Cais o dan
Adran 73 ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C20/1065/22/AC
er mwyn rhoi 4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith mwynau ac adfer
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais.
Amodau
·
Bydd echdynnu a phrosesu mwynau yn dod i ben
erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac erbyn hynny bydd yr holl offer a pheiriannau wedi cael
eu symud o'r safle; rhaid cwblhau'r gwaith adfer erbyn 30 Mehefin 2029.
·
Gweithgareddau a Ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;
·
Cyfyngu ar Hawliau Datblygu a Ganiateir,
adeiladau, strwythurau, pethau gaiff eu codi, ffyrdd preifat, llifoleuadau a
ffensys.
·
Oriau Gweithio.
·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau
dŵr lleol.
·
Adolygiad blynyddol o weithrediadau.
·
Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus.
·
Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a
chadwraeth natur.
·
Ail-osod terfynau caeau.
·
Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau
amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth.
·
Rheolaethau llwch a chyfyngiadau sŵn i
fod yr un fath ag y gwneir eisoes, a gosod larymau sŵn gwyn ar y
peiriannau ar y wyneb gweithio.
·
Lliniaru a chofnodi archeolegol.
·
Gosod gorchudd ar loriau sy'n gadael y safle
gyda cherrig llai na 500mm.
·
Cyfyngu mynediad cerbydau i'r trefniadau
mynediad presennol.
·
Ni chaniateir cludo deunyddiau sbwriel neu
wastraff i'r safle.
·
Y prif ddull o gludo deunydd crai o wyneb y
gwaith i'r ffatri brosesu fydd ar gludwr (conveyor) oni chytunir fel arall.
Cofnod:
Cais o dan Adran 73 ar gyfer diwygio
amod 2 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C20/1065/22/AC er mwyn rhoi
4 mlynedd ychwanegol i gwblhau’r gwaith
mwynau ac adfer
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cynnig yn gofyn
am ymestyn y cyfnod amser hyd at 31 Rhagfyr 2028 i barhau gyda'r gweithrediadau
mwynau yn Fferm Graianog. Bydd hyn yn sicrhau nad
yw'r gronfa fwynau yn cael ei sterileiddio, ac y bydd modd cwblhau'r gwaith o
adfer y safle yn unol â'r cynllun gwaith
a gymeradwywyd a darparu seilwaith ategol i gefnogi'r cynigion i gaffael
a gweithio mwynau o'r chwarel. Nid yw'r cynnig yn cynnwys ymestyn ôl-troed y
gwaith mwynau ei hun, dim ond ymestyn y cyfnod amser am 4 blynedd arall. Bydd
gweithgareddau peiriannau ar y safle, prosesu, cludiant a'r gwaith o gloddio'r
mwyn yn cael ei gadw'n llwyr oddi mewn i ffiniau'r safle presennol ac yn unol â
thelerau ac amodau'r caniatâd cynllunio cyfredol.
Eglurwyd y byddai'r dulliau gweithio a
phrosesau'r un fath â'r rhai sy'n cael eu defnyddio yn y chwarel ar hyn o bryd
a byddant yn defnyddio'r un echdynwyr, cludyddion a'r peiriannau symudol eraill
fel y rhai presennol.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad nodwyd
y bydd gwaith cloddio am dywod a graean yn parhau yng Nghefn Graianog yn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei oblygiadau
dyraniad yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, i gyflenwi mwynau ar gyfer
is-ranbarth Gogledd Cymru a chadw banc tir saith mlynedd o dywod a graean. Eglurwyd mai ychydig o gronfeydd tywod a
graean a ganiateir sydd ar gael yng Ngogledd Orllewin Cymru ac y byddai’r
cynnig hwn yn golygu parhad i ddarparu cyflenwad o dywod a graean i'r
economi adeiladu lleol; egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd a
gofyniad ym mholisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22 y CDLl.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a’r
dirwedd, nodwyd bod y cais yn benodol ar gyfer ymestyn cyfnod y datblygiad ac
nid yw felly’n cynnwys unrhyw estyniad neu addasiadau ffisegol i'r ardal
weithio sydd eisoes wedi ei gymeradwyo. Byddai natur y cynnig i ymestyn oes y
gweithrediadau yn ymestyn yr effeithiau gweledol yn y tymor canolig, ond o
ystyried bod cyd-destun cyffredinol mewn gwaith mwynau wedi'i sefydlu, ni
ystyriwyd y byddai'n arwain at unrhyw lefelau mawr o effeithiau gweledol.
Amlygwyd bod ffin AHNE Llŷn yn agos i’r safle, ond derbyniwyd cadarnhad
gan yr Uned AHNE nad oedd unrhyw bryderon ynghylch yr effaith ar yr AHNE o
ystyried mae dim ond estyniad amser cyfyngedig oedd yma; yr Awdurdod Cynllunio
Mwynau yn ystyried bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 3,
PCYFF 4 a MWYN 9 y CDLl.
Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd bod
un eiddo unigol wedi'i leoli o fewn y parth byffer 100m fel y rhagnodir o dan
bolisi MWYN 5 CDLl. Bydd y datblygiad yn destun yr un
amodau gwaith a’r hyn sydd yn bodoli eisoes, gan gynnwys rheoli sŵn, llwch
ac oriau gwaith; yn ddarostyngedig i amodau priodol i reoli effeithiau sŵn
a llwch ac oriau gweithio, ni fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar
fwynderau'r ardal ac felly'n cydymffurfio â pholisi PCYFF 2, MWYN 3 a MWYN 5 y CDLl.
Nid yw'r bwriad yn cynnwys unrhyw newid i
symudiadau traffig a chludo i'r safle ac oddi yno.
Eglurwyd bod asesiad bioamrywiaeth wedi'i
ddiweddaru wedi'i gwblhau i gefnogi’r ceisiadau cysylltiol sydd wedi eu
cyflwyno ar gyfer ymestyn amser. Eglurwyd hefyd bod angen asesu p'un a fu
unrhyw newid i'r cynefinoedd hyn ers y cynhaliwyd yr arolygon ecolegol blaenorol
ac argymellhwyd
bod y gofynion i weithredu'r mesurau osgoi rhesymol i warchod moch daear ac
ymlusgiaid yn ystod unrhyw waith clirio terfynau caeau neu stripio pridd yn
cael ei gynnal; y datblygiad yn dderbyniol gydag amodau a mesurau lliniaru
priodol ac yn cyd-fynd a Pholisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, MWYN 3
a MWYN 9 y CDLl.
Yng nghyd-destun materion hydroleg, nodwyd
bod mesurau lliniaru ar gyfer diogelu cyrsiau dŵr, nentydd a gwlypdiroedd
wedi'u cyflwyno a'u hasesu eisoes fel oedd yn ofynnol dan amod 36 y
rhiant-ganiatâd (C16/0816/34/MW). Bydd y safle gweithio, yr ardal bentyrru a'r lagŵns yn parhau i weithredu yn unol â Thrwydded
Amgylcheddol ac yn defnyddio'r system rheoli dŵr 'closed
loop' fel y cymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio
C15/0299/34/MW oedd yn destun cais 5.1.
Ystyriwyd na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith niweidiol
ar nodweddion hydrolegol a pherygl llifogydd ac yn cydymffurfio â gofynion
Polisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, PCYFF 2, PCYFF 3, PCYFF 6 a MWYN
3 y CDLl.
Roedd y swyddogion yn ystyried fod y
datblygiad arfaethedig yn gyson â’r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio
perthnasol ac yn argymell caniatáu y cais gydag amodau priodol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelod:
·
Bod cyfeiriad at gynnal banc tir 7 mlynedd o dywod a graean hefyd yn
berthnasol i Fferm Llecheiddior gerllaw
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth
yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais.
Amodau
·
Bydd
echdynnu a phrosesu mwynau yn dod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac erbyn hynny
bydd yr holl offer a pheiriannau wedi cael eu symud o'r safle; rhaid cwblhau'r
gwaith adfer erbyn 30 Mehefin 2029.
·
Gweithgareddau
a Ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;
·
Cyfyngu
ar Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, pethau gaiff eu codi,
ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys.
·
Oriau
Gweithio.
·
Draenio,
mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol.
·
Adolygiad
blynyddol o weithrediadau.
·
Diogelu
hawliau tramwy cyhoeddus.
·
Adfer i
ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur.
·
Ail-osod
terfynau caeau.
·
Mesurau
ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth.
·
Rheolaethau
llwch a chyfyngiadau sŵn i fod yr un fath ag y gwneir eisoes, a gosod
larymau sŵn gwyn ar y peiriannau ar y wyneb gweithio.
·
Lliniaru
a chofnodi archeolegol.
·
Gosod
gorchudd ar loriau sy'n gadael y safle gyda cherrig llai na 500mm.
·
Cyfyngu
mynediad cerbydau i'r trefniadau mynediad presennol.
·
Ni
chaniateir cludo deunyddiau sbwriel neu wastraff i'r safle.
·
Y prif ddull o gludo deunydd crai
o wyneb y gwaith i'r ffatri brosesu fydd ar gludwr (conveyor)
oni chytunir fel arall.
Dogfennau ategol: