Agenda item

I ystyried yr adroddiad a nodi'r wybodaeth. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Brosiect Snowdon fel Prosiect Yr Wyddfa

 

COFNODION:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Medi o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sy’n gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd arno).

 

Adroddwyd bod gwaith sefydlu’r Cwmni Buddsoddi WPP IMCo ar gyfer buddsoddiadau cronfeydd pensiwn LGPS yng Nghymru yn parhau fel maes blaenoriaeth a bod prif swyddog gweithredol bellach wedi cael ei benodi. Y cam nesaf fydd cofrestru’r cwmni gyda Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), penodi swyddogion pellach a ffurfio cytundebau. Mynegwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu (03-12-25) i’r Aelodau dderbyn gwybodaeth bellach ar y datblygiadau a chael cyfle i ddysgu mwy am y cwmni a pha gytundebau fydd angen i’r Pwyllgor eu cymeradwyo. Anogwyd yr Aelodau i fynychu.

 

Cyflwynwyd diweddariad ar y materion arferol o adolygu’r cynllun busnes, polisïau a’r gofrestr risg. Cyfeiriwyd at y cynnydd y mae’r cronfeydd yng Nghymru wedi’i pwlio, gyda Gwynedd yr ail uchaf o’r wyth gronfa unigol wedi trosglwyddo 87% sy’n golygu bydd y broses o symud yr asedau i'r cwmni buddsoddi IMCo ychydig yn haws o gymharu â chronfeydd eraill.

 

Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad a pherfformiad yr is gronfeydd a’r marchnadoedd preifat gan ategu bod y rhaglen buddsoddi eiddo wedi cael ei sefydlu ac eiddo presennol Gwynedd yn y broses o gael ei drosglwyddo i Cronfa DU, gan fuddsoddi ymhellach yng Nghronfa Impact Investing yn fuan ym mis Ionawr 2026.

 

Mynegwyd bod y cydbwyllgor wedi derbyn diweddariad ar gronfeydd isadeiledd gan GCM Grosvenor sydd yn buddsoddi mewn amryw o gynlluniau ledled Prydain.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod PPC yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC, ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir - angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr Wyddfa.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a fydd hyn yn debygol o greu problemau at gyrraedd y targed o 100% neu yn adlewyrchu yn wael ar PPC, nodwyd bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y gwaith. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith ar is gronfeydd ACS sydd yn dal cwmnïau Rwsiaidd a’r angen am wybodaeth ynglŷn â’r asedau hyn, nodwyd, er bod  gwybodaeth am y buddsoddiadau yn newid yn ddyddiol, bod darn o waith wedi ei gomisiynu i ffurfioli datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd.

 

Yng nghyd-destun gosod targed / amcanion ar gyfer daliadau’r Cyngor ac os oedd bwriad eu cadw neu eu gwerthu, nodwyd nad oedd cynllun pendant mewn lle ond bod bwriad llunio Polisi Gwaharddiad i ymdrin â’r mater. Bydd datganiad gan PPC yn cael ei ddosbarthu yn fuan.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Brosiect Snowdon fel Prosiect Yr Wyddfa

 

Dogfennau ategol: