I graffu
gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw’n fras at y prif
bwyntiau canlynol:
Cyflwynwyd crynodeb o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys
Môn (y Bwrdd) i weithredu Cynllun Llesiant 2023-2028.
Adroddwyd bod y Bwrdd yn ei drydedd flwyddyn o’i gynllun pum mlynedd,
gan gadarnhau y gellir tystiolaethu cynnydd cadarnhaol i’w amcanion.
Ymhelaethwyd bod y mwyafrif o amcanion wedi cael eu cwblhau neu’n datblygu yn
unol â’u hamserlen. Mynegwyd balchder bod y Bwrdd wedi llwyddo i gydweithio
gyda’i bartneriaid ar lefel gweithredol a strategol ac yn rhannu adnoddau ac
arfer dda yn gyson gyda’i gilydd.
Ymfalchïwyd bod y Bwrdd wedi llwyddo i wella’r bartneriaeth a
chydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol,
Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant sydd bellach wedi arwain at waith
arloesol ar draws sawl maes blaenoriaeth.
Cadarnhawyd bod Is-grŵp Iaith y Bwrdd wedi cwblhau prosiect
‘Ymarferion Recriwtio Da’ yn ogystal â phrosiect ‘Chwalu Mythau am Weithio yn
Gymraeg’. Pwysleisiwyd bod y gwaith hwn yn amlygu bod blaenoriaethu’r iaith
Gymraeg yn egwyddor sydd yn cael ei ymgorffori’n drawsbynciol ym mhob elfen o
waith y Bwrdd.
Mynegwyd balchder bod y Bwrdd yn parhau i fod yn arloesol drwy fod y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf i gyd-arwyddo Siarter Teithio Llesol.
Nodwyd bod hyn yn amcan o fewn eu blaenoriaeth hinsawdd gan gadarnhau bod
chwech o aelodau’r bwrdd bellach wedi ymrwymo iddo’n
ffurfiol gan ymhelaethu bod pedwar partner arall yn y broses o wneud hynny.
Pwysleisiwyd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r Bwrdd i fod
yn wybodus am drawma. Eglurwyd bod sesiynau arbenigol wedi cael eu cynnal ar
gyfer holl Aelodau’r Bwrdd gyda gwaith dilynol er mwyn asesu dealltwriaeth a'u
harferion cyfredol. Cadarnhawyd bod bwriad i ehangu’r hyfforddiant hwn ar draws
Gogledd Cymru.
Cyfeiriwyd at rai o ddatblygiadau pellach y Bwrdd megis cydweithio gyda
Thîm Pwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu adnoddau sydd yn helpu
sefydliadau adolygu eu polisïau mewnol ar gyfer dull system gyfan. Yn debyg,
ymfalchïwyd bod safle gwe ranbarthol (agenda.cymru)
wedi ei sefydlu er mwyn rhannu adnoddau ac arferion da gyda Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws rhanbarth gogledd Cymru.
Diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu hwn am eu sylwadau ac argymhellion i
herio’r Bwrdd yn adeiladol er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn cyflawni
canlyniadau ystyrlon i drigolion.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:-
Diolchwyd i’r Bwrdd am eu gwaith i fod yn
Wybodus o Drawma yn ogystal â gwaith sydd yn cael ei wneud i gynorthwyo unrhyw
un sydd yn byw mewn tlodi. Croesawyd gwaith y Bwrdd i adnabod o ble mae trawma
a thlodi yn deillio a gweithio ar ffyrdd i gyfarch hynny’n effeithiol.
Cyflwynwyd ystadegau ar dlodi ymysg plant gan egluro yr amcangyfrifwyd bod
4.5miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig (31% o boblogaeth
plant). Pwysleisiwyd mai 23.6% yw’r ffigwr ar gyfer plant sydd yn byw mewn
tlodi yng Ngwynedd. Cadarnhawyd bod hynny’n gyfwerth â 4571 o blant Gwynedd.
Tynnwyd sylw bod o leiaf un rhiant yn byw mewn tlodi ar gyfer pob un o’r plant
yn y ffigwr hwn, sydd oddeutu 6-7mil o bobl. Diolchwyd i’r Aelodau am y
sylwadau ac am gyflwyno’r ystadegau pwysig yma gan gadarnhau bod Prifysgol
Bangor yn adnodd wych wrth fynd i'r afael â materion tlodi gyda prosiect
cyffrous ar waith ym Maesgeirchen. Ymhellach, nodwyd bod gwaith cydweithio gyda
banc bwyd, Bwyd Da Môn er mwyn gweld o ble mae cyfeiriadau yn deillio ohono gan
ymchwilio i weld os yw’r data yn gyffelyb i’r hyn a welir yng Ngwynedd hefyd.
Mewn ymateb i ymholiad a oedd adroddiad
‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ wedi cyfrannu i waith y bwrdd er mwyn bod yn
wybodus o drawma, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod yr adroddiad yn derbyn
sylw’r Bwrdd. Diolchwyd i Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am eu gwaith
blaenllaw yn arwain y ffordd yn y maes yma, gan gadarnhau bod yr adroddiad
‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ yn derbyn sylw teilwng ar raglen waith y Bwrdd
i’r dyfodol.
Tynnwyd sylw bod Cyngor Sir Ynys Môn eisoes
yn gyngor sydd gyda achrediad Gwybyddus o Drawma, gan holi os oes cynlluniau ar
waith i sicrhau bod Gwynedd yn derbyn yr achrediad hwn hefyd. Mewn ymateb,
cadarnhaodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda
Cyngor Sir Ynys Môn ynglŷn a’r broses o dderbyn yr achrediad hwn.
Ymhelaethwyd bod swyddogion Cyngor Gwynedd o blaid derbyn yr achrediad hwn gan
gadarnhau bod yr Adran Addysg a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd eisoes yn
Wybodus o Drawma. Nodwyd bod pob Adran o’r Cyngor yn gwneud ymholiadau er mwyn
gweld sut allen nhw gyfrannu i’r achrediad a pwysigrwydd ei dderbyn i’w hadran,
gan gadarnhau bydd amserlen yn cael ei lunio.
Mewn ymateb i ymholiad pellach ar y prosiect
o ‘Chwalu Mythau am Weithio yn Gymraeg’, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod
Gyrfa Cymru yn cydweithio gyda’r Bwrdd er mwyn llunio briff o’r mythau sydd yn
bodoli a sut gellir eu datrys. Nodwyd bod y prosiect hwn yn defnyddio cyfryngau
cymdeithasol a fideos er mwyn chwalu’r mythau megis drwy wneud cynnwys ar gyfer
Tiktok ac Instagram.
Pwysleisiwyd bod sefydliadau amrywiol o ogledd Cymru yn cyfrannu i’r prosiect
hwn er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cynnwys lleisiau pobl gyffredin.
Diolchwyd am yr adroddiad gan longyfarch y
Bwrdd ar eu gwaith.
PENDERFYNWYD
· Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
·
Bod y Pwyllgor yn croesawu gwaith y Bwrdd yng nghyswllt
tlodi, hawliau plant a bod yn drawma wybodus.
Dogfennau ategol: