Agenda item

Cyflwyno –

 

·        Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad;

·        Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru

·        Llythyr Sylwadau (Atodiad 4 ISA260 Archwilio Cymru)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
  • Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25 (ôl-archwiliad)
  • Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr

Cynrychiolaeth yn electroneg

  • Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod
  • Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio da

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol ar archwiliad Gwynedd ar gyfer 2024/25 eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Medi lle trafodwyd y Datganiad mewn manylder gan dynnu sylw at y prif faterion a’r nodiadau perthnasol. Ategwyd  bod cyfrifon yr Harbyrau hefyd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mai a braf oedd adrodd nad oedd unrhyw addasiadau yn deillio o’r Archwiliad, ac felly nid oedd angen eu hail gyflwyno.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin ac mai barn ddiamod a roddwyd ar y cyfrifon gan yr Archwilwyr gyda chyfuniad o addasiadau ac argymhellion yn dilyn archwiliad wedi eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at y pedwar camddatganiad oedd heb eu cywiro, gan nodi nad oeddynt yn cael eu hystyried fel rhai materol, ond ble’n berthnasol, byddant yn cael eu cywiro fel rhan o gyfrifon 2025/26.

 

·        Nodyn 15: Eiddo Offer a Chyfarpar :

1.     Mater categoreiddio, sef bod eitem o wariant cyfalaf wedi ariannu o Gronfa Ffyniant a Rennir y Deyrnas Unedig (UK Shared Prosperity Fund (UKSPF), wedi ei gategoreiddio yn anghywir a’i drin fel ychwanegiad i’r fantolen yn hytrach na fel gwariant refeniw a ariannwyd o gyfalaf trwy statud. Cadarnhawyd nad oedd yr arian yn cael ei gwestiynu.

 

2.     Yn ymwneud â mater technegol sydd yn ymwneud â thriniaeth cyfalaf

3.     Bod gwall yn nhaflen waith prisiad Cyngor Gwynedd wedi arwain at anghysondebau rhwng taflenni prisiad y Prisiwr a’r ffigyrau a ddefnyddiwyd i ddiweddaru’r gofrestr.

Bydd y rhain yn derbyn sylw priodol erbyn cyfrifon 2025-26.

 

·        Nodyn 21: Credydwyr  - mater yn ymwneud a thriniaeth balans grant ac yn cael ei gywiro ar gyfer cyfrifon 2025-26.

·        Nodyn 17a Offerynnau Ariannol a Nodyn 35 Prydlesau SAARh 16 - materion sy’n gysylltiedig â’i gilydd lle'r oedd gofyniad newydd ar gynghorau yn 2024/25 yn ymwneud â phrydlesu. Dyma’r flwyddyn gyntaf o ran triniaeth cyfrifo am brydlesau, ac felly'r materion i gael sylw ar gyfer cyfrifon 2025-2026

 

Wrth drafod addasiadau i’r Datganiad o’r Cyfrifon sydd wedi eu newid, tynnwyd sylw at,

 

·        Nodyn 19  - Arian a Chywerthoedd Arian a'r categoreiddio ar 31 o Fawrth, sy’n ymwneud a chyfarwyddyd talu i’r banc ar ddiwrnod olaf y flwyddyn a’i driniaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad yr Archwilwyr, mae canllawiau CIPFA yn gyfyngedig ar gyfer y senario penodol yma a’r newid wedi effeithio’r fantolen a’r datganiad llif arian.

·        Nodyn 21 - Credydwyr. Tynnwyd sylw at newid mewn categoreiddio credydwyr rhwng tymor hir a thymor byr ar gyfer 2024/25 a’r flwyddyn flaenorol, ynghyd a chywiro cam-ddosbarthu credydwyr o fewn Dyledwyr ac ychwanegiad geiriad yn Nodyn 18a Dyledwyr

·        Nodyn 35 Prydlesu SAARh 16  - oherwydd gofynion newydd yn ymwneud â llesu, y fformat wedi ei addasu i gydymffurfio gyda holl ofynion CIPFA

·        Nodyn 38 Costau Pensiwn - nodyn wedi ei symleiddio ynghyd â gwella eglurder nodyn Partïon Cysylltiedig.

 

Ategwyd nad oedd yr addasiadau yn effeithio’r Datganiad Incwm a Gwariant na’r datganiad o’r symudiadau mewn reserfau, ac yng nghyd-destun y fantolen, addasiadau rhwng gwahanol benawdau ar y Fantolen oedd wedi eu gweithredu yn hytrach na newid y llinell waelod. Er hynny, nodwyd bod addasiad i’r datganiad llif arian.

 

Croesawyd Yvonne Thomas, Sioned Owen a Siwan Glyn o Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno eu hadroddiad ar yr Archwiliad o’r Cyfrifon. Nodwyd bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn ddiamod ar gyfrifon 2024/25 gan ategu bod y cyfrifon yn rhoi darlun gwir a theg o’r sefyllfa ac yn cydymffurfio ag arferion priodol.  Ategwyd bod y camau gweithdrefn bellach wedi eu cwblhau ac nad oedd materion ychwanegol. Er nad oedd sicrwydd cyflawn, nodwyd bod yr Archwilwyr yn gweithio ar lefel sicrwydd materol gyda lefel perthnasedd 2024/25 o £6.385 miliwn, ac wedi gweithredu yn annibynnol dros gyfnod yr archwiliad. Diolchwyd i swyddogion cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth yn ystod y broses ac am y cydweithio da.

 

Tynnwyd sylw at fformat newydd yr adroddiad a’r crynodeb allweddol sy’n haws i’r darllenydd ei ddeall ynghyd a chanlyniadau'r risgiau a archwiliwyd. Nodwyd, oherwydd y nifer camddatganiadau a’r ymholiadau pellach y byddai hyn yn cael effaith ar y ffi terfynol. Amlygwyd bod Archwilio Cymru wedi gosod uchelgais o addasu’r amserlen ar gyfer cwblhau archwiliadau cyfrifon erbyn Medi 2026. Cydnabuwyd bod yr amserlen yn uchelgeisiol ond bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod hyn yn gyraeddadwy - ategwyd mai dyma’r amserlen oedd mewn lle cyn covid 19.

 

Diolchwyd am yr adroddiadau.

 

Llongyfarchwyd Swyddogion Cyllid y Cyngor am baratoi’r holl wybodaeth ac i Archwilio Cymru am eu cefnogaeth. Y gwaith yn safonol a'r canfyddiad bod y cyfrifon yn rhoi ‘darlun clir a theg’ yn adlewyrchu hynny.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yn unol â’r rhagolygon, y bwriad oedd defnyddio arian wrth gefn, ond bellach gwelir bod cynnydd net o £9.0m yn y cronfeydd / reserfau. Newyddion da, ond a oedd y manylion hyn ar gael wrth osod y dreth neu a dderbyniwyd ffigwr setliad gwell?

·        Derbyn bod gosod cyllideb gyda rhagolygon yn anodd, ond rhaid sicrhau bod y cyhoedd a’r Cynghorwyr yn cael darlun clir o’r sefyllfa yn enwedig wrth ymgynghori ar osod treth Cyngor

·        Cynnydd o £4m yng nghronfeydd Priffyrdd? Cafodd hyn ei ragweld?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau mai darlun un diwrnod oedd yma (31/3/25) a bod nifer o grantiau hwyr wedi eu derbyn yn golygu nad oedd angen defnyddio cronfeydd wrth gefn. Er ymddengys swm sylweddol yn y gronfa wrth gefn, mai isel yw’r swm mewn cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol, ac er defnydd achlysurol ohono i gau bwlch ariannol, bod y gronfa yn cael ei hadolygu’n barhaus ar sut i’w chryfhau. Cyfeiriodd at adolygiad diweddar gan Archwilio Cymru, lle daethpwyd i’r casgliad, er bod lle i ffurfioli cronfeydd wrth gefn y Cyngor, bod gan y Cyngor ddefnydd positif o’r weinyddiaeth dros y cronfeydd hyn.

 

O ran cyflwyno gwybodaeth glir a chywir i’r cyhoedd, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn ceisio hyn bob amser, a’i fod, hyd eithaf ei allu fel Swyddog 151, yn arwyddo bod y cyfrifon yn gywir. Ategodd ym mis Ionawr 2026 bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i adolygu’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer gosod cyllideb 26/27. Amlygodd y bydd yn ffigyrau yn debygol o amrywio, ond bod popeth yn cael ei wirio a’i fantoli wrth osod cyllideb.

 

Mewn ymateb i sylw bod £4m wedi ei ychwanegu at gronfeydd yr Adran Priffyrdd, nodwyd bod hwn yn arian a dderbyniwyd mewn ymateb i ddad-gefnu (de-trunk - trosglwyddo cyfrifoldeb cefnffyrdd o'r Asiantaeth Priffyrdd i reolaeth yr awdurdod lleol perthnasol) y ffordd rhwng Bontnewydd a Phlas Menai yn dilyn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon. Ategwyd mai arian un tro oedd hwn ar gyfer cynnal y gefnffordd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfradd chwyddiant yn cael ei amlygu fel 2.75% yn Nodyn 38 - Costau Pensiwn) er bod Banc Lloegr yn nodi cyfradd chwyddiant o 3.8%, nodwyd bod Hymans Robertson (Cwmni Actiwari Annibynnol) yn edrych i’r tymor hir ac yn gweithredu ar  gyfartaledd ddisgwyliedig dros nifer o flynyddoedd i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr ac os oedd Cyngor Gwynedd wedi derbyn arian grant neu wedi gorfod gwneud bid am arian i’w dalu, nodwyd bod y gost yn £4.5m a bod grant o £3.9m wedi ei dderbyn gan Llywodraeth Cymru. Bydd bwlch o £770k yng nghyllideb 2025/26.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd

·        Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25 (ôl-archwiliad)

·        Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

·        Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod

·        Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio da

 

 

Dogfennau ategol: