Luned Fôn Jones, Rheolwr Archwilio Cyngor Gwynedd
i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyniwyd a chymeradwywyd cynnwys y Mandad a’r Siarter
Archwilio Mewnol a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.
Cofnod:
Eglurwyd bod ers Ebrill 2025, pan ddaeth y Safonau Archwilio
Mewnol Byd-eang i rym yn Sector Gyhoeddus y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol bod
y Gwasanaeth Archwilio yn cydymffurfio â’r Safonau yma. Eglurwyd fod Nodyn
Cymhwyso wedi ei gyflwyno sydd yn darparu fframwaith ymarferol ar sut y gellid
gweithredu a chymhwyso, yn rhoi arweiniad ac yn egluro sut mae’r Safonau
Archwilio Mewnol Byd-eang ar lywodraethu - sef Parth III (Domain
III) yn berthnasol i oruchwyliaeth a dyletswyddau’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Un o’r camau hanfodol yw
cymeradwyo siarter sydd yn cynnwys mandad a sgôp a mathau o waith Archwilio
Mewnol.
Ategwyd fod CIPFA wedi datblygu Cod Ymarfer ar gyfer
Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig gyfer
dehongli a sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau statudol. Mae’r Cod wedi
ei anelu at y rhai sy’n gyfrifol am drefniadau llywodraethu effeithiol – sef yr
Is-Bwyllgor hwn.
Mae’r Siarter yn nodi’r trefniadau ar gyfer swyddogaeth
archwilio fewnol gyflawni ei ddiben. Mae rôl archwilio mewnol yn cynnwys:
·
Cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol
drwy ddarparu sicrwydd gwrthrychol sy’n seiliedig ar risg,
·
Hyrwyddo arfer da mewn llywodraethu a
·
Cynghori ar drefniadau llywodraethu, rheoli risg
a rheolaeth fewnol.
I sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau, nodwyd mai
cyfrifoldeb yr Is-Bwyllgor hwn yw adolygu a chymeradwyo’r Siarter gan sicrhau
bod diffiniad clir o
·
Bwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio
Mewnol,
·
Annibyniaeth a llinellau adrodd y swyddogaeth
Archwilio Mewnol,
·
Cwmpas gwaith a hawliau mynediad Archwilio
Mewnol,
·
Bod y mandad yn cadarnhau bod Archwilio Mewnol
yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol a sefydliadol i weithredu’n effeithiol ac
yn darparu manylion am rôl a chyfrifoldebau swyddogaeth Archwilio Mewnol,
·
Gwirio bod y Siarter a’r mandad yn sicrhau
annibyniaeth Archwilio Mewnol ac yn diogelu Archwilio Mewnol rhag dylanwad
amhriodol
·
Goruchwylio a monitro gweithgareddau Archwilio
Mewnol i adolygu cydymffurfiaeth â’r Siarter a’r mandad.
Gofynnwyd beth yw capasiti
archwilio mewnol y CBC. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd yn darparu gwasanaeth
archwilio mewnol trwy gytundeb lefel gwasanaeth, a nodwyd bod tîm archwilio
mewnol Cyngor Gwynedd yn cynnwys Rheolwr Archwilio, dau Arweinydd Archwilio, a
4 Uwch Archwilwyr.
Gofynnwyd sut y penderfynir ar y rhaglen waith gyfredol ar
gyfer archwilio mewnol. Manylwyd bod y cynllun blynyddol ar gyfer Uchelgais
Gogledd Cymru yn cael eu llunio gyda mewnbwn y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog
Cyllid. Cadarnhawyd bydd y Cynllun Blynyddol yn dod ger bron yr Is-bwyllgor hwn
yn y dyfodol i dderbyn cymeradwyaeth. Nodwyd nad oedd Cynllun Blynyddol wedi’i
lunio ar hyn o bryd gan fod angen Siarter Archwilio yn gyntaf er mwyn llunio
Strategaeth a’r Cynllun Blynyddol. Eglurwyd bod asesiad risg yn cael ei drafod
ac y bydd unrhyw waith archwilio mewnol wedi ei llunio un unol â’r prif
risgiau.
Sicrhawyd yr Is-bwyllgor bod Uchelgais Gogledd Cymru wrthi’n
datblygu eu Strategaeth Risg Gorfforaethol, ac mae drafft wedi’i ddosbarthu
gyda swyddogion, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Is-Bwyllgor maes o law.
Pwysleisiwyd ei bod yn parhau i fod yn ddyddiau cynnar ers trosglwyddo’r CBC
ond fod llunio Strategaeth Risg Gorfforaethol ranbarthol yn flaenoriaeth ac yn
ofyniad hanfodol.
Gofynnwyd pa gamau mae Uchelgais Gogledd Cymru a’r CBC
wedi’u cymryd o ran cyhoeddusrwydd, yn enwedig ynglŷn â bwriad o gadw
trigolion yn ymwybodol o swyddogaethau’r
CBC. Eglurwyd mai gwefan sefydledig Uchelgais Gogledd Cymru yw’r rhyngwyneb
cyhoeddus, ac mae’n cynnwys gwybodaeth â dyletswyddau statudol y CBC. Nodwyd
bod y gwaith y mae’r CBC yn ei wneud yn gymhleth a bydd yn cymryd amser i
gasglu’r holl wybodaeth a chyrraedd y cynulleidfaoedd cywir.
Eglurwyd mai unwaith y cytunir ar y cytundeb ariannu ar
gyfer y Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, y bydd Uchelgais Gogledd Cymru
yn rheoli gweinyddiaeth buddsoddiad gwerth oddeutu £400 miliwn ar gyfer
hyrwyddo a gwella economi Gogledd Cymru. Nodwyd mai’r bwriad yw cyrraedd
cymaint o gymunedau â phosib gyda’r buddsoddiad. Amlygwyd mai eu huchelgais
hirdymor yw creu swyddi newydd o fewn yr economi ac annog cenedlaethau’r
dyfodol i aros yng Ngogledd Cymru mewn swyddi gwerth uchel. Ychwanegwyd mai bwriad
i ddenu talent yn ôl i’r rhanbarth a thargedu buddsoddiad sy’n darparu
cyfleoedd ar draws sectorau allweddol. Nodwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru ar
hyn o bryd ym mlwyddyn pump o gyflawni’r Fargen Twf, sy’n gynllun 15 mlynedd ac
felly’n dal i fod yn ei dyddiau cynnar.
Mynegwyd pryderon ynghylch sut mae archwilio mewnol yn cael
ei ddefnyddio fel adnodd sy’n adlewyrchu dull systematig. Nodwyd bod y Siarter
a gofynion yr Is-bwyllgor yn rhestru disgwyliadau o ran yr hyn y dylai’r
archwiliad mewnol ei gwmpasu ac adrodd arno, er mwyn cynnig sicrwydd i’r
Is-bwyllgor ynghylch a gweithrediadau'r CBC. Awgrymwyd, ochr yn ochr â’r
Strategaeth Risg Gorfforaethol, y dylid datblygu Cofrestr Risg i ganiatáu i’r
CBC ganolbwyntio ar ei flaenoriaethau. Mynegwyd bod angen i’r Is-bwyllgor symud
tuag at ddull systematig o ran gweithredu. Sicrhaodd y Swyddog Adran 151 bod
dull systematig yn rhan o reolau gweithdrefn ariannol y CBC, ac felly mae’r
materion yn cael eu cwblhau. Nodwyd bod
y gofrestr risg yn rhan o’r gofynion llywodraethu’r CBC a bydd yn cael eu
datblygu.
Nodwyd y bydd angen i aelodau o’r awdurdodau lleol angen
dealltwriaeth well o sut mae cyfraniadau Awdurdodau Lleol yn cael ei defnyddio.
Ymhelaethwyd bod yn rhaid i’r Is-bwyllgor symud ymlaen yn
gyflym er mwyn sicrhau nad ydynt yn syrthio ar ei hôl gydag Archwilio ac i
adrodd yn ôl i’w hawdurdodau lleol yn briodol.
Cytunwyd y byddai’r Archwilio Mewnol ar agenda'r cyfarfod
nesaf.
Dogfennau ategol: