Agenda item

Mari Edwards, Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad a Cara Williams, Swyddog Datblygu Aelodau i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

I dderbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu. Rhoddwyd trosolwg o flaenoriaethau’r adran wrth barhau i ymateb i ganlyniadau’r holiadur Anghenion Dysgu a Datblygu. Eglurwyd bod y rhaglen hyfforddiant diweddaraf ar gael i aelodau ac yn datblygu yn barhaus. Cadarnhawyd bydd y rhaglen yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen trwy ymgynghori gyda Phenaethiaid Adrannau a Swyddogion yn ogystal â chynnwys teitlau ar gais Aelodau. Croesawyd awgrymiadau am anghenion hyfforddiant ychwanegol ar gais Aelodau trwy ffurf holiadur neu’r Swyddog Datblygu aelodau. Cadarnhawyd y byddai’r adran yn penodi Swyddog Datblygu Aelodau newydd yn fuan.

 

Manylwyd ar yr 8 Maes Craidd sydd wedi eu hadnabod ar gyfer Aelodau. Esboniwyd bod darpariaeth y cyrsiau craidd ar gael ar lein i aelodau gael mynediad iddynt ar unrhyw adeg a chroesawyd i aelodau  gysylltu ar unrhyw bryd os oes unrhyw drafferthion. Nodwyd bod 12 aelod wedi cwblhau pob cwrs hyfforddiant a chadarnhawyd bod 6 aelod heb gwblhau dim un o’r modiwlau. Mynegwyd siom bod 6 aelod heb gwblhau dim o’r hyfforddiant, yn enwedig y maes Cod Ymddygiad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r cyrsiau craidd, a bod y rhain yn allweddol i’w rôl fel Cynghorwyr. Bu pwyslais arbennig ar bwysigrwydd y cyrsiau Cod Ymddygiad, Rhiantu Corfforaethol a Thrais yn erbyn Menywod.

 

Mewn ymateb i’r pryderon, cadarnhawyd bod anogaeth gyson i Aelodau i gwblhau’r hyfforddiant craidd, gan gynnwys nodiadau atgoffa rheolaidd gan y Swyddog Datblygu Aelodau. Nodwyd bod Arweinyddion y Grwpiau gwleidyddol yn annog ac atgoffa Aelodau i gwblhau’r hyfforddiant yn rheolaidd mewn cyfarfodydd grŵp. Ymhelaethwyd bod darpariaeth y cyrsiau gan y gwasanaeth  Dysgu a Datblygu yn hygyrch wrth iddynt fod ar gael ar-lein i’w gwblhau ar unrhyw bryd. Ystyriwyd addasu teitl y meysydd craidd i nodi eu bod yn feysydd mandadol er mwyn annog mwy o aelodau i’w cwblhau. Eglurwyd bod y nifer o gyrsiau gwblhawyd gan aelodau bellach yn wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor.

 

Nodwyd bod amryw o gyrsiau datblygiad personol ar gael bellach i’r holl aelodau, sydd yn gyfle iddynt adlewyrchu ar eu rôl ac ystyried unrhyw feysydd o ddiddordeb iddynt  yr hoffent eu datblygu. Nodwyd bod posib llunio Rhaglen Ddatblygu Bersonol i gwrdd â’u hanghenion. Esboniwyd bod nifer o aelodau cabinet wedi mynychu'r rhain a’u bod  bellach ar gael i’r holl aelodau.

 

Manylwyd ar ddatblygiad Ymgyrch Ford gan Heddlu Gogledd Cymru a gafodd ei gyflwyno trwy’r Protocol Plismona Amddiffyn Democratiaeth. Nodwyd bod sesiynau briffio ar ddiogelwch ar gael i Aelodau  sy’n rhoi cyngor ar ddiogelwch personol. Cynigwyd sesiynau pellach  i Aelodau cyn diwedd y flwyddyn gan annog  aelodau i gysylltu â’r gwasanaeth er mwyn nodi pa ddyddiad sydd yn gyfleus  ganddynt i gwblhau’r hyfforddiant.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r staff am eu gwaith wrth roi’r adnoddau at ei gilydd. Canmolwyd datblygiad y cwrs Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan nodi ei fod yn gwrs gwerthfawr iawn.

 

Soniwyd bod Hyfforddiant i Fentoriaid yn gynnig newydd ar y gweill sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o’r bryd. Nodwyd mai bwriad y cynnig yw cefnogi gwaith Aelodau trwy annog Aelodau i fod yn Fentor neu adnabod aelodau a fyddai’n elwa o gael eu mentora. Manylwyd mai’r bwriad yw datblygu’r cynllun erbyn cyfnod Etholiadau 2027, er mwyn cynorthwyo Aelodau newydd a gaiff eu hethol.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: