I graffu cynlluniau Teithiau Llesol fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023/28 –
Gwynedd Werdd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Ø
bod angen edrych ar wariant ar gyfer cynnal a
chadw llwybrau teithiol llesol a chostau torri gwair a thyfiant ar eu hymylon
er mwyn ystyried a oes unrhyw arbedion posib.
Ø
y dylid cynnwys cwestiynau ynghylch cynnal a
chadw llwybrau teithiau llesol a chwestiwn am faterion lleol yn yr ymgynghoriad
cyhoeddus.
Ø
y dylid edrych ar drefniadau asesiadau risg.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, Trafnidiaeth a Rheolwr
Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol.
Atgoffwyd bod ystod eang o gynlluniau ar waith ar draws y Sir, mewn
ardaloedd gwledig a threfol. Rhannwyd enghreifftiau o brosiectau cyffelyb sydd
ar waith gan bartneriaid y Cyngor er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r rhwydwaith
teithio llesol.
Eglurwyd bod prosiectau yn cael eu blaenoriaethu drwy weithredu dwy
ffrwd grant sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd bod un
yn ymwneud yn benodol â teithio llesol a llwybrau diogel o fewn cymunedau ac ar
gyfer ysgolion. Manylwyd yr angen i asesu gwahanol prosiectau er mwyn sicrhau
eu bod yn cyfarch meini prawf y grantiau hynny er mwyn cael eu cymeradwyo.
Diweddarwyd bod cynlluniau teithio llesol hefyd yn derbyn ystyriaeth bellach o
dan y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Adroddwyd bod datblygiadau teithio llesol yn cael eu diweddaru’n
rheolaidd gyda gwahanol brosiectau ar wahanol lefelau o aeddfedrwydd. Nodwyd
bod hyn yn caniatáu i lwybrau newydd gael eu datblygu yn rheolaidd i gyfarch
anghenion cymunedau.
Tynnwyd sylw bod yr Adran yn awyddus i gynyddu cyfleoedd grantiau sydd
ar gael yn y maes hwn i’r dyfodol. Ymhelaethwyd ar yr her barhaus o gynnal a
chadw’r llwybrau hyn gan atgoffa bod arian cyfalaf yn cael ei ddarparu i osod y
seilwaith ond nad oes arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i’r Cyngor i’w
cynnal a’u cadw. Cydnabuwyd bod nifer o’r llwybrau hyn yn cael eu datblygu ar
ymylon priffyrdd ond pwysleisiwyd nad yw’r rhaglen waith ar gyfer cynnal a
chadw priffyrdd yn cyfarch anghenion defnyddwyr y llwybrau teithio llesol er
mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu hysgubo yn ddigonol a sicrhau bod tyfiant yn
cael ei reoli. Nodwyd y gobeithir byddai llwyddo i ariannu rhaglen cynnal a
chadw effeithiol yn cyflawni nod y prosiect megis lleihau tagfeydd traffig ac i
sicrhau nad oes problemau parcio mewn ardaloedd trefol. Nodwyd bod yr adran
wedi cyflwyno Bid Un Tro am arian i geisio cyfarch y galw am y gwaith hwn
eleni. Pwysleisiwyd bod swyddogion hefyd yn datblygu pecyn i gefnogi ac arfogi
ysgolion i hyrwyddo defnydd o’r llwybrau hyn i’r dyfodol.
Mynegwyd balchder bod yr Adran yn cydweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn datblygu llwybrau a fyddai o gymorth i
bartneriaid y Cyngor. Rhannwyd enghraifft penodol o lwybr teithio llesol yn
ardal Penrhosgarnedd, Bangor, ble gobeithir bydd defnydd o’r llwybrau hynny yn
lleihau baich traffig a pharcio ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Gwynedd a’r
ardal ehangach. Atgoffwyd bod mapiau o lwybrau llesol ar gael sydd yn manylu ar
eu lleoliadau ar draws Gwynedd ac yn genedlaethol.
Pwysleisiwyd nad oes asesiad risg mewn lle ar gyfer sefyllfa ble nad oes
arian yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith cynnal a
chadw’r llwybrau. Tynnwyd sylw penodol am ddifrod i lwybr Lôn Eifion yn 2025 yn
dilyn storm, gan nodi bod rhan o’r llwybr bellach ar gau. Amcangyfrifwyd bydd y
gost o adnewyddu’r llwybr oddeutu £90,000 a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn
canfod ffynonellau i’w ariannu cyn gynted a bod modd.
Cyfeiriwyd at ffynonellau cyllidol gan gadarnhau bod cynlluniau teithio
llesol yn derbyn cymorth ariannol gan Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd i’r
dyfodol, gyda’r bwriad o ddatblygu rhwydwaith ehangach o lwybrau yn
rhanbarthol.
Eglurwyd bod datblygu a chynnal a chadw llwybrau teithio llesol yn
gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd gan gadarnhau nad oes disgwyliad i Gynghorau Tref a
Chymuned i wneud hynny. Fodd bynnag, diolchwyd i Gynghorau cymuned ac aelodau’r
cyhoedd am eu gwaith o dacluso’r llwybrau drwy gynorthwyo i gasglu sbwriel a
sicrhau bod y llwybrau yn glir ar gyfer defnyddwyr.
Adroddwyd bod gwaith ymgysylltu wedi cael ei gwblhau o fewn y maes hwn
wrth i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gwblhau ynglŷn â’r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddiweddar. Nodwyd hefyd bod dros 2000 o ymatebion
wedi dod i law wrth i fapiau’r teithio llesol gael eu cyflwyno yn 2001 gan
atgyfnerthu’r diddordeb cyhoeddus yn natblygiad y cynllun.
Nodwyd bod £2.4miliwn o gyllideb wedi cael ei ddyrannu ar gyfer cyllido
rhai o brosiectau’r cynllun yn ystod y flwyddyn ariannol 2026/27 gan egluro na
fydd hyn yn gyllideb digonol ar gyfer cyfarch yr holl brosiectau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:-
Manylwyd ar y rhestr o brosiectau sydd ar y
gweill gan nodi bod nifer o ddatblygiadau megis llwybr rhwng Caernarfon a Chaeathro wedi cael ei raglennu ar gyfer y tymor hir.
Atgoffwyd bod damwain angheuol wedi digwydd yn yr ardal hon gan bwysleisio’r
angen i ddatblygu’r llwybr. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran bod y prosiectau hynny sydd wedi cael eu rhaglennu yn y
tymor hir yn debygol o gael eu cyflawni mewn oddeutu 10 mlynedd neu fwy, gyda
phrosiectau tymor canolig yn cael eu cyflawni mewn 5 i 10 mlynedd. Ymhellach,
cydymdeimlwyd bod damwain wedi digwydd ar y ffordd yn yr ardal hwn yn ddiweddar
gan gydnabod hefyd bod hyn, yn anffodus, yn wir ar gyfer nifer o ardaloedd
eraill yng Ngwynedd a fyddai’n elwa o lwybrau cyffelyb.
Ystyriwyd y gyllideb ar gyfer cynnal a
chadw’r llwybrau hyn. Gofynnwyd a oes enghreifftiau o ardaloedd ble mae costau
torri gwair ac ymylon ffyrdd wedi cael ei leihau dros amser gan fod ymylon
ffyrdd gwelltog wedi cael ei amnewid am lwybr tarmac. Yn debyg, ystyriwyd os
oes enghreifftiau ble mae costau cynnal priffyrdd wedi cynyddu gan fod mwy o
waith ysgubo a chynnal llwybrau teithio llesol gan eu bod wedi eu lleoli ar
ymyl y priffyrdd. Mewn ymateb i’r sylwadau, diolchodd Pennaeth Cynorthwyol yr
Adran am y sylwadau a bydd gwaith yn cael ei wneud i asesu cyllidebau i
ymchwilio i mewn i’r mater.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran y gellir edrych i mewn i’r posibilrwydd o ariannu costau
cynnal a chadw’r llwybrau teithiol llesol drwy Ardoll Ymwelwyr.
Mewn ymateb i ymholiadau a sylwadau
ynglŷn â chynghorau tref a chymuned, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr
Adran nad oes disgwyl i unrhyw gyngor i wario ar y llwybrau teithio llesol.
Diolchwyd iddynt am eu gwaith o gydweithio gyda’r Cyngor am eu cynnal a chadw
ac i wneud rhwydwaith o lwybrau cyffelyb mewn rhai ardaloedd. Eglurwyd bod y
Cyngor hefyd yn cydweithio â nhw o ran y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy gan nodi
bod modd derbyn gwybodaeth ychwanegol am y cynllun hwnnw yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad pellach ar y gwaith
trwsio sydd i’w wneud ar ran o lwybr Lôn Eifion ym Mhenygroes,
cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran y disgwylir i’r rhan hwn o’r llwybr
fod ar agor erbyn y Pasg. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud dros yr
wythnosau nesaf i gomisiynu’r gwaith. Tynnwyd sylw mai dau aelod o staff sydd
yn cydlynu’r prosiect o ddatblygu’r llwybrau gan ddiolch iddynt am eu gwaith o
geisio sicrhau bod y llwybrau yn hygyrch i ddefnyddwyr. Aethpwyd ymlaen i nodi
y golyga hyn nad oes modd cynnal archwiliadau ar goed ar hyn o bryd er mwyn
asesu risg, gan nodi bod y Bid Un Tro yr ymgeisiwyd amdano gan yr Adran yn cael
ei ddefnyddio i gyfarch y math yma o waith os yw’n llwyddiannus.
Pwysleisiwyd bod swyddogion yn lobio yn gyson
i dderbyn mwy o arian i ddatblygu rhwydwaith y llwybrau teithio llesol, gan
nodi byddai prosiectau sydd wedi cael eu rhaglennu ar gyfer gwaith yn y tymor
canolig a thymor hir yn cael eu cyflawni yn gyflymach os byddai’r gwaith lobio
yn llwyddiannus.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
· Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
· Bod y Pwyllgor yn croesawu’r
gwaith o geisio cyfarch costau cynnal a chadw llwybrau teithio llesol.
· Argymell
i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:
Ø bod angen edrych ar wariant ar
gyfer cynnal a chadw llwybrau teithiol llesol a chostau torri gwair a thyfiant
ar eu hymylon er mwyn ystyried a oes unrhyw arbedion posib.
Ø y dylid
cynnwys cwestiynau ynghylch cynnal a chadw llwybrau teithiau llesol a chwestiwn
am faterion lleol yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Ø y dylid edrych ar drefniadau
asesiadau risg.
Dogfennau ategol: