Agenda item

Alwen Williams, Prif Weithredwr  a Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Ystyriwyd yr eitemau a ganlyn i'w cymeradwyo:

 

• Dyraniadau buddsoddi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol;

• Rhaglenni'r Parth Buddsoddi fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad hwn;

• Cylch Gorchwyl Gweithgor Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam (Atodiad 1);

• Y caniateir i Swyddog Adran 151 y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau'r Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau

ansylweddol pellach sy'n angenrheidiol i gytuno ar y CCB gyda'r ddwy Lywodraeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr a Iain Taylor, AMION Consulting

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyriwyd yr eitemau a ganlyn i'w cymeradwyo:

 

• Dyraniadau buddsoddi'r Cynllun Cyflawni Blynyddol;

• Rhaglenni'r Parth Buddsoddi fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad hwn;

• Cylch Gorchwyl Gweithgor Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam (Atodiad 1);

• Y caniateir i Swyddog Adran 151 y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau'r Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau

ansylweddol pellach sy'n angenrheidiol i gytuno ar y CCB gyda'r ddwy Lywodraeth.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 1 ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Nodwyd bod hwn yn gyfle cyffrous i Sir y Fflint a Wrecsam, ac i Ogledd Cymru i gyd. Ymhelaethwyd y bydd hyn yn cyflawni statws byd-eang gwell yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch yng Ngogledd Cymru.

 

Adroddwyd bod y Parth Buddsoddi bellach yn y cyfnod cyflawni. Atgoffwyd Aelodau bod rhaid gosod cynllun cyflawni bob blwyddyn, a’r bwriad ydi cyflawni allbwn y rhaglen ym mhob blwyddyn. Hysbyswyd yr aelodau fod cymeradwyaeth yn cael ei geisio ar gyfer cynllun cyflawni’r flwyddyn gyfredol, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2025.

 

Eglurwyd y byddai cymeradwyaeth yn galluogi’r CBC i gyflwyno’r Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 1, a fyddai’n sbarduno’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth derfynol wedi’i lofnodi a’r llythyr cynnig grant ar gyfer cronfeydd blwyddyn un. Ymhelaethwyd y byddai gwaith paratoi yn cychwyn ar gronfa Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 2, a bydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2026. Eglurwyd y bydd hyn yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Gwaith Sir y Fflint a Wrecsam ac hefyd i’r CBC.

 

Manylwyd bod y rhaglen wedi’i hen sefydlu, a fod yn cwmpasu sgiliau, cymorth busnes, seilwaith, ac ati. Nodwyd bwriad i gydweithio â phartneriaid ar draws Gogledd Cymru, ac i bartneriaid gyflawni rhaglenni datblygu arloesedd a chynigion ar gyfer partneriaethau allweddol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu ac ar gyfer dylunio a datblygu'r rhaglen de-garboneiddio ymhellach.

 

Adroddwyd bod cynigion gan Goleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam wedi cael eu derbyn ar gyfer y cam gyntaf o’r rhaglen sgiliau, ac mi fydd y rhain yn cael eu rhannu gyda Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Nodwyd y byddai'r CBC yn penderfynu ar y rhaglen sgiliau fel mai o’n dod yn ei flaen. Ymhelaethwyd mai’r  bwriad yw ymrwymo i gytundebau ariannu i lansio rhaglen cymorth busnes yn Sir y Fflint a Wrecsam, a fydd yn gweld busnesau yno’n gwneud cais am grant a chymorth.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn adrodd ar weithgareddau lefel uchel a’r dyraniadau ariannol ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf. Pwysleisiwyd yr angen i ystyried dyraniadau blwyddyn un yn y cyfarfod hwn.

 

Ychwanegwyd y byddai penderfyniadau ynghylch y Parth Buddsoddi yn cael eu gwerthuso a’u cytuno gydag arweinwyr Sir y Fflint a Wrecsam, ond bydd yr adroddiad gyda’r CBC i’w gytuno yn derfynol. Byddai mandad yn cael eu rhoi i Swyddog Cyllid Statudol y CBC i lofnodi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol gyda’r amod bod unrhyw addasiadau ansylweddol yn cael eu gwneud yn ôl ei ddisgresiwn ac yn cael eu cyflwyno yn ôl i’r CBC.

 

Diolchwyd am y diweddariad. Mynegwyd pryder am ddiffyg ymgysylltiad ag ysgolion a phobl ifanc, yn enwedig o amgylch prentisiaethau a’r cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’r prosiect. Ychwanegwyd balchder i weld Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi’i chynnwys yn y prosiect, yn enwedig i gefnogi’r prosiect gweithio dros y rhanbarth. Nodwyd bydd rhaid i’r agenda sgiliau edrych yn rhanbarthol ac nid yn unig Sir y Fflint a Wrecsam. Cytunwyd bod yn bwysig i’r awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gefnogi llwyddiant y Parth Buddsoddi.

 

Gofynnwyd am Fwrdd Cynghori Parth Buddsoddi, a sut y mae’n ffitio o fewn y strwythur llywodraethu. Mewn ymateb, gofynnwyd i’r ymgynghorydd yrru e-bost i’r holl Aelodau gyda manylion am y Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi a diagram o’r strwythur llywodraethu. Nodwyd ei bod yn ofynnol i Barthau Buddsoddi gael byrddau cynghori annibynnol, er mwyn gallu cymryd cyngor ac argymhellion ar y cyfeiriad strategol, a nodwyd mai’r  bwriad yw adrodd yn chwarterol i’r grŵp hwn.

 

Cadarnhawyd mai’r CBC yw’r corff atebol ar gyfer bob penderfyniad.

 

Talwyd diolchiadau i’r holl swyddogion.

 

Dogfennau ategol: