Y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, a cynrychiolydd o AMION Consulting i
gyflwyno’r adroddiad.
Mae Atodiad 3 yn eithriedig gan fod yr adroddiad ynglŷn â Memorandwm Dealltwriaeth y Parth Buddsoddi gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio Atodiad 3 rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed
gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth
Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod
(IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y
Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a
chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych,
fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam.
Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig
milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni
Blynyddol.
Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan
ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr
mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac
Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro ac
Iain Taylor o AMION Consulting.
PENDERFYNWYD:
Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodwyd gwaith a wnaed
gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thîm y Parth
Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Cymeradwywyd Cytundeb Rhyng-Awdurdod
(IAA) drafft rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), Cyngor Sir y
Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddirprwyo’r hawl i gytuno a
chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych,
fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol Parth Buddsoddi Sir y Fflint a
Wrecsam.
Cymeradwywyd Rhestr Prosiectau, gweithgareddau a cherrig
milltir Blwyddyn 1 a 2 sydd wedi'u drafftio i gefnogi'r Cynllun Cyflawni
Blynyddol.
Cymeradwywyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan
ddirprwyo’r hawl i gytuno a chwblhau’r fersiwn terfynol i’r Prif Weithredwr
mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, yr Is-gadeirydd ac
Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, fel cynrychiolwyr penodedig y Bwrdd Ymgynghorol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
TRAFODAETH
Diolchwyd i’r Aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r
adroddiad.
Adroddwyd bod datblygiad y rhaglen bellach ar bwynt
allweddol ac wedi cyrraedd y cam cymeradwyo gyda Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. Mae’r Broses Pum Porth wedi dod i ben ac mae cytundeb i’r
Porth (Gateways) wedi’i dderbyn. Eglurwyd bod
angen cymeradwyaeth y CBC i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r cytundeb rhyng-awdurdod rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC),
Cyngor Sir y Fflint, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ymhelaethwyd mai’r
rhain fydd yn llywodraethu ar drosglwyddo arian refeniw a gweithgareddau
allweddol yn y rhaglen.
Eglurwyd bod cynlluniau cyflawni blynyddol yn cael eu cytuno
bob blwyddyn i gefnogi’r ffordd y mae Parthau Buddsoddi yn cael eu strwythuro
a’u cyflawni. Cyflwynir drafft y Cynllun Cyflawni Blynyddol yng nghyfarfod
Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi, lle mae arweiniwyr
Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ac yn
adolygu’r Cynllun Cyflawni Blynyddol. Nodwyd mai’r bwriad yw cynnal cyfarfod
o’r Grŵp Gwaith Parth Buddsoddi ar 28 Tachwedd, i drafod gweithgareddau
cychwynnol y rhaglen. Manylwyd y byddent yn cynnal cyfarfod arall i drafod
Cynllun Cyflawni’r ail flwyddyn.
Rhoddwyd trosolwg i’r Aelodau o’r Cynllun Cyflawni
Blynyddol, gan dynnu sylw arbennig at rai o bwyntiau allweddol Rhaglen y Parth
Buddsoddi a oedd wedi’u cynnwys yn Atodiad 2. Nodwyd bod y rhain wedi’u
rhannu’n gefnogaeth fusnes, sgiliau, arloesedd,
seilwaith, a safleoedd treth. Hysbyswyd yr Aelodau fod y safleoedd treth wedi’u
cyhoeddi ar Legislation.gov, a’u bod yn dod i rym cyfreithiol ar 21 Tachwedd.
Hysbyswyd yr aelodau, pe bai’r CBC yn cymeradwyo’r
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r IAA, y byddai’r Llywodraeth yn gweithredu i
gyhoeddi fersiynau wedi’u llofnodi o’r ddogfen ymhen yr wythnos.
Tynnwyd sylw’r aelodau at y Cynllun Cyflawni, gan amlygu
gwaith cynnar. Atgoffwyd yr aelodau ei fod yn brosiect Partneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol ar y cyd gyda Phrifysgol Wrecsam a Choleg Cambria. Nodwyd bod yr
arian i weinyddu grantiau busnes yn cael ei ddirprwyo i Gyngor Sir y Fflint a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cydnabuwyd bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei
wneud o ran Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol i Gymru, gyda’r bwriad o’i
ddwyn i Ogledd-ddwyrain Cymru, yn ogystal â datblygiadau mewn rhaglenni
datgarboneiddio gyda diwydiant a phrosiect trawsnewid a gefnogir gan AMRC.
Ymhelaethwyd bod cynnydd da yn cael ei wneud gyda’r gofynion seilwaith i’r
safleoedd treth, gydag eiddo eisoes yn cael eu hadeiladu yng Nglannau Dyfrdwy a
phrosiectau’n cael eu hyrwyddo i’w hystyried ar gyfer cynllunio yn Wrecsam.
Bydd manylion pellach yn cael eu cyflwyno i arweinwyr Cynghorau Sir y Fflint a
Wrecsam ddiwedd mis Tachwedd, gyda’r eitem yn cael ei gyflwyno eto i’r
Is-bwyllgor Llesiant Economaidd.
Eglurwyd mai dyma’r cam diwethaf o benderfyniadau gan y CBC
o ran adeiladu'r Parth Twf, gan esbonio eu bod yn gytundebau sy’n ymrwymo'r CBC
i rôl corff atebol. Fel corff atebol, mae’r CBC yn eistedd rhwng y
Llywodraethau ac felly mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n cael eu
harwyddo rhwng y CBC a’r Llywodraeth yn ymrwymiad egwyddorol i sut fydd y
prosiect yn cael ei redeg. Bydd llythyrau ariannu, sef dogfennau cytundebol ac
amodau ariannu, gan y Llywodraethau yn cael eu hanfon wedyn.
Nodwyd bod yr IAA yn gytundeb cyd-weithio rhwng y Cynghorau
a’r CBC, ac yn cynnwys sut mae’r Parth Buddsoddi yn cael ei redeg, y
llywodraethant, y trefniadau ariannu refeniw, a’r trefniadau ar gyfer
cydymffurfio ag amodau fydd y Llywodraeth yn osod ar y CBC. Ymhelaethwyd ei bod
yn ddogfen sy’n adeiladu ar y penderfyniadau sydd wedi eu cymryd yn y misoedd
diwethaf yn y gateways er mwyn creu'r Parth
Buddsoddi. Yn bellach, eglurwyd bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi ei ail
gyflwyno i’r CBC ac er nad ymddengys bod llawer o newidiadau ers mis
Gorffennaf, mae’n cyfeirio at reolaeth Rheoli a Threthi Anomestig
fydd angen ei gyfarch yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Tynnwyd sylw bod drafft o’r IAA ger bron yr Aelodau. Ymddiheuriwyd fod y ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig ar
hyn o bryd. Eglurwyd mai fersiwn gychwynol o’r
ddogfen sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn ymestyn trafodaeth, ac i sicrhau fod
y prosiect yn symud yn ei flaen maent yn gofyn am hawliau dirpwyedig
i gwblhau’r dogfennau ar y cyd efo Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam. Nodwyd eu bod wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Swyddogion
Monitro o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Pwysleisiwyd
bod yr hawl i symud ymlaen efo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r IAA yn
hanfodol, er mwyn tynnu dogfennau at ei gilydd a rhoi sylfaen ar gyfer y gwaith
sylweddol o gyflwyno’r Parth Buddsoddi.
Talwyd diolchiadau gan y Cadeirydd i’r ymgynghorydd o AMION Consulting, i dîm cyfreithiol Cyngor Gwynedd, ac i Brif
Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint am eu partneriaeth yn y prosiect.
Mynegwyd bod hwn yn gyfle gwych i Sir y Fflint a Wrecsam gyflawni ar gyfer
busnesau yng Ngogledd Cymru. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y prosiect, yn enwedig
y budd yn sgil cynnydd mewn swyddi o ansawdd uchel yn ei ddwyn i economïau
rhanbarthol ehangach.
Dogfennau ategol: