Agenda item

I drafod sut y gall CYSAG gefnogi ei ysgolion orau

i. Hyrwyddo CYSAG

ii. Datblygiad o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

iii. Datblygiad o Addoli ar y Cyd

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord (Ymgynghorydd Annibynnol), gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-        Awgrymwyd y dylai CYSAG greu cynllun datblygu gyda thua tri amcan i gefnogi ei waith ac er mwyn gallu adrodd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn yr amcanion hynny.

-        Awgrymwyd blaenoriaethu’r tri amcan canlynol: datblygu effeithiolrwydd CYSAG a hyrwyddo CYSAG o fewn ysgolion; monitro a chefnogi darpariaeth AG a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ysgolion yr Awdurdod Lleol; a monitro a chefnogi darpariaeth addoli ar y cyd a’r datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn ysgolion yr Awdurdod.

-        Awgrymwyd creu cylchlythyr i’w anfon i ysgolion i hyrwyddo elfennau megis y rhestr chwarae CGM gan Lywodraeth Cymru, EFTRE a CCYSAGAUC.

-        Pwysleisiwyd pwysigrwydd cael deialog gyda ysgolion er mwyn sicrhau bod CYSAG yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o fewn ysgolion y sir, a bod ysgolion yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei drafod mewn cyfarfodydd CYSAG.

-        Pwysleisiwyd bod pryder ynglŷn â’r capasiti i gyflawni popeth a awgrymwyd, ond bod angen parhau’n uchelgeisiol.

Diolchwyd am y cyflwyniad.

Nodwyd bod yr awgrym o greu cylchlythyr i’w rannu ymysg ysgolion yn un buddiol. Awgrymwyd darparu cylchlythyr yn dilyn pob cyfarfod CYSAG er mwyn codi ymwybyddiaeth ysgolion o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno a’i drafod o fewn y cyfarfod. Nodwyd y byddai modd cynnwys dolenni o fewn y cylchlythyr i ddeunyddiau addysgu a amlygwyd o fewn y trafodaethau. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod y cylchlythyr mewn fformat sy’n addas ar gyfer cynulleidfa ysgolion.

Mynegwyd barn bod y cyswllt rhwng CYSAG ac ysgolion wedi gwanhau, ac felly croesawyd unrhyw ddull o gryfhau’r cyswllt hwn yn y dyfodol. Nodwyd nad oedd y pwyllgor yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o fewn ysgolion gan nad oedd adroddiadau hunanasesu ysgolion wedi’u derbyn. Cwestiynwyd a oedd modd derbyn yr adroddiadau hunanasesu hyn, a chwestiynwyd ymhellach a oedd modd creu cyswllt drwy ymweld ag ysgolion. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd deall beth fyddai’n fuddiol i ysgolion er mwyn blaenoriaethu gwaith y pwyllgor wrth symud ymlaen.

Nodwyd bod un llywodraethwr o fewn Ysgol Dyffryn Ogwen yn cymryd cyfrifoldeb dros edrych ar un pwnc, ac os oedd hyn yn arfer cyffredin ym mhob ysgol uwchradd, awgrymwyd creu cyswllt er mwyn anfon adnoddau atynt a derbyn adroddiad blynyddol ganddynt. Cytunwyd â’r awgrym hwn, gan nodi pwysigrwydd peidio ag anghofio ysgolion cynradd o fewn y broses. Pwysleisiwyd nad oedd yn realistig derbyn adroddiad gan bob ysgol, ond y byddai modd derbyn adroddiadau gan ddigon o ysgolion i roi darlun realistig o’r hyn sy’n digwydd yn ysgolion y sir.

Nododd yr Ymgynghorydd Annibynnol fod rhestr o gwestiynau ar gael i lywodraethwyr eu defnyddio wrth holi athrawon o fewn ysgolion. Awgrymwyd dosbarthu’r rhestr hon i aelodau’r pwyllgor er mwyn i lywodraethwyr ei defnyddio ac adrodd yn ôl ar y canfyddiadau. Awgrymwyd hefyd y gallai aelodau’r pwyllgor sydd hefyd yn llywodraethwyr dreialu’r drefn newydd a awgrymwyd. Nodwyd ymhellach y byddai’n bosibl creu adroddiad o’r ymatebion i’r cwestiynau i’w gyflwyno i gyfarfodydd CYSAG drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

Cytunwyd bod creu cyswllt drwy lywodraethwyr yn un o’r ffyrdd gorau ymlaen gan fod penaethiaid ysgolion yn aml yn cael eu llethu gan negeseuon. Cwestiynwyd a oedd adroddiadau blynyddol CYSAG yn cael eu hanfon ymlaen i ysgolion. Mewn ymateb, nodwyd bod adroddiadau blynyddol CYSAG yn cael eu hanfon i ysgolion y sir.

Awgrymwyd rhoi gwahoddiad i bob cynghorydd sydd hefyd yn llywodraethwr i dderbyn y cwestiynau er mwyn eu gofyn yn eu hysgolion hwy, ac i adrodd yn ôl ar y canlyniadau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nodwyd bod ffurflen swyddogol gyda chwestiynau i ysgolion eisoes yn bodoli o fewn yr Adran Addysg, ac y gallai fod yn bosibl ei haddasu at y diben hwn.

O ran addoli ar y cyd, nodwyd bod sawl cwestiwn wedi’u llunio i holi ysgolion ynglŷn â’r ddarpariaeth, a bod modd rhannu’r rhain gyda’r aelodau a’r llywodraethwyr. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gofyn y cwestiynau cywir i’r bobl briodol o fewn yr ysgolion. Awgrymwyd adrodd ar gasgliadau’r pwyllgor ynglŷn â hyn mewn cyfarfod yn yr haf. Cwestiynwyd a oedd modd cael gwahoddiad i fynychu addoli ar y cyd o fewn ysgolion.

Awgrymwyd sawl syniad pellach i godi ymwybyddiaeth ysgolion ac athrawon o waith CYSAG a’r adnoddau sydd ar gael iddynt:

-        creu catalog o adnoddau sydd ar gael a rhoi dolen iddo ar dudalen flaen adroddiad blynyddol CYSAG;

-        cynnwys adran fer ar dudalen flaen adroddiad blynyddol CYSAG yn egluro beth yw gwaith CYSAG;

-        gofyn i Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg, gynnwys dolenni at adnoddau CGM o fewn ei e-bost wythnosol i athrawon;

-        creu adran CYSAG ar fewnrwyd athrawon a staff ysgol gyda dolenni at yr adnoddau sydd ar gael.

Cytunwyd y byddai angen cynnal trafodaethau pellach ynglŷn â sawl un o’r awgrymiadau er mwyn dod i gasgliad ar eu hymarferoldeb.

 

Dogfennau ategol: