Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio
Rheswm: Cais am
wybodaeth a thystiolaeth pellach o’r angen, er mwyn sicrhau gofynion polisi TAI
8
Cofnod:
Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl,
yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i
storfa gwastraff
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod yr adeilad yn un o faint sylweddol wedi ei leoli ar gornel y
stryd fawr o fewn ffin datblygu Tref Caernarfon ac Ardal Cadwraeth Safle
Treftadaeth y Byd. Nid oedd bwriad newid edrychiad blaen nac ochr yr adeilad
sy’n amlwg o’r stryd fawr. Cadarnhawyd
bod capasiti digonol o fewn cyflenwad dangosol Caernarfon ar gyfer y datblygiad
yma ar hyn o bryd.
Amlygwyd bod yr eiddo o dan berchnogaeth
Cyngor Gwynedd ac y bydd y defnydd arfaethedig yn rhan o ymateb statudol y
Cyngor i’r ddyletswydd o letya pobl digartref. Pwysleisiwyd mai grŵp
targed y cynllun yw unigolion digartref risg isel, nid llety â chefnogaeth
gymhleth na defnydd fyddai’n creu lefel uchel o effaith ar y gymuned. Nodwyd
bod yr unedau yn cydymffurfio gyda safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer unedau
fforddiadwy o ran maint a‘r defnydd
arfaethedig yn mynd i’r afael â digartrefedd (heb achosi gorlwytho ar y
ddarpariaeth tai lleol, ac yn darparu unedau fforddiadwy yn unol â gofynion y
polisi cynllunio).
Cyfeiriwyd at
ddatganiad oedd wedi ei dderbyn gan Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd yn
cadarnhau y byddai’r eiddo yn cael ei glustnodi fel eiddo “meanwhile” sy’n
cynnig llety sefydlog am gyfnod o hyd at ddwy flynedd tra bod unigolion yn aros
am ddatrysiad parhaol addas. Amlygwyd bod cyfanswm o 81 o unigolion wedi eu
lleoli o fewn y Dref ar hyn o bryd ac nad oedd cynlluniau ychwanegol yn cael eu
hystyried yng Nghaernarfon ar hyn o bryd. Gyda’r bwriad yn cael eu darparu fel
eiddo cymdeithasol o dan reolaeth y Cyngor o fewn Canolfan Gwasanaeth Trefol,
ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisi TAI 15 yn ddarostyngedig i
gynnwys amod fod y bwriad yn sicrhau unedau fforddiadwy am byth.
Eglurwyd bod y gwaith addasu yn cynnwys newidiadau
mewnol, ac adeiladu estyniad 3 llawr o fewn iard gefn yr eiddo ac felly ni fyddai’n effeithio ar edrychiad na
chymeriad yr adeilad sy’n amlwg i’r cyhoedd na chael effaith weledol andwyol ar Safle Treftadaeth
y Byd na’r Ardal Gadwraeth. Byddai’r gwaith yn cynnwys gosod ffenestri llawr daear a
ffenestri llawr cyntaf ar gyfer ystafelloedd gwely cefn a chadarnhawyd y
byddai’r ffenestri llawr cyntaf i’w gosod gyda gwydr wedi eu cymylu - bydd modd
gosod amod cynllunio er mwyn sicrhau hyn. Nodwyd hefyd fod bwriad gosod amod
cynllunio ar gyfer cyflwyno manylion a lleoliad y pwmp gwres ffynhonnell aer. O
ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar
drigolion cyfagos.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a
mynediad, nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli yng nghanol y Dref ble mae gofodau
parcio cerbydau ar y strydoedd ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. O ran
materion bioamrywiaeth cyfeiriwyd at y gwelliannau oedd wedi eu cynnig ac
adroddwyd bod y datganiad iaith a gyflwynwyd yn datgan effaith niwtral i
bositif ar yr iaith.
Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion polisïau lleol a chenedlaethol a’r swyddogion yn argymell caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei fod yn
gwrthwynebu’r cais, er yn teimlo yn anghyffyrddus iawn yn gwneud hynny
·
Bwriad
dros newid dynodiad yr eiddo oedd darparu lloches ‘meanwhile’ ar gyfer pobl
ddigartref sy’n aros am ddatrysiad parhaol i’w anghenion tai
·
Ei fod yn gefnogol
iawn i’w etholwyr sydd yn chwilio am gymorth wrth wynebu digartrefedd – yn
teimlo’r boen a’r gofid sydd yn eu hwynebu ar amser anodd.
·
Bod
problem arwyddocaol o ran diffyg tai cymdeithasol yng Ngwynedd sy’n gallu
arwain at ddigartrefedd - byddai’n hapus cefnogi rhan fwyaf o gynlluniau’r Cyngor i fynd i’r afael a hyn
·
Er hynny, bod ward
Canol Tref Caernarfon eisoes yn darparu yn helaeth ar gyfer y digartref a’i fod
yn falch o hyn ac yn cymryd y cyfrifoldeb o ddifrif
·
Bod 58 unigolyn
mewn gwahanol lety a lleoliadau argyfwng yn y Dref ynghyd â 23 unigolyn mewn
eiddo wedi ei lesu gan yr Adran Tai; Cyfanswm 81unigolyn
·
Bod lleoliad 5
fflat yn cael eu rhentu gan Adra i GISDA a’i fod pob amser yn gefnogol i’r
elusen yma
·
Ymwybodol
hefyd o nifer sylweddol o gynlluniau preifat megis HMO’s sydd yng nghanol
Caernarfon. Cysylltiad agos, er yn gymhleth
rhwng presenoldeb HMO a digartrefedd
·
Bod
nifer o gynlluniau ar y gweill i ddarparu lloches - Cynllun ‘Lle Da’ fydd wedi ei leoli yn hen
adeilad Banc Nat West a chynllun sylweddol hen Swyddfa’r Goron (40 uned
breswyl) - yn gefnogol i’r cynlluniau er gwrthwynebiad lleol
·
Yn gefnogol i
ddatblygiad fel hyn mewn egwyddor, ond yn cymryd y safbwynt oherwydd ei fod yn
pryderu bod gormod o’r un math o eiddo sy’n mynd i’r afael â digartrefedd wedi
eu lleoli mewn tref sydd yn fach o ran maint, ond yn uchel o ran poblogaeth
·
Pryder am gynnydd
mewn tor cyfraith a phroblemau gwrthgymdeithasol
·
Petai
gwerthu rhain fel fflatiau yn opsiwn, neu eu rhentu gyda thelerau parhaol / tai
cymdeithasol, yna byddai’n gefnogol iawn i hynny
c)
Cynigiwyd ac
eiliwyd gohirio y cais
Rheswm: bod angen gwybodaeth a thystiolaeth bellach o’r angen, er mwyn
sicrhau gofynion polisi TAI 8.
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod
angen gwell dealltwriaeth o’r galw i sicrhau bod y fflatiau yn cartrefu’r bobl
iawn - angen tystiolaeth bendant
·
Defnydd
da o hen swyddfeydd, ond a’i digartrefedd yw’r defnydd gorau?
·
Bod y Cynllun yn
rhan o Gynllun Tai y Cyngor sydd ynghlwm â grant (fydd yn cael ei golli os na
fydd defnydd yn cael ei wneud ohono)
·
Pam nad oedd ymgynghori
gyda’r Aelod Lleol wedi ei wneud ymlaen llaw?
·
Byddai
cartrefu’r digartref yn arbediad - yn osgoi defnydd llety argyfwng
Mewn ymateb i
sylwadau ynglŷn â phrofi’r angen tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
oedd yn nodi bod galw mawr am y math yma o eiddo, gan fod nifer sylweddol yn
disgwyl mewn llety argyfwng anaddas am flynyddoedd cyn medru symud ymlaen i
eiddo addas, mwy sefydlog. Ategwyd bod y data yn profi hynny, gydag 81 unigolyn
mewn gwahanol lety a lleoliadau argyfwng o fewn y dref, ac amcan y cynnig yw
cyfarch dyletswydd statudol o letya pobl
ddigartref.
Nodwyd bod
Caernarfon yn cael ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ac felly’n
anheddle sy’n cyfarch angen y Sir yn ei gyfanrwydd. Ystyriwyd felly nad oedd
amheuaeth o’r angen, ond o safbwynt Cynllunio, bod bwriad gosod amod
fforddiadwy fel gall y cynllun esblygu yn llety fforddiadwyedd i’r dyfodol.
Amlygwyd bod y math o lety yn un cymharol newydd ac yn gam at beidio rhoi pobl
mewn llety argyfwng sydd ddim yn addas i bwrpas. Bwriad y Cyngor yw symud i ffwrdd o hyn. Er yn derbyn bod
cynlluniau eraill yn y Dref ar gyfer y
digartref, nid oedd ceisiadau wedi eu cyflwyno.
Mewn ymateb i
sylwadau am y grant ac am arbedion ariannol, nododd y Swyddog Monitro nad oedd
goblygiadau ariannol yn berthnasol i’r drefn cynllunio ac mai defnydd tir oedd
yn cael ei ystyried ac nid defnydd grant.
PENDERFYNWYD: Gohirio
Rheswm: Cais am wybodaeth a thystiolaeth bellach o’r angen, er mwyn
sicrhau gofynion polisi TAI 8
Dogfennau ategol: