I dderbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi gweithrediadau sydd mewn lle gan yr adran.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod:
Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y
Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cynorthwyol Cyllid - Cynaliadwyedd a Datblygiadau,
yn amlinellu hyd a maint y ddyled o gasglu trethi a sut mae’r Cyngor yn
gweithredu i gyfarch y sefyllfa. Eglurwyd bod cyfraddau casglu Treth Cyngor (o
fewn y flwyddyn) yng Ngwynedd yr isaf yng Nghymru yn 2024/25, gyda 92.9% o’r
dyledion wedi eu casglu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol -hynny yn cyfateb i
£8.2miliwn o drethi yn ddyledus.
Cyfeiriwyd at y cyfraddau casglu ar y mathau gwahanol o gyfrifon ar
gyfer 2024/25 ynghyd a gwerth y dyledion oedd heb eu casglu fesul categori.
Ymddengys o’r data bod premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag yn effeithio
cyfraddau casglu cyffredinol, gyda’r dyledion ar gyfrifon sy’n cynnwys premiwm
yn ogystal â’r dreth sylfaenol yn £3.9m (£3.1m ar ail gartrefi a £0.8m eiddo
gwag) a'r dyledion ar gyfrifon Treth Cyngor sylfaenol yn unig, yn £4.3m. Nodwyd bod cyfradd casglu o 95.09% ar y
cyfrifon gyda Threth Cyngor sylfaenol yn unig, sydd yn 2.16% yn uwch na’r
cyfartaledd o 92.93% ar draws pob categori.
Amlygwyd bod gweinyddu’r
Premiwm hefyd yn rhoi pwysau difrifol ar allu’r Gwasanaeth Trethi i gyflawni ei
waith gan gynrychioli cyfran enfawr o’r ymholiadau sydd rhaid i’r gwasanaeth
ddeilio â hwy ynghyd a gwendidau yn y Gwasanaeth sydd wedi cyfrannu at y
dirywiad yn y gyfradd casglu sy’n cynnwys:-
·
Ôl-groniad e-byst.
·
Oediad wrth anfon nodiadau
atgoffa yn ystod y flwyddyn.
·
Oediad cyn bod achosion yn cael
eu trosglwyddo i gwmni gorfodaeth.
·
Lefel yr adnoddau yn y Tîm
Adennill.
Adroddwyd bod camau allweddol wedi eu cymryd ac yn parhau i’w cael eu
rhoi mewn lle i gryfhau’r trefniadau adennill. Nodwyd bod cynllun gweithredu
manwl wedi ei baratoi a staff
(trefniadau mewnol a thrwy asiantaeth trethi profiadol) wedi eu penodi i
gwblhau’r gwaith. Yn ogystal, rhoddwyd amserlen fanwl mewn lle ar gyfer anfon
nodiadau atgoffa yn 2025/26, adolygwyd trefniadau dirprwyo fel bod swyddogion
ar gael i weithredu yn ystod absenoldeb swyddogion allweddol ac fe adolygwyd
strwythurau adennill yr Adran Cyllid.
Ategwyd bod newid yn y ddeddfwriaeth, lle mae gofyn i lety hunan-ddarpar
yng Nghymru fod ar gael am 252 diwrnod a’i osod am 182 diwrnod y flwyddyn er
mwyn cael eu cynnwys ar y rhestr ardrethi annomestig, wedi effeithio ar y
cyfraddau casglu. Yn 2024/25, trosglwyddwyd 692 o eiddo yn ôl i Dreth
Cyngor gyda 558 ohonynt wedi dychwelyd yn ystod
ail hanner o’r flwyddyn. Nodwyd
bod nifer ohonynt yn debygol o fod yn trosglwyddo o’r rhestr ardrethi
annomestig lle nad oedd trethi yn daladwy, i fand Treth Cyngor lle'r oedd angen
iddynt dalu'r dreth cyngor sylfaenol, a 150% o bremiwm treth cyngor; roeddent hefyd yn geisiadau oedd yn cael eu
hôl-ddyddio (rhai ohonynt yn ôl i Ebrill 2023) ac o ganlyniad, roedd y biliau
yn sylweddol ac felly’n parhau heb eu talu ar ddiwedd Mawrth 2025. Yn
ychwanegol, erbyn diwedd Medi 2025, roedd 395 o eiddo pellach wedi trosglwyddo
i fand Treth Cyngor o’i gymharu â 134 yn yr un cyfnod y llynedd. Ategwyd bod
ymgynghoriad ar y mater gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a gall canlyniad yr
ymgynghoriad arwain at newidiadau pellach i’r rheolau yn y dyfodol.
Yng nghyd-destun y sefyllfa gyfredol, nodwyd hyd yma yn 2025/26, bod
2,018 o orchmynion dyled, gwerth £4.7m wedi eu derbyn gyda chais pellach i’r
Llys ar 26 Tachwedd 2025, am 939 o orchmynion dyled, gwerth £2.3m. Y flaenoriaeth gyda’r gorchmynion eleni yw
sicrhau nad oes unrhyw oediad cyn i’r achosion gael eu cyflwyno i’r cwmni
gorfodaeth a hynny er mwyn uchafu’r trethi fydd yn cael eu casglu yn ystod y
flwyddyn.
Diolchwyd am yr adroddiad ac am
ymateb i’r cais am y wybodaeth
Materion yn codi o’r drafodaeth
ddilynol:
·
A fyddai mabwysiadu Polisi Eithrio yn gwneud y sefyllfa yn gliriach yn
hytrach na Pholisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran
13A(1)(c)? Beth yw ’priodoldeb’ absenoldeb polisi eithrio?
·
Dim amheuaeth dros ddefnydd Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan
Adran 13A(1)(c), ond beth yw’r amserlen?
·
Angen ystyried modelu effaith polisi eithrio posib ar berfformiad
cyffredinol yr Adran Gyllid.
·
Beth yw sgil
effeithiau’r sefyllfa ar dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio canol trefi? Rhaid
cydlynu amcanion yr Awdurdod
·
A ddylai’r Cyngor fod wedi rhagweld y sefyllfa o ystyried cynnydd mewn
premiwm ail gartrefi a chartrefi gwag?
·
Bod £7m o ddyled yma – oes
camau pellach i wella’r sefyllfa a lleihau’r ffigwr mewn lle ?
·
Bod rhaid cau’r bylchau (loop holes) yn
nhrefniadau casglu premiwm
·
Nid yw salwch ac oediad yn rhesymau digonol ar gyfer methu gweithredu.
Esgusodion fel hyn yn gwneud i’r Cyngor fod yn agored i feirniadaeth.
·
Biliau ôl-weithredol yn bryder ac yn creu poen meddwl i nifer. Costau
allan o’u cyrraedd.
·
A yw’r Polisi yn cyfarch sefyllfa
perchnogion unedau gwyliau sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu biliau treth
yn sgil cynyddu’r trothwy gosod?
·
Oediad gan Swyddfa’r Prisiwr yn creu ôl-groniad o waith
·
Bod rhaid gweithredu’r polisi
yn effeithiol – hyn yn ddyledus i drethdalwyr
·
A oes ystyriaeth wedi ei roi i
godi premiwm eiddo gwag i 150%?
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod ac i gwestiynau pellach, nodwyd:
·
ynglŷn â strwythur
staffio’r gwasanaeth, arbenigedd staff a dibyniaeth y gwasanaeth ar staff
asiantaeth, bod gwaith wedi ei gwblhau i
gynllunio’r gweithlu i’r dyfodol. Eglurwyd bod staff asiantaeth trethi profiadol
wedi eu penodi dros dro i gynorthwyo gyda’r ôl-groniad gwaith a gwelwyd budd
mawr o’u profiadau, nid yn unig yn y maes gweinyddol trethi, ond mewn meysydd
arbenigol o adennill a defnydd systemau perthnasol. Er yn derbyn nad ydynt yn
gallu’r Gymraeg, nid oeddynt â chysylltiad gyda’r cyhoedd - staff y Cyngor fydd
yn ymdrin â’r elfen yma. Ategwyd bod myfyriwr wedi cwblhau un darn o waith
gweinyddol penodol yn ymwneud a chywiro enwau a hynny i ryddhau amser staff
arbenigol. Yn ychwanegol, penodwyd dau Swyddog Adennill Cynorthwyol,
Hyfforddai. Proffesiynol Trethi a Budd-daliadau ynghyd â Phrentis Trethi.
·
o ran priodoldeb
absenoldeb polisi eithrio, bod y Cyngor yn dilyn canllawiau clir ac yn
cydymffurfio gyda’r Ddeddf a chyfarwyddyd Asiantaeth Swyddfa’r Prisiwr.
Adroddwyd bod pob bil sydd yn cael ei weithredu yn cael ei weithredu yn
gyfreithiol; bod y Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c) yn rhoi
grym i’r Aelod Cabinet Cyllid, Pennaeth Cyllid, Pennaeth Cynorthwyol -
Cynaliadwyedd a Datblygiadau a’r Rheolwr Trethi i edrych ac adolygu achosion penodol, achosion caledi neu / a
biliau cyfredol - y Cabinet yn unig oedd gyda’r grym cyn cymeradwyo’r polisi;
bod rhestru ‘materion penodol’ yn cael ei weld fel risg, ac atgoffwyd yr
Aelodau y gall unrhyw drethdalwr wneud apêl drwy dribiwnlys os nad yn cytuno
gyda’r swm. Bydd diweddariad ar
weithredu’r Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c) yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn Ionawr 2026.
·
bod gwaith modelu wedi
ei gwblhau ac er derbyn bod cyflwyno premiwm wedi rhoi pwysau difrifol ar y
gwasanaeth trethi, bod y dreth wedi codi am reswm dilys mewn ymateb i’r
argyfwng tai yn y Sir.
·
ynglŷn â nifer y
dyledion oedd yn cael eu dileu ac os oedd meini prawf ar gyfer gweithredu hyn,
yn hanesyddol bod 98.5% i 99% yn cael eu casglu ac oddeutu £1miliwn -
£1.5miliwm wedi ei ddileu. Gyda’r lefel
treth yn debygol o gynyddu, amser a ddengys os bydd y ffigwr yma hefyd yn
cynyddu. Mewn ymateb i gwestiwn ategol pam na weithredwyd ar y mater o ddiffyg
staff yn gynt, nodwyd bod pob gwasanaeth wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd
yn y gobaith o geisio parhau gwasanaeth ar lai. Gyda newid mewn deddfwriaeth
lle mae gofyn i lety hunan-ddarpar yng Nghymru fod ar gael am 252 diwrnod a’i
osod am 182 diwrnod y flwyddyn, bu i ofynion y gwasanaeth gynyddu yn sylweddol
mewn cyfnod byr iawn.
·
bod oediad gan Swyddfa’r
Prisiwr yn creu ôl-groniad o waith ac y gall asesiadau gymryd hyd at flwyddyn sydd
yn cael effaith ar y trethdalwr. Amlygwyd bod Y Swyddfa Brisio yn rhan o gyllid
y Wlad a'r gwasanaeth wedi ei rannu rhwng Cymru a Lloegr heb adnodd penodol i
Wynedd - bod pwynt cyswllt Gwynedd yn delio gyda 44 sir arall.
·
mewn ymateb i weithredu
i wella’r sefyllfa, nodwyd bod cyfathrebu gyda threthdalwyr yn flaenoriaeth i’r
gwasanaeth sy’n cymryd pob cyfle i annog trethdalwyr i ddod at y Cyngor i
drafod eu sefyllfa. Ategwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i roi cymorth a chefnogaeth
gyda chyfeiriadau hefyd i’r CAB am gymorth pellach; bod tri rhybudd a gwŷs
yn y camau prosesu, gyda’r trethdalwr yn cael cyfle ar bob cam i drafod, ynghyd
â threfniant arbennig cyn gweithredu camau gorfodol. Pan fydd cwmni gorfodaeth
yn cael eu tynnu mewn i’r broses bydd y trethdalwr yn derbyn llythyr ymlaen
llaw o’r trefniadau. Pan fydd y drefn gorfodaeth wedi methu, bydd opsiynau
posib yn cael eu hystyried - gorchymyn tâl neu orfodi gwerthiant eiddo (er yn
ceisio osgoi hyn).
Mewn ymateb i gwestiwn
ategol ynglŷn â rhoi pwysau i werthu tai gwag, nodwyd y byddai hyn yn
golygu byddai’r tai yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored ac felly’n
annhebygol o gael eu prynu gan berson lleol.
·
bod costau llys a’r ffioedd casglu yn daladwy gan y trethdalwr
·
bod y Cyngor yn derbyn cyfraniad tuag at gostau casglu treth.
Eglurwyd bod gweinyddu’r Premiwm yn rhoi pwysau difrifol ar allu’r Gwasanaeth
Trethi i gyflawni ei waith a phan sefydlwyd y premiwm, derbyniwyd cyllideb o
£52,600 i ariannu dwy swydd, a cheisiwyd am arian ychwanegol o £114,750 yn
2024/25 ar gyfer ariannu swydd ychwanegol ac
uwchraddiad swyddi o fewn y gwasanaeth yn dilyn arfarniad. Ategwyd bod
angen gwneud bid cryfach gan y byddai modd casglu mwy gyda mwy o staff. Mewn ymateb awgrymwyd a fyddai modd defnyddio premiwm
eiddo gwag a phremiwm ail gartrefi i dalu cyflogau staff sy’n gweinyddu’r
premiwm, yn hytrach nag o gyllideb yr Adran Gyllid.
·
ynglŷn â’r her gan
Aelod i wahaniaethau mewn datganiadau, bod canllawiau’r Llywodraeth yn nodi
‘dylai Awdurdodau Lleol ddelio a materion yn ôl rhinweddau eu hunain’, ond bod
y Cyngor yn nodi gan mai’r Swyddfa Prisio sy’n gosod eiddo mewn categori, ‘bod
y sefyllfa allan o’u dwylo’, ac os yw datgan ‘allan o’u dwylo’ yn realistig,
bod y Cyngor yn derbyn gorchmynion pendant gan y Swyddfa Brisio a bod y Cyngor
yn gweithredu ar hynny. Rhoddwyd eglurhad pellach o’r pwynt yma, sef mai
Swyddfa’r Prisiwr fydd yn penderfynu os yw
eiddo yn eiddo treth cyngor neu’n eiddo treth busnes ac nad oes gan y
Cyngor unrhyw fodd gyfreithiol o newid hyn. Y Swyddfa Brisio fydd hefyd yn
gosod dyddiad y newid a rhaid i’r gwasanaeth trethi weithredu o’r diwrnod
hwnnw. Yng nghyd-destun premiwm treth cyngor, y Cyngor fydd yn ystyried os yw’r
premiwm yn briodol, ac os oes cyfawnhad dros
ostyngiad dewisol yn unol â’r Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c)
sydd wedi cael ei gymeradwyo. O ran y gwahaniaethau yn y datganiadau, bod modd
edrych i mewn i hyn.
Nodyn:
·
Ystyried sgil effeithiau’r sefyllfa ar dwristiaeth
gynaliadwy ac adfywio canol trefi
·
Modelu effaith polisi eithrio posib ar berfformiad cyffredinol yr
Adran Gyllid
Dogfennau ategol: