I ystyried:
· Cais gan aelod o’r cyhoedd
· Ymateb swyddogion i’r pwyntiau a godwyd
yn y cais i graffu
· Os oes angen gwneud
argymhelliad(ion) penodol
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Cofnod:
Cadarnhawyd nad oedd modd i’r
aelod o’r cyhoedd fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Yn ei
absenoldeb, darllenodd yr Ymgynghorydd Craffu ddatganiad ysgrifenedig a
ddarparwyd ganddo, a oedd yn ymhelaethu ar ei gais drwy nodi’r pwyntiau canlynol:
·
Dylai’r arian sydd yn cael ei wario fel rhan o
Gynllun Ymateb Argyfwng Hinsawdd a Natur gyfarch gofyniad budd cyhoeddus Deddf
Elusennau 2011, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail
tystiolaeth, yn dryloyw a bod modd eu craffu’n effeithiol.
·
Ei fod yn anoddach i dystiolaethu sut mae
prosiectau yn cael eu blaenoriaethu ac os ydynt yn cyfarch y gofyniad budd
cyhoeddus, os oes unrhyw brosiectau eraill wedi eu hystyried a pha dystiolaeth
a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad os nad oes ymgynghoriadau cyhoeddus a
goruchwyliaeth y Cabinet yn rhan o lywodraethiant y
Cynllun.
·
Pwysigrwydd trefniadau llywodraethu da.
·
Dylid sicrhau bod cynlluniau arbrofol yn addas ar
gyfer y dyfodol. Os yw’r Cyngor yn cynnal cynllun peilot cerbydau fflyd trydan,
ni fyddai canlyniadau’r peilot yn adlewyrchu gwir gost y fflyd drydan i’r
dyfodol.
·
Dylai prosiectau’r Cynllun nodi budd cyhoeddus dros
amser i’r dyfodol. Gall budd cyhoeddus o unrhyw brosiect leihau os yw costau yn
parhau i gynyddu. Rhaid i’r Cyngor ddangos y rhoddir ystyriaeth i hyn.
·
Bod hawliau dirprwyedig yn cynyddu'r risg o
dybiaethau heb eu profi. Pryder y gall prosiectau gael eu cymeradwyo ar sail
gwybodaeth sydd wedi dyddio neu ar sail optimistaidd heb gael ei graffu.
Mewn
ymateb i’r cais i graffu ac i’r datganiad ysgrifenedig a oedd yn ymhelaethu ar
gais yr unigolyn, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan swyddogion:-
Croesawyd
y cais hwn i graffu’r materion gan aelod o’r cyhoedd, gan ymfalchïo bod y
cyhoedd yn ymddiddori yng ngwaith y Cynllun.
Sicrhawyd
bod llywodraethiant y Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur yn
cael ei ystyried yn gyson, gan rhoi ystyriaeth fanwl i’w weithrediadau a
phenderfyniadau cyllidol, gan nodi bod ymateb ysgrifenedig wedi cael ei
gyflwyno i’r cais i graffu yn rhan o ddogfennaeth y cyfarfod.
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol i
weithrediad y Bwrdd na’r Cyngor yn gyffredinol, gan egluro mai Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a gweithdrefnau democrataidd yw’r
ystyriaethau perthnasol ar gyfer Cyngor Gwynedd.
Mewn
ymateb i’r cais i graffu ac i’r datganiad ysgrifenedig yn ymhelaethu ar y cais,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-
Diolchwyd
i’r unigolyn am gyflwyno’r cais hwn i graffu, gan ymfalchïo bod y cyhoedd yn
cymryd diddordeb yn y maes.
Anghytunwyd gyda’r cysyniad nad
oedd materion y Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur yn cael ei graffu gan fod y
pwyllgor hwn yn ei graffu’n rheolaidd. Ychwanegwyd bod aelod o’r cabinet yn
bresennol ar gyfer y broses craffu hynny a bod sylwadau’r pwyllgor hwn yn cael
effaith gadarnhaol ar y Bwrdd.
Cadarnhawyd
bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn gyson ar faterion argyfwng
hinsawdd a natur er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn cael cyfle i leisio barn wrth lunio prosiectau’r Bwrdd.
Fodd bynnag, ystyriwyd bod lle i wella er mwyn sicrhau bod cymunedau penodol yn
ymateb i’r ymgynghoriadau hyn. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Aelod
Cabinet Amgylchedd bod yr ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnwys ar
dudalen ‘Dweud eich Dweud’ ar wefan y Cyngor gan gydnabod bod gwaith ar y
gweill er mwyn sicrhau bod ymgynghoriadau yn cyrraedd cynghorau Tref a Chymuned
ac bod ymatebion helaeth yn cael eu derbyn.
Nodwyd hefyd bod arbenigwyr maes
yn casglu gwybodaeth ar gyfer y Bwrdd gan sicrhau bod y wybodaeth gywir a
diweddaraf yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau. Cydnabuwyd bod y mater hwn yn faes
cymhleth iawn a bod angen gwybodaeth wyddonol benodol i allu casglu data yn
effeithiol.
Mewn
ymateb i sylwadau penodol ar sut mae’r Bwrdd yn cyllidebu’r prosiectau y
gymeradwyir, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod trafodaethau am
gyllidebau yn cymryd lle yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Ymhelaethwyd bod y Cynllun
yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ac bod unrhyw benderfyniad mae’r Bwrdd
yn ei wneud yn derbyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Cabinet er
goruchwyliaeth, ac er mwyn sicrhau proses democrataidd i sicrhau bod y
cyllidebau yn cael eu gwario’n ystyrlon a thryloyw.
Mewn
ymateb i ymholiad am aelodaeth y Bwrdd, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd nad
oedd yr aelodau etholedig ar y Bwrdd i gyd yn aelodau o Grŵp Plaid Cymru,
gan gadarnhau bod drawstoriad o’r Cyngor yn bresennol yn y cyfarfodydd megis
pum aelod cabinet, 2 aelod etholedig - cynrychiolydd o’r pwyllgor craffu a
Phencampwr Bioamrywiaeth, ynghyd â nifer o uwch swyddogion.
Mewn
ymateb i sylwadau a gyflwynwyd parthed sail ‘Risg o Symudiad Strategol’ a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais i graffu, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd bod angen i
unrhyw un sydd yn dymuno derbyn arian o Gronfa Cynllun Hinsawdd lenwi ffurflen
a fyddai’n derbyn ystyriaeth y Bwrdd. Eglurwyd bod y ffurflen hon yn cynnwys
nifer o amodau yn ogystal â manylu ar y budd a ddaw o gyflawni’r gwaith o dan
sylw, er mwyn gallu penderfynu a fyddai caniatáu’r cais am arian yn cyd-fynd
gyda blaenoriaethau’r Cynllun Argyfwng. Nodwyd hefyd bod gwariant y Gronfa yn
derbyn sylw’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
· Nodi ymateb y swyddogion, cydnabod
bod trefniadau llywodraethu mewn lle a pharhau i graffu’r Cynllun yn flynyddol.
· Argymell
i’r Aelod Cabinet Amgylchedd y dylid ystyried dulliau i gynyddu ymateb i
ymgynghoriadau cyhoeddus a chael mewnbwn y cyhoedd ac eraill.
·
Gofyn bod gwybodaeth am wariant yn cael ei amlygu a’i fanylu
yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur er sicrhau
tryloywder.
Dogfennau ategol: