Claire Incledon, Dirprwy Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Blaengynllun Gwaith
yn darparu’r rhaglen waith, sy’n caniatáu i’r Is-bwyllgor gyflawni ei rôl
statudol fel y’i nodir yn Rheoliadau Sefydlu 2021. Eglurwyd mai mater i’r
Aelodau a’r Cadeirydd yw nodi pa adroddiadau y maent am eu gweld ger bron yr
Is-bwyllgor ac unrhyw ofynion hyfforddi y byddant eu hangen. Bydd y rhain yn
cael eu hychwanegu at y Blaengynllun Gwaith, a fydd yn ddogfen fyw a chaiff ei
gylchredeg yn rheolaidd i’r Aelodau.
Cadarnhawyd bod dyddiadau cyfarfodydd y CBC ar gyfer 2025/26
yn y calendr tan fis Mai 2026. Nodwyd y bydd calendr terfynol newydd yn cael ei
ddatblygu ddechrau’r flwyddyn nesaf. Holwyd os oes dyddiadau cyfarfodydd
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ei gyflwyno. Mynegwyd bod dyddiad ar
gyfer mis Ionawr er mwyn ystyried y Gyllideb cyn iddo gael ei gyflwyno i’r CBC
ar 23 Ionawr.
Cadarnhawyd y bydd cyfarfodydd yr Is-bwyllgorau yn cael eu
hamserlennu o gwmpas y Blaengynllun Gwaith, er mwyn caniatáu i waith yr
Is-bwyllgor fwydo’n briodol i’r CBC. Nodwyd y byddai dyddiadau cyfarfodydd ar
gyfer diwedd 2025/26 yn ddibynnol ar gapasiti adnoddau a gofynion yr eitemau fydd angen eu
cyflwyno i’r Is-bwyllgor.
Amlygwyd pwysigrwydd rhannu dyddiadau yn amserol ar gyfer
cyfarfodydd yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, o ystyried y gofynion
sydd arnynt yn eu hawdurdodau priodol, ac er mwyn sicrhau cworwm. Cadarnhawyd y
byddai yn cael eu cylchredeg cyn gynted â phosib.
Mynegwyd pryderon am brinder eitemau ar y Blaengynllun
Gwaith, yn enwedig o ystyried bod y Cylch Gorchwyl yn amlygu eitemau y dylid eu
cynnwys. Ymatebwyd gan esbonio fod y Blaengynllun yn parhau i gael ei ddatblygu
wrth weithio ochor yn ochor ag aelodau er mwyn cyflawni cyfrifoldebau statudol
yr Is-bwyllgor hwn. Ategwyd yr angen i ystyried capasiti
ac yr anodau sydd ar gael ei wneud y gwaith yn ogystal.
Cynigwyd gohirio’r penderfyniad tan ddiwedd y cyfarfod er
mwyn cael cyd-destun cyn penderfynu ar flaenoriaethau’r Is-bwyllgor, ac i
amlygu unrhyw eitem ychwanegol i’w gynnwys ar y Blaengynllun Gwaith.
Nid oedd cworwm ar ddiwedd y cyfarfod ac felly ni wnaethpwyd
unrhyw benderfyniad ond nodwyd y sylwadau er gwybodaeth.
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sefydlu’r Is-bwyllgor Trosolwg a
Chraffu ar y Cyd i sicrhau craffu priodol ar y CBC. Holwyd os oedd angen
ystyried y strwythur arfaethedig. Cadarnhawyd bod y cylch gorchwyl yr
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd eisoes wedi’i sefydlu a’i gytuno gan y
chwe awdurdod lleol.
Adroddwyd y rhestr
ganlynol o eitemau, fel awgrymiadau ar gyfer y Blaen Cynllun Gwaith:
·
Rhaglen
Archwilio Mewnol / Archwilio Allan (Archwilio Cymru)
·
Adroddiad
olrhain camau gweithredu archwilio
·
Datganiad
cyfrifon blynyddol 2024/25 ac adroddiad Archwilio Cymru
·
Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2024/25
·
Cofrestr
Risg
·
Rheoli
asedau a gwaredu cyfalaf
·
Rheoli’r
trysorlys
·
Cyllideb
ddrafft 2026/27
·
Strategaeth
drafft ariannol tymor canolig
·
Adroddiad
crynodeb llywodraethu’r CBC
o
Cynllunio
Corfforaethol
o
Cynllunio
Ariannol
o
Rheoli
Perfformiad
o
Rheoli
Risg
o
Cynllunio’r
Gweithlu
o
Rheoli
Asedau
o
Caffael
Eglurwyd y byddai swyddogion yn cynghori pa eitemau fyddai’n
mynd ger bron yr Is-bwyllgor ar ba ddyddiadau, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd,
gyda’r disgwyliad o dri cyfarfod pellach ar gyfer 2025/26. Ymhelaethwyd
byddai’r Blaen Cynllun Gwaith yn dilyn ei ddiweddaru yn cael ei ddosbarthu cyn
gynted â phosib er mwyn darparu fframwaith i’r Is-bwyllgor.
Gofynnwyd y
Cadeirydd (dros dro) a fyddai’n cadw swydd y Cadeirydd nes bod Cadeirydd yn
cael ei benodi’n swyddogol yng nghyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor. Cadarnhawyd bod
hyn yn ddisgwyliad rhesymol.
Dogfennau ategol: