To review
the Climate and Emergency Plan as part of the Cyngor Gwynedd Plan 2023-28, A
Green Gwynedd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Ø
y dylid cyfathrebu llwyddiannau a’r gwaith a
gyflawnwyd i wireddu’r Cynllun gyda’r cyhoedd.
Ø
bod angen cynyddu’r defnydd o gwestiynau agored
mewn ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn
derbyn ymatebion a fyddai’n cyfoethogi’r wybodaeth ar gael i lywio cyfeiriad
i’r dyfodol.
Ø
y dylid ystyried addasu’r geiriad canlynol:
“...byddwn yn parhau i leihau ein allyriadau dros y degawdau nesaf hyd nes ein
bod yn cyrraedd y targed o sero net’ (Tudalen 6, Cynllun Argyfwng Hinsawdd a
Natur, Fersiwn 2), er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol o ran cyrraedd y targed.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol a’r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd. Tynnwyd sylw at y prif
bwyntiau canlynol:
Cadarnhawyd bod y cynllun diwygiedig wedi cael ei ddatblygu yn dilyn
adborth o ymgynghoriad cyhoeddus a gyflawnwyd yn ystod misoedd yr haf 2025.
Tynnwyd sylw bod newidiadau i brosiectau’r cynllun gan nodi hefyd bod nifer
uwch o brosiectau.
Atgoffwyd bod y cynllun gwreiddiol yn manylu ar brosiectau mewnol i’r
Cyngor yn unig, gan gadarnhau bod hyn bellach wedi ei newid i gynnwys
prosiectau allanol hefyd. Ymhelaethwyd bod gwaith pellach wedi cael ei gyflawni
ar y prosiectau gwreiddiol er mwyn
sicrhau gwerth cyhoeddus ac i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn
sicrhau bod pob cymuned yn ymuno gyda’r Cyngor er mwyn cynorthwyo i atal yr
argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod hyn yn arwain at effaith ar
adnoddau gan adrodd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ceisio amcangyfrifo
costau rhai prosiectau.
Pwysleisiwyd bod nifer o ffactorau wrth ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd a
natur y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan bwysleisio bod popeth yn cael ei wneud
er mwyn ymdrechu i fynd i’r afael a’r argyfwng tra mae llywodraethau eraill yn
fwy ymrwymol i’r achos.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd
y sylwadau a ganlyn:-
Manylwyd ar ganrannau rhai o gwestiynau
penodol yr ymgynghoriad cyhoeddus gan ystyried byddai’n ddefnyddiol i gynnwys
rhai cwestiynau agored. Teimlwyd byddai cynnwys cwestiynau o’r fath yn arwain
at awgrymiadau a fyddai’n gwella gwasanaethau i’r dyfodol ac yn ddull o dderbyn
syniadau newydd i’w datblygu yn y maes. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd y byddai
cynnwys cwestiynau o’r math yma yn cael ei ystyried yn y dyfodol.
Derbyniwyd rhai sylwadau o bryder nad oedd y
Bwrdd yn ymateb yn ddigon effeithiol gan nad oedd yn derbyn gwybodaeth wyddonol
arbenigol. Ymhelaethwyd mai swyddogion profiadol y Cyngor sydd yn rhan o’r
Bwrdd yn ogystal ag Aelodau Etholedig gan amlygu’r angen am arbenigwyr penodol
o fewn meysydd gwyddoniaeth. Yn yr un modd, pryderwyd bod rhai o brosiectau’r
cynllun yn arwain at gostau cynyddol gan awgrymu y gall cyfran o’r arian hwn
gael ei ddefnyddio i ymateb i heriau presennol
sydd yn effeithio pobl Gwynedd yn hytrach nac ymdrechu i ddatrys
problemau a all godi yn y dyfodol.
Cyfeiriwyd at dudalen 6 o’r Cynllun a oedd yn
nodi : “...byddwn yn parhau i leihau ein allyriadau dros y degawdau nesaf hyd
nes ein bod yn cyrraedd y targed o sero net’, gan ystyried os yw lleihau
allyriadau dros ddegawdau nesaf yn darged anghyrraeddadwy. Trafodwyd yr angen i
addasu’r geiriad hwn er mwyn cynnwys targed realistig ac uchelgeisiol i’r
dyfodol. Mewn ymateb, cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda’r sylwadau hyn
gan bwysleisio ei fod yn allweddol i osod targedau realistig gan nad yw’n
debygol bydd modd cyfarch y nôd.
Tynnwyd sylw bod Adran 10
o’r Cynllun yn nodi bod cyfraddau allyriadau carbon yn y maes gwastraff yn sero
erbyn hyn. Gofynnwyd o ystyried bod allyriadau carbon yn deillio o losgi
gwastraff gweddilliol ym Mharc Adfer, sut oedd allyriadau’r maes yma yn sero.
Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet byddai gwybodaeth bellach ar y mater
hwn yn cael ei rannu gyda’r Aelodau. Awgrymodd y dylai aelodau ymweld â Pharc
Adfer er mwyn dysgu mwy am y broses.
Adroddwyd bod cynllun peilot
ar y gweill er mwyn lleihau gwastraff cyhoeddus drwy gyflwyno bocsys glas
ailgylchu cymunedol. Gofynnwyd os oes modd derbyn adborth ar y cynllun hwn a
gweld os oes cynlluniau er mwyn ymestyn y cynllun i ardaloedd gwledig y Sir.
Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd nad oedd canlyniadau’r peilot ar gael ar
hyn o bryd ac byddent yn cael eu rhannu cynted a bod modd er mwyn gweld os oes
modd ehangu’r cynllun.
Yn yr un modd, ystyriwyd os oedd cynnwys rhai
o brosiectau newydd o fewn adran 10 y Cynllun yn gynamserol. Manylwyd bod
prosiectau i hyrwyddo economi gylchol ac i leihau gwastraff stryd yn nodi nad
oes modd mesur arbedion carbon a chadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd
bod hyn oherwydd eu bod yn amrywio o achos i achos.
Diolchwyd am yr
adroddiad, gan nodi y fyddai’n fuddiol i gynnwys adran ychwanegol yn y Cynllun
neu greu dogfen ar wahân yn dathlu llwyddiant y cynllun hyd yma gan fanylu ar
faint o arian sydd wedi cael ei arbed yn ogystal â manylder ar ddatblygiadau’r
holl gynlluniau a’r arbedion carbon sy’n deillio ohonynt.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
·
Bod y Pwyllgor yn croesawu’r bwriad i ail-edrych ar y targed
i’r Cyngor fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030.
·
Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:
Ø y dylid cyfathrebu llwyddiannau
a’r gwaith a gyflawnwyd i wireddu’r Cynllun gyda’r cyhoedd.
Ø bod
angen cynyddu’r defnydd o gwestiynau agored mewn ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn derbyn ymatebion a fyddai’n
cyfoethogi’r wybodaeth ar gael i lywio cyfeiriad i’r dyfodol.
Ø y dylid
ystyried addasu’r geiriad canlynol: “...byddwn yn parhau i
leihau ein hallyriadau dros y degawdau nesaf hyd nes ein bod yn cyrraedd y
targed o sero net’ (Tudalen 6, Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur, Fersiwn 2),
er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol o ran cyrraedd y targed.
Dogfennau ategol: