I graffu ar y Strategaeth Ysgolion 2026 – 2036 ddrafft.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cofnod:
Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y ddogfen ddrafft gerbron yn
cwmpasu gweledigaeth yr adran addysg ar ran yr ysgolion dros y blynyddoedd
nesaf. Nodwyd bod y strategaeth flaenorol bellach wedi dyddio ac yn dod i ben
yn 2025, a bod angen ei diweddaru oherwydd newidiadau sylweddol dros y cyfnod.
Eglurwyd bod y ddogfen yn ceisio adlewyrchu’r ffaith bod yr heriau sy’n
wynebu’r sir wedi newid ac yn dwysáu, gan nodi bod y strategaeth yn cyfeirio at
effeithiau toriadau, heriau recriwtio a bygythiad newidiadau demograffig
pellgyrhaeddol ar draws y sir.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
Diolchwyd am y cyflwyniad. Holwyd am fwy o fanylion ynghylch sut mae heriau
plant sy’n agored i dlodi yn mynd i gael ystyriaeth o fewn y strategaeth, gan
bwysleisio pwysigrwydd bod y cohort hwn yn cael llais o fewn y strategaeth.
Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod awdit wedi’i gynnal i geisio cael ysgolion
cost-gyfeillgar.
-
Bod data wedi’i gasglu ynghylch y mater hwn ac y
bydd yn cael ei rannu gydag ysgolion o fewn y mis er mwyn galluogi ysgolion i
ymateb a chyfarch yr heriau, ac i uchafu’r mater a’i roi ar flaen y rhestr
flaenoriaethau.
-
Bod yr adran yn cydnabod bod profiadau plant o
gefndiroedd difreintiedig yn waeth o lawer os nad ydynt yn cael eu cefnogi
drwy’r ysgolion.
-
Bod lle i roi pennawd penodol o ran plant sy’n
agored i dlodi, a sylw i sut y dylid cyfarch anghenion plant o gefndiroedd
difreintiedig, i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn cyfarch hyn a sut y
byddai newid y trefniadau yn gwella’r sefyllfa.
-
Bod llawer o grantiau yn cael eu rhoi i ysgolion i
gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig, ond o dan y trefniadau presennol
mae’n ofynnol i benaethiaid a chyrff llywodraethol ddefnyddio arian ychwanegol
ar ffurf grant i gefnogi pawb, nid o reidrwydd targedu unigolion, gan fod y
sefyllfa’n anodd ar y cyfan.
Mynegwyd
balchder gweld y mater o ddiogelu yn cael ei gyfarch o fewn y strategaeth.
Mynegwyd barn y dylai diogelu fod yn uwch o fewn y strategaeth na phennawd
pedwar, o ystyried pwysigrwydd diogelu. Holwyd sut mae adroddiad ‘Cyfiawnder
trwy ein Dewrder’ wedi siapio’r strategaeth. Mewn ymateb, cytunwyd bod diogelu
yn fater hynod bwysig. Nodwyd nad oedd y rhestr yn adlewyrchu unrhyw drefn
blaenoriaeth. Cydnabuwyd bod lle i newid trefn y strategaeth er mwyn rhoi
diogelu ar frig y rhestr.
Cadarnhawyd
bod y drafft hwn o’r Strategaeth Ysgolion wedi ei lunio cyn cyhoeddi’r
adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’. O ran y dysgu o’r Adolygiad Ymarfer
Plant, pwysleisiwyd yr angen i’r awdurdod a’r tîm diogelu a llesiant roi fwy o
gefnogaeth i’r ysgolion. Pwysleisiwyd ymhellach yr her sy’n bodoli i’r adran
gefnogi 94 o ysgolion o bob maint. Nodwyd bod nifer o ysgolion yn disgyn i
gategorïau llai o ran maint, sy’n arwain at lai o adnoddau a chyllideb.
Pwysleisiwyd bod angen mwy o adnoddau ar gyfer gwella’r gefnogaeth i’r
ysgolion. Nodwyd bod modd, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, edrych dros y
Strategaeth Ysgolion unwaith eto drwy lens yr adroddiad er mwyn cyfoethogi’r
strategaeth yn ei chyfanrwydd.
Pwysleisiwyd
bod y Strategaeth Ysgolion deng mlynedd hon am chwarae rhan fawr yn adfer hyder
rhieni’r sir yn niogelwch eu plant o fewn ysgolion.
Holwyd
ynghylch recriwtio a chadw athrawon, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac mewn
pynciau arbenigol. Holwyd a oedd strategaeth neu gynllun penodol ar waith ar
gyfer recriwtio athrawon. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod recriwtio a chadw staff addysg yn her
genedlaethol ac yn ehangach na Chymru a nad oedd y sefyllfa’n unigryw i’r sir.
-
Bod yn anodd mesur yn llwyr effaith y prinder ar
safonau dysgu ac addysgu ar draws y sir, ond cydnabuwyd bod y prinder yn
effeithio ar brofiad dysgwyr ac ar allu ysgolion i gynnal parhad.
-
Bod rhai athrawon, yn enwedig yn y sector uwchradd,
yn wynebu sefyllfaoedd lle byddai angen addysgu mwy nag un pwnc y tu hwnt i’w
harbenigedd a bod hynny’n gallu bod yn rhwystr i recriwtio a chadw athrawon.
-
Mynegwyd pryder ynghylch arweinyddiaeth a bod
prinder yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, dirprwy benaethiaid, penaethiaid ac
arweinwyr pwnc yn peri risg i wydnwch ysgolion.
-
Bod prinder penaethiaid adrannau yn y sector
uwchradd yn arbennig o heriol a bod ymadawiad arweinydd cryf yn gallu arwain yn
gyflym at ostyngiad mewn safonau.
-
Tynnwyd sylw at her recriwtio mewn rhai ardaloedd
daearyddol, a nodwyd bod anhawster penodol yn codi wrth lenwi bylchau tymor byr
pan fydd staff yn absennol oherwydd salwch.
-
Bod trefniadau wedi bodoli mewn rhai ardaloedd
megis Meirionnydd i ystyried staff nad oeddent yn rhugl yn y Gymraeg (ond yn
ymrwymo i ddysgu) er mwyn llenwi bylchau. Nodwyd bod hynny’n codi pryder i’r
adran.
-
Bod angen sicrhau addysgu parhaus i ddisgyblion a
bod cynlluniau ar waith i gefnogi iaith athrawon a hyrwyddo defnydd y Gymraeg
fel rhan o’r ymateb i’r her.
Mynegwyd
pryder ynghylch diogelu ac ymddygiad anghymdeithasol, a holwyd am y weithdrefn
pan fydd digwyddiadau difrifol yn codi ar safle ysgol, gan gynnwys digwyddiadau
lle mae perygl i ddiogelwch. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod cymunedau ysgolion ar y cyfan yn wynebu
ymddygiad gynyddol heriol.
-
Bod trefniadau clir ar waith pan fo pryder
diogelwch a bod cam naturiol yn cynnwys sicrhau diogelwch ar unwaith ar safle’r
ysgol.
-
Bod cysylltu â’r heddlu yn digwydd lle bo angen a
bod hynny’n rhan o’r ymateb pan fo’r sefyllfa’n mynnu.
-
Bod camau gweithredu pellach yn cael eu dilyn gan
ysgolion yn unol â threfniadau a bod cymorth ar gael drwy swyddogion cymorth,
timau diogelu a lles, iechyd a diogelwch, a swyddogion perthnasol o fewn y
gwasanaeth.
-
Bod ymddygiad heriol a digwyddiadau’n aml yn
adlewyrchiad o broblemau cymdeithasol a chymunedol ehangach a bod angen gwaith
gyda theuluoedd a chymunedau ochr yn ochr â gwaith ysgolion.
Pwysleisiwyd
yr angen i warchod athrawon o fewn y strategaeth, gan nodi mai hwy yw asgwrn
cefn ein hysgolion. Nodwyd nad oedd y strategaeth yn rhoi digon o bwyslais ar
iechyd a lles athrawon, a bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i athrawon o fewn y
strategaeth. Tynnwyd sylw at y baich gweinyddol, a nodwyd bod llwyth gwaith,
paratoi, asesu a marcio yn parhau’n fater sylweddol ar draws sectorau.
Cwestiynwyd a oedd modd lleihau’r baich gweinyddol hwn oddi ar athrawon. Nodwyd
bod angen edrych ar strategaeth i ddenu mwy o myfyrwyr o’r prifysgolion i fod
yn athrawon, drwy sicrhau bod athrawon yn derbyn cyflog teg a bod eu
hamgylchiadau gwaith yn groesawus ac yn effeithiol. Cwestiynwyd a oedd modd
defnyddio gwybodaeth i fonitro a gweld os oes patrwm yn dod i’r amlwg o ran
iechyd athrawon mewn rhai ysgolion, a chwestiynwyd a allai’r wybodaeth honno
helpu i dargedu cymorth. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg:-
-
Bod lles athrawon a cymhorthyddion
yn thema graidd i’r strategaeth.
-
Bod y strategaeth yn ceisio gwella’r sefyllfa o
fewn ysgolion ar y cyfan, a byddai hyn o ganlyniad yn gwella sefyllfa lles
athrawon.
-
Bod heriau llwyth gwaith yn amrywio’n sylweddol
rhwng ysgolion a arbenigedd oherwydd amgylchiadau gwahanol.
-
Bod pwysau gwaith papur yn cael ei greu’n bennaf
gan gyrff llywodraethol a phenaethiaid a bod yr adran addysg yn ceisio peidio â
rhoi pwysau gwaith ychwanegol ar athrawon.
-
Bod fforwm lles penaethiaid yn bodoli, sy’n
gweithio ar greu strategaethau i leihau pwysau gwaith ar benaethiaid.
Nododd
yr Aelod Cabinet Addysg:
-
Mai athrawon a staff ysgol oedd asgwrn cefn addysg.
-
Bod bwriad gan Blaid Cymru i lenwi’r bwlch rhwng
beth sy’n cael ei gynnig i athrawon yn Lloegr ac yng Nghymru pe baent yn cael
eu hethol i’r Senedd.
-
Bod sgyrsiau yn cael eu cynnal ynghylch cyflogau
cymhorthyddion, yn benodol nad ydynt yn cael eu talu yn ystod cyfnod y gwyliau,
ond pwysleisiwyd mai mater cenedlaethol yw hyn.
Holwyd
ynghylch llywodraethiant ysgolion a pham nad oedd adran yn y strategaeth ar rôl
llywodraethwyr, yn enwedig y rôl y gallant ei chwarae mewn sefyllfaoedd lle mae
problem yn codi ynghylch penaethiaid neu uwch dîm rheoli. Cwestiynwyd beth oedd
y weledigaeth ar gyfer rôl llywodraethwyr dros y degawd nesaf. Mewn ymateb,
nodwyd:-
-
Nid oedd bwriad i eithrio llywodraethiant o’r
strategaeth a bod adolygiad o drefniadau llywodraethiant ysgolion yn mynd
rhagddo yn y chwe mis nesaf gan Lywodraeth Cymru.
-
Bod recriwtio llywodraethwyr yn her sylweddol gan
ei fod yn rôl gwirfoddol sydd yn creu baich amser a chyfrifoldeb mawr.
-
Bod angen grymuso trefniadau cefnogi llywodraethwyr
a bod gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni hyn.
-
Bod camau’n cael eu cymryd i ychwanegu capasiti
cefnogol, gan gynnwys penodi Swyddog Cefnogi Ysgolion ychwanegol.
-
Bod llywodraethwyr yn aml yn ei chael hi’n anodd
delio â materion adnoddau dynol, agweddau cyllidol a materion diogelu.
-
Bod gwerth rôl llywodraethwyr yn parhau’n glir gyda
lleisiau rhieni a’r gymuned leol yn cyfrannu at ddatblygiad y cwricwlwm a
chyfeiriad ysgolion.
-
Bod parodrwydd i ychwanegu adran benodol ar
lywodraethiant i’r strategaeth wrth ei mireinio gan amlinellu’r bwriad i
ddatblygu’r trefniadau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
-
Bod cefnogaeth genedlaethol yn allweddol i sicrhau
trefn fwy cadarn a llai beichus i lywodraethwyr.
Cyfeiriwyd
at ffonau symudol, seibrfwlio a diogelwch digidol fel
materion diogelu ymarferol, a nodwyd enghreifftiau o sefyllfaoedd lle bu’n
rhaid i’r heddlu fod yn rhan o ymateb ysgol oherwydd digwyddiadau difrifol yn
gysylltiedig â’r maes hwn. Nodwyd bod achosion wedi’u crybwyll lle bu’n rhaid i
rai plant aros gartref oherwydd effaith seibrfwlio a
ddechreuodd yn yr ysgol, a nodwyd bod natur seibrfwlio
yn golygu bod yr effaith yn parhau y tu hwnt i oriau ysgol. Holwyd a oedd modd
i’r awdurdod gefnogi trefniant sir gyfan i wahardd ffonau symudol mewn
ysgolion. Holwyd a ddylid ystyried dylanwadu ar lefel genedlaethol. Mewn
ymateb, nodwyd:-
-
Nid oedd gan yr Awdurdod y pŵer i wahardd
ffonau symudol ar draws ysgolion, a nodwyd mai penderfyniad cyrff llywodraethol
unigol yw gweithredu polisi o’r fath.
-
Byddai cefnogaeth a chyngor ar gael i unrhyw ysgol
a fyddai’n dewis gweithredu polisi i gyfyngu neu wahardd ffonau symudol.
-
Nid oedd bwriad yn bresennol gan Lywodraeth Cymru i
gyflwyno polisi cenedlaethol i wahardd y defnydd o ffonau symudol mewn
ysgolion, a phwysleisiwyd bod defnydd cyfrifol yn rhan hanfodol o’r ateb gan
fod ffonau yn rhan annatod o fywyd bob dydd.
-
Bod gwahardd ffonau symudol yn gallu ymddangos yn
syml ond nad yw’n datrys pob problem yn ymarferol, a nodwyd enghreifftiau o
drefniadau mewn gwledydd eraill lle defnyddir pocedi clo i storio ffonau drwy’r
dydd, gyda rhai disgyblion yn ymateb drwy ddod â mwy nag un ffôn.
-
Bod angen sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall
effaith eu gweithredoedd ar eraill ac i fod yn gyfrifol wrth defnyddio ffonau
symudol.
-
Cydnabuwyd bod y niwed yn gallu bod yn sylweddol ac
yn aml yn digwydd yn rheolaidd.
Cyfeiriwyd
at ddata demograffig y ddogfen fel sail bwysig i’r drafodaeth, a nodwyd bod y
data’n portreadu effaith diboblogi a’r canlyniadau ar ysgolion. Mewn ymateb,
nodwyd bod 14.7% o ostyngiad yn y boblogaeth oedran 16-24 oed yn y sir rhwng
2011 a 2021. Pwysleisiwyd bod y duedd yn cael effaith tymor hir ar y gallu i
recriwtio o fewn yr sector addysg. Nodwyd bod nifer o bobl ifanc yn gadael i
astudio ac yn dewis peidio â dychwelyd i weithio yn y sir.
Holwyd
ynghylch y berthynas rhwng y strategaeth hon a’r gwaith Polisi Iaith Addysg.
Cwestiynwyd a oedd y sefyllfa recriwtio yn peryglu’r gallu i wireddu uchelgais
darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Holwyd ynghylch cyllido’r system drochi a’r
costau cysylltiedig. Holwyd a oedd angen mwy o adnoddau ar gyfer elfennau
penodol o’r strategaeth er mwyn cyflawni’r uchelgais. Mynegwyd barn y dylai’r
pwyllgor graffu’r strategaeth recriwtio athrawon yn y dyfodol agos gan fod yr
her yn enfawr. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod grantiau ar gael i ddenu unigolion i addysgu
drwy gyfrwng y Gymraeg, ond nodwyd nad oedd hynny o reidrwydd yn rhoi mantais
ariannol unigryw i’r sir o’i chymharu ag ardaloedd eraill.
-
Bod angen mwy o gyfran o’r ddarpariaeth hyfforddi a
denu ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg.
-
Bod yr her recriwtio yn sylweddol, yn enwedig mewn
rhai ardaloedd.
-
Bod y Polisi Iaith Addysg drafft yn ddogfen ar
wahân ac ar fin symud ymlaen drwy brosesau penderfynu.
-
Bod pryderon ynghylch cyllido trochi yn cael eu
rhannu a bod dymuniad i weld y system yn cael ei hariannu ar sail y gost
wirioneddol.
-
Bod llawer o feysydd o fewn addysg a’r Cyngor yn
galw am fwy o gyllid, megis trafnidiaeth, a nodwyd bod cyfyngiadau sylweddol ar
y gallu i weithredu heb adnoddau ychwanegol.
-
Bod gohebiaeth wedi’i hanfon at Ysgrifennydd Addysg
Llywodraeth Cymru yn ei wahodd i Wynedd i weld y canolfannau trochi.
Nodwyd
sylw bod y gwaith a ddisgwylir gan gyrff llywodraethol yn lawer iawn i
wirfoddolwyr ymdrin ag ef, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Nodwyd bod llawer
o ofyn ar amser llywodraethwyr ac, i ryw raddau, bod hyfforddiant yn ychwanegu
at y gofyn hwn.
Mynegwyd
barn bod y Strategaeth Ysgolion yn un gymeradwy iawn, ond bod pellter rhwng yr
amcanion a realiti sefyllfa ysgolion, yn benodol ysgolion uwchradd. Cydnabuwyd
bod y realiti hwn yn cael ei cydnabod o fewn y strategaeth. Nodwyd bod heriau
cyllido cludiant yn her sylweddol i amcanion sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant.
Gofynnwyd i ailedrych ar effaith toriadau cludiant i ddisgyblion fynd i ysgol o
ran cydraddoldeb a chynhwysiad, gan fod hyn yn cael effaith fwy sylweddol ar
blant o gefndiroedd difreintiedig. Mynegwyd y farn bod angen canolbwyntio o
fewn y strategaeth ar lythrennedd gan ei fod yn elfen bwysig i alluogi pobl
ifanc i lwyddo yn y dyfodol.
Nodwyd
sylw bod diffyg yn bodoli o ran cadw athrawon. Cyfeiriwyd at ddata gan Gyngor y
Gweithlu Addysg sy’n dangos o’r cohort o athrawon a oedd newydd gymhwyso yn
2015, bod 40% wedi gadael y proffesiwn addysg. Mynegwyd bod swyddi hybrid yn
llawer mwy deniadol na swyddi mwy caeth. Pwysleisiwyd nad arian yn unig yw’r
her, ond bod angen edrych ar y ffordd y mae staff addysg yn gweithio hefyd er
mwyn denu a chadw mwy o athrawon.
Holwyd
ynghylch y prif grwpiau ymgynghorol ar gyfer y strategaeth, wrth nodi y dylid
ychwanegu Estyn at y rhestr hon. Cwestiynwyd pam nad oedd rhieni wedi’u
hymgysylltu mewn unrhyw ffordd ffurfiol na thrwy holiadur. Mynegwyd barn nad
oedd mewnbwn llais y rhieni yn y strategaeth ysgol, tu hwnt i’r corff
llywodraethol. Mewn ymateb, nodwyd bod y strategaeth ar ffurf ddrafft a bod
ymgysylltu’n parhau a bod ysgolion wedi’u hannog i gwblhau holiaduron a
chyflwyno ymatebion. Nodwyd bod cyfathrebu rheolaidd wedi digwydd gyda’r
ysgolion i annog cyfraniad a bod parodrwydd i gynnwys rhieni yn fwy
uniongyrchol wrth symud ymlaen. Cytunwyd bod llais rhieni yn bwysig i gyfeiriad
y gwaith a na fyddai rhwystrau i gynnwys rhieni yn y cam nesaf o fireinio.
Holwyd
ynghylch trefniadau’r Gwasanaeth Cefnogi Ysgolion yn dilyn newidiadau
rhanbarthol. Holwyd am eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth, capasiti’r
timau, a’r goblygiadau o symud i drefn newydd. Nodwyd bod ysgolion yn teimlo
bwlch ar ôl diwedd y Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion (GwE)
o ran herio ysgolion, cefnogi staff, datblygu arweinwyr a darparu hyfforddiant
perthnasol ac o safon i athrawon a chymorthyddion. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Mai penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd dod â
gwasanaeth rhanbarthol GwE i ben.
-
Bod cyfnod o ansicrwydd wedi parhau wrth aros am
fframwaith genedlaethol newydd ar gyfer gwella a chefnogi ysgolion.
-
Bod y fframwaith newydd wedi’i addo ers wythnosau a
bod disgwyl ei dderbyn cyn y Nadolig.
-
Bod cyfeiriad y system yn newid yn sylweddol.
- Bod y
drefn newydd yn symud i fodel lle byddai ysgolion yn cael eu hwyluso i gefnogi
ei gilydd. Roedd hyn yn codi heriau ymarferol o ystyried prinder arweinwyr, her
recriwtio, a chyfyngiadau amser ac adnoddau staff ysgolion.
-
Credwyd na fyddai’r drefn newydd yn hollol addas ar
gyfer Gwynedd ac felly bod tîm o swyddogion cefnogi yn bodoli’n lleol, ond bod
capasiti’n parhau’n her oherwydd nifer uchel o ysgolion a lledaeniad
daearyddol.
-
Bod y sefyllfa yn y sector uwchradd yn fwy heriol
oherwydd anhawster penodi swyddogion ychwanegol.
-
Bod swyddogion medrau ar gael ar gyfer meysydd
megis llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, a nodwyd bod y trefniant hwn
wedi’i fabwysiadu i ddiogelu arbenigedd a chwrdd â galw ysgolion am gefnogaeth
bwnc benodol.
-
Bod ansicrwydd yn parhau ynghylch a yw’r capasiti’n
ddigonol i gefnogi pob ysgol yn y tymor hir.
-
Bod nodyn briffio yn cael ei baratoi i Aelodau i
egluro’r trefniadau a’r rolau, a nodwyd bod hynny’n ymateb i’r angen am
eglurder ymarferol.
Mynegwyd
barn bod yr egwyddorion o fewn y strategaeth yn rhy aneglur. Cwestiynwyd a oedd
hynny’n fwriadol o ystyried niferoedd disgyblion, ac nad oedd cyfeiriad at y
nifer o oedrannau y dylai athrawon ddysgu o fewn un dosbarth.
Cytunwyd
bod gormod o gyfrifoldebau yn cael eu rhoi ar ysgwyddau llywodraethwyr a bod
hyn yn rhwystro’r awdurdod i gynllunio yn strategol ar draws y sir, yn enwedig
o ran penodiadau penaethiaid. Awgrymwyd bod lle i gael sgwrs ar lefel gweithgor
ynghylch profiadau llywodraethwyr.
Tynnwyd
sylw at yr angen i gynnwys ysgolion ffydd yn y drafodaeth a bod eu safbwyntiau
yn berthnasol i gwblhau’r strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod trafodaethau
eisoes yn digwydd gyda arweinwyr ysgolion ffydd a y byddai eu barn yn cael ei
chynnwys wrth symud ymlaen.
Mynegwyd
barn y dylai’r strategaeth fod yn fwy penodol gan nodi mesuryddion llwyddiant a
mesur hyn sydd wedi’u cyflawni. Mewn ymateb, derbyniwyd bod diffyg pendantrwydd
ac uniondeb ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni o fewn cyfnodau penodol
gan fod sefyllfaoedd ysgolion yn dynamig. Nodwyd bod bwriad adolygu stad
ysgolion wrth i ddangosyddion gael eu hadolygu a chymharu bob mis Ionawr.
Mynegwyd
barn bod elfennau o’r strategaeth yn mynd i drawsnewid sut mae addysg yn cael
ei chyflwyno i nifer fawr o bobl ifanc. Rhagwelir y bydd y strategaeth yn cael
effaith gadarnhaol ar lefelau plant sy’n dadgofrestru, yn enwedig o fewn
teuluoedd dosbarth gweithiol. Tynnwyd sylw at ddysgwyr ag anghenion dysgu
ychwanegol gan nodi bod angen sicrhau bod llais y cohort hwn, a llais eu rhieni
neu eiriolwyr, yn rhan gadarn o’r strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc eisoes yn
digwydd drwy fforwm plant a phobl ifanc.
-
Bod bwriad i sicrhau bod ystod eang o blant o
wahanol gefndiroedd a heriau yn cael cyfle i gyfrannu.
-
Bod y Comisiynydd Plant yn fodlon gyda’r camau
mae’r adran yn eu cymryd i sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog.
-
Bod angen cynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu.
-
Bod her yn bodoli ynghylch derbyn adnoddau
anghenion dysgu ychwanegol digonol.
-
Bod niferoedd disgyblion ag anghenion dysgu
ychwanegol yn cynyddu yn genedlaethol.
Apeliwyd
am fwy o le amlwg o fewn y strategaeth i’r Gymraeg, gan nodi ei bod ar waelod y
dudalen gwerthoedd, nid oedd wedi ei gynnwys yn y weledigaeth ar dudalen
chwech, nid oedd mesuryddion llwyddiant ar gyfer yr iaith, ac nad oedd sôn am
yr iaith Gymraeg o dan egwyddorion y sector.
Nodwyd
bod yr holl ddata o fewn y strategaeth wedi’u seilio ar dueddiadau poblogaeth
hyd at y flwyddyn 2026, ond bod gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn
dangos rhywfaint o gynnydd yn y duedd yn 2032 a 2042. Nodwyd bod cysylltiadau
ehangach yn bodoli rhwng tai, economi a niferoedd plant, a nodwyd bod angen
datblygiadau sylweddol i wrthdroi’r dirywiad. Mynegwyd barn bod angen edrych
tuag at y dyfodol o ran y data poblogaeth. Pwysleisiwyd yr angen i warchod
ysgolion bychain cefn gwlad sydd mewn trafferthion o ganlyniad i’r dirywiad
demograffig rhag cael eu cau. Mewn ymateb, nodwyd:-
-
Bod y duedd ddemograffig yn sefydlog, ac felly mae
angen cynllunio yn unol â realiti’r sefyllfa.
-
Cydnabuwyd bod lle i gryfhau’r sylw at yr iaith
Gymraeg, ond pwysleisiwyd bod y Strategaeth Iaith Addysg yn ddogfen ar wahân ac
yn hynod o uchelgeisiol.
-
Bod mwy a mwy o ysgolion yn disgyn i fewn i
warchodaeth.
-
Bod teimlad o annhegwch o safbwynt rhai ysgolion
mwy o gymharu ag amgylchiadau ysgolion llai, gan fod rhan o’u cyllideb yn
ariannu ysgolion o fewn gwarchodaeth. Pwysleisiwyd bod y strategaeth yn ceisio
mynd i’r afael â’r teimladau hynny drwy egwyddorion a dull cynllunio teg.
-
Bod y cyd-destun demograffig yn gwneud y drafodaeth
yn anodd ond yn angenrheidiol.
Holwyd
ynghylch y posibilrwydd o gael lleoliad Uned Gyfeirio Disgyblion yn Ne Gwynedd.
Mewn ymateb, nodwyd bod cynllun yn y biblinell ar gyfer lleoliad ychwanegol yn
Ne Gwynedd.
Nodwyd
bod defnydd o systemau digidol i nodi pryderon diogelu yn arfer rhagorol ym
mwyafrif ysgolion y sir, a chadarnhawyd y disgwylid y byddai hyn yn wir ar
draws pob ysgol erbyn mis Mawrth 2026. Cwestiynwyd a oedd yr adran addysg am
ariannu’r rhain. Mewn ymateb, cadarnhawyd byddai’r adran addysg yn ariannu’r
systemau digidol hyn.
PENDERFYNWYD
1. Croesawu’r strategaeth a derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau.
2. Bod y Pwyllgor Craffu yn argymell i’r Aelod Cabinet Addysg
fod angen cynnwys gwybodaeth bellach am ddiogelu, tlodi, tegwch cymdeithasol,
ysgolion ffydd, mynediad i lais rhieni, cynhwysiad, y Gymraeg, lles staff a
llywodraethiant yn y Strategaeth Ysgolion.
3. Bod gwybodaeth am y Gwasanaeth Cefnogaeth Ysgolion yn cael ei
dosbarthu i’r aelodau.
4. Gofyn i’r Adran Addysg sicrhau bod diogelu yn cael ei
integreiddio i gynllunio’r adran.
5. Bod y Cabinet yn ymwybodol o bwysigrwydd lles staff i ddenu a
chadw staff ac yn gwneud yr hyn sy’n bosibl i hyrwyddo lles ac amodau ffafriol.
6. Gofyn i’r Adran Addysg roi ystyriaeth lawn i argymhellion
newydd Llywodraeth Cymru ynglŷn â llywodraethiant pan ddaw’r rhain i law.
Dogfennau ategol: