Agenda item

Gosod cebl trydan tanddaearol mewn perthynas â chynllun cyfleuster storio ynni BESS Pentir  (cyfeirnod yr ACLl: C24/0532/25/LL)

 

AELODAU LLEOL:  Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn unol â’r amodau isod:

 

1.       5 mlynedd.

2.       Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.       Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

4.        Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol er rholi effeithiau ar yr amgylchedd naturiol. 

5.        Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu er rheoli materion mwynderol.

6.       Cytuno rhaglen waith Archeolegol

7.       Cyflwyno Cynllun Adfer y Safle adfer y safle i gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben

8.       Cyflwyno cynllun gwaredu Jac y Neidiwr o’r safle

9.       Cyflwyno manylion dull drilio tanddaearol gyda lleoliadau pwyntiau lansio wedi eu lleoli y tu allan i ardaloedd gwarchod gwreiddiau’r coed.

 

Nodiadau:    

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd

 

Cofnod:

Gosod cebl trydan tanddaearol mewn perthynas â chynllun cyfleuster storio ynni BESS Pentir  (cyfeirnod yr ACLl: C24/0532/25/LL) 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais cynllunio llawn ydoedd ar gyfer gosod cebl tanddaearol 830m rhwng is-orsaf drydan Pentir a’r cyfleuster System Storio Ynni Batri gerllaw a gymeradwywyd trwy ganiatâd cynllunio yn 2024. Disgwylid i'r cyfnod gosod gymryd uchafswm o 10 wythnos, gyda’r cebl yn cael ei osod o dan y ddaear naill ai drwy ffosydd wedi'u cloddio ar yr wyneb ac wedi'u llenwi'n ôl, neu drwy Ddrilio Cyfeiriadol Llorweddol.

 

Eglurwyd bod y safle mewn safle Cefn Gwlad Agored ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig gyda rhan fechan o fewn Parth Llifogi 3 (dŵr wyneb a chyrsiau dŵr). I’r gogledd o’r safle mae’r coetir cyfagos yn “Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol” cydnabyddedig ac wedi ei restru ar Restr Coetiroedd Hynafol fel “Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol”. Nodwyd hefyd bod y tir wedi’i ddosbarthu’n 3a, 3b a 5 ar y Map Dosbarthiadau Tir Amaethyddol rhagfynegol ar gyfer Cymru.

 

Gyda’r bwriad wedi ei leoli ar gyfer cysylltu dau safle sydd eisoes â chaniatâd, amlygwyd bod y lleoliad gwledig yn anorfod. Tynnwyd sylw at bolisi ISA 1 sy’n gefnogol i gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl; y polisi yn nodi pwysigrwydd bod y ddarpariaeth isadeiledd ar gyfer safle datblygu yn cael ei leoli a’i ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig. Bydd y datblygiad yma yn cael ei osod yn gyfan gwbl dan y ddaear, ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion ISA 1. 

 

Bydd y dull o osod y cebl yn gymysgedd o ddarparu ffosydd wedi'u cloddio ar yr wyneb ac wedi'u llenwi'n ôl, neu drwy Ddrilio Cyfeiriadol Llorweddol o fewn ardaloedd ble mae angen gwarchod gwreiddiau coed a rhywogaethau sy’n byw yn y coed. Mae’r ardaloedd a fydd yn destun y dull drilio wedi eu hamlygu, hynny’n rhannol o ganlyniad i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r cadarnhad o ddefnyddio’r dull drilio yn yr ardaloedd penodol yma ynghyd a gosod amod cynllunio ar gyfer cytuno pwyntiau lansio’r dull drilio yn sicrhau bod y coed a’r rhywogaethau yn cael eu gwarchod. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol. Ategwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu ymateb ar y 14eg o Dachwedd yn nodi eu bod bellach yn fodlon gyda’r cynnig; Ni fydd effaith uwchddaear yn dilyn gosod y cebl ac felly ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith hirdymor ar unrhyw gynefin na’r tir amaethyddol.

 

Cydnabuwyd y bydd  anghyfleustod o ran sŵn a symudiad yn ystod y cyfnod adeiladu, ond ystyriwyd bod y cyfnod yma yn fyr, ac yn ddarostyngedig i amodau sy’n ymdrin â materion sŵn, llwch a dirgryniad, ynghyd a chytuno Cynllun Rheoli Adeiladu ymlaen llaw, ystyriwyd y gallai leddfu unrhyw effeithiau ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn y cyd-destun yma.

 

Cyfeiriwyd at faterion trafnidiaeth, iaith, a llifogydd oedd wedi sylw llaw a’r bwriad yn dderbyniol o ran y materion hyn. Nodwyd fod Heneb yn ystyried fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amod cynllunio ar gyfer cytuno rhaglen waith archeolegol.

 

Roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau cenedlaethol a lleol ac yn argymell caniatáu y cais gydag amodau priodol.

 

b)               Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·          Bod adroddiad y swyddog yn gyflawn

·          Byddai’r gwaith osod cebl yn danddaearol ac yn parahu am oddeutu 10 wythnos.

·          Bod y gwaith yn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer storio ynni

·          Bod gwaith cysylltu’r ddau safle sydd eisoes â chaniatâd cynllunio yn hanfodol

·          Bod gwaith ymgynghori wedi ei gwblhau

·         Coedwig Hynafol gerllaw - arolwg coed wedi ei gwblhau a mesurau lliniaru wedi eu cytuno

·          Bod amod wedi ei gytuno ar gyfer y gwaith drilio

·          Bod coed aeddfed ar lwybr y cebl – bydd drilio arbenigol i osgoi effaith

·          Heneb – bydd gwaith monitro a  chofnodi yn cael ei gwblhau yn ystod y gwaith

·          Bydd unrhyw waith croesi a gwaith llygredd yn cael ei fonitro

·          Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd yr Aelodau Lleol yn gwrthwynebu’r cais

 

c)               Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn unol â’r amodau isod:

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

4.         Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol er rholi effeithiau ar yr amgylchedd naturiol. 

5.         Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu er rheoli materion mwynderol.

6.         Cytuno rhaglen waith Archeolegol

7.         Cyflwyno Cynllun Adfer y Safle adfer y safle i gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben

8.         Cyflwyno cynllun gwaredu Jac y Neidiwr o’r safle

9.         Cyflwyno manylion dull drilio tanddaearol gyda lleoliadau pwyntiau lansio wedi eu lleoli y tu allan i ardaloedd gwarchod gwreiddiau’r coed.

 

Nodiadau:      

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd

 

Dogfennau ategol: