Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion

Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy brif uchafbwyntiau’r chwarter diwethaf megis cymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes Llaeth Defaid Cymru - Hwb Economi Wledig Glynllifon ac Achos Busnes Llawn Diwifr Uwch. Cyfeiriwyd hefyd at Lansiad y Gronfa Ynni Glan ar y 10fed o Orffennaf a bod proses wedi cael ei weithredu ar gyfer penodi dau Ymgynghorydd Anweithredol.

 

Adroddwyd bod 6 Prosiect yn weithredol ar hyn o bryd, gyda chwe phrosiect arall wedi eu cymeradwyo ond ddim eto yn weithredol hyd yma, gyda thri achos busnes pellach ar y gweill.

 

Cadarnhawyd bod buddsoddiad y Cynllun Twf i’w brosiectau yn £23,164,812.52 erbyn diwedd yr ail chwarter o’r flwyddyn ariannol gyfredol. Ymhelaethwyd bod cyfanswm o £25,040,328.17 wedi cael ei glustnodi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau, gan gadarnhau y disgwylir i’r ffigyrau hyn barhau i gynyddu’n raddol, gyda nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill. Cydnabuwyd bod niferoedd o swyddi sydd wedi eu creu yn isel, gan egluro bod 49 swydd newydd a 49 o swyddi adeiladwaith wedi cael eu creu hyd yma.

 

Manylwyd ar Gofrestr Risg y Portffolio gan adrodd ei fod yn parhau i fod yn gyson gyda’r datblygiadau a wnaed yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod rhai risgiau uchel yn parhau ar y gofrestr mewn cyswllt â buddsoddiad y sector breifat yn ogystal â thargedau buddsoddi cyffredinol, yn dilyn oediadau. Ymhelaethwyd bod y risg gweddilliol ar deitl ‘Fforddiadwyedd’ wedi cael ei leihau oherwydd bod cyfran mwy o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo, gan ddarparu sicrwydd eu bod yn fforddiadwy.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i sylwadau a oedd yn nodi bod niferoedd o swyddi sydd wedi cael eu creu yn isel ar hyn o bryd, eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau nad oes modd i’r ffigyrau hyn gynyddu nes bydd mwy o brosiectau yn weithredol, gan gydnabod bod oediad naturiol rhwng ariannu’r prosiectau a sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu. Fodd bynnag, adroddwyd y disgwylir i’r ffigyrau hyn gynyddu yn sylweddol yn fuan iawn gan fod mwy o brosiectau yn weithredol yn ddiweddar, gan gadarnhau bydd diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor hwn. Mewn ymateb i sylwadau pellach, cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau y byddai’r Aelodau yn derbyn crynodeb manwl o’r holl swyddi sydd wedi eu creu, natur y gyflogaeth a’u lleoliadau ar draws rhanbarth y gogledd fel y gellir sicrhau aelodau bod y swyddi yn dod a budd ariannol i unigolion o’r rhanbarth.

 

Cyflwynwyd sylwadau gan Aelodau bod nifer o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a bydd eu gwerth i’r rhanbarth yn weledol yn y dyfodol, gan ddiolch i’r holl swyddogion am eu gwaith.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: