Agenda item

Dave Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu'r CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Nodiwyd sefyllfa gyd-destunol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hwn yn gyfle i roi cyd-destun y CBC ynghyd â diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud. Eglurwyd fod dau adroddiad wedi ei gyflwyno eisoes i’r Cydbwyllgor, y cyntaf yn ôl ym mis Mehefin yn ystod dyddiau cynnar y rhaglen yn dilyn y trosglwyddiad, a adnabuwyd rhestr uchelgeisiol o beth oedd angen ei wneud ond ei fod yn gyfnod ble nad oedd Prif Weithredwr wedi ei benodi. Bu i’r ail adroddiad adrodd ym mis Tachwedd, er mwyn diweddaru ar y gwaith sydd wedi ei wneud ac adnabod y sialensiau ar adnoddau sydd ei angen i gwblhau’r gwaith.

 

O ran cefndir, eglurwyd for y Cynllun Twf wedi trosglwyddo i’r CBC yn ôl yn Ebrill a bellach gyda statws gweithredu llawn ac felly a’r gallu i gyflogi pobl. Mynegwyd yr angen i’r CBC gydymffurfio â’r dyletswyddau cyffredino â sefydliadau sector cyhoeddus a nodwyd fod dyletswydd statudol i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Ranbarthol.

 

Eglurwyd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud hyd at / a gan gynnwys y trosglwyddiad a hynny gyda thîm bach iawn. Tynnwyd sylw at y rhestr a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Ategwyd fod rhaglen o newid wedi ei ddatblygu yn seiliedig ar flaenoriaethau, a bod y Prif Weithredwr wedi ei phenodi ym Mehefin 2025. Nodwyd fod ffactorau wedi dal rhai pethau yn ôl, megis y penodi swyddogion ond eu bod yn gweithio drwy’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth i dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen.

 

Er y sialensiau nodwyd fod gwaith wedi parhau i ddatblygu a'u bod o fewn camau ddyblygu ar gyfer meysydd fel y wefan. Amlygwyd heriau megis oedi ar adolygu prosbectws CBC Llywodraeth Cymru, oedi wrth gaffael a gweithredu'r System Rheoli Pwyllgorau a denu ymgeisiwyd ar gyfer swyddi megis Uwch Swyddog Caffael. Esboniwyd eu bod yn parhau i fod angen gweithredu dau Is-bwyllgor sef Safonau a Throsolwg a Chraffu. Mynegwyd fod datblygu rhaglen UGC newydd ar gyfer 2026/27 a map ffordd ar gyfer y blynyddoedd dilynol yn debygol o fwrw sawl prosiect ymlaen.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y CBC wedi cyrraedd ble maen nhw o ganlyniad i gymorth staff partneriaid megis Cyngor Gwynedd a diolchwyd iddynt am eu gwaith. Pwysleisiwyd fod y Cydbwyllgorau ar draws Cymru yn newydd ac felly mae’n cymryd amser i lywio drwy’r broses o flaenoriaethu gan geisio peidio rhoi pwysau ychwanegol ar Awdurdodau’r Gogledd ond i sicrhau eu bod yn cyrraedd gofynion y Llywodraeth.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod gwaith yn ac wedi ei wneud i  sefydlu’r CBC yn endid o ran maint sy’n weddol fychan ond a maint gofynion maint Llywodraeth Leol. Uwchlaw sefydlu, nododd fod rhaglenni wedi bod yn datblygu yn y cefndir yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Ategwyd fod trosglwyddo’r Cynllun TWF wedi bod yn gatalydd i symud ymlaen ond fod adnoddau wedi bod yn heriol gan fod yr angen i ymateb i gynlluniau a gofynion statudol wrth gyfiawnhau adnoddau.

 

Mynegodd y Prif Swyddog Cyllid fod y pwysau adnoddau wedi bod yn sialens a bod nifer o waith wedi ei wneud. Eglurwyd y bydd cyfarfod arall o’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gynnal yng nghanol mis Ionawr gan y bydd angen i’r CBC dderbyn y gyllideb, yn unol ar ddeddf erbyn 31 Ionawr.

 

Tynnwyd sylw at y Is-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu a Safonau gan holi os oes dyddiadau bellach mewn lle gan nodi pryder nad oes trefniadau craffu mewn lle. Ymatebwyd drwy nodi nad oes dyddiad pellach gan fod angen trafodaeth fanwl ar flaenoriaethau ac i drafod ymhellach gydag Awdurdodau Lleol. Mynegwyd y gobaith o gynnal y cyfarfodydd cyntaf yn ystod y gwanwyn. Ymhelaethwyd gan nodi fod y daith o ran Trosolwg a Chraffu yn rhai hir gan mai Awdurdodau Lleol y Gogledd sydd yn sefydlu’r gyfundrefn graffu ac nid y CBC. Ategwyd fod y penderfyniad wedi mynd drwy’r holl Gynghorau ym mis Gorffennaf ac yna fod angen creu rhaglen o sut y bydd y model yn gweithio. Pwysleisiwyd pwysigrwydd craffu o ran llywodraethant.

 

O ran y gyllideb nodwyd fod y broses hon yn teimlo yn hwyr iawn gan fod Awdurdodau ymhellach y blaen, ac y gallai amharu ar gyllidebau Awdurdodau Lleol os lefi yn codi.  Nodwyd fod y cyfarfod eleni yn mynd i fod ychydig yn hwyr, ond gobeithio y bydd modd dod yn gynharach y flwyddyn nesaf. O ran y lefi, nodwyd fod trafodaethau yn digwydd ar lefel swyddogion ac Arweinyddion ac na fuasai unrhyw addasiad i’r lefi yn sioc iddynt.

 

Tynnwyd sylw at y drefn ariannol, gan ofyn a oes modd rhannu adroddiadau aethpwyd i’r CBC a’r aelodau yma i roi cyd-destun cyllidol ynghyd a’r prif negeseuon a roddwyd o ran gwariant 2024/25. Cytunwyd i hyn gan amlygu y bydd adrodd cyson o ran gwariant yn dod i’r pwyllgor hwn. O ran prif negeseuon amlygwyd fod llawer o danwariant er y gwaith sydd wedi ei wneud a'i fod wedi ei roi mewn cronfeydd wrth gefn ac y bydd yn erbyn y lefi ar gyfer eleni a blwyddyn nesaf. Yn amlwg, esboniwyd gan fod datblygiadau eleni bydd y gwariant yn cynyddu a fydd yn arwain at lai o danwariant.

 

Trafodwyd arafwch o wneud penderfyniadau gan fod aelodaeth yr Is-bwyllgor hwn wedi ei benderfynu yn ôl ym mis Ionawr ond dim cyfarfod ffurfiol tan fis Rhagfyr, a gofynnwyd a oes mod cynyddu’r cyflymder o ran penderfyniadau. Ymatebwyd drwy nodi fod adnoddau wedi bod yn broblem o ran sicrhau fod penderfyniadau o safon yn cael ei gwneud, a'i bod wedi bod yn anodd penodi i swyddi . O ran materion eraill eglurwyd fod goblygiadau cyfreithio i rai meysydd yn y CBC ac o ganlyniad roedd angen blaenoriaethu a chynyddu cyflymder ar feysydd megis y Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Ranbarthol. 

 

Amlygwyd fod y CBC yn gorff newydd sydd â chyfrifoldebau mawr a bod angen sicrhau fod rôl yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn wreiddiol i’r hyn sydd angen ei wneud. Gofynnwyd i weld y gofrestr risg mor fuan â phosib, ynghyd a gwybodaeth bellach ar staffio ac adnoddau.

 

 

Dogfennau ategol: