I ystyried cais Mr A
(copi i Aelodau’r
Isbwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais gan Mr A i adnewyddu
trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Dangoswyd dwy fideo teledu
cylch cyfyng o’r ddamwain yr oedd yr ymgeisydd wedi ei gyhuddo
ohoni – roedd y ddwy fideo wedi
eu cyflwyno fel tystiolaeth gan yr ymgeisydd. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sy’n
gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Mewn ymateb
i gwestiwn os oedd llythyr yn cael
ei anfon at yrwyr cerbyd hacni/hurio preifat yn
eu hatgoffa bod eu trwydded yn dod
i ben, cadarnhawyd bod trefniant o’r fath
mewn lle gan yr Uned Trwyddedu, ond yn yr achos yma
bod yr ymgeisydd wedi symud tŷ
yn ddiweddar. Ategodd mai gofyn cyfreithiol yw i’r ymgeisydd roi gwybod i'r Uned
o unrhyw newidiadau yn ei amgylchiadau.
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chyflymder y car yn taro aelod o’r cyhoedd,
nodwyd er nad oedd tystiolaeth o’r cyflymder bod
tystiolaeth gan yr un a drawyd
yn nodi ‘nad oedd y gyrrwr
yn gyrru yn afresymol’
Gwahoddwyd cynrychiolydd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd gyrru roedd yr ymgeisydd wedi ei gyhuddo
ohoni, a’i amgylchiadau personol. Nododd ei fod
wedi pledio yn euog i’r
cyhuddiad ac roedd yn derbyn
difrifoldeb y sefyllfa - petai yn colli
ei drwydded, byddai yn colli
ei waith. Ategodd ei fod
yn yrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat ers dros 15eg mlynedd a bod ganddo
drwydded yrru lân ac nad
oedd wedi derbyn cwynion am ei waith.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
·
Rheswm : Pan fydd gan
ymgeisydd am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat unrhyw euogfarnau troseddol (collfarnau) neu rybuddion, bydd y
cais yn cael ei gyfeirio at Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad.
Tasg yr Is-bwyllgor yw penderfynu a yw'r ymgeisydd yn berson addas a phriodol i
ddal trwydded. Wrth ddod i'r penderfyniad hwnnw, mae'n ofynnol i'r Is-bwyllgor
ystyried Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’. Fodd bynnag, bydd pob cais yn cael ei benderfynu yn ôl ei rinweddau ei
hun pan fydd amgylchiadau'n ei gwneud yn
ofynnol i’r Is-bwyllgor wyro oddi wrth unrhyw argymhellion a nodir yn y Polisi.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
DBS yr ymgeisydd
– dim cofnod o gollfarnau
·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Taflen gyhuddiadau
Heddlu Gogledd Cymru
·
Canllawiau Llywodraeth
DU ar bwyntiau cosb
·
Geirda’i yn cefnogi’r ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Ym mis Tachwedd 2025 derbyniodd yr ymgeisydd
6 pwynt cosb a £390 o ddirwy am yrru heb ofal a sylw dyladwy yn groes i Adran 3
Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988.
Ym mis Medi 2025 canfuwyd bod trwydded cerbyd hacni/hurio preifat yr ymgeisydd wedi dod i ben Gorffennaf 2025
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau
traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff
12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel
trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.3 sy’n datgan y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig
neu fater arall i'w ystyried arwain
at wrthod cais, yn enwedig os
oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried
ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru.
Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig
ei gyfeirio at sylw Is-bwyllgor Trwyddedu os oes mwy
na dwy drosedd
ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded
Bod Dogfen y Sefydliad Trwyddedu 2024, (sydd wedi ei fabwysiadu
gan y Pwyllgor Trwyddedu fel canllaw ychwanegol
i gefnogi dogfen
Polisi Collfarnau y Cyngor - Meini
Prawf Addasrwydd Gyrwyr a gweithredwyr 2014), yn cynnig arweiniad
ychwanegol i’r Aelodau ei ystyried lle
nad oes collfarnau
ar dystysgrif DBS yr ymgeisydd; ond lle mae materion
ychwanegol i'w hystyried cyn penderfynu
os yw unigolyn
yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrru tacsi. Diogelu’r cyhoedd yw'r ffactor mwyaf
allweddol wrth asesu addasrwydd ymgeisydd i ddal
trwydded gyrru tacsi.
Bod cymal 4:50 o ddogfen y Sefydliad Trwyddedu fod gyrwyr cerbydau
hacni a hurio preifat yn yrwyr
proffesiynol hefo cyfrifoldeb o gludo'r cyhoedd. Bydd unrhyw
gollfarn gyrru yn gallu bod yn
arwydd o ddiffyg proffesiynoldeb ac yn fater i’w gymryd
o ddifri.
CASGLIADAU
Derbyniodd yr Is-bwyllgor
bod yr ymgeisydd wedi derbyn collfarn am y ddamwain yn Ebrill 2025. Cafwyd eglurhad llawn o’r digwyddiad
gan gynrychiolydd yr ymgeisydd oedd yn ategu bod y gollfarn am y drosedd ymysg y rhai lleiaf
difrifol o droseddau moduro. Cyflwynwyd sylwadau ynghylch ei gofnod gyrru
rhagorol a hynny fel gyrrwr tacsi
ers dros 15 mlynedd. Cadarnhaodd yr Uned Trwyddedu nad oedd unrhyw ddigwyddiad
na chwyn wedi cael ei
gyfeirio at yr Uned am yr ymgeisydd yn ystod
y cyfnod. Roedd yr Is-bwyllgor yn ystyried
hyn fel tystiolaeth
o yrrwr tacsi cyfrifol ac yn amlygu cymeriad da. Nodwyd fod y ddamwain
wedi digwydd ar ôl iddi
dywyllu ar gornel beryglus a bod y dystiolaeth a awgrymwyd
gan dystion yn nodi nad oedd
yr ymgeisydd yn gyrru uwchlaw terfynau
cyflymder disgwyliedig nac yn gyrru
yn afresymol.
Ystyriwyd cynnwys y llythyrau geirda a dderbyniwyd oedd yn atgyfnerthu nodweddion o gymeriad da'r ymgeisydd ac yn ategu nad
oedd problemau gyda’i waith fel
gyrrwr tacsi. Derbyniodd yr is-bwyllgor sylwadau gonest yr ymgeisydd ei fod
yn llawn deall difrifoldeb y sefyllfa.
Yng nghyd-destun rheswm dros fethu adnewyddu
ei drwydded yn amserol, derbyniwyd
ei eglurhad dros beidio â derbyn
llythyr atgoffa, a hynny efallai oherwydd
ei fod wedi
symud tŷ, ond pwysleisiodd yr Is-bwyllgor mai cyfrifoldeb
cyfreithiol yr unigolyn yw adnewyddu trwydded
a hyn heb orfod dibynnu ar
dderbyn llythyr atgoffa.
Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus, penderfynwyd
bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol
i dderbyn trwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd gan amlygu ei hawl
i apelio’r penderfyniad