Agenda item

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn a thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol Atodiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Tw fi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu'r llall.

 

Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio 2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol.

 

Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu'r llall.

 

Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio 2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae'n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.  

 

Mae'n ofynnol, fel y nodir yn y Cytundeb Cyflawni a Chyllido (Cytundeb Llywodraethu 2 gynt), i bartneriaid Cynllun Twf Gogledd Cymru ddiweddaru'r Cynllun Busnes Cyffredinol bob pum mlynedd. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ddiweddariad blynyddol i’r achos busnes y portffolio a chynllun busnes cyffredinol. Eglurwyd ei bod yn ofyniad i ddiweddaru’r Achos Busnes yn flynyddol yn rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol.

 

Amlygwyd yr addasiadau sydd wedi ei wneud i’r Cynllun Busnes a oedd yn cynnwys man ddiweddariadau i’r Achos Strategol, newidiadau mwy i’r Achos Economaidd er mwyn adlewyrchu Achosion Busnes sydd wedi eu cymeradwyo ac wedi eu haddasu dros y 12 mis diwethaf, ynghyd a’r drefn i greu’r Rhestr o Gynlluniau wrth gefn.

 

Nodwyd bellach fod 6 cynllun yn cyflawni, 9 Achos Busnes Llawn wedi’i gymeradwyo ond ddim yn weithredol, 4 Achos Busnes Amlinellol wedi’i gymeradwyo ac yn gweithio tuag at Achos Busnes Llawn, 1 yn datblygu tuag at Gynllun Busnes Amlinellol, 1 prosiect dan risg ac yn adrodd yn goch a 18 prosiect ar y rhestr wrth gefn. Amlygwyd fod hyn yn gynnydd sylweddol o Hydref 2024 gyda gwariant wedi cynyddu dros £20m a ynghyd a 23 swydd ychwanegol i’r rhanbarth.

 

Amlygwyd fod yr Achos Busnes Portffolio wedi edrych ar y gwariant ar arian sydd dros ben ar gyfer cyfnod y cynllun gan amlygu’r senario gorau, canolig a gwaethaf ar gyfer swyddi a gwariant.

 

Cadarnhawyd fod adolygiad wedi ei gynnal sydd wedi sicrhau fod y cynnydd ar y Cynllun Twf wedi symud eleni o lefel coch i lefel ambr. Eglurwyd fod hyn yn adlewyrchiad positif iawn o’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y 12 mis, a bod hyn yn newid cam sylweddol ond fod risgiau yn cael ei amlygu. Eglurwyd y bydd yr asesiad yn llawn yn cael ei hanfon i’r aelodau dros yr wythnosau nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff am gynnal yr asesiad ac am eu gwaith dros y flwyddyn. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i symud cynlluniau yn eu blaen a'u bod wedi symud o lefel coch i lefel ambr. Amlygwyd fod y camau sydd wedi ei wneud yn dderbyniol gan y Llywodraeth yn ogystal.

 

Pwysleisiwyd yr angen i barhau ar waith i symud ymlaen ac i beidio tynnu troed oddi ar y sbardun.  Llongyfarchwyd i’r holl staff am eu gwaith yn symud y cynlluniau yn eu blaen.

 

Dogfennau ategol: