bethau a all gael ei ailgylchu yn parhau i gael ei gynnwys yn y biniau
gwastraff gweddilliol a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn addysgu’r cyhoedd
bod modd ailgylchu’r eitemau hyn. Sicrhawyd byddai cyflawni’r gweithredoedd yma
yn sicrhau byddai’r Cyngor yn ailgylchu 70% o’i wastraff yn unol â tharged
Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran wedi bod yn rhy hwyr yn
datblygu’r Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu, anghytunodd y Pennaeth Adran gan
nodi mai dim ond ers 3 mlynedd mae’r gwasanaeth wedi bod o dan reolaeth yr
Adran ac mae gwaith estynedig wedi cael ei gwblhau er mwyn sicrhau bod y
swyddogion yn ymgyfarwyddo gyda’r gwasanaeth a datblygu rhaglen waith ar gyfer
y dyfodol.. Eglurwyd nad oes unrhyw strategaeth wastraff wedi bod gan y Cyngor
yn y gorffennol. Sicrhawyd bod y cyngor wedi bod yn ailgylchu oddeutu 64-65% yn
flynyddol ac mae hyn ar gynnydd yn raddol, gan gadarnhau bod gwaith y
gwasanaeth yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd yr Adran yn mynd i gyflwyno
bagiau ailgylchu yn y dyfodol, yn hytrach na’r cartgylchu
sydd yn cael ei ddefnyddio’n bresennol, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr
Adran ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu bod treialon eisoes wedi cael eu
cynnal mewn rhannau o Wynedd. Manylwyd bod 78% o bobl a oedd wedi cymryd rhan
yn y treialon wedi dweud y buasent yn hapus i ddefnyddio’r bagiau ailgylchu yn
y dyfodol yn hytrach na bocsys a’r cartgylchu. Nodwyd
bod hyn oherwydd eu bod yn fagiau addas i bwrpas gydag ychydig o bwysau wedi eu
cynnwys ar y gwaelod er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu chwythu yn y gwynt.
Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oedd y treialon wedi arwain at gynnydd yn y nifer o
bethau a oedd yn cael eu hailgylchu. Sicrhawyd bod hwn yn opsiwn sydd yn cael
ei ystyried gan yr Adran ar gyfer lleihau costau’r gwasanaeth Gwastraff ac
Ailgylchu i’r dyfodol.
Llongyfarchwyd yr Adran ar wella’r gwasanaeth hon yn dilyn
cyfnod heriol pan ddaeth y gwasanaeth yn rhan o gyfrifoldebau’r Adran
Amgylchedd.
Trafnidiaeth Cyhoeddus
Cyfeiriwyd at yr adolygiad presennol sydd ar waith ar gyfer
gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gan ofyn a yw’n rhoi ystyriaeth i dlodi
trafnidiaeth ac anghenion amrywiol cymunedau. Mewn ymateb i’r ymholiad,
eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol ar faterion Trafnidiaeth bod yr Adran wedi
rhannu gwybodaeth gydag Aelodau’r Cyngor mewn cyfarfodydd diweddar o’r Fforymau
Ardal, gan gynnwys rhannu nodyn briffio a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar yr
adolygiad hwn. Eglurwyd bod y Llywodraeth yn y broses o fasnachfreinio’r
system trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2027-28 - a olygir bod system unffurf yn
cael ei ddefnyddio yn genedlaethol yn lle diwygio’r trefniadau yn rhanbarthol.
Nodwyd nad oes modd cadarnhau na fydd trefniadau yn addasu o gymuned i gymuned
ar hyn o bryd ond mae’n debygol byddai cysondeb o fewn prisiau tocynnau
trafnidiaeth gyhoeddus yn genedlaethol. Cydnabuwyd yr ystyrir y byddai’n
annhebygol byddai mwy o wasanaethau yn cael eu cynnal gyda’r hwyr ac ar
benwythnosau na’r hyn sydd yn cael ei gynnig ar y cylchdeithiau presennol.
Yn debyg, amlygwyd bod rhai cymunedau yng Ngwynedd o dan
anfantais gan nad ydynt yn derbyn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gyda’r
hwyr ac ar benwythnosau. Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran yn herio’r
penderfyniad i dynnu’r gwasanaethau yma i ffwrdd o gymunedau, cadarnhaodd
Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion Trafnidiaeth bod y Cyngor yn
hyrwyddo’r gwasanaeth gorau posib yn unol â’r gyllideb sydd i’w hariannu.
Sicrhawyd y dymunir i’r cymunedau hyn dderbyn pob gwasanaeth sydd eu hangen
arnynt gan gydnabod nad oes unrhyw beth all y Cyngor ei wneud i ddatrys y
sefyllfa ar hyn o bryd heb gyllideb ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a
chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet bod y
rhwystredigaeth hon yn cael ei rannu mewn nifer o gyfarfodydd rhanbarthol ond
ei fod yn anodd canfod atebolrwydd rhwng partneriaid er mwyn sicrhau bod
gwasanaethau ychwanegol yn cael eu hamserlennu.
Tynnwyd sylw bod Ysbyty Gwynedd yn gwasanaethu ardal eang
iawn ac yn wasanaeth sydd o dan bwysau ar hyn o bryd. O ystyried y niferoedd o
bobl sy’n defnyddio’r ysbyty, gofynnwyd a oes ystyriaethau yn cael ei roi fel
bod ymwelwyr yr ysbyty yn gallu defnyddio gwasanaeth bws wennol yn y dyfodol.
Mewn ymateb, cydnabodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran
ar faterion Trafnidiaeth nad oes cynlluniau i gychwyn gwasanaeth bws wennol ar
gyfer yr ysbyty ar hyn o bryd, ond y byddai modd edrych mewn i’r posibilrwydd
o’i ddatblygu. Fodd bynnag, amlygwyd bod nifer o wasanaethau presennol y
fframwaith drafnidiaeth gyhoeddus eisoes yn cludo pobl i’r ysbyty, gan nodi nad
yw hyn yn gyfleus ar gyfer pob ymwelydd a chlaf ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd bod
y cydbwysedd hwn rhwng cynnig gwasanaeth gwerthfawr a gwasanaethau sydd yn denu
llawer o ddefnyddwyr yn allweddol, gan nodi bod gwaith angen cael ei wneud er
mwyn sicrhau newid meddylfryd i ddenu mwy o ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus.
Yn debyg, gofynnwyd i’r gwasanaeth ymchwilio mewn i ddulliau
o hysbysebu’r amrywiol gwasanaethau bws sydd ar gael yn yr ysbyty. Ystyriwyd y
byddai’n fuddiol i ddefnyddwyr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus gael y cyfle i
edrych ar amserlenni’r amrywiol gylchdeithiau tra maent yn yr ysbyty, heb orfod
dibynnu ar yr angen i fynd ar lein neu i adael yr adeilad, gan nad oes sicrwydd
eu bod yn gallu gwneud hynny yn ddiogel.
Cefnogi’r Gweithlu
Amlygwyd bod 214 o aelodau Staff yr Adran heb gyflawni
hyfforddiant diogelu craidd ar hyn o bryd, gan ofyn pa waith mae’r Adran yn ei
wneud er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn cyflawni’r hyfforddiant. Mewn
ymateb i’r ymholiad, cydnabodd Pennaeth yr Adran bod
y diffyg hwn gyda’r hyfforddiant yn deillio o’r ffaith nad oes gan staff rheng
flaen fynediad i’r hyfforddiant gan nad oes cyfarpar electroneg yn cael ei
ddarparu iddynt yn rhinwedd eu swydd. Fodd bynnag, nodwyd bod yr Adran yn cynnal
trafodaethau gyda’r Adran Gwasanaethau Corfforaethol i fynd i’r afael gyda’r
her hon a hefyd yn trafod gyda’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC i rannu eu
harferion da o sut maent wedi llwyddo i sicrhau bod eu haelodau staff rheng
flaen yn llwyddo i gyflawni’r hyfforddiant craidd. Cadarnhawyd mai un opsiwn
sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd yw bod sesiynau hyfforddi yn cael eu
cynnal ar ddiwedd cyfnodau gwaith gan eu haddasu er mwyn sicrhau eu bod yn
rhyngweithiol ac yn addas i bwrpas.
Tynnwyd sylw bod nifer o aelodau staff i ffwrdd o’r gwaith
am gyfnod hir-dymor o fewn y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu, gyda sicrwydd
na fydd dau o’r aelodau staff hynny yn dychwelyd i’r gwaith. Gan gydnabod bod
cyfraddau salwch yn uwch o fewn y gwasanaeth gan nad oes modd i staff weithio o
adra os ydynt yn dioddef o salwch ysgafn, gofynnwyd pa gefnogaeth sydd ar gael
i staff i ymdopi gyda natur gorfforol y gwaith wrth iddynt ddychwelyd i’r
gwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar
faterion Gwastraff ac Ailgylchu bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn
sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael i aelodau staff wrth iddynt fod i ffwrdd
o’r gwaith, ac wrth ddychwelyd i’r gweithle yn ddigonol. Ychwanegwyd bod
cyfathrebu clir yn cael ei wneud gyda’r unigolion hynny er mwyn deall natur y
gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ac i sicrhau trefniadau dychwelyd i’r gwaith
effeithiol ac iach.
Teithio Llesol
Mewn ymateb i gwestiwn a oes unrhyw fanteision cymunedol neu
amgylcheddol i’w weld yn dilyn datblygu nifer o lwybrau teithio llesol yn y Sir
yn ddiweddar, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion
Trafnidiaeth ei fod yn anodd cadarnhau manteision penodol y cynllun.
Ymhelaethwyd nad oes mesuryddion penodol yn asesu’r ffactorau hyn ar hyn o
bryd, ond bod gwaith angen gael ei wneud er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r
llwybrau o fewn cymunedau fel bod mwy o ddefnydd i’w weld ohonynt yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad pellach i weld os byddai modd cyflwyno padiau
sensitifrwydd ar y llwybrau er mwyn gallu nodi faint o ddefnydd sydd yn cael ei
wneud o’r llwybrau, nododd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion
Trafnidiaeth bod hyn wedi bod yn ddull i fesur defnydd llwybrau yn y Parc
Cenedlaethol yn y gorffennol ac y bwriedir ei ddefnyddio yn y dyfodol ar rannau
o Lwybr yr Arfordir. Cadarnhawyd nad oes trefniadau i gyflwyno mesurau o’r fath
ar y llwybrau teithio llesol ond mae modd ei ystyried er mwyn casglu ystadegau
defnydd.
Mewn ymateb i sylwadau bod llwybrau teithio llesol
ychwanegol yn parhau i gael eu datblygu heb gyllideb i’w cynnal, nododd
Pennaeth Cynorthwyol yr adran ar faterion Trafnidiaeth bod hyn yn deillio o’r
ffaith bod y llwybrau yn cael eu hariannu gan arian gyfalaf gan Lywodraeth Cymru.
Manylwyd nad oes arian ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer cynnal a chadw’r
llwybrau hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ystyriwyd nad oedd yn gwneud synnwyr
ariannol i wrthod unrhyw arian gan fod posibilrwydd bydd arian ychwanegol yn
cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer materion cynnal a
chadw’r llwybrau hynny. Sicrhawyd bod yr her o beidio gallu ariannu’r gwaith
cynnal a chadw ar y llwybrau yn her genedlaethol, gan gadarnhau bod
trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal er mwyn ymgyrchu i dderbyn cyllideb ar
gyfer eu cynnal a chadw.
Gwarchod y Cyhoedd – Safonau Masnach a Thrwyddedu
Mynegwyd pryder mai dim ond 27% o archwiliadau Rheoliadau
Safonau Masnach sydd wedi cael eu cyflawni o fewn y rhaglen waith ers dechrau’r
flwyddyn ariannol gyfredol, gan ofyn a yw’r adran yn hyderus bydd cynnydd ar y
niferoedd hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr adran ar
faterion Cynllunio bod y gwasanaeth ar drac i gyflawni 100% o’u harchwiliadau
ar amser. Eglurwyd bod y ffigwr o archwiliadau sydd eisoes wedi cael eu cwblhau
yn isel iawn ond mae hynny oherwydd eu natur dymhorol, gan bwysleisio bod y
mwyafrif o archwiliadau yn cael eu cynnal o fewn yr ail hanner o’r flwyddyn er
mwyn eu cynnal yn y dull mwyaf effeithiol ar gyfer materion megis storio tân
gwyllt a lles anifeiliaid.
Mewn ymateb i ymholiad am weithlu’r gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd i gwblhau archwiliadau Rheoliadau Safonau Masnach, cadarnhaodd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran ar faterion Cynllunio, bod niferoedd staff ar gynnydd.
Atgoffwyd bod niferoedd y gweithlu wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf ond
mynegwyd balchder bod yr Adran wedi denu swyddogion newydd, yn ogystal â
hyfforddeion yn rhan o Gynllun Yfory y Cyngor a fyddai’n derbyn hyfforddiant
arbenigol ar gyfer cynnal archwiliadau. Yn debyg, nodwyd bod yr Adran yn
ymchwilio i dechnoleg newydd, megis iPads, a fyddai’n
hwyluso’r gwaith i’r dyfodol.
Rheolaeth Llety Gwyliau ac Ail-gartrefi
Ystyriwyd bod nifer o drigolion Gwynedd yn talu premiwm ar
ail-gartrefi gan eu bod yn y broses o adnewyddu cartref newydd cyn symud i mewn
iddo a gwerthu eu cartref blaenorol, yn hytrach na bod yn berchen ar ddau
dŷ. Mewn ymateb i ymholiad os oes modd cael goddefiad yn y premiwm yn y
sefyllfa hon, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion Cynllunio
bod rheolaeth y premiwm yn un sydd yn cael ei rannu gan nifer o adrannau’r
Cyngor, gan nodi mai’r adran Gyllid yw’r un priodol i gysylltu â nhw mewn achosion
cyffelyb i’r rhai a ddisgrifiwyd yn y drafodaeth hon.
Gorfodaeth Cynllunio
Mewn ymateb i sylwadau a oedd yn cydnabod bod niferoedd o
drigolion sy’n torri amodau cynllunio ac yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth
gorfodaeth ar gynnydd yn ddiweddar, cydnabodd
Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ar faterion Cynllunio bod hon yn heriol iawn.
Eglurwyd bod niferoedd swyddogion o fewn y gwasanaeth wedi bod yn amrywiol yn
ddiweddar a bod newid ymysg aelodau staff wedi bod. Cadarnhawyd bod
trafodaethau ar waith er mwyn sicrhau bod prosesau’r Adran yn parhau i fod ar
waith ac yn bod yn gadarn iawn i sicrhau bod pob amod cynllunio a osodwyd yn
cael ei lynu ato.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: