Er mwyn
craffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Adran.
Nodwyd fod yr adroddiad yn seiliedig ar berfformiad yr adran Oedolion hyd
ddiwedd mis Awst. Cydnabuwyd bod y data a’r ffigyrau bellach wedi dyddio ers
dyddiad gwreiddiol cyfarfod y pwyllgor hwn, oherwydd bod data'r maes yn newid
yn ddyddiol. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet ei fod yn adrodd ar y data sydd yn yr
adroddiad. Diolchodd yr Aelod Cabinet i holl staff yr adran gan ddiolch yn
arbennig i’r nifer fawr o staff bydd yn gweithio dros gyfnod y Nadolig.
Diolchwyd i’r amryw bartneriaid allweddol yr adran, y trydydd sector a’r
gwirfoddolwyr. Amlinellwyd prif brosiectau’r adran gan nodi bod yr adran yn
parhau i gyflawni er gwaethaf yr heriau lleol a chenedlaethol, gyda’r galw
cynyddol a’r capasiti cyfyngedig.
Tywyswyd yr
aelodau trwy’r adroddiad yn dangos sut mae’r adran yn gweithredu i gyflawni
addewidion Cynllun y Cyngor 2023-28. Rhoddwyd trosolwg o waith ddydd i ddydd yr
adran a rhannwyd gwybodaeth am yr archwiliadau allanol sydd wedi bod yn y
cyfnod dan sylw. Rhoddwyd trosolwg o effaith yr heriau a godwyd yn adroddiad
Llechen Lan, sy’n tynnu sylw at y pwysau ariannol a gweithredol yn y system
iechyd a gofal.
Manylwyd ar y prosiect o foderneiddio
adnoddau gofal i gwrdd ag anghenion y dyfodol. Nodwyd bod y gwaith o uwchraddio
cartrefi preswyl Hafod Mawddach a Cefn Rodyn wedi eu
cwblhau, a’r uned ddementia yn Bryn Blodau wedi ei agor. Nodwyd bod yr uned
dementia ar fin agor ym Mhlas Hedd a disgwylir cadarnhau dyddiad agor yn fuan.
Nodwyd bod trafodaethau yn datblygu o ran darpariaeth Tai Gofal Ychwanegol yng
Nghaernarfon, gyda’r safle wedi ei adnabod. Amlygwyd bod y cynllun busnes
amlinellol nesaf ar gyfer safle Penyberth wedi ei
gymeradwyo gan y Cabinet yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod y gwaith adeiladu wedi
dechrau ar ddatblygiad tai gyda gofal addas ar safle Penyberth,
gyda’r bwriad o fod yn barod erbyn Hydref 2026. Cadarnhawyd hefyd bod y gwaith
atgyweirio safle Dolfeurig yn mynd ymlaen a bod
datblygiadau sylweddol wedi bod dros y misoedd diwethaf. Ymhelaethwyd bod
adnodd wedi ei adnabod i gychwyn gwaith Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Dolgellau
a bod y gwaith wedi cychwyn.
Rhannwyd manylion am y defnydd cynyddol o
dechnoleg yn yr adran, i wella gallu trigolion Gwynedd i gael mynediad at
gefnogaeth gofal. Manylwyd ar y darpariaeth teleofal
ar wefan y Cyngor, sy’n galluogi i bobl Gwynedd weld beth sydd yn digwydd o
fewn eu cymunedau nhw. Mynegwyd bod dros 80% o ddyfeisiadau teleofal
y Sir wedi eu trosglwyddo i ddyfeisiadau newydd digidol, heb gost bellach i
drigolion y sir. Nodwyd fod hyn yn waith arloesol yn y maes ac yn cefnogi
unigolion i fod yn annibynnol. Cyfeiriwyd at y gwaith datblygu gwasanaeth
taliadau uniongyrchol syth yn parhau. Nodwyd bod pecynnau newydd yn cael cynnig
cyfrif digidol, gyfwerth a ‘waled rithiol; er mwyn gallu rheoli eu pecynnau
taliadau uniongyrchol yn haws.
Adroddwyd ar y datblygiadau sydd wedi bod
wrth i’r Cyngor cydweithio a Gwasanaethau Iechyd i alluogi pobl i fyw eu bywyd
gorau yn y gymuned. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl wedi’i sefydlu
a’r gweithlu wedi ei sefydlu yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon a
Penrhyndeudraeth. Nodwyd bydd y cynnydd yn cael ei fonitro dros y misoedd
nesaf. Manylwyd ar y cydweithio effeithiol sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Tîm
Rhyddhau Ysbyty Gwynedd a’r Timau Adnoddau Cymunedol. Canmolwyd y gwaith da a’r
cydweithio effeithiol rhwng yr asiantaethau. Rhannwyd gwybodaeth am waith y
Tîm, wrth iddynt flaenoriaethu sicrhau bod unigolion yn gadael yr ysbyty yn
brydlon, fel bod llai o siawns iddynt ddirywio ac yn sgil hynny cynydd yn eu hanghenion gofal. Eglurwyd bod hyn yn osgoi
gorddarpariaeth ac felly yn lleihau’r straen ar y gwasanaeth iechyd a
darpariaethau gofal.
Ymhelaethwyd ar y Llwybrau Gyrfaoedd ar gyfer
trigolion sydd ag anableddau dysgu. Manylwyd ar y datblygiadau, cyfleon
hyfforddi a gwaith sydd ar gael ar gyfer unigolion sydd angen cefnogaeth, gan
nodi bod Cydlynydd Llwybr Gyrfa Anabledd Dysgu yn gweithio ar draws Gwynedd a
Môn i hyrwyddo cyfleon a chefnogi unigolion i waith cyflogedig. Nodwyd bod 3
Swyddog cefnogol hefyd yn gweithio i hyrwyddo a chefnogi unigolion, a bod hyn
wedi bod yn llwyddiant ers cychwyn y prosiect yn 2023.
Ymhelaethwyd ar y cynnydd ym Mhrosiect
Llechen Lan. Nodwyd bod yr ymchwil ac adroddiad wedi ei gwblhau, gan adrodd bod
siroedd eraill yng Nghymru wedi dangos gryn ddiddordeb yn y canfyddiadau.
Pwysleisiwyd bod y gwaith yma wedi bod yn hanfodol bwysig er mwyn edrych ymlaen
at y dyfodol. Sicrhawyd bod gweithredu wedi cychwyn ar yr argymhellion yn yr
adroddiad Llechen Lan gyda sawl carreg filltir nodedig wedi ei chyrraedd erbyn
hyn. Nodwyd bydd yr argymhellion yn parhau i fod yn rhan o gynllun yr Adran Oedolion
a fydd yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf.
Amlygodd yr Aelod Cabinet ei fod yn parhau i
fod yn Gadeirydd y Bwrdd Rhanbarthol a phwysleisiodd bod y cydweithio da sydd
yn digwydd rhwng y siroedd a’r asiantaethau yn symud prosiectau ymlaen yn
gyflym ac yn llwyddiannus. Cyfeiriwyd at y gofalwyr di-dâl yng Ngwynedd a’u
gwaith diflino wrth ofalu am drigolion Gwynedd, a amlygwyd bod angen eu
cefnogi. Cadarnhawyd bod gwaith yn datblygu i gefnogi gofalwyr di dal.
Diolchwyd i’r adran am eu gwaith wrth gefnogi
trigolion mwyaf bregus y sir. Canmolwyd y datblygiadau, a chydnabuwyd yr heriau
sy’n wynebu’r adran oherwydd natur
heriol y maes iechyd a gofal. Diolchwyd am y gwaith datblygiadol ym Mhenros.
Mynegwyd pryder am y nifer sydd yn parhau i fod ar y rhestr aros am ofal
cartref yng Ngwynedd a’r prinder darpariaeth gwlâu nyrsio. Cydnabuwyd bod y
sefyllfa i weld yn waeth mewn rhai ardaloedd, ac eglurwyd bod hyn yn dueddol o
fod oherwydd natur newidiol gofal cartref. Adnabuwyd ardal Bethesda, Dyffryn
Nantlle, Tywyn a Phen Llyn fel ardaloedd o bryder. Cydnabuwyd bod hyn yn heriol
i’r adran a chadarnhawyd bod y rhestr aros wedi dod i lawr ers mis Awst.
Eglurwyd bod ffactorau prinder staff oherwydd salwch a dibyniaeth ar
ddarpariaeth allanol yn cyfrannu at hyn. Adroddwyd bod yr adran yn cydlynu ac
yn gweithredu er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn aros am ofal cartref.
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r ffigyrau asesiad Diogelu Rhag Amddiffyn
Rhyddid (DOLS) a'r rhestr aros am ofal cartref. Mewn ymateb i’r
pryderon, cadarnhawyd bod yr aelodau wedi derbyn hyfforddiant (DOLS). Nodwyd
bod 2 swyddog newydd wedi cael eu penodi i gefnogi’r gwaith o leihau’r rhestrau
aros yn yr adran. Eglurwyd bod recriwtio ar gyfer y swyddi wedi bod yn heriol,
a bu rhaid penodi unigolion gyda phrofiad yn y maes a oedd yn awyddus i gwblhau
hyfforddiant pellach. Cadarnhawyd eu bod wedi mynychu’r hyfforddiant priodol ac
yn agos i gwblhau’r cymhwyster. Cadarnhawyd bod y niferoedd ar y rhestr aros
wedi dod i lawr a’r gobeithir y byddent yn lleihau ymhellach erbyn cyfarfod
nesaf y pwyllgor.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod newid
ym mhrosesau taliadau uniongyrchol. Gofynnwyd beth yw’r rhwystrau sydd wedi ei
adnabod yn y defnydd o rhain. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y system yma bellach
yn cael ei redeg yn fewnol yn y Cyngor. Nodwyd bod gweithwyr cymdeithasol wedi
cael hyfforddiant i hyrwyddo’r taliadau uniongyrchol hyn, sydd wedi ei adnabod
yn yr adroddiad Llechen Lan fel y ffordd ymlaen. Pwysleisiwyd fod llais yr
unigolyn yn hollbwysig i hyn a bod y system newydd yn rhoi mwy o rym a rhyddid
iddynt ddewis eu gofal eu hunain mewn modd sy’n gyfleus iddynt hwy. Cadarnhawyd
bod y system yma ar gael i bobl sydd eisoes â phecyn gofal. Adnabuwyd y
rhwystrau sydd yn codi efo’r system newydd a chydnabuwyd bod angen darparu
cymorth i unigolion sydd heb gapasiti i weithredu’n
ariannol neu neb i weithredu ar eu rhan.
Canmolwyd hyblygrwydd ac ymroddiad staff wrth
gydnabod eu bod yn aml yn gweithio oriau ychwanegol, hir ac yn aml yn teithio
ar draws y sir i ddarparu gofal i driolion. Cymeradwywyd eu parodrwydd i
sicrhau nad oes wir argyfwng gofal yn y sir.
Cydnabuwyd bod y staff dan straen eithriadol a bod yr adran yn ceisio
ymateb i hyn wrth ddarparu a chynnig cefnogaeth gyson iddynt. Pwysleisiwyd bod denu a recriwtio staff yn her,
sydd yn golygu bod y Cyngor yn gorfod dibynnu ar staff asiantaethau allanol ar
adegau. Mynegwyd bod anghenion trigolion hefyd yn dwysau, sydd yn cynyddu’r
galw am ofal. Eglurwyd fod diogelu staff a phreswylwyr yn flaenoriaeth i’r
adran, a bod hyn yn rhan o’r gwaith wrth edrych ar gyflwr y cartrefi preswyl
a’u hadnewyddu pan mae angen.
Gyda’r cynnydd o weithwyr y Bwrdd Iechyd yn
defnyddio masgiau yn yr ysbytai i ddiogelu rhag heintiau gaeafol megis y norofeirws a’r ffliw, gofynnwyd os oes cynllun mewn lle i
ddiogelu staff? Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi derbyn neges gan y Bwrdd Iechyd
am weithwyr yn gwisgo mygydau yn yr ysbytai, ac esboniwyd nad oes galw am hyn
yn y gymuned eto, ond wrth gwrs, bod unigolion yn rhydd i ddewis i wneud beth
sydd yn addas iddynt hwy.
Manylwyd ar yr Academi Gofal a gafodd ei
lansio i fynd i’r afael a phrinder staff yn y sector gofal. Nodwyd ei fod yn
cynnig llwybr proffesiynol datblygiadol i unigolion sydd yn dymuno dilyn gyrfa
yn y maes gofal, wrth gynnig profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dan
arweiniad arbenigwyr. Nodwyd bydd criw newydd yn cael eu croesawu i’r academi
yn y flwyddyn newydd.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod
gweithwyr cymdeithasol bellach yn gweithio un diwrnod yr wythnos yn Ysbyty
Gwynedd. Nodwyd bod hyn yn rhoi cyfle iddynt weithio yn agos ac yn barhaus efo
cleifion, fel rhan o’r ymdrech ehangach i ryddhau cleifion o’r ysbytai yn gynt,
trwy’r prosiect Rhyddhau o’r Ysbyty. Eglurwyd bod hyn yn rhoi cyfle iddynt
ddatblygu perthynas agos efo’r cleifion ac yn gallu adnabod eu hanghenion yn
gynt. Nodwyd bod hyn yn caniatáu iddynt ddarparu’r cefnogaeth gymesur a
phriodol yn y gymuned ac yn lleihau’r
galw cynyddol ar yr ysbytai. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod
trafodaethau yn mynd ymlaen i ehangu’r prosiect er mwyn darparu cefnogi
trigolion Gwynedd sydd yn mynd i ysbytai Bronglais a Maelor yn y dyfodol.
Gofynnwyd am adroddiad cynnydd ar y protocol cwympo er mwyn cadarnhau bod
protocol mewn lle i ddiogelu trigolion Gwynedd.
PENDERFYNIAD
1. Derbyn yr adroddiad.
2. Cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud yn yr adran gan datgan pryder am
ffigyrau asesiad Diogelu Rhag Amddiffyn Rhyddid (DOLS)
a’r rhestr aros am ofal cartref.
3. Gofyn am adroddiad cynnydd ar y protocol cwympo.
Dogfennau ategol: