Agenda item

Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1064/22/AC er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais.

Amodau:

 

·        Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau o leiaf 14 diwrnod cyn : i. Dechrau gwaith adfer ar unrhyw ddarn o’r tir o fewn yr ardal a ganiateir pan ddaw'r defnydd i ben fel cyfleuster siltio ategol ar gyfer unrhyw un o'r tri lagŵn a ddangoswyd ar y cynlluniau cais

·        Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel lagŵn siltio ategol i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028; cwblheir y gwaith adfer wedyn erbyn 31 Rhagfyr 2029 neu pan fydd y gwaith yn dod i ben, pa bynnag un ddaw gyntaf.

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd.

·        Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys.

·        Oriau gweithredu.

·        Ymdrin â phridd a hwsmonaeth.

·        Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus.

·        Cyfyngiadau sŵn fel y gwneir eisoes, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith.

·        Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur.

·        Ni ddylid storio olew, tanwydd a chemegion o fewn safle'r cais.

·        Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol.

·        Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth.

·        Cynllun adfer diwygiedig pe byddai gwaith echdynnu mwynau cynamserol.

·        Rhwygo deunydd craidd y ddaear i osgoi cywasgu arwynebol a chyflawni draenio digonol.

·        Lleiafswm o ddyfnderoedd isbridd ac uwchbridd

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1064/22/AC er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)       Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais yn gofyn am ymestyn cyfnod amser gweithredu lagwnau siltio sy’n gysylltiol i’r gwaith prosesu tywod a graen sydd wedi eu cloddio o’r chwarel. Byddai'r dulliau gweithio a phrosesau'r un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio yn y chwarel ar hyn o bryd.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd y byddai parhau i gloddio am dywod a graean yng Nghefn Graianog yn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei oblygiadau dyraniad yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, i gyflenwi mwynau ar gyfer isranbarth Gogledd Cymru a chadw banc tir saith mlynedd o dywod a graean.  Nodwyd mai ychydig o gronfeydd tywod a graean a ganiateir sydd ar gael yng Ngogledd Orllewin Cymru ac y byddai’r cynnig hwn yn golygu parhad mewn darparu cyflenwad o dywod a graean i'r economi adeiladu leol. Mynegwyd bod cadw’r lagwnau siltio yn hanfodol ar gyfer y gwaith o brosesu, golchi a didoli’r deunydd; yn dderbyniol ac yn cyd-fynd a gofyniad polisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a’r dirwedd, eglurwyd bod y cais hwn yn benodol ar gyfer ymestyn cyfnod y datblygiad ac nid yn cynnwys unrhyw estyniad neu addasiadau ffisegol i'r ardal weithio sydd eisoes wedi'i chymeradwyo. Heb os, byddai natur y cynnig i ymestyn oes y gweithrediadau yn ymestyn yr effeithiau gweledol yn y tymor canolig, ond o ystyried ei gyd-destun cyffredinol mewn gwaith mwynau sydd wedi'i sefydlu, ni ystyriwyd y byddai'n arwain at unrhyw lefelau mawr o effeithiau gweledol. Amlygwyd bod ffin AHNE Llŷn yn agos i’r safle, ond derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned AHNE nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr effaith ar yr AHNE o ystyried mai dim ond estyniad amser cyfyngedig oedd yma; yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn ystyried bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 3, PCYFF 4 a MWYN 9 y CDLl.

 

Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd bod un eiddo unigol wedi'i leoli o fewn y parth byffer 100m fel y rhagnodir o dan bolisi MWYN 5 CDLl. Bydd y datblygiad yn destun yr un amodau gwaith a’r hyn sydd yn bodoli eisoes, gan gynnwys rheoli sŵn, llwch ac oriau gwaith; yn ddarostyngedig i amodau priodol i reoli effeithiau sŵn a llwch ac oriau gweithio, ni fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar fwynderau'r ardal ac felly'n cydymffurfio â pholisi PCYFF 2, MWYN 3 a MWYN 5 y CDLl.

 

Nid yw'r bwriad yn cynnwys unrhyw newid i symudiadau traffig a chludo i'r safle ac oddi yno.

 

Eglurwyd bod asesiad bioamrywiaeth wedi'i ddiweddaru wedi'i gwblhau i gefnogi’r ceisiadau cysylltiol sydd wedi eu cyflwyno ar gyfer ymestyn amser gwahanol ganiatadau’r chwarel. Eglurwyd hefyd bod angen asesu p'un a fu unrhyw newid i'r cynefinoedd hyn ers y cynhaliwyd yr arolygon ecolegol blaenorol ac  argymhellwyd bod y gofynion i weithredu'r mesurau osgoi rhesymol i warchod moch daear ac ymlusgiaid yn ystod unrhyw waith clirio terfynau caeau neu stripio pridd yn cael ei gynnal; y datblygiad yn dderbyniol gydag amodau a mesurau lliniaru priodol ac yn cyd-fynd a Pholisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, MWYN 3 a MWYN 9 CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion hydroleg, prif bwrpas y system gaeedig o lagwnau yw ategu'r isadeiledd rheoli dŵr presennol er mwyn sicrhau capasiti digonol i reoli'r holl ddŵr chwarel ar y safle, h.y. fel system hunangynhaliol. Ystyriwyd na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith niweidiol ar nodweddion hydrolegol a pherygl llifogydd ac yn cydymffurfio â gofynion Polisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, PCYFF 2, PCYFF 3, PCYFF 6 a MWYN 3 CDLl.

 

Roedd y swyddogion yn ystyried fod y datblygiad arfaethedig yn gyson â’r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau priodol.

 

b)           Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD:

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais.

 

Amodau:

·        Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau o leiaf 14 diwrnod cyn : i. Dechrau gwaith adfer ar unrhyw ddarn o’r tir o fewn yr ardal a ganiateir pan ddaw'r defnydd i ben fel cyfleuster siltio ategol ar gyfer unrhyw un o'r tri lagŵn a ddangoswyd ar y cynlluniau cais

·        Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel lagŵn siltio ategol i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028; cwblheir y gwaith adfer wedyn erbyn 31 Rhagfyr 2029 neu pan fydd y gwaith yn dod i ben, pa bynnag un ddaw gyntaf.

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd.

·        Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys.

·        Oriau gweithredu.

·        Ymdrin â phridd a hwsmonaeth.

·        Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus.

·        Cyfyngiadau sŵn fel y gwneir eisoes, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith.

·        Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur.

·        Ni ddylid storio olew, tanwydd a chemegau o fewn safle'r cais.

·        Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol.

·        Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth.

·        Cynllun adfer diwygiedig pe byddai gwaith echdynnu mwynau cynamserol.

·        Rhwygo deunydd craidd y ddaear i osgoi cywasgu arwynebol a chyflawni draenio digonol.

·        Lleiafswm o ddyfnderoedd isbridd ac uwchbridd

 

Dogfennau ategol: