Agenda item

Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 4 uned llety gwyliau symudol ar y tir ynghyd ag 1 uned symudol ar gyfer cyfleuster cawod a toiledau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu Gydag Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.

3.         Cyfyngu’r niferoedd i 4 uned deithiol ac 1 uned deithiol ar gyfer defnydd bloc toiled

4.         Tymor gwyliau / lleoli

5.         Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.         Dim storio unedau teithiol ar y safle y tu allan i’r tymor

7.         Cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau

8.         Ni cheir gosod unrhyw strwythur fwy na 1m o fewn y llain welededd

9.         Cynllun atal llygredd sy'n cynnwys mesurau i osgoi rhedeg i ffwrdd o briddoedd yn ystod y gwaith adeiladu.

10.       Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu neu aeafgysgu

11.       Cytuno/rheoli goleuo.

12.       Cynllun dull trawsleoli gwrychoedd a chrawiau.

13.       Tirlunio meddal a chaled i gynnwys manylion y llawr caled athraidd

14.       Cynnal tirlunio

15.       Cynllun rheoli safle

16.       Enw Cymraeg

17.       Hysbysebion Cymraeg

 

 

Nodiadau

 

Trwyddedu

SUDS – Draenio cynaliadwy

Llythyrau Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru

Cofnod:

Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 4 uned llety gwyliau symudol ar y tir ynghyd ag 1 uned symudol ar gyfer cyfleuster cawod a thoiledau

 

a)               Amlygodd yr Hyfforddai Proffesiynol bod cais ar y safle yma ar gyfer newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf 5 pod glampio parhaol, wedi ei wrthod gan y Pwyllgor yng nghyfarfod Mai 2025. Cyflwynwyd yma gais ar gyfer newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf 4 uned llety gwyliau symudol ynghyd a 1 uned symudol ar gyfer cyfleuster cawod a thoiledau, parcio cysylltiedig, addasiadau i’r fynedfa, draenio a thirlunio.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn  Ardal Tirwedd Arbennig.  Gyda  thopograffi’r safle yn goleddu lawr o’r ffordd tuag at  afon Dulas, byddai’r unedau wedi eu lleoli ar y llethr uwchben yr afon.

 

Tynnwyd sylw at polisi TWR 5 sydd yn nodi bod modd ystyried caniatáu ceisiadau am lety wersylla amgen dros dro cyn belled a bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol.

 

·       Bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, a/neu lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd;

 

Bwriedir gosod yr unedau gwyliau ar y llethr rhwng yr afon ac i’r de o’r trac presennol. O ystyried natur yr unedau, gyda tho gwyrdd o blanhigion , waliau wedi eu cladio gyda phren, a'u lleoliad ymhlith coed / gwrychoedd a chae presennol,  ble mae llethr y tir yn mynd yn is tuag at yr afon, ystyriwyd fod y bwriad o fath a allai gymhathu i’r dirwedd ac na fyddai’n sefyll allan yn amlwg o olygfeydd agos. Mae’n debygol y byddai’r bwriad i’w weld o diroedd uwch ymhellach draw o’r safle ond ni ystyriwyd y byddai’n sefyll allan yn amlwg yn y dirwedd, ac felly y bydd bwriad yn ddatblygiad ymwthiol yn y tirlun.

 

·       Yn osgoi gormodedd o ardaloedd o leiniau caled;

 

Y bwriad yn golygu gosod 4 uned ar safle sy’n mesur tua 0.56 hectar a mwy na 10 medr rhwng pob uned sydd yn cael ei ystyried fel dwysedd isel ar gyfer y safle. Bod bwriad creu ardaloedd caled athraidd gyferbyn â’r unedau gwyliau a 4 llecyn parcio newydd athraidd; y bwriad yn llwyddo osgoi gormodedd o ardaloedd o leiniau caled

 

·       Mae ei gysylltiad ffisegol a’r ddaear yn gyfyngedig ac yn gallu cael ei symud oddi ar y safle yn y tymor caeedig;

 

Unedau symudol yw’r unedau gwyliau yn ogystal â’r uned toiledau a chawodydd ac felly byddai unrhyw gysylltiad ffisegol â’r ddaear yn y lleiafswm.  Cyflwynwyd Cynllun Storio gyda’r cais yn cadarnhau trefniadau storio oddi ar y safle ar gyfer yr unedau allan o dymor.

 

·       Dylai unrhyw gyfleusterau atodol, os yw hynny’n bosib, gael eu lleoli mewn adeilad presennol neu fel estyniad i gyfleusterau presennol. Os nad oes adeilad addas ar gael rhaid dangos yn glir yr angen am gyfleusterau ychwanegol, a rhaid iddynt fod yn gymesur a graddfa’r datblygiad;

 

Ystyriwyd bod yr angen am un uned symudol ar gyfer cyfleusterau cawodydd a thoiledau wedi ei sefydlu ac y byddai ychwanegu’r uned cawodydd a thoiledau i’r unedau gwyliau yn gymesur a graddfa’r datblygiad gan ystyried ei leoliad, dyluniad a’i osodiad yn y tirlun.

 

·       Bod y safle’n agos at y prif rwydwaith ffyrdd ac y gellir darparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd;

 

Eglurwyd bod mynedfa i’r safle yn cael ei wasanaethu o ffordd ddosbarth 3 sydd wedi ei lleoli tua’r gogledd o’r safle; y safle yn agos at y prif rwydwaith ffyrdd ac yn dilyn yr addasiadau o ledu’r fynedfa ac ail blannu'r gwrych,  bod y mynediad yn ddigonol a dim yn amharu yn sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd.

 

·       Mae meddiannaeth y datblygiad wedi’i gyfyngu i ddefnydd gwyliau yn unig;

 

Y bwriad yn ymwneud â gosod unedau gwyliau symudol. Gellid gosod amodau i sicrhau bod meddiannaeth y datblygiad wedi ei gyfyngu i ddefnydd gwyliau yn unig.

 

·       Bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion teithio yn unig a bod unrhyw unedau’n cael eu symud o’r safle yn y cyfnod pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

 

Adroddwyd mai bwriad yr ymgeisydd yw symud yr unedau allan o dymor y gwyliau i’w storio ar safle arall pan nad ydynt mewn defnydd. Ategwyd bod modd gosod amod ar unrhyw ganiatâd i’r diben fod yr unedau yn cael eu symud o’r safle y tu allan i’r tymor gweithredu.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail ei leoliad, gosodiad, graddfa a’i effaith ar fwynderau gweledol yr ardal leol ac i’r perwyl hyn, ei fod yn dderbyniol, yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol, ac yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR 5 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y tŷ annedd agosaf i’r safle (Pandy) wedi ei leoli ar waelod y trac fyddai’n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig a mwy na heb yn ffinio gyda ffin ddeheuol safle’r cais. Yn bresennol caeau amaethyddol a’r afon sydd o amgylch y tŷ annedd yma ac mae mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a tawel.  Cydnabuwyd y sylwadau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr.

 

Byddai safle gwersylla amgen newydd yn y lleoliad hwn gyda photensial o achosi effaith        annerbyniol ar Pandy oherwydd mwy o weithgaredd sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Mynegwyd bod natur defnydd gwyliau yn golygu symudiadau gwahanol i unedau preswyl parhaol, gyda rhai sydd ar wyliau yn fwy tebygol o gadw oriau gwahanol na thrigolion cymdogol parhaol, gyda gweithgarwch yn gynnar yn y bore ac yn hwyr y nos, yn ogystal â defnydd yn ystod oriau’r dydd.  O ganlyniad i’r newidiadau, ystyriwyd, gyda chynllun plannu a thirlunio sylweddol i greu sgrinio a pharth gwyrdd rhag sŵn a goleuni, Cynllun Rheoli gweithgaredd ar y safle a defnydd tymhorol y safle, na fyddai’r effaith yn sylweddol andwyol; y bwriad yn dderbyniol o ran maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 CDLl.

 

Cadarnhawyd bod materion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd, llifogydd, draenio ac ieithyddol wedi derbyn sylw llawn. Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol a’r swyddogion yn argymell caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amodau perthnasol.

 

b)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Mai fferm fechan oedd yma - wedi bod yn yr un teulu am dair cenhedlaeth

·         Yn diolch am gefnogaeth yr Aelodau am eu sylwadau yng nghyfarfod Mai 2025

·         Yn dilyn y sylwadau, a derbyn cyngor, y datblygiad wedi ei addasu fel cais llety gwyliau symudol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau lleol

·         Bod bwriad ganddynt fel teulu, ifanc Cymraeg aros yng Nghorris a magu teulu

·         Bod cyfleoedd yn gyfyngedig yn yr ardal

·         Byddai’r fenter yn cefnogi’r economi lleol

·         Bod cefnogaeth lawn i’r cais - dim gwrthwynebiadau

 

c)          Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Yn cefnogi’r cais - yn edmygu pobl ifanc sydd eisiau datblygu busnes yn yr ardal

·         Bod buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud

·         Nad oedd ymgynghoriad llawn wedi bod wrth sefydlu Ardal Tirwedd Arbennig (ATA) - hyn yn codi pryder am effaith datblygiadau i’r dyfodol. Ardal ddiwydiannol yw Corris

·         Bod angen datblygiad o’r fath yn lleol

·         Byddai’n hwb i wella twristiaeth

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

·         Dim rheswm bellach dros wrthwynebu

 

d)          Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

e)          Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod amaethwyr dan bwysau i arall gyfeirio

·         Mai bwriad yr ATA yw atal ceisiadau mawr ar ffin y Parc Cenedlaethol – datblygiad bach iawn sydd yma

·         Darn o dir amaethyddol sydd yn bell o berchnogaeth y fferm - yn ddefnydd da ar gyfer y datblygiad

·         Yn croesawu addasiadau’r cynllun sydd bellach yn cyd-fynd a pholisïau perthnasol

·         Lleoliad braf, anymwthiol, hygyrch gyda llwybr cerdded gerllaw

·         Bod y Cyngor Cymuned yn unfrydol yn cefnogi’r cais - bod gwir angen llety gwyliau yn yr ardal - yn dod a budd i’r economi leol

·         Bydd yn caniatáu i’r teulu aros yn yr ardal

 

PENDERFYNWYD

Caniatáu Gydag Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.

3.         Cyfyngu’r niferoedd i 4 uned deithiol ac 1 uned deithiol ar gyfer defnydd bloc toiled

4.         Tymor gwyliau / lleoli

5.         Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.         Dim storio unedau teithiol ar y safle y tu allan i’r tymor

7.         Cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau

8.         Ni cheir gosod unrhyw strwythur fwy na 1m o fewn y llain welededd

9.         Cynllun atal llygredd sy'n cynnwys mesurau i osgoi rhedeg i ffwrdd o briddoedd yn ystod y gwaith adeiladu.

10.       Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu neu aeafgysgu

11.       Cytuno/rheoli goleuo.

12.       Cynllun dull trawsleoli gwrychoedd a chrawiau.

13.       Tirlunio meddal a chaled i gynnwys manylion y llawr caled athraidd

14.       Cynnal tirlunio

15.       Cynllun rheoli safle

16.       Enw Cymraeg

17.       Hysbysebion Cymraeg

18.       Gosod gwydr wedi eu cymylu yn y ffenestri llawr cyntaf yn yr estyniad cefn bwriedig.

 

Nodiadau

 

Trwyddedu

SUDS – Draenio cynaliadwy

Llythyrau Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol: