Agenda item

(A)  RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD BECA BROWN

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Hoffem groesawu cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ar Dachwedd 4ydd, gan gofnodi ein diolch dwfn i’r cadeirydd Jan Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i’r panel ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

 

Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbwl haeddiannol i ddewrder plant – plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben. Mae’n dyled iddynt yn enfawr. Mae’n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt am eu penderfynoldeb a'u gwytnwch rhyfeddol.

 

Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023.

 

Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfrach yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP. Rydym yn gwbwl effro i’r ffaith fod gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn I’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi I adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni. 

 

Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i’r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod ‘byth eto’ yn golygu ‘byth eto’

 

 

(B)  RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Cynnig bod y Cyngor

1. Yn nodi: bod ffigyrau hunanladdiad yng Nghymru sydd wedi eu cofrestru yn 2024 yn 15.7 mewn 100,000 person a’r ffigwr yma’n dangos cynnydd, gan mai 14.0 mewn 100,000 oedd y nifer yn 2023. Mae nifer o ffactorau yn gysylltiedig efo hunanladdiad, gan gynnwys: tlodi, diweithdra, problemau iechyd meddwl a chorfforol, galar, camdriniaeth, unigedd, problemau perthynas, camddefnyddio alcohol a sylweddau ac ati.

 

Nodwn hefyd mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth pobl ifanc i fyny at 35 oed yn ol yr elusen Papyrus, oherwydd nad yw pobl ifanc yn marw o achosion eraill yn aml iawn.

 

Dynion canol oed rhwng 30-44 oed yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain. Roedd 76% o’r marwolaethau gan hunanladdiad yn ddynion. Mae perthynas rhwng tlodi a hunanladdiad, efo 15.8 mewn 100,000 o hunanladdiadau yn digwydd mewn ardaloedd difreintiedig, ac 8.6 mewn 100,000 yn yr ardaloedd lliaf difreintiedig.

Mae 126.7 mewn 100,000 yn ddiwaith.

 

Mae modd atal hunanladdiad, ac mae cefnogaeth ar gael.

 

 

2. Yn credu: Bod hawl gan bobl Cymru i fyw mewn cymunedau sy’n rhydd o ofn a stigma sy’n cael eu cysylltu ef hunanladdiad a hunan niwed. Credwn fod bod hawl gan bobl Cymru gael eu grymuso a’u cefnogi i gyrchu a chynnig cymorth pa le bynnag mae ei angen (Llywodraeth Cymru, 2025).

 

Mae gennym oll rol, bob un ohonom, yn unigolion a sefydliadau, i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad. Credwn fod rôl gan y Cyngor i gydweithio efo efo rhanddeiliaid eraill, i weithredu i atal hunanladdiad, gan leihau stigma, a chynnig cefnogaeth.  Credwn fod rol gan y Cyngor i gymryd camau penodol i warchod ein pobl ifanc, gan eu grymuso i edrych ar ol eu hunain ac eraill.

 

Egwyddorion - Strategaeth Atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru (Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio):

  1. Hunan-niweidio a hunanladdiad yw busnes pawb, ac mae pawb yn gallu gwneud gwahaniaeth gyda’r hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir.
  2. Rhaid bod yn glir pwy sy’n arwain ac yn gyfrifol am bob cam gweithredu yn y strategaeth.
  3. Mae’r ffocws ar atal, gan nodi risgiau’n gynnar a chynnig cymorth priodol i gadw pobl yn ddiogel.
  4. Dylai gwasanaethau fod yn deg ac yn hygyrch i bawb, gan ddileu rhwystrau sy’n effeithio ar wahanol grwpiau.
  5. Mae angen canolbwyntio ar grwpiau sydd mewn perygl uwch, gan ddarparu cymorth cymesur a phriodol.
  6. Dylai unrhyw un allu cael cymorth ar unwaith (‘dim drws anghywir’) heb orfod ailadrodd eu stori.
  7. Rhaid gwrando ar leisiau pobl â phrofiad byw a chyd-gynllunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  8. Dylai’r strategaeth gefnogi’r Gymraeg, gan sicrhau bod pobl yn cael gofal yn eu hiaith heb orfod gofyn.
  9. Rhaid i’r camau gweithredu fod ar sail tystiolaeth ac yn glir eu canlyniadau.
  10. Dylai’r gwaith fod yn ystyriol o drawma, gan ddarparu gofal tosturiol ac empathetig.
  11. Mae’n bwysig mynd i’r afael â stigma, gan hyrwyddo dealltwriaeth a thosturi.
  12. Dylid mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau, gan ddiogelu hawliau pob unigolyn.
  13. Rhaid i’r strategaeth gwmpasu pob oedran, gan sicrhau bod cymorth ar gael i bawb o fabanod i bobl hŷn.
  14. Dylid cydnabod y ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy’n dylanwadu ar iechyd a lles.
  15. Dylid ystyried rôl technoleg ddigidol, lle y gall wella canlyniadau neu gynaliadwyedd.
  16. Rhaid sicrhau bod cyllid ac adnoddau ar gael, gan brofi pa gamau sy’n realistig o fewn yr adnoddau presennol.

 

3. galwaf ar fy nghyd Aelodau i gefnogi'r cynnig.

 

(a)   Bod y Cynor yma yn datgan cefnogaeth gadarn i egwyddorion Strategaeth Atal hunanladdiad Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi gwaith y Cabinet i sefydlu strategaeth ar gyfer Cyngor Gwynedd

 

(b)  Dylai aelodau wneud popeth yn eu gallu i sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu polisiau sy’n cefnogi unigolion, yn atal hunanladdiad, gan rymuso strwythurau’r Cyngor,

 

(c)    Mae’n cefnogi  cyfleoedd yn yr ysgolion i drafod hunanladdiad fel agwedd ar drafodaeth iechyd meddwl, yng nghyd destun addysg bersonol, rhyng-berthnasol a chymdeithasol, gan arfogi ein disgyblion i edrych ar ôl eu hunain a phobl eraill mewn modd sensitif, gan athrawon sy’n cael y gefnogaeth, goruchwyliaeth a’r hyfforddiant briodol i ddarparu  addysg o’r math.