Agenda item

Ail gyflwyniad gyda gwelliannau o'r hyn a wrthodwyd yn flaenorol o gais llawn ar gyfer cae carafanau i gynnwys bloc toiled a gwelliannau amgylcheddol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau

 

Mae’r bwriad yn golygu creu safle carafanau teithiol newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r unedau arfaethedig yn cydweddu’n rhwydd i’r dirwedd leol ac ni ystyrir  y byddai’n lleoliad anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a chredir felly y byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac y byddai creu safle carafanau newydd cryn bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd cyhoeddus ar lon wledig brysur ble ceir dwysedd uchel o safleoedd gwyliau yn bresennol yn cael effaith ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Chanllaw Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.

 

Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Oherwydd diffyg gwybodaeth i asesu yn llwyr, effaith llif carthffosiaeth newydd o’r datblygiad arfaethedig, nid yw’r cynnig yn dderbyniol ar sail gofynion polisi ISA1 sydd yn nodi y caniateir cynigion dim ond pan fo capasiti isadeiledd digonol yn bodoli, neu lle caiff ei ddarparu mewn modd amserol.

 

Cofnod:

Ail gyflwyniad gyda gwelliannau o'r hyn a wrthodwyd yn flaenorol o gais llawn ar gyfer cae carafanau i gynnwys bloc toiled a gwelliannau amgylcheddol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)             Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod y bwriad yn cynnwys creu 13 llain ar gyfer carafanau teithiol, codi adeilad parhaol i gynnwys toiledau/cawodydd ynghyd ag ymgymryd â gwelliannau tirlunio meddal trwy atgyfnerthu a llenwi bylchau o fewn gwrychoedd a chloddiau presennol ynghyd a phlannu gwrych newydd ar ymylon y safle gyda’r ffordd gyhoeddus gyfagos.

 

Cyfeiriwyd at y prif newidiadau a wnaed rhwng y cais a wrthodwyd yn flaenorol a’r cais presennol sef, lleihau nifer y lleiniau o 15 i 13 a phlannu gwrych newydd.

 

Adroddwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu cyfredol ac felly yng nghefn gwlad agored gyda mynediad i’w gael oddi ar ffordd gyhoeddus ddi-ddosbarth tra bod cyfres o lwybrau cyhoeddus yn croesi tiroedd cyfagos; y safle wedi ei leoli o fewn dynodiadau AHNE Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor am benderfyniad oherwydd bod ardal y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn a ellid ei ystyried gan swyddogion trwy’r drefn ddirprwyedig. Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda pholisïau yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd. Daethpwyd I’r canlyniad na ellid sicrhau y byddai’r cynnig yn cydweddu’n rhwydd i’r dirwedd leol, yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac oherwydd tystiolaeth annigonol a diffyg gwybodaeth, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol ag yn methu bodloni yn llwyr ofynion y polisïau perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell  gwrthod y cais.

b)             Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwrthod

Rhesymau

 

Mae’r bwriad yn golygu creu safle carafanau teithiol newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r unedau arfaethedig yn cydweddu’n rhwydd i’r dirwedd leol ac ni ystyrir  y byddai’n lleoliad anymwthiol wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a chredir felly y byddai’r datblygiad yn niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd. Ni fyddai'r bwriad yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ac y byddai creu safle carafanau newydd cryn bellter o’r prif rwydwaith ffyrdd cyhoeddus ar lon wledig brysur ble ceir dwysedd uchel o safleoedd gwyliau yn bresennol yn cael effaith ar nodweddion a chymeriad y dirwedd. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol Polisïau TWR 5 ac AMG 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Chanllaw Cynllunio Atodol (CCA): Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.

 

Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Oherwydd diffyg gwybodaeth i asesu yn llwyr, effaith llif carthffosiaeth newydd o’r datblygiad arfaethedig, nid yw’r cynnig yn dderbyniol ar sail gofynion polisi ISA1 sydd yn nodi y caniateir cynigion dim ond pan fo capasiti isadeiledd digonol yn bodoli, neu lle caiff ei ddarparu mewn modd amserol

 

Dogfennau ategol: