Agenda item

CLYNNOG PETROL STATION A SIOP,  ANNWYLFA GARAGE, CLYNNOG FAWR, CAERNARFON, GWYNEDD LL54 5PF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

 

Dydd Sul 0:00 – 23:59

Dydd Llun 0:00 – 23:59

Dydd Mawrth 0:00 – 23:59

Dydd Mercher 0:00 – 23:59

Dydd Iau 0:00 – 23:59

Dydd Gwener 0:00 – 23:59

Dydd Sadwrn 0:00 – 23:59

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 06:00 – 00:00

Dydd Llun 06:00 – 00:00

Dydd Mawrth 06:00 – 00:00

Dydd Mercher 06:00 – 00:00

Dydd Iau 06:00 – 00:00

Dydd Gwener 06:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, ac a gytunwyd yn y gwrandawiad, i’w  cynnwys fel amodau ar y drwydded:

  • Gosod a chynnal system CCTV fewnol ac allanol gynhwysfawr gyda recordiadau i'w storio am o leiaf 30 diwrnod
  • Offer diogelwch tân i'w osod a’i gynnal;
  • Hyfforddiant Staff mewn gweithdrefnau gwerthu alcohol a diogelwch alcohol;
  • Biniau digonol
  • Llyfr damweiniau mewnol
  • Hyfforddi staff ar weithredu cynllun Polisi Her 25. ‘Till prompt’ i’w ddefnyddio ar gyfer pob cynnyrch cyfyngedig oedran
  • Cofrestr gwrthod gwerthu yn cael ei cadw a’i gynnal ar yr eiddo
  • Gwirodydd i'w lleoli y tu ôl i'r cownter ac alcohol i'w storio i ffwrdd o'r fynedfa
  • Rhybuddion dim gyrru dan ddylanwad alcohol i'w harddangos ar y safle
  • Hyfforddiant gwrthod gwerthu i'r sawl sydd o dan ddylanwad alcohol
  • Arwyddion ar yr eiddo yn nodi na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai sydd o dan ddylanwad.

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)     Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Sterling Petroleum Cyf. Eglurwyd y byddai’r eiddo yn gweithredu fel siop gyfleustra gyda gorsaf betrol, a darpariaeth i werthu alcohol oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Is-bwyllgor ystyried yr ymatebion a chymeradwyo’r cais yn unol â’r cyfaddawd oriau gweithredu roedd yr ymgeisydd wedi cytuno iddo mewn ymateb i sylwadau Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), ac yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003.

 

b)     Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argaeledd alcohol 24 awr mewn eiddo tebyg yn yr ardal, nodwyd mai’r unig eiddo oedd archfarchnad ym Mangor.

 

c)     Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod gan y cwmni nifer o leoliadau ar draws y wlad

·        Bod gan yr holl leoliadau sydd â garej, siop gyfleustra

·        Bod y cais, am drwydded gwerthu alcohol 24 awr, yn cyfateb i oriau agor y siop fyddai’n gwneud rheoli a gweithredu'r busnes yn fwy effeithiol

·        Bod gan y cwmni strwythur rheoli da, gyda Rheolwyr Ardal yn barod i gydweithio gyda thrigolion lleol a’r Awdurdod Lleol i gyflawni’r amcanion trwyddedu

·        Yn ddibynnol ar yr ardal neu’r gymdogaeth, bod rhai lleoliadau, sydd yn agor tu hwnt i 23:00 gyda ffenestr nos a / neu fesurau diogelwch ychwanegol, ond bod eraill gyda’u drysau yn agored i gwsmeriaid

·        Bod gan y cwmni brofiad helaeth o reoli trwydded alcohol 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos a’u bod yn gallu cynnig cefnogaeth i’r Heddlu drwy ddarparu TCC, ac yn fodd o gadw’r gymdogaeth yn ddiogel

·        Bydd mesurau diogelwch yn cael eu dilyn a’u gweithredu i warchod y cyhoedd

·        Bod rhaglen hyfforddiant fanwl ar gyfer staff

·        Bod yr amodau a gynigiwyd yn dderbyniol

·        Parod i ystyried amodau Iechyd Cyhoeddus BIPBC er nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno dros beidio caniatáu’r drwydded fel y cyflwynwyd

·        Yn annog yr Is-bwyllgor i wneud penderfyniad ar sail tystiolaeth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r nifer cwynion roedd y cwmni yn ei dderbyn am safleoedd 24 awr, nodwyd bod niferoedd cwynion wedi lleihau ers covid 19.

 

Mewn ymateb i sylw bod yr ymgeisydd wedi ystyried sylwadau Iechyd Cyhoeddus  BIPBC i leihau oriau’r drwydded o 06:00 - 22:00, ond a fuasai’r ymgeisydd yn ystyried lleihau ymhellach i agor am 08:00 o ystyried bod Clynnog yn bentref bach, cefn gwlad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd mai’r dymuniad oedd agor siop 24 awr a chael trwydded alcohol cyfatebol gan fod hynny yn haws i’w reoli ac yn osgoi cymhlethdod. Er hynny, roedd yn barod i dderbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor

 

ch)       Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod sylwadau Iechyd Cyhoeddus yn rhai dilys ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth drylwyr. Nododd hefyd bod y cwmni yn gwmni profiadol a bod eu cais yn amlinellu yn glir eu bwriad o reoli risg yn erbyn yr amcanion trwyddedu

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd, y sylwadau canlynol:

·        Bod y cwmni yn gefnogol i’r ardal leol

·        Yn barod i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu

·        Eu bod yn parchu sylwadau Iechyd Cyhoeddus BIPBC a’r Awdurdod Lleol

·        Fel busnes, nid oedd bwriad ganddynt danseilio’r Awdurdod Lleol

 

d)       Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais;

·        Cais wedi ei gyflwyno am drwydded 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos

·        Ymgeisydd wedi datgan parodrwydd mewn egwyddor i leihau yr oriau gwerthu alcohol i  06:00 tan  22:00, o ddydd Llun i ddydd Sul

 

    dd)   Ymneilltuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti oedd yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

a.     Atal trosedd ac anhrefn

b.     Atal niwsans cyhoeddus

c.      Sicrhau diogelwch cyhoeddus

d.     Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 0:00 – 23:59

Dydd Llun 0:00 – 23:59

Dydd Mawrth 0:00 – 23:59

Dydd Mercher 0:00 – 23:59

Dydd Iau 0:00 – 23:59

Dydd Gwener 0:00 – 23:59

Dydd Sadwrn 0:00 – 23:59

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 06:00 – 00:00

Dydd Llun 06:00 – 00:00

Dydd Mawrth 06:00 – 00:00

Dydd Mercher 06:00 – 00:00

Dydd Iau 06:00 – 00:00

Dydd Gwener 06:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded:

·        Gosod a chynnal system CCTV fewnol ac allanol gynhwysfawr gyda recordiadau i'w storio am o leiaf 30 diwrnod

·        Offer diogelwch tân i'w osod a’i gynnal;

·        Hyfforddiant Staff mewn gweithdrefnau gwerthu alcohol a diogelwch alcohol;

·        Biniau digonol

·        Llyfr damweiniau mewnol

·        Hyfforddi staff ar weithredu cynllun Polisi Her 25. ‘Till prompt’ i’w ddefnyddio ar gyfer pob cynnyrch cyfyngedig oedran

·        Cofrestr gwrthod gwerthu yn cael ei gadw a’i gynnal ar yr eiddo

·        Gwirodydd i'w lleoli y tu ôl i'r cownter ac alcohol i'w storio i ffwrdd o'r fynedfa

·        Rhybuddion dim gyrru dan ddylanwad alcohol i'w harddangos ar y safle

·        Hyfforddiant gwrthod gwerthu i'r sawl sydd o dan ddylanwad alcohol

·        Arwyddion ar yr eiddo yn nodi na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai sydd o dan ddylanwad.

 

Yng nghyd-destun Rhwystro Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth  oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau a gwrthwynebiadau gan Iechyd Cyhoeddus BIPBC oedd yn amlygu pryderon ynglŷn ag alcohol ar gael am oriau agor estynedig sylweddol fyddai’n dylanwadu lefelau defnydd, patrymau yfed a niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol. Yn ogystal, codwyd pryderon am y cynnydd posib mewn troseddau gyrru dan ddylanwad alcohol a niwsans cyhoeddus oherwydd ceir yn cyrraedd y safle yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore fyddai a photensial arwain at lygredd golau a niwsans sŵn i drigolion cyfagos. Cafodd y pryderon eu chwyddo gan y ffaith bod Clynnog Fawr yn ardal ddifreintiedig ac yn bentref gwledig bach gyda'r safle arfaethedig wedi'i leoli mewn ardal breswyl.

 

Bu i’r Isbwyllgor dderbyn bod yr ymgeisydd wedi ystyried cyfaddawd o ostyngiad posibl yn yr oriau gwerthu alcohol allai mewn egwyddor leddfu rhai o'r pryderon a godwyd gan Iechyd Cyhoeddus BIPBC. Yr oriau a gynigwyd gan Iechyd Cyhoeddus BIPBC oedd 06:00 i 22:00. Cydnabuwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi gofyn i’r Isbwyllgor ystyried y cais fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol.

 

Er derbyn sylwadau a phryderon Iechyd Cyhoeddus BIPBC, nid oedd yr Isbwyllgor yn ystyried bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddigonol ac nid oedd yn amlygu y byddai lefelau defnydd a phroblemau cysylltiedig yn codi o’r lleoliad penodol hwn o ystyried bod safleoedd eraill yn y Sir, yn enwedig gorsafoedd petrol gyda siopau cyfleustra yn gweithredu oriau tebyg. Nododd yr is-bwyllgor hefyd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau na sylwadau wedi eu derbyn gan drigolion nac eiddo cyfagos. Cynigiodd yr Is-bwyllgor y dylid diwygio'r oriau i 6:00 i 00:00.

 

Fel unrhyw gais arall, petai unrhyw broblemau yn codi mewn cysylltiad â’r egwyddorion Trwyddedu, mae’r Ddeddf yn caniatáu cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, roedd yr ymgeisydd wedi darparu manylion ynglyn a’r camau i'w cymryd i sicrhau na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai dan oed a byddai'r camau hyn yn cael eu cynnwys fel amodau ar y drwydded.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: