Er mwyn craffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.
Penderfyniad:
Cofnod:
Gofynnodd y Cadeirydd beth yw’r diweddaraf
gyda’r rhaglen waith ymateb i Adolygiad Ymarfer Plant – Cyfiawnder Trwy Ein
Dewrder a phryd fydd y pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y rhaglen waith? Mewn
ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bydd cyfarfod arbennig o’r
Pwyllgor ym mis Ionawr 2026. Eglurwyd y broses, gan nodi bod y Cyngor wedi
sefydlu Bwrdd a Chynllun Ymateb, sydd wedi ei diwygio a’i adnewyddu ers i’r
Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gyhoeddi, a chadarnhawyd bydd cyfle i’w graffu
yn y cyfarfod arbennig. Sicrhawyd bod yr Adran yn ymrwymedig i weithredu i
ymateb i’r argymhellion yn llawn. Cyflwynwyd cais gan aelodau o’r Pwyllgor am
gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau graffu
ar y Cynllun hollbwysig.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a Theuluoedd. Rhoddwyd diweddariad ar beth
sydd wedi ei gyflawni gan yr adran plant hyd at ddiwedd mis Medi. Nodwyd bod
gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddau brosiect sydd ar waith yng
Nghynllun y Cyngor, y Cynllun Awtistiaeth a Chynllun datblygu darpariaeth
breswyl i blant mewn gofal cartrefi grŵp bychain.
Manylwyd ar y
Cynllun Awtistiaeth, gan nodi nod y gwaith yn ffynnu a’r galw am wasanaeth yn
parhau i godi. Nodwyd bod y system ymgynghori rhwng y Tîm Awtistiaeth a’r
gweithwyr cymdeithasol yn gweithio yn effeithiol ac mae nifer o achosion o
ymyrraeth gynnar a chefnogaeth arbenigol wedi arwain at ostyngiad mewn angen a
statws, a nifer o achosion wedi cau yn dilyn ymyrraeth.
Nodwyd bod y
rhaglen hyfforddi staff yn parhau ac yn datblygu gyda gwahanol lefelau o
hyfforddiant, a’r union lefel i’w gyflawni yn ddibynnol ar y swydd.
Ymhelaethwyd bod y tîm bellach yn hyfforddi gweithwyr i hwyluso a rhedeg
grwpiau a rhaglenni cefnogi ac addysgol i rieni a gofalwyr yn ogystal â grwpiau
hunaniaeth i bobl ifanc awtistig. Adroddwyd bod grwpiau ‘Paned a Sgwrs’ i rieni
a gofalwyr a chlwb Niwro i bobl ifanc yn parhau i fod
yn llwyddiannus. Nodwyd bod yr Ap Niwro Cymru bellach
ar gael, sydd wedi ei ddatblygu gan Awtistiaeth Gwynedd ar gyfer darparu
gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r gymuned. Nodwyd bod yr arian ar gyfer y
cynllun yn dod i ben ym 2027 ac felly bydd angen ystyried sut i sicrhau parhad
y gwasanaeth i’r dyfodol o safbwynt cynaliadwyedd.
Manylwyd ar y
cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartref grŵp
bychan, sydd wedi datblygu yn sylweddol. Nodwyd bod cartref ym Morfa Bychan
bellach yn weithredol, gyda 2 blentyn yn byw ynddo. Mewn ymateb i ymholiad,
cadarnhawyd mai lle i 2 blentyn yn unig sydd yn y cartref, er mwyn sicrhau
aelwyd gartrefol i’r plant yn unol â’r strategaeth genedlaethol. Eglurwyd bod
datblygiadau yn digwydd yn safle Deiniolen, gan nodi bod dirprwy reolwr wedi ei
benodi a 5 gweithiwr preswyl ar gyfer yr ail dŷ yn Neiniolen.
Cadarnhawyd bod y staff wedi cychwyn eu swyddi. Nodwyd bod yr adran yn parhau i
ddisgwyl am gofrestriad swyddogol i’r cartrefi, a disgwylir hyn yn fuan gan
Arolygiaeth Gofal Cymru. Eglurwyd bod siroedd eraill yng Nghymru yn datblygu
darpariaethau preswyl i blant, sydd yn rhoi pwysau ar yr Arolygiaeth Gofal
Cymru, felly mae rhestr aros bellach er mwyn eu cofrestru. Gobeithir y bydd y
ddau dŷ wedi eu cofrestru yn llawn erbyn mis Chwefror 2026. Nodwyd bod yr Adran yn y broses o brynu
tŷ yng Nghriccieth gan obeithio bydd y gwaith
wedi ei gwblhau ym 2026. Nodwyd bod
ymdrech i ddarparu cartref preswyl fel rhan o’r cynllun darpariaeth breswyl yn
ardal Meirionnydd, ond amlygwyd bod cyfyngiadau oherwydd y farchnad dai a’r
trafferthion ddod o hyd i dŷ addas ar gyfer y plant.
Manylwyd ar waith
dydd i ddydd yr Adran, gan nodi bod 283 o blant mewn gofal yng Ngwynedd.
Mynegwyd bod yr Adran wedi gweld datblygiadau cadarnhaol, wrth i 4% o blant
adael gofal a dychwelyd adref yn y flwyddyn ddiwethaf. Tystiolaethwyd bod llais
y plentyn a phobl ifanc yn flaenoriaeth gan yr adran, gan nodi bod llais a barn
y plentyn ei glywed mewn 94% o gynadleddau achos . Nodwyd bod y nifer o bobl
ifanc daeth mewn i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi gostwng 13%.
Adroddwyd bod Gwasanaeth Teulu Gwynedd wedi llwyddo i ymestyn cynllun gofal
plant 2 oed gyda 9 darpariaeth ychwanegol sydd yn galluogi mwy o deuluoedd i
dderbyn cefnogaeth.
Codwyd pryderon
ynghylch y nifer o gyfeiriadau a gafwyd gan y tîm derbyn. Adroddwyd mai 2025
yw’r flwyddyn prysuraf ers ei sefydlu. Nodwyd bod Gwasanaeth Derwen dan bwysau,
gyda dros 500 o achosion agored. Nodwyd bod y Tîm 16+ hefyd yn parhau i adrodd
fod y galw am wasanaethau ar ei uchaf, gyda 238 achos yn agored. Esboniwyd bod
y nifer o achosion a diffyg staff yn creu pryder a phwysau gwaith uchel.
Amlinellwyd y mesurau sydd mewn lle i fynd i’r afael ar yr heriau, gan nodi bod
5 bid i ariannu 7 swydd yn y timau gweithredol wedi bod yn llwyddiannus. Nodwyd
bod hyn wedi sicrhau cefnogaeth ychwanegol i’r gwasanaeth Derwen, ac yn rhoi
cysondeb i wasanaethau cefnogol i blant a theuluoedd Gwynedd.
Yn ystod y
drafodaeth, cododd y sylwadau fel a ganlyn;
· Mynegwyd bod gan Wynedd
mwy o blant mewn gofal nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Wrth ystyried hyn,
canmolwyd y gwaith da sydd yn mynd rhagddo yn yr adran i gyfarch yr angen yn y
sir, gan ddiolch i’r holl staff am eu gwaith diflino wrth gefnogi plant a
theuluoedd Gwynedd.
·
Awgrymwyd y dylid datblygu mesuryddion newydd i reoli
a monitro bod plant mewn gofal yn cael eu gweld yn gyson gan staff y Cyngor,
fel rhan o gyfrifoldebau’r Cyngor fel rhiant corfforaethol.
· Awgrymwyd y dylid
datblygu mesuryddion sy’n dangos cynnydd gyda Chynllun ymateb i’r adroddiad
adolygiad Ymarfer Plant Cyfiawnder, er mwyn i’r Pwyllgor hwn ei fonitro a mesur
y perfformiad.
· Holwyd am lwyddiant
ymgyrchoedd recriwtio gofalwyr maeth a gofynnwyd beth yw’r sefyllfa gyda’r
nifer o rieni maeth yng Ngwynedd yn bresennol. Mewn ymateb, manylwyd ar yr
ymgyrchoedd recriwtio gan nodi eu bod yn llwyddiannus wrth ddenu nifer cynyddol
o rieni maeth. Nodwyd bod oddeutu 70 o deuluoedd maeth yng Ngwynedd, ond nodwyd
bod y Cyngor yn parhau i wneud defnydd o’r asiantaethau allanol oherwydd y galw
cynyddol a pharhaus. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn gweithio yn rhanbarthol ac yn
cydweithio ar draws 6 sir Gogledd Cymru i ddarparu gofal maeth.
· Cydnabuwyd ei fod wedi
bod yn gyfnod heriol i’r Adran Plant a Theuluoedd a chydnabuwyd y pryderon am
sefydlogrwydd a rheolaeth yr adran. Diolchwyd i’r adran am eu gwaith caled i
sicrhau lles a diogelwch y plant. Mynegwyd bod y Cyngor yn gweithio i ddatblygu
sefyllfa sefydlog yn yr adran, gan nodi bod y gweithwyr yn derbyn cefnogaeth,
gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chwnsela yn gyson. Esboniwyd y byddai’r
Cabinet yn ystyried bid ariannol yn fuan er mwyn ymateb yn llawn i’r Adolygiad
Cynllun Plant.
PENDERFYNIAD
1. Derbyn yr adroddiad.
2. Gofyn i Gadeirydd y
Cyngor ystyried galw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn rhoi cyfle i
bob aelod drafod a chraffu’r Cynllun Ymateb i’r Adolygiad Ymarfer Plant
cyfiawnder trwy Ddewrder.
3. Gofyn i’r adran
ddatblygu mesuryddion newydd, yn dangos bod plant mewn gofal yn cael eu gweld
yn gyson gan staff y Cyngor ac un arall sy’n dangos cynnydd gyda Chynllun
ymateb i’r adroddiad adolygiad Ymarfer Plant Cyfiawnder.
Dogfennau ategol: