Alwen Williams, Prif Weithredwr a Dave Hole, Arweinydd Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Nodwyd diweddariad cynnydd a'r heriau cyfredol o ran
trawsnewidiad a gwelliant parhaus y CBC yn ystod 2025/26.
Cyfarwyddwyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym
mis Mawrth 2026 i roi diweddariad ar gyflawni rhaglen 2025/26, gan gynnwys y
rhaglen arfaethedig newydd ar gyfer 2026/27.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
a Dave Hole, Arweinydd Rhaglen.
PENDERFYNWYD:
Nodwyd diweddariad cynnydd a'r heriau cyfredol o ran
trawsnewidiad a gwelliant parhaus y CBC yn ystod 2025/26.
Cyfarwyddwyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym
mis Mawrth 2026 i roi diweddariad ar gyflawni rhaglen 2025/26, gan gynnwys y
rhaglen arfaethedig newydd ar gyfer 2026/27.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd y Rhaglen Trawsnewid a Gwella 2025/26. Nodwyd mai
pwrpas yr adroddiad yw diweddaru Aelodau’r CBC ar gynnydd cyfredol, heriau, a’r
camau nesaf ar gyfer trawsnewid a gwella parhaus y CBC.
Darparwyd cyd-destun ac atgoffwyd yr Aelodau fod y CBC
bellach yn gweithredu fel endid corfforaethol sefydledig gyda'r awdurdod i
gyflogi staff a galluogi trefniadau llywodraethu cadarn. Atgoffwyd yr Aelodau
fod y Cynllun Twf, ei chyllid, a’i gweithwyr wedi’u trosglwyddo i’r CBC a’r
brand Uchelgais Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2025, gyda lansiad rhaglen
ddiwygiedig ac uchelgeisiol ar gyfer 2025/26 sy’n adeiladu ar gynllun
gweithredu’r CBC ac yn cyflawni rhaglen o welliant parhaus. Ymhellach, nodwyd
bod y Prif Weithredwr wedi cael ei phenodi ym mis Mehefin 2025, ac yn
gweithredu fel yr uwch berchennog cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid a
Gwella.
Amlygwyd bod y rhaglen yn uchelgeisiol a rhestrwyd yr heriau
allweddol, gan gynnwys y gallu i recriwtio a chadw staff medrus, cwblhau’r
cytundebau lefel gwasanaeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd gyda Chyngor
Gwynedd, rheoli capasiti adnoddau ochr yn ochr â
gweithrediad busnes arferol, a gweithredu o fewn y cyfyngiadau cyllidebol a
neilltuwyd.
Rhestrwyd ymhellach ffactorau allanol sydd wedi effeithio ar
gynnydd, gan gynnwys oedi wrth lansio prosbectws Llywodraeth Cymru, a
dyraniadau grantiau. Mynegwyd fod prosiectau fel gweithredu rheolaeth
pwyllgorau a gwe-darlledu wedi cael eu gohirio oherwydd y dibyniaethau hyn, ond
bydd y rhain yn parhau i gael eu datrys yn y misoedd nesaf.
Nodwyd bod datblygiad rhaglen newid newydd sy’n edrych
ymlaen ar y gweill, a bydd ‘roadmap’ ar gyfer y
blynyddoedd dilynol yn parhau i ddatblygu. Bydd y blaenoriaethau allweddol yn
dangos newid o fewn y rhaglen, ac mae’r rhain wedi’u rhestru yn adran 5.6 o’r
adroddiad.
Ymhelaethwyd fod y rhaglen yn cael ei chefnogi gan adnoddau
mewnol ac allanol, o ran ystyriaethau ariannol a llywodraethu. Nodwyd mai
cyllidebau a chyllid grant wedi’u nodi, ond wrth i anghenion sefydliadol
esblygu efallai y bydd potensial i ofyn am gyllid ychwanegol. Cadarnhawyd bod
ymatebion swyddogion statudol yn cadarnhau cywirdeb y wybodaeth ac yn tynnu
sylw at yr her barhaus o gydbwyso capasiti â gofynion
trawsnewid.
Hysbyswyd yr Aelodau, er mwyn sicrhau llywodraethu da ac
atebolrwydd corfforaethol, fod yn rhaid i’r CBC dderbyn diweddariadau rheolaidd
ar weithgareddau trawsnewid a gwella.
Nodwyd pryderon ynghylch cadw a recriwtio staff, ac fe’i
hamlygwyd fel problem bosib ar gyfer y dyfodol. Ymhelaethwyd bod adnoddau’n
brin yng Ngogledd Cymru, yn enwedig mewn meysydd arbenigedd fel caffael a
pholisi, ac mae’n hanfodol peidio â chymryd adnoddau gan awdurdodau lleol.
Cadarnhawyd bod y Prif Weithredwr yn bwriadau tynnu sylw at heriau recriwtio yn
yr adroddiad ar gyfer mis Mawrth 2026.
Mynegwyd pryder bod recriwtio yn her sy’n wynebu’r holl
awdurdodau lleol. Adroddwyd bod y Prif Weithredwr mewn trafodaethau â
Llywodraeth Cymru i amlygu unigolion sydd â sgiliau perthnasol i weithio gyda’r
CBC ar secondiad. Ymhellach, nodwyd bod angen i’r CBC fod mor hyblyg â phosib
gyda’u recriwtio er mwyn sicrhau adnoddau cywir.
Holwyd o ran tanwariant os oes cynlluniau yn y Gogledd
Orllewin i'w gweithredu, cytunwyd y bydd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr yn
cynnal cyfarfod a'r aelod i esbonio'r cynlluniau ymhellach.
Talwyd diolchiadau am y diweddariad
Dogfennau ategol: