TŶ
COFFI REUBENS, 31 STRYD FAWR, CAERNARFON LL55 1RH
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 08:00 – 00:00
Dydd Llun 08:00 – 00:00
Dydd Mawrth 08:00 – 00:00
Dydd Mercher 08:00 – 00:00
Dydd Iau 08:00 – 00:00
Dydd Gwener 08:00 – 00:00
Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00
Gweithgareddau Trwyddedadwy:
Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo
Dydd Sul 08:00 – 23:30
Dydd Llun 08:00 – 23:30
Dydd Mawrth 08:00 – 23:30
Dydd Mercher 08:00 – 23:30
Dydd Iau 08:00 – 23:30
Dydd Gwener 08:00 – 23:30
Dydd Sadwrn 08:00 – 23:30
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, ac a
gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w cynnwys
fel amodau ar y drwydded:
·
Cofnod o bob gwerthiant alcohol a wrthodwyd
·
Gosod a chynnal system TCC gynhwysfawr gyda
recordiadau i'w storio am o leiaf 31 diwrnod gyda stamp dyddiad ac amser
·
Hyfforddiant Staff;
·
Llyfr damweiniau mewnol
·
Polisi Her 25;
·
Dim cerddoriaeth uchel
·
Gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel ac yn
barchus;
·
Cynnal asesiad effaith sŵn cyn agor yr eiddo
i’r cyhoedd. Canlyniad i’w rannu gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd;
·
Gwahardd gwaredu poteli a chaniau gwastraff i
gynwysyddion y tu allan i'r adeilad yn unol ag amodau’r drwydded rhwng 22:00 -
08:00.
·
Poteli gwag i’w storio mewn sgip / bin â
chaead o fewn cwrtil y safle cyn eu casglu.
Nodyn:
Bydd yr ymgeisydd
hefyd yn ymwybodol na all yr oriau trwyddedu fod ar waith hyd nes bod yr
amrywiad oriau a nodir ar oriau'r caniatâd cynllunio presennol wedi'i amrywio
a'i gymeradwyo. Mae'r caniatâd cynllunio presennol yn caniatáu masnachu tan
18:00 o'r gloch.
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad
Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn
manylu ar gais am drwydded eiddo gan Tŷ
Coffi Reubens. Eglurwyd y byddai’r eiddo yn gweithredu yn
bennaf fel siop goffi gyda
darpariaeth ychwanegol i werthu alcohol i’w yfed ar
ac oddi ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau
yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded.
Adroddwyd bod Iechyd yr Amgylchedd
wedi cyflwyno gwrthwynebiad oherwydd pryderon ynglŷn â niwsans cyhoeddus. Rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol i’r
eiddo agor fel tŷ coffi
ac nid bar gydag oriau agor hyd
18:00 ac nid 00:00. Petai’r
eiddo yn derbyn caniatâd i werthu alcohol, roedd Iechyd yr Amgylchedd yn pryderu, gyda
cherddoriaeth fyw ac wedi ei recordio
yn cael ei
chwarae ar yr eiddo, bydd potensial
o achosi aflonyddwch sŵn i eiddo
preswyl cyfagos. Roedd Iechyd yr Amgylchoedd hefyd yn amlygu
nad oedd asesiad effaith sŵn wedi ei
gwblhau.
Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Adran Cynllunio oedd yn cadarnhau bod y cais yn groes
i ofynion caniatâd cynllunio presennol yr eiddo - y caniatâd presennol yn caniatáu gweithgareddau
hyd 18:00. Ategwyd nad oedd cais
wedi ei dderbyn
i amrywio’r oriau, ond bod cais i newid
defnydd o A1 i A3 yn aros penderfyniad.
Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf
Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn amodol ar y
telerau canlynol:
·
Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau cydymffurfiaeth lawn
â’r caniatâd cynllunio, ac ni ddylai’r drwydded ddod i rym nes bod materion
cynllunio wedi’u datrys
·
Rhaid i’r oriau gweithredu a’r gweithgareddau
trwyddedig fod yn unol â’r oriau a ganiateir o dan y caniatâd cynllunio.
·
Dylid darparu asesiad effaith sŵn i fynd i’r
afael â phryderon Iechyd yr Amgylchedd ac i sicrhau atal niwsans cyhoeddus.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais
c)
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawliau chwarae cerddoriaeth, nodwyd pe
byddai’r cais yn cael ei ganiatáu bydd hawl gan yr ymgeisydd chwarae
cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio a’i chwyddo hyd 23:00 - wedi hyn byddai
angen rhybudd digwyddiad dros dro. Ategwyd bod Iechyd yr Amgylchedd yn dueddol
o gynnwys sylwadau sŵn ar bob cais oherwydd y potensial o niwsans sŵn
petai’r ymgeisydd yn peidio cymryd camau priodol i liniaru effaith sŵn.
ch) Wrth ymhelaethu ar y cais,
nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Mai gweithredu fel siop goffi yw prif fwriad y
busnes gan greu awyrgylch ddymunol i gwsmeriaid ymlacio, cyfarfod ffrindiau a
chynnal sgwrs
·
·
Bod 00:00 wedi ei gynnwys ar gyfer hyblygrwydd yn
unig - defnydd os bydd galw, er enghraifft, ar gyfer parti neu ddigwyddiad
preifat. Petai’r digwyddiad yn mynd tu hwnt i 23:00, bydd yr ymgeisydd yn rhoi
gwybod i’r Heddlu ac Iechyd yr Amgylchedd, 14 diwrnod cyn y digwyddiad i drafod
trefniadau
·
Bydd yr ymgeisydd yn rhoi ystyriaeth i liniaru
sŵn
·
Bod cais wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio
Lleol i addasu’r oriau agor.
·
Yr ymgeisydd yn ymwybodol na all yr oriau trwyddedu fod ar waith hyd nes bydd yr
amrywiad oriau a nodir, ac oriau'r caniatâd cynllunio presennol wedi'i amrywio
a'i gymeradwyo. Y caniatâd cynllunio presennol yn caniatáu masnachu tan 18:00
o'r gloch. Nid oes bwriad
gan yr ymgeisydd dorri’r gyfraith
·
Bydd gwydr dwbl wedi ei osod ar flaen y siop a'r
ffenestr ochr i leihau effaith sŵn
·
Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan
gymdogion
·
Bod yr ymgeisydd yn fodlon darparu asesiad effaith
sŵn
Drwy ganiatâd y Cadeirydd, rhoddwyd cyfle i’r
ymgeisydd gyflwyno sylwadau;
·
Ei fod yn angerddol am y busnes. Bod ganddo ddwy
siop goffi arall (un yng Nghaergybi a’r llall ym Mangor Uchaf), sydd yn
boblogaidd iawn
·
Caernarfon oedd y safle naturiol nesaf i ymestyn ei
fusnes - yn gobeithio agor eiddo mewn safle treftadaeth fyddai’n rhoi hwb i’r
economi leol
·
Nad oedd bwriad agor bar, swnllyd hwyr y nos –
diwylliant tŷ coffi sydd yma o greu awyrgylch hamddenol a chyfle i bobl
ymlacio.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd lle,
a nifer staff, nododd y byddai modd eistedd 15 yn y caffi a bod bwriad cyflogi
hyd at 15 aelod staff (cymysg llawn amser a rhan amser).
Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd asesiad
sŵn wedi ei gyflwyno, nodwyd mai lleoliad safonol i ymlacio oedd yma a
phetai digwyddiad yn codi lle byddai angen asesiad sŵn, bydd hynny yn cael
ei weithredu.
d)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:
Ffion Lewis (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)
·
Yn gwrthwynebu’r cais gan fod yr ymgeisydd wedi
methu dwyn perswâd ar y Gwasanaeth ei fod am reoli sŵn ac atal niwsans
cyhoeddus
·
18:00 yw’r amser cau ar ganiatâd cynllunio
presennol yr eiddo
·
Nad oes unrhyw strwythur mewn lle i atal sŵn
yn yr adeilad
·
Petai’r cais yn cael ei ganiatáu, bydd angen gosod
amodau
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer cwynion
sŵn o’r ardal sy’n cael eu derbyn gan y Gwasanaeth, nodwyd bod y
Gwasanaeth ‘yn derbyn nifer o gwynion sŵn yn yr ardal’.
Arwel Thomas Uwch Swyddog Cynllunio
·
Yn gwrthwynebu’r cais gan nad oedd yr oriau agor a
geisiwyd yn cyfateb gydag amodau'r caniatâd cynllunio presennol
·
Bod cais i ddiwygio defnydd ac oriau wedi ei
gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol
·
Bod gwall yn y disgrifiad ac felly bydd angen ail
gyflwyno
·
Mai bwriad y caniatâd blaenorol oedd agor siop bwyd
poeth, ond os nad oes bwriad gweini bwyd poeth gan Tŷ Coffi Reubens, bydd angen ail ymgynghori
dd) Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei hachos,
nododd y Rheolwr Trwyddedu mai’r
argymhelliad oedd caniatáu cyn belled a bod y telerau yn cael eu cyfarch. Er
bod y cynllun busnes yn un i’w gymeradwyo, bod tuedd weithiau i fanteisio ar
weithgareddau trwyddedig. I osgoi hyn, rhaid sicrhau bod yr eiddo a’r drwydded
yn addas i bwrpas.
Yn
manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd, y
sylwadau canlynol:
·
Er nodi ‘nifer o gwynion sŵn yn yr ardal’, nid oedd
hyn yn benodol
i’r eiddo yma
·
Bod tafarndai
yn yr ardal
·
Mai lle
ar gyfer 15 i eistedd yn
unig oedd yma
·
Nad oedd
unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn
gan y cyhoedd
·
Yn derbyn
diwygiad i eiriad y cais cynllunio
i nodi ar gyfer ‘trosi adeilad
elusen i werthiant siop goffi’ – yr egwyddor yn dderbyniol.
·
Ei fod
yn cadarnhau nad oedd bwriad
gwerthu bwyd poeth ar y safle
yn ystod y dydd na’r nos
e)
Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi
gofynion y cais;
·
Bod angen diwygio disgrifiad cais cynllunio 2025
·
Oriau agor o 08:00 hyd
00:00 bob dydd
·
Cyfaddawd wedi ei gytuno
i orffen gwerthu alcohol 23:30 a chau’r siop am 00:00
·
Na fyddai’r oriau agor a
geisir yn weithredol hyd nes bydd yr elfen cynllunio wedi ei benderfynu
Ymneilltuodd cynrychiolydd
yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu
i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â sylwadau
llafar pob parti oedd yn bresennol yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu
pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion
trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag
niwed
Diystyrwyd y sylwadau
a ddaeth i law i’r graddau eu
bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 08:00 – 00:00
Dydd Llun 08:00 – 00:00
Dydd Mawrth 08:00 – 00:00
Dydd Mercher 08:00 – 00:00
Dydd Iau 08:00 – 00:00
Dydd Gwener 08:00 – 00:00
Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00
Gweithgareddau Trwyddedadwy:
Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo
Dydd Sul 08:00 – 23:30
Dydd Llun 08:00 – 23:30
Dydd Mawrth 08:00 – 23:30
Dydd Mercher 08:00 – 23:30
Dydd Iau 08:00 – 23:30
Dydd Gwener 08:00 – 23:30
Dydd Sadwrn 08:00 – 23:30
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir
yn rhan M y cais, ac a gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w cynnwys fel amodau ar y drwydded:
·
Cofnod o bob gwerthiant alcohol a wrthodwyd
·
Gosod a chynnal system TCC gynhwysfawr gyda recordiadau
i'w storio am o leiaf 31 diwrnod gyda stamp dyddiad ac amser
·
Hyfforddiant Staff;
·
Llyfr damweiniau mewnol
·
Polisi Her 25;
·
Dim cerddoriaeth uchel
·
Gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel ac yn barchus;
·
Cynnal asesiad effaith sŵn cyn agor yr eiddo i’r
cyhoedd. Canlyniad i’w rannu gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd;
·
Gwahardd gwaredu poteli a chaniau
gwastraff i gynwysyddion y tu allan i'r adeilad yn unol ag amodau’r drwydded
rhwng 22:00 - 08:00. Poteli gwag i’w storio mewn sgip / bin â chaead o fewn
cwrtil y safle cyn eu casglu.
Nodyn:
Bydd yr ymgeisydd hefyd yn ymwybodol na all yr oriau
trwyddedu fod ar waith hyd nes bod yr amrywiad oriau a nodir ar oriau'r
caniatâd cynllunio presennol wedi'i amrywio a'i gymeradwyo. Mae'r caniatâd
cynllunio presennol yn caniatáu masnachu tan 18:00 o'r gloch.
Yng nghyd-destun Rhwystro
Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.
Yng nghyd-destun
materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth
oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.
Yng nghyd-destun Atal
Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau a gwrthwynebiadau gan Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd oedd yn mynegi pryderon
ynglŷn â photensial o ymddygiadau gwrthgymdeithasol a materion niwsans
cyhoeddus yn deillio o ganiatáu’r cais. Roedd y gwrthwynebiadau yn ymwneud a’r
oriau agor arfaethedig a'r effaith fyddai sŵn neu arogl yn ei gael ar
anheddau preswyl cyfagos yn enwedig yn hwyrach yn y nos. Cynigodd y Gwasanaeth
mai oriau agor hyd 18:00 o'r gloch y dylid rhoi ar y drwydded yn unol â'r
caniatâd cynllunio presennol. Cyfeiriwyd hefyd at bryderon oedd yn ymwneud â
gallu'r adeilad i reoli sŵn cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i
recordio ac y dylai’r ymgeisydd gyflwyno asesiad effaith sŵn.
Er nodi'r
pryderon, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno
yn amlygu niwsans cyhoeddus o’r eiddo yma yn benodol, ond roedd yr Is-bwyllgor
yn annog yr ymgeisydd i gynnal asesiad effaith sŵn a’i gyflwyno i’r
Gwasanaeth (hyn wedi ei gynnwys fel amod ar y drwydded).
Fel unrhyw gais arall, petai
unrhyw broblemau yn codi mewn
cysylltiad â’r egwyddorion Trwyddedu, mae’r Ddeddf yn caniatáu
cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan
yr Awdurdod Trwyddedu.
Yng nghyd-destun Gwarchod
Plant Rhag Niwed, roedd yr ymgeisydd wedi darparu manylion ynglŷn â’r
camau i'w cymryd i sicrhau na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai dan oed a
byddai'r camau hyn yn cael eu cynnwys fel amodau ar y drwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i bawb oedd
wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl
i gyflwyno apêl yn Llys
Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath
drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr,
Llys Ynadon Llandudno,
Llandudno, o fewn cyfnod o
21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad
y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: