Newid defnydd uned ddiwydiannol bresennol (Dosbarth Defnydd B2) i ganolfan chwaraeon padel dan do (Dosbarth Defnydd D2) a gwaith cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
perthnasol yn ymwneud gyda:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3.
Caniateir defnyddio’r uned fel Canolfan
Chwaraeon Padel / pickleball yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall
4.
Rhaid dilyn y mesurau lliniaru rhag
llifogydd a’u hargymhellir rhannau 7.29 – 7.34 y Datganiad Cynllunio
5.
Oriau Agor : 07:00 i 23:00 yn ddyddiol
6.
Bydd y datblygiad a gymeradwywyd drwy hyn
yn cael ei gynnal yn unol â'r asesiad effaith sŵn, a baratowyd gan ES
Acoustics - Noise Impact Assessment for a Proposed Padel Tennis and Pickleball
Facility S3, Caernarfon Road, Bangor LL57 4SP Report Reference
22236.NIA-RPT.01. Rev A dated 29th of October, 2025. Ni ddylid cael sŵn yn
uwch na lefelau a ragwelir yn Nhabl 10 o'r NIA.
7.
O fewn 3 mis i'r safle ddod yn
weithredol, bydd arolwg sŵn yn cael ei gynnal gan ymgynghorydd acwstig
cymwys addas, yn unol â'r NIA, a chyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd yr adroddiad yn darparu
gwybodaeth am y sain fesuredig a allyrrir o'r safle ar 1.0m o ffasâd y
derbynnydd preswyl a nodwyd ym Maes Berea, Pen y Wern, Cilcoed a Bryn
Llwyd. Pe ganfyddir bod sŵn
gweithredol yn fwy na'r lef-elau sŵn cefndir lleiaf, neu mae lefelau
sŵn o’r offer mecanyddol allanol sydd â sgôr yn uwch na'r amod allanol
isod, dylid cyflwyno cynllun lliniaru
sŵn manwl i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig. Bydd
unrhyw gynllun lliniaru yn cael ei weithredu o fewn 3 mis i ddyddiad y
gymeradwyaeth ysgrifenedig yn unol â'r manylion cymeradwy, a chaiff ei gadw yn
unol â'r manylion hynny ar ôl hynny.
8.
Oriau gwaith
9.
Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer
allanol a osodir ar yr adeilad
10.
Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun
Rheolaeth Safle gan gynnwys mecanwaith i ddelio gyda chwynion gan aelodau’r
cyhoedd.
11.
Dylid gweithredu’n unol a’r Datganiad
Seilwaith Gwyrdd
12.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog
Nodiadau
Dŵr Cymru
Cofnod:
Newid defnydd uned ddiwydiannol bresennol (Dosbarth Defnydd B2) i
ganolfan chwaraeon padel dan do (Dosbarth Defnydd D2) a gwaith cysylltiedig
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer trosi uned bresennol o fewn
safle cyn ffatri Denis Ferranti ym Mangor yn gyfleuster ar gyfer chwarae gem
padel dan do. Byddai’r bwriad yn newid defnydd yr uned yn ganolfan chwaraeon
padel, gan greu 8 o gyrtiau padel, 2 cwrt “pickleball”, parth cynhesu, derbynfa
a thoiledau ynghyd a chyfleuster parcio beiciau. Yn ychwanegol, bydd
darpariaeth parcio presennol o fewn y safle yn cael ei ddefnyddio a'i
ddyrannu'n benodol gan glustnodi 36 llecyn parcio i'r defnydd arfaethedig. Y
bwriad fyddai agor y cyfleuster ar gyfer defnydd rhwng 07:00 a 23:00, diwrnod
yr wythnos.
Eglurwyd bod y safle wedi ei nodi fel uned warws sydd wedi'i lleoli'n
ganolog o fewn stad ehangach sydd wedi'i leoli o fewn Ffin Datblygu Canolfan
Isranbarthol Bangor ond y tu allan i’r ardal Canol Tref a'r Brif Ardal Siopa
ddiffiniedig. Ategwyd bod y Mapiau Llifogydd yn nodi bod y safle wedi'i leoli
ym Mharth Llifogydd 3 (Afonydd a Dŵr Wyneb) sy'n gysylltiedig â’r Afon
Adda sy’n rhedeg trwy gwlfert gerllaw.
Adroddwyd bod y safle cyfan wedi'i amgylchynu gan gymysgedd o
ddefnyddiau masnachol a phreswyl tra bod safle'r cais ei hun wedi'i leoli o
fewn uned bresennol. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd gwybodaeth arbenigol oedd yn
cynnwys:
·
Datganiad Cynllunio (yn cynnwys Asesiad Iaith
Gymraeg)
·
Asesiad Effaith
·
Asesiad Effaith Man Werthu
·
Asesiad Sŵn (ynghyd â diweddariad mewn ymateb
i sylwadau Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd)
·
Datganiad Ynni
·
Datganiad Trafnidiaeth
·
Datganiad Seilwaith Gwyrdd
·
Datganiad Effaith Cymdeithasol
Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor am benderfyniad oherwydd bod ardal y datblygiad arfaethedig yn fwy
na’r hyn a ellid ei ystyried gan swyddogion trwy’r drefn ddirprwyedig.
Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys
cydymffurfiaeth gyda pholisiau yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd.
Cyfeiriwyd at ymateb
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd i’r cais, oedd wedi amlygu pryder ynghylch y
sŵn a fyddai’n deillio o’r safle. Ymatebodd arbenigwyr acwstig ar ran yr
ymgeiswyr trwy gyflwyno eglurhad pellach i’r materion a godwyd gan y
Gwasanaeth. Er derbyn y wybodaeth ychwanegol, adroddwyd bod Gwarchod y Cyhoedd
yn parhau i gyfeirio at rai pryderon ynglŷn ag agweddau o’r wybodaeth a
gyflwynwyd a’r bwriad ei hun. Aseswyd yr ymateb diweddaraf yn llawn, ac er
cydnabod y pryderon, ystyriwyd hawl presennol defnydd yr adeilad at ddibenion
diwydiannol o fewn dosbarth defnydd B2 (Diwydiannol Cyffredinol), a thrwy osod
amodau priodol, ni fyddai defnydd o’r adeilad fel cyfleuster chwaraeon yn
debygol o achosi effeithiau mwynderol ychwanegol sylweddol a fyddai’n achosi
niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion a’r ardal leol. O ganlyniad, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisi amddiffyn mwynderau cyhoeddus a
phreifat.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd Asiant ar
ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Byddai caniatáu yn diogelu buddsoddiad ym Mangor
·
Bod yr adeilad wedi bod yn wag ers 2022
·
Byddai’r fenter Padel Fyrddio yn creu hwb
cymunedol, yn cynnwys 8 cwrt
·
Bod amryw o safleoedd ar draws y Deyrnas Unedig
·
Byddai’n creu mynediad i ardal saff
·
Creu
swyddi, gwariant, hwb i dwristiaeth a’r economi leol
·
Bod y lleoliad yn addas – rhwydwaith dda i gyrraedd
ato
·
Byddai’r fenter yn creu lefel isel o sŵn –
asesiad sŵn wedi ei gwblhau
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, gwnaed yr Aelod
Lleol sylw bod pryderon yn lleol am asbestos yn yr adeilad ac nad oedd
tystiolaeth bod arolwg asbestos wedi ei gwblhau.
Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Cynorthwyol nad oedd gwybodaeth am asbestos wedi dod i’r amlwg ar sail
Cynllunio, ond yn unol â threfn arferol asbestos, byddai gofynion statudol i’r
ymgeisydd ddelio gydag asbestos tu allan i’r drefn Cynllunio. Ategodd y Swyddog
Monitro mai’r newid defnydd B2 i D2 oedd gofynion y cais ac y byddai unrhyw
ddatblygiad ar y safle yn cael ei fonitro o dan drefniadau Rheolaeth Adeiladu.
d)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
e)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelod:
· Bod y cyfleuster yn dda i’r ardal – yn croesawu’r fenter
· Siom nad oedd ymateb gan Cyngor Dinas Bangor
· Angen sicrhau amod bod
y cwmni (Social Sport Society) yn parchu defnydd o’r Gymraeg
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd mentrau tebyg,
cyfagos a phryder o ormodedd o’r fath gyfleuster, nodwyd nad oedd gwybodaeth
bwrpasol am y ddarpariaeth, ond bod buddsoddiad ym Manogr yn dystiolaeth bod
galw amdano.
PENDERFYNWYD
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
perthnasol yn ymwneud gyda:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3.
Caniateir defnyddio’r uned fel Canolfan
Chwaraeon Padel / pickleball yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall
4.
Rhaid dilyn y mesurau lliniaru rhag
llifogydd a’u hargymhellir rhannau 7.29 – 7.34 y Datganiad Cynllunio
5.
Oriau Agor : 07:00 i 23:00 yn ddyddiol
6.
Bydd y datblygiad a gymeradwywyd drwy
hyn yn cael ei gynnal yn unol â'r asesiad effaith sŵn, a baratowyd gan ES
Acoustics - Noise Impact Assessment for a Proposed Padel Tennis and Pickleball
Facility S3, Caernarfon Road, Bangor LL57 4SP Report Reference
22236.NIA-RPT.01. Rev A dated 29th of October, 2025. Ni ddylid cael sŵn yn
uwch na lefelau a ragwelir yn Nhabl 10 o'r NIA.
7.
O fewn 3 mis i'r safle ddod yn
weithredol, bydd arolwg sŵn yn cael ei gynnal gan ymgynghorydd acwstig
cymwys addas, yn unol â'r NIA, a chyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd yr adroddiad yn darparu
gwybodaeth am y sain fesuredig a allyrrir o'r safle ar 1.0m o ffasâd y
derbynnydd preswyl a nodwyd ym Maes Berea, Pen y Wern, Cilcoed a Bryn
Llwyd. Pe ganfyddir bod sŵn
gweithredol yn fwy na'r lefelau sŵn cefndir lleiaf, neu mae lefelau
sŵn o’r offer mecanyddol allanol sydd â sgôr yn uwch na'r amod allanol
isod, dylid cyflwyno cynllun lliniaru
sŵn manwl i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig. Bydd
unrhyw gynllun lliniaru yn cael ei weithredu o fewn 3 mis i ddyddiad y
gymeradwyaeth ysgrifenedig yn unol â'r manylion cymeradwy, a chaiff ei gadw yn
unol â'r manylion hynny ar ôl hynny.
8.
Oriau gwaith
9.
Rhaid cyflwyno manylion unrhyw offer
allanol a osodir ar yr adeilad
10.
Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun
Rheolaeth Safle gan gynnwys mecanwaith i ddelio gyda chwynion gan aelodau’r
cyhoedd.
11.
Dylid gweithredu’n unol a’r Datganiad
Seilwaith Gwyrdd
12.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog
Nodiadau
Dŵr Cymru
Dogfennau ategol: