I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cais am amserlen i drefniadau ail strwythuro Adran Priffyrdd
ac Adran Amgylchedd (erbyn cyfarfod Ionawr 2026)
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor
graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau. Eglurwyd bod yr adroddiad yn
manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r
rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Yn dilyn adolygiad diwedd Awst nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu
gorwariant o £6.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor, gyda 75% ohono yn y maes gofal
oedolion a phlant. Eglurwyd, yn dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd
blaenorol, bod gorwariant sylweddol hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a
bwrdeistrefol, ond tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod
hynny yn lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.5 miliwn.
Tynnwyd sylw at y prif faterion:
·
Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant – rhagolygon diweddaraf yn
awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg
cyllidebol o £3.1m erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian
parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion
a thoriadau, heb eu cyflawni hyd yma.
Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw
am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal
preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal
cartref hefyd yn parhau.
·
Adran Plant a Theuluoedd
- yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.5 miliwn, a hynny yn dilyn rhoi dros £2
filiwn o fidiau i’r adran ar gyfer 2025/26. Y prif feysydd sydd yn wynebu
pwysau yw lleoliadau all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth
Derwen a Hafan y Sêr.
·
Byw’n Iach – dros y
blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan
y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu
gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol
yn £219k
·
Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £522k, gwelwyd lleihad yn y
gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn
cael effaith negyddol ar incwm
gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, gwelir cyfuniad o
ffactorau, sy’n cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd
a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal tiroedd a
thoiledau cyhoeddus.
·
Adran Amgylchedd – bod diffyg cyllidebol o
£740k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes
casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £662k o’r gorwariant.
Tynnwyd sylw at ystyriaethau ar sut i ariannu costau diogelu adeilad
Gwesty’r Corbett Arms yn
Nhywyn (adeilad rhestredig Gradd II), sydd wedi bod yn destun pryder i Gyngor
Gwynedd a'r gymuned leol ers blynyddoedd gan ei fod mewn cyflwr strwythurol
peryglus. Golygai hyn fod y Cyngor wedi gorfod gweithredu er mwyn amddiffyn a
diogelu'r cyhoedd a’r gost derfynol posib i fod rhywle rhwng £1m a £1.5m. Bydd
adroddiad i’w gyflwyno maes o law i ystyried opsiynau cyfarch y gost.
·
Tai ac Eiddo – tuedd o
bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda rhagolygon
gwariant o £6.7 miliwn yn y maes eleni, o gymharu â £6 miliwn y llynedd. Y
sefyllfa ariannol yn cynnwys cyllideb ychwanegol o £3m sydd wedi ei ddyrannu o
bremiwm treth cyngor a chyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r
drefn bidiau i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol. Rhagwelir y bydd yr adran
yn ei gyfanrwydd yn gorwario £167k.
·
Corfforaethol –
tanwariant o £3.8 miliwn ar nifer o benawdau corfforaethol.
Diolchwyd am yr
adroddiad:
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod cynnydd mewn defnydd cartrefi preifat gan fod
gwasanaethau gofal preswyl mewnol yn wynebu heriau staffio - a yw hyn yn enghraifft lle gwelir bod
cyflawni arbedion wedi methu?
·
Derbyn bod galw cynyddol
ar wasanaethau cymdeithasol yn arwain at orwariant, ond beth yw rhesymau’r
Adran Priffyrdd a’r Adran Amgylchedd? Os oes awgrym i ail strwythuro’r adrannau
hyn mewn ymateb, rhaid cael amserlen ffurfiol ar gyfer y gwaith fel bod modd
adolygu’r gyllideb yn well
·
Bod y sefyllfa yn un
heriol ac yn newid yn barhaus – galw cynyddol yn creu sefyllfaoedd newydd.
·
Bod angen cadw golwg ar
y sefyllfa
Mewn ymateb i gwestiwn am
sefyllfa ddiweddaraf Gwesty’r Corbett Arms yn Nhywyn, nododd y Pennaeth Cyllid bod y sefyllfa yn
un ddyrys gan nad y Cyngor yw perchennog y
gwesty. Cyfrifoldeb perchennog
adeilad yw sicrhau bod yr adeilad yn cael ei
gynnal i’r safon angenrheidiol, ond er ymdrechion i gysylltu gyda’r
perchennog, bu rhaid i’r Cyngor, oherwydd dyletswydd statudol i amddiffyn
iechyd a diogelwch y cyhoedd,
gamu i mewn i ddiogelu'r adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi parhau i
ddirywio a bellach mewn cyflwr strwythurol peryglus. Nodwyd bod hyn yn
gostus ac annisgwyl ac y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal i ystyried
opsiynau posib i gyfarch y gost.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2025 o’r
Gyllideb Refeniw
·
Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau
pob adran / gwasanaeth.
Nodyn:
Cais am amserlen i drefniadau ail strwythuro Adran
Priffyrdd ac Adran Amgylchedd (erbyn cyfarfod Ionawr 2026)
Dogfennau ategol: