Agenda item

ROBERTS’S NEWSAGENTS 63 STRYD FAWR, PORTHMADOG, LL49 9LR

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNAID: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 06:00 – 00:00

Dydd Llun 06:00 – 00:00

Dydd Mawrth 06:00 – 00:00

Dydd Mercher 06:00 – 00:00

Dydd Iau 06:00 – 00:00

Dydd Gwener 06:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 06:00 – 23:00

Dydd Llun 06:00 – 23:00

Dydd Mawrth 06:00 – 23:00

Dydd Mercher 06:00 – 23:00

Dydd Iau 06:00 – 23:00

Dydd Gwener 06:00 – 23:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 23:00

 

Mesurau ychwanegol,

·       Bydd yr holl staff sy'n gwerthu alcohol neu'n cyflenwi alcohol i gwsmeriaid yn derbyn hyfforddiant o dan y drwydded o fewn chwe wythnos o gael eu cyflogi, a chaiff hyn ei ddogfennu.

·       Darparu camera TCC ar ffurf system y gellir ei recordio, a byddwn yn cynnal y system a'i chadw am 31 diwrnod. Bydd y recordiadau ar gael i unrhyw awdurdodau cyfrifol.

·       Deilydd y drwydded i sicrhau bod darpariaethau diogelwch tân priodol mewn lle, a bydd llwybrau dianc sydd wedi eu marcio'n glir ac yn cael eu cadw'n rhydd o rwystrau.

·       Rheolwr y siop i sicrhau bod cwsmeriaid yn symud i ffwrdd o'r eiddo ac nad ydynt yn loetran yn yr ardal.

·       Bydd yr eiddo yn gweithredu polisi 'Her 25'.

 

·       Bydd cardiau adnabod gyda marciau holograffig, pasbort neu gardiau PASS yn cael eu derbyn, a bydd arwyddion atgoffa ar y til yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnyrch sydd â chyfyngiad oedran.

 

Ynghyd â rhestr lawn o’r mesurau yn Rhan M o’r cais sydd yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd i hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Roberts’s Newsagents (Pikes). Disgrifiwyd yr eiddo fel siop bapur newydd gyda’r bwriad o barhau i weithredu fel siop yn bennaf, ond i gynnwys darpariaeth ar gyfer gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Adroddwyd bod yr Aelod Lleol wedi cyflwyno sylwadau yn mynegi pryderon mewn perthynas ag atal trosedd ac anrhefn, atal niwsans cyhoeddus a diogelwch y cyhoedd. Gyda bwriad gwerthu alcohol o 6:00 tan 00:00, 7 diwrnod yr wythnos, gallai ddylanwadu ar lefelau yfed, patrymau yfed, a niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol. Roedd yr Aelod yn argymell cwtogi’r oriau er mwyn lleihau’r potensial o drosedd ac anrhefn yn y dref ac er lles diogelwch y cyhoedd.

 

Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu bod yr ymgeisydd, ers derbyn sylwadau’r Aelod Lleol, wedi cynnig lleihau’r oriau gwerthu alcohol - 1 awr bob dydd ar ddiwedd y dydd, ond bod yr Aelod Lleol wedi nodi nad oedd y cynnig yn lleddfu pryderon, er gwerthfawrogi'r cynnig o gyfaddawd.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor argymell bod y Pwyllgor yn ystyried y sylwadau a’r argymhellion a wnaed i gwtogi’r oriau gweithredu a’i fod yn gwneud penderfyniad yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·        Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

c)        Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan yr Heddlu a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, nodwyd bod yr Adran wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, 28 diwrnod sydd yn rhoi amser digonol i unrhyw un gyflwyno sylwadau. Yn yr achos yma, ni dderbyniwyd ymateb gan yr awdurdodau cyfrifol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd presennol y siop, fel siop bapur newydd ac un sy’n gwerthu offer pysgota ac a fyddai’r gwasanaeth yma yn parhau, cadarnhawyd bod yr elfennau hyn yn parhau.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y siop yn siop deuluol

·        Bod bwriad gwarchod a hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu

·        Nad oedd pryderon wedi eu hamlygu gan awdurdodau cyfrifol

·        Bod gan yr ymgeisydd brofiad mewn rhedeg busnes

·        Sylw a barn sydd wedi ei godi ac nid gwrthwynebiad

·        Eu bod wedi ystyried oriau agor siopau cyffelyb

·        Nad yw ‘angen’ yn ystyriaeth o dan Ddeddf Trwyddedu 2003

·        Er yn barod i gyfaddawdu, nid oedd cytundeb

·        Bydd buddsoddiad sylweddol i’r siop

·        Bod angen i’r Is-bwyllgor ystyried y cais ar ei rinweddau ei hun

 

Mewn ymateb i gwestiwn sut roedd yr ymgeisydd yn mynd i atal pobl rhag sefyllian tu allan i’r siop, nodwyd y bydd arwyddion yn cael eu gosod tu allan i’r siop yn gofyn i bobl ystyried cymdogion a symud ymlaen. Bydd rheolwr y siop hefyd yn camu i mewn a gofyn i’r cwsmeriaid symud ymlaen.

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y cais i’w ystyried fel y’i cyflwynwyd ac nid oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan aelodau’r cyhoedd nac ymgynghorwyr cyfrifol. Er bod cyfaddawd wedi ei gynnig, nid oedd cytundeb.

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd, bod hwn yn gyfle i’r siop barhau yn agored ac y byddant yn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu

 

d)                     Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais;

·        Cais am drwydded gwerthu alcohol o 6:00 – 00:00

 

Ymneilltuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 06:00 – 00:00

Dydd Llun 06:00 – 00:00

Dydd Mawrth 06:00 – 00:00

Dydd Mercher 06:00 – 00:00

Dydd Iau 06:00 – 00:00

Dydd Gwener 06:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 00:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Gwerthu alcohol: Ar ac oddi ar yr eiddo

 

Dydd Sul 06:00 – 23:00

Dydd Llun 06:00 – 23:00

Dydd Mawrth 06:00 – 23:00

Dydd Mercher 06:00 – 23:00

Dydd Iau 06:00 – 23:00

Dydd Gwener 06:00 – 23:00

Dydd Sadwrn 06:00 – 23:00

 

Mesurau ychwanegol,

·        Bydd yr holl staff sy'n gwerthu alcohol neu'n cyflenwi alcohol i gwsmeriaid yn derbyn hyfforddiant o dan y drwydded o fewn chwe wythnos o gael eu cyflogi, a chaiff hyn ei ddogfennu.

·        Darparu camera TCC ar ffurf system y gellir ei recordio, a byddwn yn cynnal y system a'i chadw am 31 diwrnod. Bydd y recordiadau ar gael i unrhyw awdurdodau cyfrifol.

·        Deilydd y drwydded i sicrhau bod darpariaethau diogelwch tân priodol mewn lle, a bydd llwybrau dianc sydd wedi eu marcio'n glir ac yn cael eu cadw'n rhydd o rwystrau.

·        Rheolwr y siop i sicrhau bod cwsmeriaid yn symud i ffwrdd o'r eiddo ac nad ydynt yn loetran yn yr ardal.

·        Bydd yr eiddo yn gweithredu polisi 'Her 25'.

·        Bydd cardiau adnabod gyda marciau holograffig, pasbort neu gardiau PASS yn cael eu derbyn, a bydd arwyddion atgoffa ar y til yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnyrch sydd â chyfyngiad oedran.

 

Ynghyd â rhestr lawn o’r mesurau yn Rhan M o’r cais sydd yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd i hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu

 

·        Cofnod o bob gwerthiant alcohol a wrthodwyd

·        Gosod a chynnal system TCC gynhwysfawr gyda recordiadau i'w storio am o leiaf 31 diwrnod gyda stamp dyddiad ac amser

·        Hyfforddiant Staff;

·        Llyfr damweiniau mewnol

·        Polisi Her 25;

·        Dim cerddoriaeth uchel

·        Gofyn i gwsmeriaid adael yn dawel ac yn barchus;

·        Cynnal asesiad effaith sŵn cyn agor yr eiddo i’r cyhoedd. Canlyniad i’w rannu gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd;

·        Gwahardd gwaredu poteli a chaniau gwastraff i gynwysyddion y tu allan i'r adeilad yn unol ag amodau’r drwydded rhwng 22:00 - 08:00. Poteli gwag i’w storio mewn sgip / bin â chaead o fewn cwrtil y safle cyn eu casglu.

 

Yng nghyd-destun Rhwystro Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth  oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol  oedd yn amlygu pryderon ynghylch argaeledd alcohol yn ystod oriau agor estynedig fyddai’n dylanwadu ar lefelau defnydd, patrymau yfed, a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

 

Yn dilyn cyflwyno’r sylwadau, bu i’r ymgeisydd hysbysu’r Is-bwyllgor ei fod wedi ystyried gostyngiad posibl yn oriau gwerthu alcohol a fyddai mewn egwyddor yn lleddfu rhai o'r pryderon a godwyd, ond gofynnodd i'r Is-bwyllgor ystyried y cais fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol. Yr oriau trwyddedadwy a ystyriwyd gan yr Is-bwyllgor oedd rhwng 6am ac 11pm.

 

Er nodi'r pryderon a fynegwyd gan yr Aelod Lleol, derbyniodd yr Is-bwyllgor nad oedd llawer o dystiolaeth wedi ei gyflwyno yng nghyd-destun cynnydd mewn lefelau defnydd a phroblemau cysylltiedig yn berthnasol i’r lleoliad penodol yma o ystyried bod safleoedd eraill yn yr ardal gyfagos gyda thrwydded alcohol am oriau tebyg. Fodd bynnag, bu i’r Is-bwyllgor ystyried yr oriau a ganiateir ar gyfer siopau tebyg cyfagos ac o ganlyniad cynigiwyd a phenderfynwyd diwygio'r oriau i 06:00 i 23:00.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, roedd yr ymgeisydd wedi darparu manylion ynglŷn â’r camau i'w cymryd i sicrhau na fydd alcohol yn cael ei werthu i'r rhai dan oed a byddai'r camau hyn yn cael eu cynnwys fel amodau ar y drwydded.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

 

Dogfennau ategol: