Vera Jones, Rheolwr Democratiaeth ac Iaith i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad ar yr
amod bod cymal i annog cynghorau cymuned i gymryd eu tâl yn cael ei ychwanegu.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.
Esboniwyd mai hwn yw’r adroddiad cyntaf gan Gomisiwn Democratiaeth Ffiniau
Cymru sydd bellach yn gyfrifol am osod lefel y gydnabyddiaeth ariannol i
Gynghorwyr Cymru. Tynnwyd sylw at y prif faterion yn yr adroddiad gan nodi bod
amryw o egwyddorion newydd gan y Comisiwn yn cael eu gynnwys yn yr adroddiad.
Rhoddwyd trosolwg o brif flaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer y dyfodol, gan
nodi’r gwaith sydd ar y gweill a’r hyn sydd dan ystyriaeth.
Amlinellwyd yr argymelliadau ar gyfer blwyddyn Ariannol 2026-27 ac
esboniwyd bod cyfle i ymateb i argymhellion yr adroddiad drafft erbyn yr 18fed
o Dachwedd, 2025. Cadarnhawyd bydd newidiadau mawr i’r fframwaith unwaith bob
tymor etholiadol gyda newidiadau llai yn digwydd yn flynyddol. Nodwyd bod yr
adroddiad yn canolbwyntio ar y ffioedd ar gyfer y flwyddyn 2026-27, gan nodi
bydd cynnydd o 6.4% i dal aelodau, wrth ddod a chyflog blynyddol sylfaenol bob
cynghorydd i £21,044.00. Adroddwyd bod y Comisiwn yn bwriadu edrych ar y
berthynas rhwng cyflogau Cynghorwyr a’r arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Cymru gan ystyried a’i dyma’r sail cywir
wrth wneud penderfyniadau i’r
dyfodol.
Cadarnhawyd bod Aelodau’r Cyngor yn cael eu talu ar raddfa o oriau gwaith cyfwerth â thri diwrnod
yr wythnos. Mynegwyd pryder gan rai Aelodau am bresenoldeb Aelodau mewn pwyllgorau a chyfarfodydd y Cyngor. Mewn
ymateb i hyn, cadarnhawyd bod rheol yn dynodi bod rhaid i Gynghorwyr fynychu
cyfarfodydd bob chwe mis. Atgoffwyd Aelodau bod presenoldeb Cynghorwyr wrth
fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau yn wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor.
Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor hwn ymafael a’r mater wrth adnabod a chysylltu â’r
aelodau sydd â lefel presenoldeb isel i gynnig cefnogaeth ac i atgoffa’r
aelodau o’r disgwyliadau wrth iddynt fod yn aelod o’r Pwyllgorau. Cadarnhaodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth y byddai yn ychwanegu nodyn atgoffa yn
dynodi’r sail cyfwerth â 3 diwrnod gwaith wrth ohebu ar benderfyniad terfynol
ar raddfa cyflog i Aelodau ar gyfer 2026/27.
Mynegwyd pryderon pellach fod rhai seddi gwag ar bwyllgorau yn parhau i
fod ers peth amser. Soniodd Aelod bod angen cydnabod cyfrifoldebau ac ystyried
sefyllfaoedd personol yr holl aelodau, gan nodi fod hyn yn holl bwysig os yw’r
Cyngor yn ymrwymedig i gael amrywiaeth o aelodau. Anogwyd aelodau i lenwi’r
seddi gwag er mwyn sicrhau cyfraniad llawn ym materion democratiaeth yng
Nghyngor Gwynedd. Gofynnodd aelod a yw’n bosib y gall seddi gwag grŵp
gwleidyddol gael eu cynnig i’r naill grŵp os yw’r grŵp yn cael trafferth
yn llenwi'r seddi. Nodwyd y byddai hyn yn effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol
ond byddai yn bosib wrth fynd a’r penderfyniad trwy’r Cyngor Llawn os yw’r
pwyllgor yn dymuno newid. Cadarnhawyd y byddai’r tîm gwasanaethau democratiaeth
yn gohebu unwaith yn rhagor a’r arweinyddion grŵp ar ôl yr is-etholiad yn
ward Felinheli a’r Bethel.
Mewn ymateb i sylw ynghylch
hygyrchedd manylion cyswllt Cynghorwyr Gwynedd, cadarnhawyd bod cyfeiriadau e-byst
Cynghorwyr wedi eu cyhoeddi ar wefan y
Cyngor. Cadarnhawyd bod cyfeiriadau e-byst cyffredinol hefyd ar gael i’r
cyhoedd gysylltu os oes angen. Atgoffwyd hefyd bod modd cysylltu trwy Galw
Gwynedd os oes angen i aelod o’r cyhoedd gysylltu ag aelod penodol. Nodwyd y
gobeithir bod y Cyngor yn darparu sawl ffordd o gysylltu â’r aelodau, yn unol
â'r rheoliadau perthnasol a’r mesurau diogelwch. Nododd Aelod fod cyfarwyddyd clir i Gynghorwyr ystyried eu sefyllfa yn ddwys cyn cyhoeddi eu
manylion cyswllt personol gan yr Heddlu fel rhan o hyfforddiant Ymgyrch Ford.
Manylwyd ar yr argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer Aelodau Cyfetholedig ac aelodau lleyg. Y
cyntaf yw gofyn i’r comisiwn i bwysleisio’r angen i ddefnyddio’r gyfradd fesul
awr i ddangos fod Cynghorau Sir yn ddarbodus yn ariannol ac yn talu’n deg am y
gwaith sy’n cael ei gyflawni. Argymhellwyd hefyd fod y comisiwn yn edrych ar y
cyfraddau o ran taliadau i aelodau lleyg a cyfetholedig gan nodi dylai
cydnabyddiaeth ariannol i’r Aelodau hyn hefyd gynyddu yn flynyddol gan ei bod
yn anodd denu Aelodau lleyg i gyflawni gwaith hynod bwysig. Nodwyd fod
argymhelliad fod y comisiwn yn gwneud yn glir pa gamau a ddylid eu cymryd os na
yw aelod yn dymuno derbyn tal am eu gwaith. Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn
â thaliad aelodau lleyg a cyfetholedig, cadarnhawyd bod yr aelodau yn cael eu
talu fesul awr gan gynnwys oriau paratoi.
Diolchwyd am yr adroddiad a chytunwyd ag argymhellion yr adroddiad.
Nodwyd y dylid annog Cynghorwyr cymuned i hawlio’r tal sy’n ddyledus iddynt am
eu gwaith yn y gymuned. Mynegwyd bod llawer o gostau cudd i Gynghorwyr cymuned
felly ni ddylid cymryd eu gwaith yn ganiataol. Nodwyd ei bod yn bwysig sicrhau
bod ysgogiad ariannol yn ymwneud a’r rôl er mwyn annog aelodau newydd i gymryd
y rôl wrth i gynghorwyr cymuned ymddeol. Soniwyd bod cynghorwyr cymuned yn
werthfawr iawn ac yn hanfodol i ffyniant dyfodol cymunedau Gwynedd. Cytunwyd y
byddai cymal yn cael ei ychwanegu at yr argymhelliad i hyrwyddo tal cynghorwyr
cymuned a’u hannog i'w hawlio. Cadarnhawyd bod yr aelodau yn hapus i dderbyn yr
adroddiad a chefnogi’r argymhellion.
PENDERFYNIAD
Derbyn
yr adroddiad ar yr amod bod cymal i annog cynghorau cymuned i gymryd eu tal yn
cael ei ychwanegu.
Dogfennau ategol: