I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi
trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a
gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariadau ar amrywiol
brosiectau:
·
Gweithredu rhwymedigaeth
McCloud yn dilyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys
·
Gwaith yn ymwneud â
phrisiad actiwaraidd 2025 oedd yn cynnwys cynnal
Fforwm Cyflogwyr i rannu canlyniadau prisiad gyda’r cyflogwyr. Nodwyd bydd y
cyfraniadau newydd yn cael eu cadarnhau yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2026.
·
Gwaith yn ymwneud â chysylltu gydag ecosystem
Dashfwrdd Pensiwn Cenedlaethol erbyn 31/10/25.
·
Paratoi ymateb (ar sail
Cymru gyfan) i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i’r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fydd yn moderneiddio’r cynllun, gwella tegwch
a chryfhau amddiffyniadau aelodau hirdymor.
·
Bod gwaith i sicrhau bod
Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bodloni gofynion statudol drwy gyhoeddi Datganiadau
Buddion Blynyddol wedi ei gwblhau ddiwedd Gorffennaf (cyn y diwrnod cau).
Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad / rhith
ffurf ar y porth Fy Mhensiwn ar Lein sydd yn cefnogi aelodau i ddeall y
datganiadau yn well.
·
Bod ansawdd data yn parhau yn flaenoriaeth i’r
Gronfa a datblygiadau parhaus yn cael eu gweithredu i wella’r ansawdd
ymhellach. Cyfeiriwyd at esiampl lle mae'r Gronfa yn cydweithio gyda gwasanaeth
olrhain proffesiynol i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt teulu aelodau sydd
wedi marw neu sydd yn ymddangos fel ‘cyfeiriad sydd wedi mynd i ffwrdd’.
·
Bod cyfathrebu gydag
aelodau hefyd yn parhau yn flaenoriaeth – cylchlythyr wedi ei ddosbarthu gyda’r
Datganiadau Buddion Blynyddol 2025. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail ddylunio
gwefan y Gronfa.
·
Eglurwyd, yn sgil newidiadau mewnol yn cael ei
gweithredu i dasgau nad oedd data perfformiad cynhwysfawr ar gael, bod y Gronfa
yn rhoi sicrwydd nad oedd unrhyw arwydd bod perfformiad y gwasanaeth yn
dirywio, ond bod bwriad cyflwyno’r wybodaeth pan fydd y gweithdrefnau
diwygiedig wedi eu cwblhau.
·
Bod gwaith yn parhau i
sicrhau bod polisïau a chydymffurfiaeth yn eu lle mewn ymateb i ofynion
Llywodraethu Da
Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod
aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n raddol o fis i fis. Adroddwyd bod Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Heywood
i ddatblygu fersiwn Gymraeg a bod y fersiwn yma i’w chyflwyno i holl gronfeydd CPLlL Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.
Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at
Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu,
i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 58 o aelodau
wedi cymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill 2025 – Medi 2025 gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95.13% o’r
defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel ac a 97.26%
yn cytuno’n gryf neu gytuno bod perfformiad staff yn bodloni safon uchel).
Diolchwyd am yr
adroddiad. Nodwyd bod llwyddiannau cwblhau gwaith o fewn amserlen benodol yn
rhoi hyder i’r Gronfa bod swyddogion yn gweithredu yn effeithiol a safonol. Yr
adroddiad yn amlygu bod llawer o waith wedi ei gwblhau mewn cyfnod heriol.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: