Er mwyn craffu ar faterion
perfformiad o fewn yr Adran.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad.
2. Gofyn i’r adran gyllid
ohebu gyda’r asiantaeth swyddfa brisio er mwyn cael rhestr o holl dai gwag yng
Ngwynedd.
3. Gofyn i’r aelod cabinet
anfon llythyr i’r llywodraeth yn datgan pryder am renti uchel yn y sector tai
preifat a phwyso arnynt i gyflwyno mesurau i sicrhau bod y rhestr yn
fforddiadwy a lleihau digartrefedd.
4. Annog yr Adran Tai ac
Eiddo i roi cyhoeddusrwydd i ddatblygiadau tai newydd arbenigol ar gyfer pobl
gyda anghenion penodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr aelod Cabinet Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Adran. Amlygwyd y byddai’r adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth o berfformiad yr adran o fis Ebrill i ddiwedd mis Medi 2025.
Eglurwyd y byddai yn adrodd ar y ffigyrau mwyaf diweddar er mwyn rhoi darlun
cywir i aelodau’r pwyllgor, gan fod y cyfarfod gwreiddiol wedi ei ohirio. Cywirwyd ystadegau y nifer o dai gwag sydd wedi dod nol i
ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor yng Ngwynedd, a’r nifer sydd wedi dod
nôl i ddefnydd trwy grant cartrefi gwag. Cyfeiriwyd at y mesuriadau gan nodi
mai 306 o dai sydd wedi dod nol i ddefnydd yn sgil cefnogaeth gan y Cyngor,
gyda 123 ohonynt trwy’r grantiau Cynllun Cartrefi Gwag. Nodwyd bod y ffigyrau
wedi cynyddu erbyn diwedd mis Tachwedd, i 321 o dai sydd wedi dod nôl i
ddefnydd a 128 trwy’r grantiau Cynllun Cartrefi Gwag, sydd yn adlewyrchu
llwyddiant mawr. Mynegwyd bod y Cynlluniau Tai Gwag yn parhau i fod yn
llwyddiannus, ac ar y rheng flaen yng Nghymru o ran dod a thai gwag nol i
ddefnydd ar gyfer perchnogion lleol.
Mynegwyd pryder
bod y system bresennol ar gyfer ceisiadau’r grantiau braidd yn fiwrocrataidd. Nodwyd bod llawer o bobl yn
disgwyl amser maith yn ystod y broses ac yn methu dechrau ar y gwaith sydd ei
angen cyn symud i fewn. Gofynnwyd a yw’n bosib diwygio elfennau o’r grant er
mwyn cyflymu’r broses? Awgrymwyd y dylid cyflwyno mesurydd ychwanegol i adnabod beth sydd yn cymryd cymaint o
amser. Nodwyd hefyd bod y cyfyngiad amser o 6 mis mae’r perchnogion yn cael i
wneud y gwaith yn annheg gan ystyried prysurdeb contractwyr, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig. Holwyd a yw’n bosib i bobl cael estyniad? Mewn ymateb, rhoddwyd manylion am
ddarpariaeth y grant gan nodi ei fod yn bwrpasol i ddarparu cymorth ariannol i
bobl adfer nodweddion hanfodol mewn tai er mwyn gwneud y tai yn gynnes ac yn
ddiogel. Oherwydd hyn, pwysleisiwyd ei fod yn anodd creu cynllun sydd yn addas
i bawb.
Manylwyd ar y
prosiectau sydd ar waith yn yr adran, i weithredu ar addewidion Cynllun y
Cyngor 2023-28. Adroddwyd ar y cynnydd llwyddiannus sydd wedi bod yn y flwyddyn
diwethaf, gan nodi bod yr adran ar y ffordd i gyflawni bob nod. Tywyswyd yr
Aelodau trwy’r adroddiad wrth diweddaru ar y cynnydd ymhob prosiect i wireddu
amcanion Cynllun y Cyngor;
Nodwyd bod Cynllun Tŷ Gwynedd yn gwneud
cynnydd da fel rhan o gynllun Gwynedd Glyd. Nodwyd bod datblygiad Dol Afon Goch
bron a chwblhau a’r broses osod wrthi’n mynd rhagddo. Mynegwyd bod datblygiad
hen safle Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor hefyd yn gwneud cynnydd da gyda’r
gwaith strwythurol ar y gweill. Nodwyd bod 433 o dai gymdeithasol wedi eu gosod
trwy’r rhaglen Adeiladu Tai Cymdeithasol a’r bartneriaeth gyda’r Cymdeithasau
Tai, sy’n dangos eu bod ar y ffordd i gyflawni’r targed o 500 erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Ymhelaethwyd ar datblygiadau’r Cynllun Prynu i Osod, gan
nodi eu bod wedi llwyddo i brynu 51 o dai hyd yma, ac wedi gosod 20 ohonynt i
bobl leol.
Manylwyd ar waith y Gwasanaeth Ynni gan nodi
bod y r tîm cefnogi trigolion, yn cynnig talebau i dalu am ynni. Cadarnhawyd
bod 5,788 o dalebau wedi eu dosbarthu ers dechrau’r cynllun, sydd yn werth
£239,565. Nodwyd bod y tîm yn brysur yn cynnal cynadleddau a digwyddiadau
hyrwyddo, ymweliadau cartref ac yn cyfeirio unigolion at gymorth ychwanegol
megis banciau bwyd, Age Cymru, CAB ayyb. Ymfalchïwyd
yng ngwaith y tîm wrth nodi hanfodrwydd y gwasanaeth
yn ystod tymor y gaeaf.
Rhoddwyd
gwybodaeth ar y gwaith sydd yn mynd rhagddi i fynd i’r afael â digartrefedd yng
Ngwynedd, gan nodi bod safle 137 Stryd Fawr Bangor bellach ar agor, gyda
unigolion wedi symud yno ym mis Awst a Medi 2025. Cadarnhawyd bod cwmni wedi’i
benodi i gwblhau gwaith mecanyddol a thrydanol ar hen Adeilad y Goron,
Penrallt. Cwblhawyd pryniant Tŷ Glyn ym Mangor a bydd yr adran yn ei
addasu yn briodol cyn anelu i’w agor yn ystod 2026. Nodwyd bod dyluniadau
uchelgeisiau adeilad Y Goron yng Nghaernarfon wedi cyrraedd bellach, a bod
gwaith yn mynd rhagddi i ddatblygu’r prosiect. Nodwyd bydd elfen cefnogol i
drigolion yn Tŷ Glyn, gyda gwasanaethau amrywiol yn dod i mewn i un lle
diogel ac addas iddynt. Nodwyd bod S4C wedi comisiynu cyfres yn dilyn gwaith y
tîm digartrefedd, sy’n tynnu sylw at y gwaith da mae’r tîm yn ei wneud. Nodwyd
bod y tîm eto eleni wedi codi arian er mwyn rhoi anrhegion Nadolig i blant sydd
yn byw mewn llety argyfwng, a bod yr adran yn ymfalchïo yn haelioni, ymroddiad
ac effeithlonrwydd y tîm wrth gefnogi trigolion Gwynedd ddod o hyd i lety.
Mynegwyd pryder bod llawer o bobl yng
Ngwynedd yn parhau i ddisgwyl am dŷ yng Ngwynedd, a cydnabuwyd bod yr
angen yn heriol i’w gyfarch. Cadarnhawyd bod yr adran yn gweithredu ar hyn i
ddod a’r niferoedd i lawr, a lansio portal yn y flwyddyn newydd i drigolion allu tracio eu
ceisiadau a derbyn diweddariadau. Ymhelaethwyd bydd modd iddynt rannu
gwybodaeth perthnasol yn uniongyrchol â’r portal, a
fydd yn cyflymu’r broses o brosesu eu ceisiadau. Ychwanegwyd bydd modd derbyn
ystadegau cyfredol trwy’r portal, a fydd yn darparu
diweddariadau cyson a thryloyw i drigolion ar y rhestr aros. Nodwyd bod
datblygiadau ar waith i ychwanegu nodwedd sy’n cynorthwyo Cynghorwyr i siarad
yn uniongyrchol ar ran eu etholwyr.
Gofynnwyd beth
yw’r gwariant ar y prosiect Tŷ Gwynedd, i gymharu a phrosiectau eraill
megis gosod Tai Cymdeithasol. Amlygwyd bod y prosiectau yn mynd i’r afael ag
anghenion gwahanol ac yn darparu buddion amrywiol i drigolion mewn sefyllfaoedd
gwahanol. Amlinellwyd pwrpas a phriodweddau’r prosiectau, wrth gymharu eu
gwahaniaethau. Nodwyd bod prosiect Tŷ Gwynedd yn rhoi cymorth i drigolion
sydd yn awyddus i berchnogi tŷ, ac felly mae’r Cyngor yn darparu cymorth
ariannol iddynt wneud hynny trwy ddisgownt. Cyfeiriwyd at Tai Gwynedd sydd yn cael eu datblygu yn
Llanberis, gan nodi y byddent yn darparu aelwyd i 3 teulu lleol sydd eisoes
wedi eu hadnabod. Eglurwyd bod canran grant sylweddol yn cael ei roi ar gyfer
datblygu Tai Cymdeithasol. Cydnabuwyd bod y gost o ddatblygu Tai Gwynedd yn
fwy, ond atgyfnerthwyd ei fod at bwrpas gwahanol. Cydnabuwyd y pwysau sydd ar y
Cyngor o ganlyniad i brisiau rhentu uchel gan landlordiaid yn y sector preifat.
Nodwyd bod yr
Adran yn edrych ar y Cynllun Gweithredu Tai yn ei gyfanrwydd er mwyn datblygu a
gwella’r cynllun yn raddol. Cyfeiriwyd at y codiad yn y premiwm treth, a
mynegodd aelod bryder yn sgil y codiad o 150%. Mynegwyd pryder ynghylch tai
gwag yng Ngwynedd, yn enwedig tai sydd wedi bod yn wag ers amser maith. Mewn
ymateb, eglurwyd mai mater i’r Adran Gyllid yw hyn gan mai nhw sydd yn delio
a’r gofrestr. Cydnabuwyd bod y broblem hyn yn heriol, a nodwyd ei fod yn fater
gwleidyddol i rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan er mwyn mynd i’r afael a’r
diffyg gwybodaeth yn y system.
Holwyd faint o
dai gwag sydd wedi eu prynu gan y Cyngor sydd yn parhau i fod yn wag? Mewn
ymateb i hyn, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet bod y ffigyrau wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad. Cadarnhawyd mai 28 tŷ sydd heb gael eu gosod ar hyn o’r bryd a
bod 5 o rhain yn barod i’w gosod. Nodwyd bod 15 o dai wrthi yn cael eu
atgyweirio ar hyn or bryd, a bod rhaglenni gwaith yn cael eu datblygu ar gyfer
yr 8 tŷ arall.
Rhoddwyd
manylion ar y sesiynau ‘drop in’ a’r Siop un Stop, sydd yn darparu cymorth ar gyfer
ystod o drigolion gwahanol. Nodwyd eu bod yn cael eu cynnal yn ystod ac ar ôl
oriau gwaith arferol, er mwyn darparu’r gwasanaeth i bobl ar amser cyfleus.
Mynegwyd eu bod yn llwyddo i gyrraedd nifer fawr o bobl. Gofynnwyd faint o bobl
sydd yn mynychu’r sesiynau, ac os yw’r rhan helaeth yn gweithio neu ar budd
daliadau? Cadarnhawyd y byddai’r adran
yn casglu ac yn rhannu’r ffigyrau efo aelodau’r pwyllgor yn fuan.
Mewn ymateb i
ymholiad, manylwyd ar y grŵp tai arbenigol sydd yn darparu aelwyd ar gyfer
trigolion ag anghenion ychwanegol. Nodwyd bod swyddogion a therapyddion
galwedigaethol yn cydweithio i ddatblygu nodweddion a darpariaethau pwrpasol yn
y tai i gyfarch anghenion unigryw. Nodwyd bod y prosiect trawsadrannol wedi bod
yn llwyddiannus iawn, a bod y
cymdeithasau tai wedi cyfrannu yn sylweddol ato ac yn rhannu’r baich. Nodwyd
bod hyn yn eithaf unigryw i Wynedd er mwyn cyfarch yr angen. Awgrymwyd y dyldi rhoi mwy o
sylw i’r datblygiadau hyn, ac y dylid ffurfio datganiad ir wasg i hysbysebu’r
cyhoedd am y gwaith arloesol sydd yn mynd ymlaen gan yr adran.
PENDERFYNIAD
Dogfennau ategol: