I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr:
·
Network
Rail
·
Trafnidiaeth Cymru
·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Cofnod:
Trafnidiaeth Cymru (TrC)
Croesawyd James Nicholas i’r cyfarfod sydd yn gweithio i Trafnidiaeth
Cymru fel Partner Cefnogi Busnes
Adroddwyd bod perfformiad y gwasanaeth wedi bod yn dda dros y cyfnod
diwethaf gyda nifer trenau wedi eu canslo yn 0.7% o’r holl wasanaeth ar hyd y
Cambrian. Ategodd bod hyn yn cael ei ystyried fel gwasanaeth solet ac yn
welliant ym mherfformiad trenau ar amser. Nododd bod y perfformiad yn cael ei
fesur drwy reol 3 munud o gyrraedd yr orsaf a mynegodd bod y canran o 75%
uwchlaw targed Cymru o 72% sydd yn dderbyniol o ystyried y nifer trenau sydd yn
rhedeg.
Yng nghyd-destun amserlen Gaeaf Rheilffordd y Cambrian, mynegwyd bod
Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu parhau gwasanaeth y trên olaf a bod hyn yn
newyddion calonogol. Amlygodd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cadw llygad ar nifer
defnyddwyr ac anogwyd pawb i hyrwyddo defnydd.
Mynegwyd bod profion diogelwch ar y fflyd o drenau newydd Dosbarth 197
wedi eu gweithredu gyda’r gobaith o gyflwyno’r trenau newydd i wasanaeth ym mis
Medi 2026, yn dilyn cwblhau gwelliannau ar y platfform mewn rhai gorsafoedd.
Ategodd y byddai teithiau prawf pellach yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2026 a
hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a thocynwyr (Conductors) yn y flwyddyn newydd.
Cafwyd diweddariad bod Network Rail wedi caffael Uned Cyflenwi Cynnal a
Chadw newydd i ddisodli nifer o gyfleusterau anaddas yn y depo ym
Machynlleth. Bydd y safle yn weithle
modern, diogel ac effeithlon fydd yn gallu cefnogi gwasanaethau ar draws y rhanbarth yn llawn.
Tynnwyd sylw at waith gwarchae fydd yn cael ei gwblhau yn ystod Mai 2026
fydd yn debygol o greu ychydig o aflonyddwch i wasanaethau: Y dyddiadau mewn
golwg yw 13-17 o Fai rhwng Machynlleth a Pwllheli a 17 – 23 o Fai rhwng
Cyffordd Dyfi ac Aberystwyth. Ategwyd mai gwaith paratoi oedd yn cael ei wneud
ar gyfer gosod tanciau gwaredu gwastraff toiledau (CET) oddi ar y trenau
newydd.
Diolchwyd i James am y diweddariad
Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
Mewn ymateb i’r siom nad oedd y fflyd Dosbarth 197 yn cael ei gyflwyno
ym mis Mai 2026, nodwyd bod hyn oherwydd yr angen i gynnal teithiau prawf a
chynnal hyfforddiant cyn cyflwyno’r fflyd gyfan ar y rheilffordd. Y
penderfyniad oedd osgoi misoedd prysur yr Haf.
Mewn ymateb i sylw bod trenau wedi eu canslo yn ystod Storm Claudia a
hynny oherwydd llifogydd, er nad oedd y dŵr yn ymddangos yn uchel, a beth
felly yw’r lefel dŵr sydd yn arwain at asesu’r effaith cyn canslo trenau,
nodwyd nad oedd y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ysgafn. Adroddwyd bod
penderfyniadau sydd yn ymwneud a thywydd eithafol yn cael ei wneud ar y cyd
gyda gwybodaeth gan y Swyddfa Dywydd a chynlluniau yn cael eu gweithredu yn
seiliedig ar anghenion a diogelwch teithwyr. Amlygodd bod rhaid gwneud
penderfyniadau ymlaen llaw fel bod modd trefnu teithiau amgen, ond bod pob
ymgais yn cael ei wneud i osgoi dim teithio. Ategodd bod modd rhannu’r
wybodaeth a arweiniodd at benderfyniadau a waned yn ystod y storm.
Mewn ymateb i awgrym bod angen cynyddu’r defnydd o drenau sydd yn cario
llwythi (freight trains), fydd o ganlyniad yn creu incwm ac yn lleihau lorïau
cludo llwyth yn achosi difrod i bontydd e.e., Pont Dolgoch, sydd yn creu oedi
sylweddol i deithwyr rheilffordd, nodwyd mai Network Rail sy’n gyfrifol am
drefniadau llwybrau llwyth ac nad oedd yn ymwybodol o fwriad i atal y gwasanaeth. O ran cynyddu’r
gwasanaeth, nodwyd bod defnydd llawn (full capacity) o’r rheilffordd ar hyn o
bryd, ac felly anodd fyddai rhedeg mwy o drenau llwythi oni bai bod gwariant
sylweddol i greu dolenni pasio; anodd fyddai hefyd rhedeg mwy ar y gwasanaeth
yn ystod y nos gan fod Network Rail yn cynnal gwaith cynnal a chadw yn y cyfnod
yma.
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd cynlluniau i redeg taith trên stem o
Fachynlleth i Bwllheli sydd yn atyniad da i ymwelwyr a defnyddwyr y
rheilffordd, nodwyd oherwydd defnydd llawn o’r rheilffordd mai anodd fyddai
rhedeg trên stem heb effaith ar y gwasanaeth dyddiol. Er hynny, derbyniwyd y
sylw a gwnaed addewid i edrych i mewn i hyn a rhannu gwybodaeth gyda’r
Pwyllgor.
Network Rail
Mynegwyd siom nad oedd cynrychiolydd o Network Rail yn bresennol yn y
cyfarfod i gyflwyno diweddariad, ond nodwyd eu parodrwydd i dderbyn sylwadau /
adborth am y gwasanaeth.
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn bresennol yn y
cyfarfod i gyflwyno diweddariad