Agenda item

Newid defnydd gorsaf brofi VOSA i ffurfio Masnachwyr Coed ac Adeiladwyr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

Amodau:

1.         5 mlynedd.

2.         Unol a chynlluniau a dogfennau.

3.         Cyfyngu defnydd o’r safle i ddosbarth defnydd B1, B2, B8 o fewn Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 a’r bwriad.

4.         Gwelliannau bioamrywiaeth

5.         Gwarchod cyfarpar a phibellau Dŵr Cymru a’u parthau diogelu

 

Cofnod:

Newid defnydd gorsaf brofi VOSA i ffurfio Masnachwyr Coed ac Adeiladwyr

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)             Amlygodd yr Hyfforddai Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd gorsaf profi MOT gan VOSA, sy’n ddefnydd unigryw, i fasnachwyr coed ac adeiladu mewn cyswllt gyda safle presennol yr ymgeisydd union du cefn. Byddai’r safle yn gweithredu ar wahân, ond gan yr un cwmni. Saif y safle o fewn ystâd ddiwydiannol y Cibyn sydd o fewn ffin datblygu Caernarfon ac fel y diffinnir yn y CDLl, sy’n ‘safle sydd wedi ei warchod fel prif safle cyflogaeth’ ar gyfer defnydd cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn unol â Pholisi PS13 (Darparu cyfle ar gyfer economi ffyniannus) a Pholisi CYF 1 (Gwarchod, dynodi ac amddiffyn tir ac unedau ar gyfer defnydd cyflogaeth) o’r CDLl.

Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol; ei fod yn defnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio meddal; ei fod yn gwella rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig; eu bod yn cyfyngu rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd; ei fod yn cyflawni dyluniad cynhwysol ac sy’n galluogi mynediad i bawb a’i fod yn helpu creu amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.

 

Adroddwyd bod yr  adeilad presennol yn sylweddol ac amlwg o fewn yr ystâd ddiwydiannol ac yn gosod ei hunan fel rhan o’r safle ehangach wrth edrych arno o bell. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi datgan na fydd bwriad gwneud unrhyw newid allanol i’r adeilad na’r iard ac felly ni fydd effaith y bwriad ddim mwy na’r sefyllfa bresennol ar y tirlun. I’r perwyl hyn, y cais yn cwrdd ag amcanion Polisi PCYFF 3 o fewn CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, mynegwyd bod trigolion cyfagos i’r safle wedi cael eu hysbysu am y cais ond ni dderbyniwyd ymateb. Er bod y safle wedi ei leoli o fewn ystâd ddiwydiannol tua 100 medr i ffwrdd o dai preswyl i’r gogledd a’r bwriad yn debygol o arwain at ddefnydd dwys o’r safle, ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau trigolion y tai agosaf; yn cydffurfio felly ag amcanion Polisi PCYFF 2 o fewn CDLl.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau Dwr Cymru oedd yn cadarnhau gwrthwynebiad i’r bwriad ar sail fod bwriad plannu coeden fel rhan o welliannau bioamrywiaeth o fewn parth diogelu pibellau sy’n croesi’r safle. Amlygwyd bod cynllun diwygiedig sy’n symud y goeden bwriedig i ffwrdd o barthau diogelu’r pibellau wedi ei gyflwyno mewn ymateb i’r gwrthwynebiad. Er nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Dwr Cymru i’r ail-ymgynghoriad ar sail y cynllun diwygiedig, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a bod posib gosod amod cynllunio sy’n gwarchod cyfarpar a phibellau Dwr Cymru a’u parthau diogelu.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol a’r swyddogion felly yn argymell caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol ynghyd a derbyn cadarnhad gan Dwr Cymru eu bod yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl.

b)             Nododd y Cadeirydd nad oedd gan yr Aelod Lleol sylwadau i’w cynnig ar y cais

 

c)              Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu gydag amodau

Amodau:

1.         5 mlynedd.

2.         Unol a chynlluniau a dogfennau.

3.         Cyfyngu defnydd o’r safle i ddosbarth defnydd B1, B2, B8 o fewn Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 a’r bwriad.

4.         Gwelliannau bioamrywiaeth

5.        Gwarchod cyfarpar a phibellau Dŵr Cymru a’u parthau diogelu

 

Dogfennau ategol: